Stori newyddion

Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn Atgoffa Myfyrwyr Newydd i Ymgeisio Nawr

Mae SLC yn atgoffa myfyrwyr israddedig amser llawn newydd yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr cyn y dyddiad cau ar 26 Mai.

Mae鈥檙 Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) yn atgoffa myfyrwyr newydd yng Nghymru, sy鈥檔 bwriadu mynychu prifysgol a choleg yr hydref hwn, i gyflwyno eu ceisiadau cyllid myfyrwyr ar unwaith.

Gyda鈥檙 dyddiad cau newydd ar gyfer ceisiadau gan fyfyrwyr yn agos谩u ar 26 Mai*, dylai myfyrwyr ymgeisio ar-lein yn awr hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi鈥檌 gadarnhau yn y brifysgol. Bydd hyn yn sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar gyfer dechrau鈥檙 flwyddyn academaidd.

Talodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) dros 1.5 miliwn o fyfyrwyr dros 拢22bn mewn benthyciadau cynhaliaeth, grantiau a ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a gwblhawyd (21/22). O ystyried maint y gwasanaeth y mae鈥檔 ei gynnig, mae鈥檔 bwysig bod ceisiadau myfyrwyr yn cael eu cyflwyno ac yn barod i gael eu prosesu.

Dywedodd Jackie Currie, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yn SLC: 鈥淩ydym yn deall bod gan ddarpar fyfyrwyr dipyn o bethau鈥檔 digwydd ar hyn o bryd, gydag astudio ac arholiadau ar y gorwel. Fodd bynnag, fy neges iddynt yw gwnewch gais nawr oherwydd mae cael eu cais am gyllid myfyriwr i mewn cyn y dyddiad cau yn rhoi un peth yn llai iddynt feddwl amdano yn ystod y cyfnod astudio pwysig. A hyd yn oed os nad ydyn nhw鈥檔 gwybod pa gwrs neu brifysgol maen nhw鈥檔 mynd iddo, neu os ydyn nhw鈥檔 aros am ganlyniadau arholiadau, gwnewch gais o hyd.

Gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu ffioedd a Benthyciadau Cynhaliaeth a grantiau i helpu gyda chostau byw. Efallai y bydd amgylchiadau pan fydd myfyriwr yn gallu cael rhywfaint o arian ychwanegol, er enghraifft os oes ganddo anghenion ychwanegol, os oes ganddo blant, neu os yw鈥檔 astudio ar gyfer cwrs meddygol, gwaith cymdeithasol neu ddysgu. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael i鈥檞 weld yma: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/cyllid-israddedig/israddedig-llawn-amser/myfyriwr-cymreig/beth-sydd-ar-gael/

Gwybodaeth bwysig i ddarpar fyfyrwyr:

Mae nifer o adnoddau ar gael i fyfyrwyr gael gwybod mwy am sut i wneud cais ac am y cymorth ariannol a allai fod ar gael.

  • Mae gwybodaeth lawn, gan gynnwys canllawiau ar sut i wneud cais, pa gyllid sydd ar gael a fideos i helpu myfyrwyr drwy鈥檙 broses ymgeisio ar gael yn: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr/
  • Gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu ffioedd a Benthyciadau Cynhaliaeth a grantiau i helpu gyda chostau byw
  • Gall myfyrwyr hefyd gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar The Student Room a thrwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar facebook.com/SFWales, twitter.com/SF_Wales neu youtube/SFWFILM
  • Os bydd incwm cartref y flwyddyn dreth gyfredol yn gostwng 15% neu fwy o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 flwyddyn dreth 21/22 efallai y bydd gan y myfyriwr hawl i gael mwy o fenthyciad cynhaliaeth, rhagor o wybodaeth yma: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/incwm-y-flwyddyn-bresennol/

Sicrhewch fod gennych ddogfennau pwysig wrth law:

  • Dylai fod gan fyfyrwyr eu Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn dechrau鈥檙 cais.
  • Gofynnir iddynt hefyd am fanylion banc wrth wneud cais, gan gynnwys rhif y cyfrif 8 digid a chod didoli 6 digid. Os bydd y manylion banc yn newid ar 么l gwneud cais, mae鈥檔 gyflym ac yn hawdd mewngofnodi i鈥檞 cyfrif ar-lein a鈥檜 diweddaru.

Traciwch gynnydd y cais:

  • Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau, ac nid oes angen i fyfyrwyr gysylltu 芒 ni yn ystod y cyfnod hwn. Gallant olrhain statws eu cais trwy eu cyfrifon ar-lein a ch芒nt eu hysbysu os oes unrhyw gamau gweithredu heb eu cymryd y mae angen iddynt eu cymryd. Gall myfyrwyr hefyd wneud newidiadau i鈥檞 gwybodaeth bersonol yn eu cyfrifon ar-lein.

Atgoffir myfyrwyr sy鈥檔 dychwelyd hefyd i wneud cais cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, sef 30 Mehefin.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mai 2023