Ysgrifennydd Cymru yn mynd i'r Unol Daleithiau a Chanada i hybu masnach a buddsoddiadau
Daw'r ymweliad hwn wrth i Aston Martin ailddechrau allforion i'r Unol Daleithiau, gan ddiogelu 600 o swyddi yn Sain Tathan.

Welsh Secretary Jo Stevens with Aston Martin apprentices in St Athan in May 2025
- Mae鈥檙 cytundeb a drafodwyd gyda鈥檙 Unol Daleithiau yn diogelu miloedd o swyddi gwneud ceir ac yn cefnogi twf yn niwydiant awyrofod Cymru.
- Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, yn Nhoronto ac Efrog Newydd i sbarduno rhagor o fewnfuddsoddiad i Gymru.
Mae Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, yn teithio i鈥檙 Unol Daleithiau a Chanada yr wythnos hon (22-25 Gorffennaf) i hybu masnach a buddsoddiadau yng Nghymru. Mae鈥檙 ddwy wlad ymhlith y marchnadoedd pwysicaf i allforion Cymru, gyda nwyddau a gwasanaethau gwerth dros 拢2 biliwn yn mynd i鈥檙 Unol Daleithiau a Chanada bob blwyddyn.
Mae鈥檙 masnachu a鈥檙 buddsoddi rhwng Cymru a Gogledd America yn cefnogi dros 50,000 o swyddi yng Nghymru. Gyda鈥檙 cysylltiadau economaidd sylweddol rhwng y gwledydd, mae鈥檙 Unol Daleithiau a Chanada yn rhoi cyfleoedd gwych i fusnesau Cymru dyfu a ffynnu. Daw鈥檙 ymweliad yn dilyn llofnodi cytundeb ffyniant economaidd y DU gyda鈥檙 Unol Daleithiau ym mis Mai, gan ddiogelu busnesau a sicrhau swyddi ledled y wlad, a rhoi hwb i sectorau allweddol yng Nghymru fel dur, awyrofod, gwneud ceir a gwyddorau bywyd.
Mae鈥檙 gwneuthurwr ceir Aston Martin, sydd ag un o鈥檌 safleoedd yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg ac sy鈥檔 cyflogi o leiaf 600 o bobl, wedi ailddechrau allforio i鈥檙 Unol Daleithiau yn dilyn y cytundeb masnach llwyddiannus. Bydd Ysgrifennydd Cymru yn ymweld ag ystafell arddangos newydd Aston Martin yn Ninas Efrog Newydd ac yn cwrdd 芒鈥檌 swyddogion gweithredol.
Daw ymweliad Jo Stevens 芒 Gogledd America ar 么l i Lywodraeth y DU gyhoeddi ei Strategaeth Ddiwydiannol a鈥檌 nod yw tynnu sylw at Gymru fel cyrchfan allweddol ar gyfer mewnfuddsoddiad i鈥檙 DU.
Yn ystod yr ymweliad, bydd Ysgrifennydd Cymru yn codi ymwybyddiaeth o鈥檙 Uwchgynhadledd Fuddsoddi a gynhelir ym mis Rhagfyr yng Nghymru, gan annog arweinwyr busnes a buddsoddwyr Gogledd America i gymryd rhan yn y digwyddiad.
Prif nod Ysgrifennydd Cymru yw ennyn buddsoddiad yng Nghymru, a hynny drwy ddigwyddiadau uchel eu proffil i gwrdd 芒 busnesau a chyfarfodydd bord gron gyda buddsoddwyr ac arweinwyr diwydiant yn Nhoronto ac Efrog Newydd.
聽Fel rhan o鈥檌 rhaglen bydd:
-
Yn cynnal derbyniad busnes yn ystafell arddangos Aston Martin yn Ninas Efrog Newydd.
-
Yn cwrdd 芒 busnesau allweddol o Ganada sydd 芒 diddordeb yng Nghymru - gan gynnwys o鈥檙 sector gweithgynhyrchu ac o sectorau eraill - mewn cyfarfod bord gron yn Nhoronto.
-
Yn cael brecwast busnes gyda buddsoddwyr mewn eiddo tirol chwaraeon yn y DU yn Efrog Newydd.
Mewn sgwrs cyn yr ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
聽> 鈥淢ae cysylltiadau economaidd a diwylliannol cryf a phwysig rhwng Cymru a Gogledd America ac mae鈥檔 wych gallu hyrwyddo鈥檙 rhain a helpu i鈥檞 cryfhau ymhellach. > 聽> 鈥淢ae Llywodraeth y DU wedi gwneud twf economaidd yn brif genhadaeth i ni ac mae ein cytundeb masnach newydd gyda鈥檙 Unol Daleithiau yn sicrhau manteision gwych i鈥檔 busnesau allweddol fel Aston Martin ac i bobl sy鈥檔 gweithio ledled Cymru. > > 聽鈥淗offwn adeiladu ar y cynnydd hwn ac yn ystod fy amser yn yr Unol Daleithiau a Chanada byddaf yn trafod cyfleoedd pellach ar gyfer buddsoddi yng Nghymru gyda chwmn茂au fel Aston Martin. > > 聽鈥淢ae fy neges yn gwbl glir - mae Cymru ar agor i fasnachu.
Meddai Dirprwy Gomisiynydd Masnach Gogledd America, Alan Gogbashian:聽
O gwmn茂au鈥檙 economi chwaraeon i鈥檙 diwydiant modurol, mae gan Gymru r么l allweddol yn economi鈥檙 DU, ac mae ganddi gysylltiadau masnach a buddsoddi cadarn gyda Chanada a鈥檙 Unol Daleithiau.
Mae鈥檔 wych cael croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Efrog Newydd a Thoronto yr wythnos hon i gysylltu 芒 busnesau fel Aston Martin sy鈥檔 masnachu ar draws yr Iwerydd ar hyn o bryd, a chael cwrdd 芒 buddsoddwyr posibl cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi yng Nghymru yn ddiweddarach eleni.
Mae amserlen Ysgrifennydd Cymru hefyd yn cynnwys derbyniad yn Nhoronto gyda grwpiau busnes a grwpiau diwylliannol sydd 芒 diddordeb yng Nghymru a chyfarfodydd gyda buddsoddwyr unigol yng Nghymru fel Vale Mining.聽
Mae Ysgrifennydd Cymru yn teithio i Doronto ddydd Mawrth, 22 Gorffennaf ac yna i Ddinas Efrog Newydd cyn dychwelyd i鈥檙 DU ar 25 Gorffennaf.