Rydym wedi newid ein llythyron rhybudd o ddileu
O heddiw rydym wedi newid sut yr ydym yn anfon llythyron rhybudd o ddileu a鈥檜 cynnwys.

Rydym wedi rhoi鈥檙 gorau i anfon llythyron rhybudd o ddileu trwy鈥檙 post at gwsmeriaid proffesiynol pan nad ydynt wedi ymateb yn llawn i ymholiad o fewn 15 diwrnod.
Rydym bellach yn anfon y llythyron hyn trwy ebost yn unig ac ni fydd y llythyr yn nodi pwyntiau鈥檙 ymholiad sy鈥檔 weddill.
Nid yw鈥檙 newid hwn yn effeithio ar geisiadau gan gwsmeriaid sy鈥檔 ddinasyddion.
Yr hyn y mae angen i gwsmeriaid proffesiynol ei wneud
Er mwyn parhau i dderbyn y llythyron atgoffa hyn, rhaid i chi:
- gynnwys eich cyfeiriad ebost yn y panel priodol ar ein ffurflenni cais
- sicrhau bod eich ffurflenni cais templed sydd wedi鈥檜 llenwi鈥檔 rhannol yn cynnwys cyfeiriad ebost yn y panel priodol
Caiff holl ohebiaeth y Gofrestrfa Tir ei anfon trwy ebost lle y bo鈥檔 bosibl os bydd cyfeiriad ebost wedi鈥檌 gynnwys ar y ffurflen gais.
Mae dileu papur o鈥檙 broses hon yn rhan o鈥檔 gwaith o ddigideiddio ein systemau a鈥檔 prosesau. Mae hyn yn creu trywydd archwilio ar-lein ar gyfer ein cwsmeriaid ac ar ein cyfer ni ac mae鈥檔 galluogi pob un ohonom i weithio鈥檔 fwy effeithlon. Yn ogystal, mae鈥檔 ein helpu i baratoi i ddod yn sefydliad mwy digidol ac i gyflwyno鈥檙 gwasanaethau ar-lein newydd rydym yn eu datblygu, megis a .
Cysylltu
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y newid hwn, cysylltwch 芒鈥檆h t卯m cwsmer neu defnyddiwch ein .