Datganiad i'r wasg

Twrci a threth

Cyflwynwyd dros 10,000 o Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar ddydd Nadolig a g诺yl San Steffan.

Self Assessment promotional image - "Don't let your tax return peck away at you - do it by 31st January" / "Peidiwch 芒 gadael i'ch Ffurflen Dreth eich pigo"

Self Assessment advertising image: 鈥榯ax ducks鈥 wearing Santa hats / Llun hysbysebu Hunanasesiad: 鈥榟wyaid treth鈥 yn gwisgo hetiau Si么n Corn.

Mae鈥檔 bosibl nad llenwi鈥檆h Ffurflen Dreth sydd ar frig eich rhestr ar ddydd Nadolig, ond dyna wnaeth 2,616 o drethdalwyr ar 25 Rhagfyr.

I rai trethdalwyr, mae llenwi Ffurflen Dreth ar ddydd Nadolig yr un mor draddodiadol 芒 threulio amser gyda鈥檙 teulu a ffrindiau, neu aros i s锚ls g诺yl San Steffan ddechrau. Rhwng 13:00 a 14:00 oedd yr amser prysuraf, gyda dros 230 o gwsmeriaid yn cyflwyno鈥檜 Ffurflenni Treth.

Dywedodd Angela MacDonald, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEM ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

Eleni, dewisodd mwy na 2,600 o drethdalwyr gyflwyno鈥檜 Ffurflenni Treth ddydd Nadolig.

Gallwch ei llenwi tra bo鈥檙 twrci yn y ffwrn, ar 么l i鈥檙 plant fynd i鈥檙 gwely, neu ar 么l araith y Frenhines 鈥 mae ein gwasanaeth ar-lein ar gael i chi bryd bynnag y dewiswch ei ddefnyddio.

Mae arweiniad ar Hunanasesiad ar gael ar-lein.

Disgwylir i fwy nag 11 miliwn o drethdalwyr lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2017/18 erbyn 31 Ionawr 2019.

Dyma faint o Ffurflenni Treth a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod hwn:

25 Rhagfyr (cyfanswm o 2,616):

  • hanner nos - 08.00: 204
  • 08.01 鈥 16.00: 1,372
  • 16.01 鈥 hanner nos: 1,040

26 Rhagfyr (cyfanswm o 8,465):

  • hanner nos 鈥 08.00: 348
  • 08.01 鈥 16.00: 4,492
  • 16.01 鈥 hanner nos: 3,625

I鈥檙 cwsmeriaid hynny sydd heb ddechrau llenwi eu Hunanasesiad ar gyfer 2017/18 eto, mae ffilmiau a gweminarau sy鈥檔 mynd 芒 chi drwy bob cam o鈥檙 broses, gydag arweiniad pwrpasol ar gyfer amgylchiadau amrywiol unigolion. Mae help i鈥檞 gael hefyd ar wefan 天美影院 neu gan Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM ar 0300 200 1900 ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Os llenwodd cwsmeriaid Ffurflen Dreth Hunanasesiad y llynedd ond nid oedd ganddynt dreth i鈥檞 thalu, mae鈥檔 rhaid iddynt lenwi Ffurflen Dreth 2017/18 o hyd, oni bai bod CThEM wedi ysgrifennu atynt i ddweud nad oes angen gwneud hynny.

Rhagor o wybodaeth

Y ffigurau cyflwyno:

  • cyflwynodd 2,616 o drethdalwyr Ffurflen Dreth ar 25 Rhagfyr 2018
  • yr awr brysuraf ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar 25 Rhagfyr oedd rhwng 13:00 a 14:00 (cyflwynwyd 231 o Ffurflenni Treth)
  • cyflwynodd 8,465 o drethdalwyr Ffurflen Dreth ar 26 Rhagfyr 2018
  • yr awr brysuraf ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth ar 26 Rhagfyr oedd rhwng 13:00 a 14:00 (cyflwynwyd 723 o Ffurflenni Treth)

Mae treth yn cael ei didynnu鈥檔 awtomatig o鈥檙 rhan fwyaf o gyflogau, pensiynau neu gynilion trethdalwyr y DU. Ond, mae鈥檔 rhaid i Ffurflen Dreth Hunanasesiad gael ei llenwi bob blwyddyn gan bobl neu fusnesau sydd ddim yn cael treth wedi鈥檌 didynnu鈥檔 awtomatig, neu sydd o bosibl wedi ennill incwm ychwanegol heb ei drethu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 Rhagfyr 2018 show all updates
  1. Added Welsh language translation.

  2. First published.