Datganiad i'r wasg

Gofyn i fyfyrwyr yng Nghymru ymuno 芒 rhestr bostio CMC

SLC yn gofyn i fyfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru ddechrau cynllunio eu cyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.

Disgwylir i鈥檙 gwasanaeth ymgeisio israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf agor o fis Mawrth 2022, a gall myfyrwyr nawr ymuno 芒 Cyllid Myfyrwyr Cymru (CMC) i dderbyn e-bost pan fydd y gwasanaeth ymgeisio yn fyw.

Mae SLC yn cynghori myfyrwyr i wneud cais mor gynnar 芒 phosibl am eu cyllid myfyrwyr, hyd yn oed os nad oes ganddynt le wedi鈥檌 gadarnhau ar eu cwrs. Mae hyn yn helpu sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau鈥檙 tymor. Gall myfyrwyr yng Nghymru wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu eu ffioedd a chymysgedd o grantiau a benthyciadau i helpu gyda鈥檜 costau byw.

Y llynedd, cefnogodd SLC fwy o fyfyrwyr nag erioed o鈥檙 blaen i fuddsoddi yn eu dyfodol trwy addysg bellach ac uwch a chynyddodd nifer y ceisiadau a broseswyd ac a oedd yn barod i鈥檞 talu erbyn dechrau鈥檙 tymor.

Meddai Chris Larmer, Cyfarwyddwyr Gweithredol, Gweithrediadau SLC: 鈥淢ae SLC wedi ymrwymo i alluogi cyfle trwy fynediad i addysg uwch ac addysg bellach, ac rydym am gefnogi cymaint o fyfyrwyr 芒 phosibl i wneud cais am gyllid myfyrwyr yn gynnar, er mwyn sicrhau bod eu cyllid yn ei le ar ddechrau鈥檙 tymor.

鈥淕yda dyddiad cau UCAS yn agos谩u ddiwedd mis Ionawr, gwyddom y bydd llawer o ddarpar fyfyrwyr yn meddwl am ddewisiadau prifysgol neu goleg. Mae鈥檔 bwysig eu bod yn dechrau meddwl am eu cyllid hefyd a thrwy gofrestru byddant yn derbyn ysgogiad i鈥檞 helpu i gychwyn ar eu taith cyllid myfyrwyr.鈥

I helpu myfyrwyr gael y newyddion cyllid myfyrwyr a鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf, mae SLC yn eu cynghori i:

  • Ymuno 芒 i fod yn un o鈥檙 cyntaf i wybod pan fydd y gwasanaeth ymgeisio yn agor.
  • Mynd i ddarganfod mwy am ba gyllid sydd ar gael
  • Dilyn CMC ar , , a

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Ionawr 2022