Stori newyddion

Gwahodd myfyrwyr yng Nghymru i ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr 23/24

Gwasanaeth ceisiadau cyllid myfyrwyr yn cael ei lansio ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod.

Apply Now! Full-time undergraduate applications are now open!

Gwnew gais yn awr! Gall myfyrwyr israddedig llawn-amser wnedud cais yn awr

Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr, wrth i鈥檙 gwasanaeth ymgeisio lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 23/24.

Talodd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) dros 1.5 miliwn o fyfyrwyr dros 拢22bn mewn benthyciadau cynhaliaeth, grantiau a ffioedd dysgu yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf a gwblhawyd (21/22). Wrth i fyfyrwyr ddechrau paratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, y neges gan SLC yw cyflwyno ceisiadau cyn gynted 芒 phosibl, fel y bydd eu cyllid yn barod ar gyfer dechrau鈥檙 flwyddyn academaidd newydd.

Nid oes angen i ddarpar fyfyrwyr gael lle wedi鈥檌 gadarnhau ar gwrs mewn prifysgol neu goleg i wneud eu cais, oherwydd gellir diweddaru manylion y cwrs yn ddiweddarach.

Dywedodd Jackie Currie, Cyfarwyddwr Gweithredol Dros Dro Gweithrediadau SLC: 鈥淢ae penderfynu astudio trwy addysg uwch yn benderfyniad mawr i bob darpar fyfyriwr ac mae llawer i鈥檞 drefnu a鈥檌 reoli cyn i鈥檞 cwrs ddechrau. Bydd llawer o ddarpar fyfyrwyr ar ganol astudio ac yn paratoi eu hunain ar gyfer arholiadau pwysig yn y misoedd i ddod, a dyna pam rwy鈥檔 argymell yn fawr eich bod yn cyflwyno cais am gyllid myfyriwr cyn gynted 芒 phosibl. Fel hyn, gallant ganolbwyntio ar eu hastudiaethau a gweithio tuag at wireddu eu nodau addysg.鈥

Gwybodaeth bwysig i ddarpar fyfyrwyr:

Mae nifer o adnoddau ar gael i fyfyrwyr gael gwybod mwy am sut i wneud cais ac am y cymorth ariannol a allai fod ar gael. 鈥 Mae gwybodaeth lawn, gan gynnwys canllawiau ar sut i wneud cais, pa gyllid sydd ar gael a fideos i helpu myfyrwyr drwy鈥檙 broses ymgeisio ar gael yn: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/darganfod-cyllid-myfyrwyr/ 鈥 Gall myfyrwyr wneud cais am Fenthyciadau Ffioedd Dysgu i dalu ffioedd a Benthyciadau Cynhaliaeth a grantiau i helpu gyda chostau byw 鈥 Gall myfyrwyr hefyd gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad ar The Student Room a thrwy ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar facebook.com/SFWales, twitter.com/SF_Wales neu youtube/SFWFILM

Sicrhewch fod gennych ddogfennau pwysig wrth law:

鈥 Dylai fod gan fyfyrwyr eu Rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn dechrau鈥檙 cais. 鈥 Gofynnir iddynt hefyd am fanylion banc wrth wneud cais, gan gynnwys rhif y cyfrif 8 digid a chod didoli 6 digid. Os bydd y manylion banc yn newid ar 么l gwneud cais, mae鈥檔 gyflym ac yn hawdd mewngofnodi i鈥檞 cyfrif ar-lein a鈥檜 diweddaru.

Traciwch gynnydd y cais:

鈥 Gall gymryd chwech i wyth wythnos i brosesu ceisiadau, ac nid oes angen i fyfyrwyr gysylltu 芒 ni yn ystod y cyfnod hwn. Gallant olrhain statws eu cais trwy eu cyfrifon ar-lein a ch芒nt eu hysbysu os oes unrhyw gamau gweithredu heb eu cymryd y mae angen iddynt eu cymryd. Gall myfyrwyr hefyd wneud newidiadau i鈥檞 gwybodaeth bersonol yn eu cyfrifon ar-lein.

Os yw myfyriwr wedi astudio o鈥檙 blaen:

鈥 Os yw myfyriwr wedi astudio o鈥檙 blaen gallai effeithio ar ei gymhwysedd 鈥 hyd yn oed os oedd y cwrs blaenorol yn hunan-ariannu. Gwnewch yn si诺r eich bod yn cyflwyno鈥檙 cais yn gynnar fel y gellir cadarnhau hawl. 鈥 Os ydynt yn dychwelyd i astudio ar 么l seibiant, dylai myfyrwyr ddefnyddio鈥檙 cyfrif ar-lein oedd ganddynt yn wreiddiol, yn hytrach na chreu un newydd. Gellir defnyddio鈥檙 swyddogaeth chwilio ar-lein i ddod o hyd iddo.

Os wedi ymddieithrio oddi wrth rieni:

Os nad yw myfyriwr wedi cael unrhyw gysylltiad 芒鈥檌 rieni ers dros flwyddyn, efallai y gall wneud cais fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio. Ymdrinnir 芒 cheisiadau gan fyfyrwyr sydd wedi ymddieithrio gan ein t卯m ymroddedig o gynghorwyr cwsmeriaid sydd wedi鈥檜 hyfforddi鈥檔 arbennig i sicrhau bod y broses yn sensitif i鈥檞 hamgylchiadau. Mae鈥檙 gofynion tystiolaeth yn wahanol hefyd. Darllenwch y canllaw hwn i gael gwybod mwy.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd gan fyfyrwyr hawl i gymorth pellach:

Efallai y bydd amgylchiadau pan fydd myfyriwr yn gallu cael rhywfaint o arian ychwanegol, er enghraifft os oes ganddo anghenion ychwanegol, os oes ganddo blant, neu os yw鈥檔 astudio ar gyfer cwrs meddygol, gwaith cymdeithasol neu ddysgu. Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd ar gael ar gael yma:https://www.studentfinancewales.co.uk/undergraduate-finance/full-time/welsh-student/what-s-available/

Ychwanegodd Jackie: 鈥淒im ond tua 30 munud y mae鈥檙 broses ymgeisio ar-lein yn ei gymryd i鈥檞 chwblhau, ac i鈥檙 rhan fwyaf o fyfyrwyr bydd y broses yn un syml. Fodd bynnag, rydym yn gwybod y gallai fod angen cymorth ychwanegol ar rai unigolion, ac mae gennym d卯m arbenigol ymroddedig sy鈥檔 barod i helpu i arwain myfyrwyr ar hyd eu taith.鈥

Bydd ceisiadau cyllid myfyrwyr ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig ac 么l-raddedig rhan amser ar gael yn ddiweddarach yn y gwanwyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2023