Gwahodd myfyrwyr o Gymru i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr wrth i geisiadau agor ar gyfer 2020 i 2021
Mae myfyrwyr israddedig amser llawn yng Nghymru yn cael eu hannog i ymgeisio nawr am gyllid i fyfyrwyr, wrth i鈥檙 gwasanaeth ymgeisio lansio ar gyfer blwyddyn academaidd 2020 i 2021.

Y ffordd hawsaf yw ymgeisio ar-lein ar a dylai myfyrwyr wneud hyn cyn gynted 芒 phosibl i sicrhau bod eu cyllid yn ei le cyn dechrau鈥檙 tymor.
Gall Myfyrwyr yng Nghymru ymgeisio am Fenthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu a Benthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw. Gallant hefyd ymgeisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru nad oes angen ei dalu鈥檔 么l. Dysgwch fwy am beth sydd ar gael ar .
Y llynedd derbyniwyd dros 46,000 o geisiadau o fewn y pedwar mis cyntaf o agor y gwasanaeth, gydag 14,000 yn cael eu cyflwyno o fewn y mis cyntaf.
Meddai Derek Ross, Cyfarwyddwyr Gweithredol Gweithrediadau SLC: 鈥淟ansio鈥檙 gwasanaeth ymgeisio yw un o鈥檙 dyddiadau mwyaf yn y calendr cyllid myfyrwyr. Mae鈥檔 golygu y gall myfyrwyr fynd ati i gwblhau鈥檙 dasg bwysig i gael trefn ar eu cyllid i fyfyrwyr.
鈥淢ae鈥檙 cais yn cymryd 30 munud i鈥檙 gwblhau ar-lein ac i鈥檙 rhan fwyaf o fyfyrwyr bydd y broses yn syml iawn. Fodd bynnag, fe wyddom fod rhai unigolion angen cefnogaeth ychwanegol ac mae ein t卯m o staff arbenigol yn barod i鈥檞 helpu.鈥
Mae SLC wedi cysodi鈥檙 鈥榓wgrymau da鈥 canlynol i helpu myfyrwyr mewn gwahanol amgylchiadau i gael trefn ar eu cyllid i fyfyrwyr mewn da bryd ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Dylai pob myfyriwr:
Ymgeisio鈥檔 gynnar
- Ymgeisiwch mor fuan 芒 phosibl i sicrhau bod eich cyllid yn ei le cyn i鈥檆h cwrs gychwyn. Y dyddiad cau i ymgeisio yw 15 Mai 2020 ar gyfer myfyrwyr newydd a 12 Mehefin 2020 ar gyfer myfyrwyr sy鈥檔 dychwelyd. Os nad oes gennych chi le wedi ei gadarnhau ar gwrs, byddwch yn dal i allu ymgeisio nawr, dim ond i chi roi manylion eich dewis cyntaf i ni a gallwch ddiweddaru鈥檙 cais yn hwyrach os oes angen.
- Cadw manylion cyswllt yn gyfredol Gwnewch yn si诺r eich bod wedi darparu cyfeiriad e-bost cyfredol i ni er mwyn i ni allu cysylltu 芒 chi am eich cais os oes angen.
- Cadwch eich dogfennau pwysig wrth law Cadwch eich rhif Yswiriant Gwladol a manylion pasbort wrth law cyn i chi gychwyn eich cais gan y gofynnir i chi ddarparu鈥檙 wybodaeth yma pan fyddwch chi鈥檔 ymgeisio.
Os ydych chi wedi astudio o鈥檙 blaen
- Os ydych chi wedi astudio o鈥檙 blaen, gallai effeithio ar eich cymhwyster 鈥 hyd yn oed os oedd eich cwrs blaenorol wedi ei hunangyllido. Gwnewch yn si诺r eich bod yn cyflwyno鈥檆h cais yn fuan er mwyn cadarnhau eich hawl. .
Os ydych chi angen cyllid atodol
- Efallai y bydd yna amgylchiadau sy鈥檔 eich gwneud yn gymwys am fwy o gyllid, er enghraifft os ydych chi鈥檔 anabl, os oes gennych chi blant, neu oedolyn sy鈥檔 ddibynnol arnoch. .
Os nad ydych yn dod o鈥檙 DU
-
Cymrwch olwg ar wefan am .
-
Efallai y gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o鈥檆h hunaniaeth a hanes preswylio. Mae鈥檔 bwysig eich bod yn anfon hyn cyn gynted 芒 phosibl er mwyn i ni allu prosesu eich cais a chadarnhau bod gennych chi hawl i gyllid.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan a gwylio鈥檙 fideo . Gallwch hefyd ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar a Twitter i gael yr holl hysbysiadau newyddion a gwybodaeth ddiweddaraf.