Stori newyddion

拢36 miliwn o arian Llywodraeth y Deyrnas Unedig i Abertawe ar gyfer ei datblygiadau technoleg ynni gl芒n

Mae Canghellor y Deyrnas Unedig, Philip Hammond, wedi cyhoeddi cyllid newydd o 拢36 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer arloesi ynni gl芒n yn y sector adeiladu drwy Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
  • Mae Canghellor y Deyrnas Unedig, Philip Hammond, wedi cyhoeddi cyllid newydd o 拢36 miliwn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer arloesi ynni gl芒n yn y sector adeiladu drwy Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol.
  • Bydd yr arian yn mynd i sefydliad ymchwil SPECIFIC, sy鈥檔 rhan o Brifysgol Abertawe, ac sy鈥檔 datblygu deunyddiau a gorchuddion adeiladu newydd sy鈥檔 cynhyrchu trydan o oleuni a gwres.
  • Gellir defnyddio鈥檙 ynni hwn i bweru cartrefi, ysbytai ac ysgolion, neu ei werthu yn 么l i鈥檙 grid cenedlaethol.
  • Mae cyfanswm y cyllid y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ei roi i Brifysgol Abertawe ers 2010 yn fwy na 拢100 miliwn

Bydd mwy na 拢36 miliwn o arian Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael ei roi i Brifysgol Abertawe i ddatblygu deunyddiau adeiladu blaengar sy鈥檔 cynhyrchu trydan, cyhoeddodd y Canghellor yn ystod ymweliad 芒 Chymru gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Mae鈥檙 dechnoleg werdd yn defnyddio golau a gwres i gynhyrchu ynni, ac mae ganddi鈥檙 potensial i bweru cartrefi, gweithleoedd, ysgolion ac ysbytai. Gallai鈥檙 deunyddiau hyn gymryd lle waliau, toeau a ffenestri confensiynol, gan gynhyrchu trydan sy鈥檔 cael ei storio a鈥檌 ryddhau gan system weithredu glyfar. Gellid gwerthu trydan dros ben yn 么l i鈥檙 grid cenedlaethol hefyd.

Mae cyhoeddiad heddiw yn ategu bwriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwy na haneru defnydd ynni adeiladau newydd erbyn 2030: bydd gwneud adeiladau鈥檔 fwy effeithlon o ran ynni drwy gynnwys technolegau clyfar yn torri biliau ynni鈥檙 cartref, yn lleihau鈥檙 galw am ynni, ac yn rhoi hwb i dwf economaidd y Deyrnas Unedig tra鈥檔 cyrraedd targedau o ran lleihau carbon.

Wrth ymweld ag Ysgol Beirianneg Prifysgol Abertawe, dywedodd Canghellor y Trysorlys, Philip Hammond:

Mae Prifysgol Abertawe a鈥檙 cwmn茂au arloesol sy鈥檔 gweithio gyda hi鈥檔 arweinwyr byd-eang mewn ynni gl芒n. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cefnogi diwydiannau鈥檙 dyfodol a fydd yn darparu swyddi a chyfleoedd ledled Cymru. Bydd y 拢36 miliwn hwn o arian newydd yn cefnogi technoleg werdd gyffrous a allai dorri biliau ynni, lleihau allyriadau carbon a chreu cartrefi a mannau gwaith gwell.

Bu i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, a wnaeth agor y Swyddfa Weithredol ar Gampws Bae Abertawe yn gynharach eleni ymuno 芒鈥檙 Canghellor ar yr ymweliad.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn gefnogwr balch o brosiect SPECIFIC ers tro, a鈥檙 llynedd rhoddodd 拢800,000 o gyllid tuag ato drwy Innovate UK

Ers 2010, mae Prifysgol Abertawe wedi cael dros 拢68 miliwn o gyllid ymchwil gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y 拢36 miliwn o arian ychwanegol yn golygu bod y cyfanswm mae鈥檙 Brifysgol wedi鈥檌 gael gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig dros y cyfnod hwnnw yn pasio 拢100 miliwn.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i arwain y byd o ran technoleg ynni gl芒n, ac mae鈥檙 buddsoddiad ychwanegol hwn ym Mhrifysgol Abertawe yn dangos ein bod ni鈥檔 barod i gefnogi arloesi yn y maes hollbwysig hwn.

Mae鈥檙 ymchwil arloesol sy鈥檔 cael ei ddatblygu yn y sefydliad hwn yn trosi i ddyfeisiadau a thechnegau ymarferol a all wella ein bywydau. Mae鈥檔 wyddoniaeth gyda phwrpas o ddifrif.

Bydd y cyhoeddiad cyllido heddiw, ar ben yr ymrwymiad o 拢68 miliwn i Brifysgol Abertawe er 2010, yn sicrhau y bydd Cymru ac un o鈥檌 phrifysgolion mwyaf blaengar yn chwarae rhan allweddol wrth gadw鈥檙 Deyrnas Unedig ar flaen y gad o ran arloesi am flynyddoedd i ddod.

Mae鈥檙 cyllid newydd hwn yn rhan o鈥檙 cynnydd mwyaf mewn buddsoddiad ymchwil a datblygu ers 40 mlynedd, gan gefnogi swyddi cyflogau uchel mewn diwydiannau sy鈥檔 dod i鈥檙 amlwg. Ers hydref 2016, mae鈥檙 Llywodraeth wedi buddsoddi 拢7 biliwn yn ychwanegol mewn ymchwil a datblygu - gan ddangos cynnydd clir tuag at yr uchelgais i gynyddu buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu ar draws holl economi鈥檙 Deyrnas Unedig i 2.4% o Gynnyrch Domestig Gros erbyn 2027.

Mae parhau i fod ar flaen y gad o ran ynni gl芒n y genhedlaeth nesaf yn rhan allweddol o Strategaeth Ddiwydiannol fodern y llywodraeth, gan chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynyddu ein hincwm cenedlaethol a thorri allyriadau nwyon t欧 gwydr yr un pryd. Bydd gwneud y mwyaf o fanteision i ddiwydiant y Deyrnas Unedig mewn twf gl芒n yn cynyddu ein cynhyrchedd, yn creu swyddi da, ac yn helpu i ddiogelu鈥檙 hinsawdd a鈥檙 amgylchedd y byddwn ni a chenedlaethau鈥檙 dyfodol yn dibynnu arnynt.

Ar yr un pryd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau 芒鈥檌 chefnogaeth ehangach i Gymru. Mae hyn yn cynnwys:

  • O ganlyniad i gyhoeddiad diweddar y GIG, disgwylir i Lywodraeth Cymru elwa ar hwb o 拢1.2 biliwn y flwyddyn i鈥檞 chyllideb erbyn 2023/24.
  • Rhoddwyd hwb o 拢1.2 miliwn i gyllideb Llywodraeth Cymru yng Nghyllideb yr Hydref 2017.
  • Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn buddsoddi 拢615 miliwn ym Margeinion Dinesig Caerdydd ac Abertawe, ac yn gwneud cynnydd ar fargeinion twf gogledd Cymru a chanolbarth Cymru.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cael 拢23.5 miliwn o gyllid ychwanegol o ganlyniad i benderfyniad yr Adran Addysg i gynyddu cyflog athrawon yng Nghymru a Lloegr.
  • Mae nifer y bobl sy鈥檔 gweithio yng Nghymru ar y lefel uchaf erioed, a thwf cynhyrchiant yng Nghymru yw鈥檙 3ydd cryfaf o blith pob un o 12 gwlad a rhanbarth y Deyrnas Unedig.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 19 Medi 2018