Gr诺p Ymgynghori Economaidd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i greu 'cyfnod newydd o ffyniant a thwf i Gymru'
Bydd y Gr诺p Ymgynghori Twf Economaidd Cymru y tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr o grwpiau busnes, addysg a diwydiant Cymru yn llunio polisi trawslywodraethol y DU

Welsh Secretary Jo Stevens chairing a Creative Sector roundtable in Cardiff Bay.
- Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi Gr诺p Ymgynghori Economaidd newydd i聽sbarduno twf, siapio strategaeth ddiwydiannol y DU, a gwneud Prydain yn archb诺er ynni gl芒n
- Y tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr o grwpiau busnes, addysg a diwydiant Cymru yn llunio polisi trawslywodraethol y DU聽聽
- Bydd y corff yn helpu i hybu ffyniant ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl
Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyhoeddi y bydd gr诺p ymgynghori economaidd newydd yn cael ei greu i聽sbarduno twf, siapio strategaeth ddiwydiannol y DU, a gwneud Prydain yn archb诺er ynni gl芒n.聽
Am y tro cyntaf o dan y llywodraeth newydd, bydd arweinwyr o Lywodraeth Cymru, busnesau, diwydiannau, prifysgolion ac undebau yn dod ynghyd i helpu i lywio ymdrechion Llywodraeth y DU i hybu twf, a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.
Wrth gyhoeddi Gr诺p Ymgynghori Twf Economaidd Cymru yng nghinio blynyddol CBI Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y byddai鈥檔 鈥渕anteisio ar dalent, uchelgais a chreadigrwydd gorau Cymru鈥, gan alluogi ystod lawn o ddiwydiannau yng Nghymru i gyfrannu at genadaethau Llywodraeth y DU o ran twf economaidd ac ynni gl芒n.
Bydd y gr诺p hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i lywio Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i ddiwydiannau allweddol Cymru, ac i lywio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad o Wariant nesaf. Mae disgwyl y ddau beth hyn yn ystod gwanwyn 2025.
Wedi鈥檌 gadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd y gr诺p newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yng Nghaerdydd wythnos nesaf (2 Rhagfyr).聽
Cyn cyfarfod cyntaf y gr诺p, ymwelodd Ms Stevens 芒 Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd heddiw (28 Tachwedd) gan gyfarfod 芒 sefydliadau blaenllaw o鈥檙 diwydiannau creadigol, un o sectorau twf Cymru, gan gynnwys Bad Wolf, Cloth Cat Animation, Ffilm Cymru a Cymru Greadigol.
Twf economaidd yw prif flaenoriaeth Llywodraeth y DU. Ers mis Gorffennaf, mae dros 拢1bn a channoedd o swyddi wedi cael eu creu ar gyfer gogledd Cymru, mae Parthau Buddsoddi a Bargeinion Twf Cymru wedi cael eu cadarnhau, mae bargen ddur well wedi cael ei chyhoeddi, sy鈥檔 sicrhau dyfodol y diwydiant yng Nghymru, ac mae鈥檙 setliad Cyllideb uchaf erioed wedi cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i鈥檞 wario ar wasanaethau cyhoeddus.聽
Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd fy Ngr诺p Ymgynghori Economaidd newydd yn manteisio ar dalent, uchelgais a chreadigrwydd Cymru i gyflwyno cyfnod newydd o ffyniant a thwf i鈥檔 cenedl.
Rydym yn creu partneriaeth newydd gyda busnesau, gweithwyr ac undebau i sbarduno twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Mae hyn yn golygu swyddi i chi, buddsoddiad yn eich milltir sgw芒r, a chyfleoedd i鈥檆h plant.聽
Drwy weithio ochr yn ochr 芒 Llywodraeth Cymru a鈥檔 harweinwyr diwydiant, byddwn yn ail-fwrw gwreiddiau diwydiannol balch Cymru drwy swyddi a diwydiannau鈥檙 dyfodol.鈥澛
Bydd y Gr诺p Ymgynghori Twf Economaidd yn dechrau gyda chyfres o gyfarfodydd dros y chwe mis nesaf, wrth i Lywodraeth y DU ddatblygu ei blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd ac ynni gl芒n.
Dywedodd Alison Orrells, Cadeirydd, CBI Cymru:
Rwy鈥檔 croesawu鈥檙 cyfle i rannu mewnwelediad ein haelodau ar y camau gweithredu sydd eu hangen i ddatgloi a sbarduno twf economaidd cynaliadwy ac adeiladu ffyniant mewn cymunedau ledled Cymru.
O fuddsoddiadau rhanbarthol a phrosiectau twf gwyrdd, megis y porthladdoedd rhydd, i glystyrau lled-ddargludyddion, gweithgynhyrchu a thechnoleg, cyflogwyr yn y sector gwasanaethau i weithlu medrus, mae busnesau Cymreig o bob maint a sector yn cael eu cynrychioli gan y CBI a gallant chwarae rhan hanfodol mewn galluogi鈥檙 llywodraeth i gyflawni ei chenhadaeth twf.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
Rydym yn croesawu鈥檙 cyfle i gymryd rhan yn y gr诺p ymgynghori hwn i lunio鈥檙 weledigaeth ar gyfer twf economaidd, strategaeth ddiwydiannol ac ynni gl芒n. Mae llawer o rannau Cymru wedi鈥檜 creithio gan ddad-ddiwydiannu a thanfuddsoddi, ac mae鈥檔 rhaid mynd i鈥檙 afael 芒 hyn.聽
Bydd y cynlluniau hyn yn siapio dyfodol gweithwyr ledled Cymru, a byddwn yn hyrwyddo buddsoddiad mewn gweithgynhyrchu, gwaith o safon a thrawsnewid i net sero nad yw鈥檔 gadael unrhyw gymuned ar ei h么l hi.
Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Pennaeth Materion Cyhoeddus Airbus Group UK:
Rwy鈥檔 falch iawn o ymuno 芒 Gr诺p Ymgynghori Twf Economaidd Cymru ar adeg pan fo datgloi potensial y Cenhedloedd a鈥檙 Rhanbarthau wrth wraidd cenhadaeth y llywodraeth i sicrhau鈥檙 twf parhaus uchaf yn y G7.
Edrychaf ymlaen at ddarparu eiriolaeth gref ar yr ysgogiadau ar gyfer twf economaidd a sut y gall Cymru fanteisio ar ei chryfderau sectoraidd wrth fanteisio ar ddiwydiannau鈥檙 dyfodol.
Dywedodd Dr Jenifer Baxter, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Cymru:
Mae Diwydiant Cymru鈥檔 edrych ymlaen at gydweithio ar lunio strategaeth ddiwydiannol sy鈥檔 manteisio ar gryfderau Cymru mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, ynni gl芒n, technolegau meddygol a systemau trafnidiaeth i sbarduno arloesedd, cysylltedd digidol a thwf economaidd ledled Cymru a鈥檙 Deyrnas Unedig.
Dywedodd Syr Derek Jones, Cynghorydd Annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Keolis UK:
Mae consensws clir erbyn hyn bod rhaid i dwf economaidd fod yn brif flaenoriaeth i鈥檙 Deyrnas Unedig, ac mae hynny鈥檔 sicr yn wir i Gymru. Felly, rwy鈥檔 croesawu menter yr Ysgrifennydd Gwladol yn sefydlu鈥檙 Gr诺p ac yn edrych ymlaen at gyfrannu鈥檔 bersonol at y gwaith hollbwysig hwn.
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Mae aelodaeth gychwynnol Gr诺p Ymgynghori Twf Economaidd Cymru yn cynnwys:
- Alison Orrells, Cadeirydd, CBI Cymru
- Dr Jenifer Baxter, Diwydiant Cymru聽
- Ben Francis, Cadeirydd Polisi Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach聽
- Shavanah (Shav) Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru聽
- John-Paul (JP) Barker, Arweinydd y Gorllewin a Chymru, PwC聽
- Jessica Hooper, Cyfarwyddwr, RenewableUK Cymru聽
- Kevin Crofton, Cadeirydd, Creo Medical聽
- Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Airbus聽
- Yr Athro Paul Boyle, Prifysgolion Cymru
- Sarah Williams-Gardner, Cadeirydd FinTech Wales
- Syr Derek Jones, cynghorydd annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth y Brenin yng Nghymru, Keolis UK ac IQE.