Y DU yn dathlu derbynwyr o Gymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Y Brenin
Mae dros 70 o bobl o Gymru sydd wedi cyfrannu i’w cymuned a’u gwlad yn cael eu dathlu yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Y Brenin Ei Fawrhydi 2025.

HM The King's Birthday Honours 2025
Mae cyfanswm o 1215 o dderbynwyr i gyd wedi cael eu gwobrwyo am eu cyflawniadau eithriadol, gyda ffocws arbennig eleni ar y sawl sydd wedi rhoi o’u hamser i wasanaeth cyhoeddus.Â
Mae derbynwyr eleni yn cynnwys pencampwyr cymunedol ymroddedig, modelau rôl mewn chwaraeon, arloeswyr yn y celfyddydau, gweithwyr iechyd angerddol a chefnogwyr pobl ifanc.Â
Mae derbynwyr o Gymru yn cynrychioli 6% o gyfanswm y sawl sy’n derbyn anrhydeddau eleni. Â
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Keir Starmer:
Mae Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd eleni yn ein hatgoffa’n gryf am yr ymroddiad, trugaredd a gwasanaeth anhygoel sy’n bodoli ym mhob cwr o’n gwlad.Â
O bencampwyr cymunedol i eiconau diwylliannol, mae pob un yn adlewyrchu’r gorau o Brydain.  Estynnaf fy llongyfarchiadau calonnog a hoffwn diolch i bob un ohonynt.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Llongyfarchiadau anferthol i’r unigolion anhygoel o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Y Brenin.Â
Mae pob un sy’n derbyn gwobr wedi dangos ymroddiad, angerdd ac ymrwymiad i’w cymunedau, gan wneud cyfraniadau sylweddol sy’n cael effaith eang ar lawer o bobl.
Mae eich gwaith - yn cefnogi pobl sy’n agored i niwed, hyrwyddo’r celfyddydau, cynyddu mynediad i chwaraeon a gwella bywydau mewn ffyrdd niferus - yn ysbrydoliaeth i bawb. Diolch ichi am eich gwasanaeth eithriadol.
Gall unrhyw un enwebu rhywun ar gyfer anrhydedd. Os ydych yn adnabod rhywun sydd wedi cyflawni pethau gwych sy’n werth eu cydnabod, ewch i /honours i wybod mwy am sut y gallwch eu henwebu.
Derbynwyr nodedig ar draws Cymru:Â
Oliver Sykes, sy’n derbyn MBE am wasanaethau i Fynediad i’r Celfyddydau i Bobl Ifanc Ddifreintiedig. Mae ei waith yn arwain y rhaglen ‘Stories of Care’ wedi grymuso dros 5000 o bobl ifanc o gefndiroedd incwm isel, ac wedi rhoi mynediad iddynt i waith llenyddol nad yw ar gael iddynt fel arfer.
Muriel Morgan, sy’n derbyn MBE am wasanaethau i’r gymuned yn Wrecsam. Yn 88 oed, mae hi newydd ymddeol yn ddiweddar o’i gyrfa dros gyfnod o 50 mlynedd yn y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (RVS). Yn ystod ei hamser yn RVS, bu’n cydlynu gyrwyr gwirfoddol i gludo pobl hŷn a phobl sy’n agored i niwed i apwyntiadau meddygol na fyddent efallai wedi gallu eu mynychu fel arall. Bu’n gweithio’n ddiflino drwy gydol y pandemig i sicrhau y cynhaliwyd y gwasanaeth, a hyd yn oed yn un o’r cyfnodau mwyaf heriol i’r gwasanaeth, roedd eu defnyddwyr gwasanaeth yn parhau i allu mynychu apwyntiadau meddygol hanfodol.
Mae Modupeola Obilanade yn derbyn MBE am wasanaethau i’r gymuned yng Nghasnewydd. Mae ei gwaith yn arwain Clinig Sant Paul wedi trawsnewid y clinig i gynnig gobaith yn y gymuned. Yn ystod ei chyfnod yn rhedeg y clinig, mae wedi lansio sawl menter iechyd cymunedol yn canolbwyntio ar ofal ataliol a rheoli poen cronig. Yn ei hamser rhydd, mae’n parhau i weithio i elusennau, gan ddarparu cyngor iechyd ac ymgynghoriadau meddygol am ddim i’r sawl sydd eu hangen fwyaf.