Llywodraeth y Deyrnas Unedig a鈥檙 Llywodraethau Datganoledig yn gofyn am safbwyntiau ar y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd
Ymgynghoriad i redeg rhwng 18 Ionawr a 12 Ebrill 2022, gan wahodd safbwyntiau oddi wrth y diwydiant, cyrff anllywodraethol a phawb y mae polis茂au yn y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd yn effeithio arnyn nhw.

Fishing boats moored in a UK port.
Heddiw, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth Cymru, yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon a Llywodraeth yr Alban yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS).
Mae鈥檙 Cyd-ddatganiad yn elfen allweddol o Ddeddf Pysgodfeydd 2020, ac mae鈥檔 nodi鈥檙 polis茂au cyfreithiol-rwymol y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a鈥檙 Llywodraethau Datganoledig yn eu dilyn, ar lefel y Deyrnas Unedig ac yn unigol, wrth gydweithio i ddarparu pysgodfeydd a rheolaeth dyframaethu gynaliadwy o鈥檙 radd flaenaf.
Bydd yr ymgynghoriad, sy鈥檔 rhedeg rhwng 18 Ionawr a 12 Ebrill 2022, yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid diwydiannol ac amgylcheddol, y cyhoedd a phawb sydd 芒 buddiant yn hyn o beth ac y mae鈥檙 polis茂au arfaethedig yn effeithio arnyn nhw.
Mae鈥檙 Cyd-ddatganiad yn nodi polis茂au gan y priod lywodraethau ar gyfer cyflawni, neu gyfrannu at gyflawni, yr wyth amcan a amlinellir yn Neddf Pysgodfeydd 2020 a fydd yn helpu i gyflawni gweledigaeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cefnforoedd a moroedd gl芒n, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol.
Yn unol ag amcanion a rhwymedigaethau rhyngwladol y , mae鈥檙 Cyd-ddatganiad yn nodi sut y bydd y Deyrnas Unedig yn mabwysiadu dull rheoli pysgodfeydd sydd wedi鈥檌 seilio ar ecosystemau ac mae鈥檔 cynnwys ymrwymiad i fapio a diogelu鈥檔 hadnoddau carbon glas.
Mae鈥檔 cydnabod pwysigrwydd pysgota a dyframaethu, a鈥檙 manteision y maen nhw鈥檔 eu darparu i bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig fel ffynhonnell cyflogaeth a hunaniaeth i鈥檔 cymunedau ar y glannau. I ategu hyn, mae鈥檙 Cyd-ddatganiad yn cynnwys polis茂au i helpu鈥檙 diwydiant i ffynnu, gan gynnwys ymrwymiadau i uwchsgilio鈥檙 diwydiant a chynllunio olyniaeth, a hybu鈥檙 defnydd o fwyd m么r lleol.
Mae鈥檙 Cyd-ddatganiad yn nodi tri phrif faes i gyflawni鈥檔 huchelgais:
- Diogelu a, lle bo angen hynny, adfer ein stociau pysgod;
- Lleihau effeithiau pysgota ar yr amgylchedd morol ac arfordirol; a
- Chefnogi diwydiant pysgota modern, gwydn ac amgylcheddol gyfrifol.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, George Eustice:
Mae鈥檙 Ddeddf Pysgodfeydd wedi rhoi鈥檙 pwerau inni i weithredu鈥檔 polisi pysgodfeydd annibynnol ein hunain, gwella鈥檔 hamgylchedd morol a gwneud penderfyniadau ar sail iechyd ein stociau pysgod ac nid buddiannau breintiedig. Heddiw, rydym yn nodi鈥檔 gweledigaeth gyffredin ar gyfer diwydiant pysgota cynaliadwy sy鈥檔 cyflawni pethau dros ein pysgotwyr, yr amgylchedd a鈥檙 Undeb cyfan.
Rydym wedi cymryd rheolaeth yn 么l dros ein dyfroedd, a blwyddyn ar 么l y Cytundeb Masnach a Chydweithredu mae darlun cadarnhaol yn dod i鈥檙 amlwg ar gyfer ein diwydiant pysgota. Rydym wedi gweld cynnydd mewn cwot芒u a fydd yn cyfateb i ryw 拢146 miliwn erbyn 2026 ac rydym yn buddsoddi 拢100 miliwn mewn cymunedau ar y glannau er mwyn iddyn nhw elwa o well seilwaith, swyddi newydd a buddsoddiad mewn sgiliau.
Dywedodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a鈥檙 Trefnydd:
Rwy鈥檔 falch o gael lansio鈥檙 ymgynghoriad hwn gydag awdurdodau polisi pysgodfeydd eraill y Deyrnas Unedig yn dilyn cydweithio agos. Mae鈥檙 Cyd-ddatganiad yn adlewyrchu natur ddatganoledig pysgodfeydd, gan gydnabod manteision gweithio cydlynol. Rydyn ni i gyd am weld diwydiannau pysgota a dyframaethu sy鈥檔 gynaliadwy ac yn amgylcheddol gyfrifol, yn ogystal ag yn economaidd hyfyw a ffyniannus. Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys y diwydiant, sydd wedi ymgysylltu 芒 ni yn ystod y cyfnod datblygu ac rwy鈥檔 edrych ymlaen bellach at glywed safbwyntiau ar y cynigion rydyn ni wedi鈥檜 nodi.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a鈥檙 Llywodraethau Datganoledig wedi ymrwymo i weithio鈥檔 agos gyda鈥檙 diwydiant ac maen nhw鈥檔 yn gofyn am farn y rhanddeiliaid i sicrhau bod y Cyd-ddatganiad yn gweithio gydag anghenion ein diwydiant a鈥檔 hamgylchedd morol. .