Ysgrifennydd Cymru: Gogledd Cymru yn "enghraifft ddisglair o lwyddiant allforio"
Stephen Crabb AS i bwysleisio pam fod Cymru yn le gwych i fuddsoddi ar ymweliadau 芒 Toyota a ConvaTec.

Welsh Secretary Stephen Crabb with ConvaTec executives Robbie Heginbotham and Joanne Graham
Yn y cyfnod sy鈥檔 arwain at Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol yng Nghymru fis nesaf, bydd Stephen Crabb heddiw (9 Hydref) yn ymweld 芒 Toyota a ConvaTec yng ngogledd Cymru - dau o鈥檙 cwmn茂au rhyngwladol mwyaf llwyddiannus yn y byd - i amlygu pam bod Cymru yn lle gwych i fuddsoddi ynddo ac yn lle ardderchog i gynnal busnes ynddo.
Rhyngddynt, mae鈥檙 ddau gwmni鈥檔 cyflogi mwy na 1,150 o bobl yng Nghymru. Mae ffatri peiriannau 115 erw Toyota yng Nglannau Dyfrdwy yn cyflenwi peiriannau a chydrannau i ffatr茂oedd Toyota ledled y byd. Mae gan ConvaTec, sy鈥檔 cynhyrchu rhai o鈥檙 cynhyrchion meddygol mwyaf arloesol yn y farchnad fyd-eang, dri safle yng Nghymru ac mae鈥檔 allforio ei gynhyrchion i fwy na 100 o wledydd.
Mae ymweliad Mr Crabb yn digwydd yr un pryd ag y caiff y data allforio diweddaraf ei gyhoeddi i Gymru. Yn 么l y ffigurau ar gyfer y chwarter diweddaraf, cynyddodd gwerth allforion Cymru fwy na 5% i 拢737 miliwn. Bydd hefyd yn cwrdd ag arweinyddion busnes heddiw yng Nghydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) - Gogledd Cymru, lle bydd yn nodi sut mae llywodraeth y DU yn gweithio gyda busnesau i ysgogi鈥檙 economi ledled Cymru.
Dywedodd Mr Crabb:
Mae ein cynllun economaidd hirdymor i sicrhau economi gryfach i Gymru yn golygu annog cwmn茂au i fuddsoddi yn y wlad a chreu swyddi.
Mae ConvaTec a Toyota yn gwmn茂au allforio byd-eang enfawr sydd wedi buddsoddi鈥檔 sylweddol yng ngogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd. Drwy leoli eu gweithrediadau a thyfu eu gweithlu yma, maen nhw鈥檔 dangos sut mae gogledd Cymru wedi dod yn enghraifft ddisglair o lwyddiant allforio.
Mae allforion Cymru yn cynyddu ac rydyn ni am i鈥檙 gynhadledd buddsoddi fis nesaf ddatblygu hyn, gan ein helpu ni i gyrraedd ein targed o ddyblu allforion y DU erbyn 2020.
Gwn fod y materion hyn yn rhai allweddol bwysig i economi Cymru ac rwy鈥檔 edrych ymlaen at eu trafod gydag arweinyddion busnes yn CBI Gogledd Cymru.
Caiff yr Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol ei chynnal yng Nghymru rhwng 20 a 21 Tachwedd. Bydd yn canolbwyntio ar dechnolegau newydd a chaiff ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan gynnwys Masnach a Buddsoddi鈥檙 DU. Bydd yn dangos bod Cymru a gweddill y DU yn amgylchedd penigamp ar gyfer twf busnes ac i fuddsoddi mewn busnes.
Yn ystod ei ymweliadau 芒 Toyota a ConvaTec, bydd Mr Crabb hefyd yn mynd ar deithiau o amgylch y ffatri ac yn cwrdd 芒 staff ac uwch swyddogion gweithredol. Bydd yn cwrdd 芒 staff o raglen brentisiaeth Toyota hefyd.