Eisteddfod yr Urdd
Heddiw bu Guto Bebb, gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn canmol y croeso cynnes mae Eisteddfod yr Urdd wedi ei chael yn Sir y Fflint

Heddiw bu Guto Bebb, gweinidog yn Swyddfa Cymru, yn canmol y croeso cynnes mae Eisteddfod yr Urdd wedi ei chael yn Sir y Fflint, a dywedodd ei fod yn dystiolaeth bod yr iaith Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi a鈥檌 chefnogi ledled y wlad.
Yn siarad yn ystod ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, dywedodd Mr Bebb ei bod yn hynod o bwysig bod modd i blant ysgol o bob cwr o Gymru gymryd rhan mewn digwyddiadau sy鈥檔 hybu diwylliant Cymreig a鈥檙 iaith Gymraeg.
Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i Mr Bebb gwrdd 芒鈥檙 trefnwyr, i wylio rhai o鈥檙 digwyddiadau, ac i atgyfnerthu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi鈥檙 iaith Gymraeg.
Dywedodd Mr Bebb:
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc i gofleidio鈥檙 iaith Gymraeg a鈥檔 hunaniaeth ddiwylliannol gyfoethog ers blynyddoedd maith. Bydd plant ysgol o bob cwr o Gymru yn cymryd rhan ac yn cystadlu drwy gydol yr Eisteddfod hon yn y Fflint. Bydd yn brofiad a fydd yn aros gyda nhw am weddill eu hoes. Rwy鈥檔 falch dros ben bod pobl leol y Fflint a Sir y Fflint wedi rhoi croeso cynnes i鈥檙 Urdd. Dymunaf bob llwyddiant iddi.
Rydw i鈥檔 hyderus y bydd llawer o bobl ddi-Gymraeg yn yr ardal leol wedi mwynhau bod yn rhan o鈥檙 profiad, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cefnogaeth anhygoel i Eisteddfod yr Urdd 2016.