Datganiad i'r wasg

Prosiect Lag诺n Llanw Bae Abertawe yn cael caniat芒d cynllunio

Rhoddwyd caniat芒d cynllunio heddiw i adeiladu lag诺n llanw cyntaf y byd, gan roi hwb i'r broses o symud tuag at gymysgedd o ynni carbon isel a gynhyrchir gartref.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2015 to 2016 Cameron Conservative government

Rhoddwyd caniat芒d cynllunio heddiw i adeiladu lag诺n llanw cyntaf y byd, gan roi hwb i鈥檙 broses o symud tuag at gymysgedd o ynni carbon isel a gynhyrchir gartref.

Os bydd y tyrbinau hyn yn cael eu hadeiladu ar y morglawdd arfaethedig, chwe milltir, ar si芒p pedol o amgylch Bae Abertawe yng Nghymru, gallent gynhyrchu oddeutu 500GWh o drydan carbon isel bob blwyddyn.

Dywedodd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog Ynni a Newid Hinsawdd a Swyddfa Cymru:

Mae angen rhagor o ffynonellau ynni gl芒n a gynhyrchir gartref arnom ni, a fydd yn helpu i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil o dramor. Gallai prosiectau ynni carbon isel, fel y lag诺n llanw ym Mae Abertawe, ddenu buddsoddiad, cefnogi swyddi lleol a helpu i gyfrannu at economi Cymru ac ardal Abertawe.

Ar wah芒n i鈥檙 caniat芒d cynllunio, mae鈥檔 rhaid trafod Contract Gwahaniaeth ar gyfer y prosiect o hyd, i sefydlu a yw lag诺n llanw ym Mae Abertawe yn fforddiadwy ac yn werth am arian i ddefnyddwyr. Byddai unrhyw benderfyniad i gynnig Contract Gwahaniaeth ar gyfer prosiect Lag诺n Llanw Bae Abertawe yn amodol ar ystyriaethau gwerth am arian a fforddiadwyedd llym ac yn amodol ar gymeradwyaeth cymorth Gwladol.

Nodiadau i olygyddion

  • Mae鈥檙 broses ar gyfer caniat芒d datblygu yn un gwbl ar wah芒n i鈥檙 broses sy鈥檔 ymwneud 芒 thrafod Contract Gwahaniaeth posibl, ac ni fydd yn effeithio ar y broses honno.

  • Cyhoeddodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2014 ein bod wedi dechrau ymchwilio i鈥檙 posibilrwydd o gael rhaglen lag诺n yn y dyfodol a fyddai鈥檔 helpu i fodloni ein hanghenion ynni yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod y DU yn wyrddach ac yn lanach. Ym mis Mawrth 2015, cyhoeddodd y Llywodraeth flaenorol ei bod yn dechrau ar gamau cyntaf trafodaethau ynghylch Contract Gwahaniaeth posibl gyda Tidal Lagoon Power Ltd, datblygwyr Lag诺n Llanw Bae Abertawe, i sefydlu a yw鈥檙 prosiect lag诺n llanw ym Mae Abertawe yn fforddiadwy ac yn golygu gwerth am arian i ddefnyddwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mehefin 2015