Datganiad i'r wasg

Yr wythnos hon rydym yn dod ag Uwchgynhadledd Fuddsoddi鈥檙 DU i Gymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb yn son yn Wales on Sunday am Uwchgynhadledd Buddsoddi y DU.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd dros 150 o arweinwyr busnes byd-eang ac o鈥檙 DU, o rai o鈥檙 cwmn茂au mwyaf llwyddiannus yn y byd, yn gweld beth sy鈥檔 gwneud Cymru鈥檔 wlad mor wych i fuddsoddi ynddi.

Byddant yn gweld bod ein gwlad yn gartref i glwstwr cynyddol o gwmn茂au technolegol o鈥檙 radd flaenaf, sydd ar flaen y gad o ran gwaith ymchwil a datblygiadau rhyngwladol.

Byddwn yn arddangos rhai o鈥檙 datblygiadau arloesol mwyaf blaengar yn y byd 鈥 cynhyrchion a ddechreuodd yng Nghymru, a ddatblygwyd yng Nghymru ac a weithgynhyrchwyd yng Nghymru.

Mae鈥檙 dechnoleg sy鈥檔 gweithio dros hanner ffonau symudol y byd yn cael ei chreu yn ne Cymru; mae Raspberry Pi, y cyfrifiadur maint cerdyn credyd a wneir yng Nghymru, wedi bod yn llwyddiant allforio; ac mae adeiladau鈥檙 dyfodol, sy鈥檔 gallu cynhyrchu eu hynni eu hunain, yn cael eu harloesi yng Nghymru.

Rwyf am i arweinwyr busnes y byd weld bod Cymru鈥檔 wlad uchelgeisiol sy鈥檔 awchu am lwyddiant, gydag economi ddeinamig a blaengar.

Ac rwyf am iddynt adael heb unrhyw amheuon am ein hysbryd entrepreneuraidd, ein dyfeisgarwch, ein talent am arloesi a sgiliau ein gweithlu.

Mae gan y Llywodraeth hon gynllun economaidd hirdymor i gefnogi busnesau Cymru a chreu鈥檙 amodau perffaith ar gyfer twf. Rydym wedi lleihau鈥檙 diffyg, torri鈥檙 Dreth Gorfforaeth a lleihau biwrocratiaeth, i wneud ein heconomi鈥檔 fwy cystadleuol ac yn fwy deniadol i fewnfuddsoddi ynddi.

Mae busnesau wedi ymateb drwy fuddsoddi a chreu swyddi i greu economi gryfach, fwy llwyddiannus yng Nghymru.

Mae eu penderfyniad a鈥檜 hyder wedi arwain at 8,000 o fusnesau newydd yn cael eu sefydlu bob blwyddyn yng Nghymru ac oddeutu 100,000 o swyddi newydd yn y sector preifat ers Ebrill 2010.

Mae allforion wedi cynyddu, mae rhagor o fusnesau bach a chanolig eu maint, ac mae mwy o fewnfuddsoddi o dramor nag erioed. Mae鈥檙 llwyddiannau hyn yn seiliau rhagorol i adeiladu arnynt, ond rwy鈥檔 gwybod bod mwy i鈥檞 wneud i sicrhau bod ein gwlad yn aros ar y llwybr iawn tuag at ffyniant economaidd.

Mae鈥檙 ddwy lywodraeth yng Nghymru am weithio gyda busnesau i sicrhau鈥檙 manteision hyn a sicrhau etifeddiaeth economaidd barhaol.

Ym mis Medi, fe wnaethom ddangos i鈥檙 byd beth rydym yn gallu ei gyflawni wrth weithio gyda鈥檔 gilydd, drwy gyflwyno Uwchgynhadledd NATO lwyddiannus. Roedd yn wych gweld Cymru鈥檔 serennu ar y llwyfan rhyngwladol ac ni allai ein proffil byd-eang fod yn uwch.

Felly ni fu erioed gwell amser i Gymru fanteisio ar uwchgynhadledd fuddsoddi ar y raddfa hon.

Dyna pam ein bod yn cynnal yr uwchgynhadledd hon, i harneisio鈥檙 llwyddiant a throi hynny鈥檔 swyddi a ffyniant er mwyn i bobl Cymru allu elwa o sicrwydd cael cyflog rheolaidd.

Nid yn unig mae busnesau Cymru鈥檔 magu enw da鈥檔 fyd-eang am dechnoleg, ond mae ein prifysgolion yn gwthio ffiniau cyflawniad deallusol ac mae ein busnesau鈥檔 defnyddio hyn yn fasnachol.

Bydd yr uwchgynhadledd yr wythnos hon yn anfon neges i鈥檙 byd ein bod yn wlad uchelgeisiol sydd ar agor i fusnes.

Rwyf am gael rhagor o entrepreneuriaid a rhagor o gwmn茂au llwyddiannus yn buddsoddi yma 鈥 ac rwyf am i鈥檔 sector preifat dyfu gyda busnesau sy鈥檔 gwneud mwy, sy鈥檔 masnachu mwy, sy鈥檔 cyflogi mwy ac sy鈥檔 tyfu o flwyddyn i flwyddyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Tachwedd 2014 show all updates
  1. Added translation

  2. First published.