Gweinidog Llywodreath y DU yn dathlu llwyddiant Pencampwyr Allforio Wrecsam
Llynedd cafodd Air Covers eu cyhoeddi fel un o wyth Pencampwr Allforio Cymru.

Ddydd Iau 20 Ebrill, bu James Davies, sef Gweinidog Swyddfa Cymru, yn ymweld 芒 chwmni o Wrecsam sy鈥檔 un o鈥檙 cyntaf o Gymru i fod yn Hyrwyddwr Allforio Llywodraeth y DU, i glywed sut maen nhw鈥檔 gwerthu eu cynnyrch ledled y byd.
Mae Air Covers yn gwneud gorchuddion amddiffynnol ar gyfer awyrennau, cerbydau ac offer morol o鈥檜 swyddfa ddylunio a鈥檜 gweithdy yn y ddinas.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fod Air Covers yn un o鈥檙 wyth Hyrwyddwr Allforio Cyntaf yng Nghymru a fydd yn cynrychioli sectorau allweddol ar gyfer economi Cymru, gan gynnwys bwyd a diod, FinTech a gweithgynhyrchu.
Mae鈥檙 Hyrwyddwyr Allforio gwirfoddol yn helpu i dynnu sylw at fanteision allforio ac yn annog cwmn茂au eraill ledled Cymru i ystyried gwerthu i farchnadoedd tramor. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy gymryd rhan mewn digwyddiadau, rhannu eu straeon allforio 芒鈥檙 rheini yn eu sector, a rhoi cyngor i fusnesau eraill ynghylch sut mae ymuno 芒 marchnadoedd newydd dramor.
Mae pob Hyrwyddwr wedi cael ei ddewis oherwydd bod ganddo hanes llwyddiannus o fasnachu rhyngwladol, mae ganddo stori dda i鈥檞 hadrodd am sut mae allforio鈥檔 gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i gwmni ac mae eisiau rhannu ei wybodaeth a鈥檌 brofiad ag eraill.
Dywedodd James Davies, Gweinidog Swyddfa Cymru:
Roedd yn wych ymweld ag Air Covers a chlywed am eu taith allforio a鈥檜 llwyddiant ysgubol.
Mae鈥檙 pencampwyr allforio yn cynrychioli鈥檙 goreuon o fusnesau Cymru ac mae ganddyn nhw lawer iawn o arbenigedd i鈥檞 gynnig i fusnesau eraill sydd eisiau allforio i farchnadoedd gwahanol.
Mae llwyddiant Air Covers yn dangos bod busnesau yng Ngogledd Cymru yn gallu arwain y ffordd i economi鈥檙 DU a chael effaith yn rhyngwladol.
Roedd Air Covers wedi gwerthu llawer o gynnyrch yn Ewrop yn 2022, gyda chymeradwyaethau gan Hofrenyddion Airbus yn Ffrainc a鈥檙 Almaen, a Leonardo Helicopters yn yr Eidal. Bydd y cwmni鈥檔 ymuno 芒 Thaith Fasnach Cymru i Qatar ym mis Mai i wneud busnes 芒 gweithredwyr olew a nwy ar y m么r, ac mae鈥檙 cytundeb masnach diweddar yn y DU/Awstralia/Seland Newydd wedi cael gwared ar dariffau ar gyfer cynnyrch Air Covers, gan ostwng prisiau gwerthu 5%.
Bydd Air Covers yn hyrwyddo ei bortffolio cynyddol o gynnyrch mewn sioeau masnach yn UDA, Canada a Sbaen eleni.
Dywedodd John Pattinson, Prif Weithredwr Air Covers:
Mae gweld ein cynnyrch yn cael ei ddefnyddio ar fwy na 拢11bn o awyrennau ledled y byd a chwsmeriaid yn dod yn 么l am fwy yn rhoi鈥檙 sicrwydd sydd ei angen ar gleientiaid y dyfodol.
Maen nhw鈥檔 gwybod bod y t卯m yn Air Covers yn deall eu hanghenion a byddan nhw鈥檔 ymateb gydag atebion pwrpasol bob tro.