Ysgrifennydd Cymru yn tanlinellu cefnogaeth Llywodraeth y DU i brentisiaid
Stephen Crabb AS yn canmol pobl ifanc sy'n graddio o gynllun prentisiaeth GE Aviation Wales.
Tanlinellodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb heddiw (6 Hydref) gefnogaeth llywodraeth y DU i brentisiaethau wrth iddo longyfarch gr诺p o brentisiaid o GE Aviation Wales.
Cafodd y 25 prentis, sydd wedi cwblhau鈥檙 rhaglen brentisiaeth, eu cydnabod mewn seremoni raddio yn y cyfleuster ailwampio peiriannau awyrennau yn Nantgarw.
Mae mwy na 500 o brentisiaid wedi gweithio eu ffordd trwy raglen GE ers i鈥檙 busnes gael ei gaffael gan British Airways yn 1991.
Drwy gydol y rhaglen 3-blynedd, mae鈥檙 prentisiaid yn gweithio eu ffordd o gwmpas y busnes i ennill dealltwriaeth ehangach o sut mae鈥檙 cwmni yn gweithredu, yn ogystal 芒 datblygu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen er mwyn iddynt gyflawni eu cymhwyster ffurfiol.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb:
Mae prentisiaethau yn ffordd wych i bobl ifanc gymryd eu camau cyntaf i fyny鈥檙 ysgol ym myd gwaith.
Mae rhaglen brentisiaeth GE Aviation Cymru wedi鈥檌 seilio ar weledigaeth tymor hir ar gyfer datblygiad eu staff ac yn fodel o鈥檙 math o gynlluniau yr ydym am weld hyd a lled Cymru.
Fe wnaeth egni ac ymrwymiad y graddedigion gwrddais i 芒 nhw heddiw, rheiny fydd yn helpu i hybu twf ar draws y diwydiant awyrofod yn y DU yn y blynyddoedd i ddod, argraff fawr arnai.
Dywedodd Mike Patton, Rheolwr Gyfarwyddwr GE Aviation Wales:
Rydym yn hynod o falch o鈥檙 prentisiaid sy鈥檔 graddio heddiw ac yn cymryd pleser mawr yn y ffaith bod eu hymdrechion nhw, a鈥檔 rhai ni, i ddatblygu gweithlu a chwmni rhagorol yn cael eu gwerthfawrogi yma heddiw.
Mae GE Aviation Cymru yn ymfalch茂o mewn rhoi ffocws cryf ar ddarparu cyfleoedd gyrfa i unigolion talentog. Rydym yn gweithio鈥檔 agos gydag ysgolion lleol, colegau a phrifysgolion ar ddatblygiad a hyfforddiant ac, ynghyd 芒鈥檔 rhaglen prentis adnabyddedig, yn cynnig ystod o interniaethau a profiad gwaith i raddedigion. Ein gweithlu yw, wrth gwrs, yr hyn sy鈥檔 gwneud ein cwmni.