Stori newyddion

Tystio gweithredoedd

Egluro ein hymarfer o ran y broses ardystio lle y ceir llofnodion lluosog.

Diweddarwyd adran 2.1.2 o Cyflawni gweithredoedd (CY8) yn ddiweddar er mwyn atgoffa cwsmeriaid, lle bo dau neu ragor o bobl yn cyflawni gweithred fel parti, y gall yr un tyst dystio pob llofnod unigol, ond rhaid ardystio pob llofnod ar wah芒n.

Mae hyn yn wir oni bai ei fod yn gwbl glir trwy eiriad penodol ar wyneb yr ardystiad bod y tyst yn tystio鈥檙 ddau lofnod neu bob llofnod ym mhresenoldeb y llofnodwyr a enwir.

Nid newid i鈥檔 hymarfer yw hwn ond eglurhad a chymhwysiad o鈥檙 gyfraith berthnasol. Rhaid iddi fod yn glir i鈥檙 holl lofnodion gael eu hardystio ar yr un pryd, ac i鈥檙 holl lofnodwyr feddu ar y bwriad angenrheidiol i gyflawni鈥檙 offeryn fel eu gweithred, er mwyn bodloni gofynion adrannau 1(2) ac 1(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1989 a rheol 206 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Byddwn yn anfon ymholiad pan mai un ardystiad yn unig sydd gan weithred ac nad yw鈥檔 glir mai ar gyfer yr holl lofnodion y mae. Bydd hyn yn golygu y bydd angen i鈥檙 weithred gael ei newid i ddangos ardystiad ar wah芒n neu i鈥檙 ardystiad nodi鈥檔 glir bod un tyst yn ardystio鈥檙 holl lofnodion ym mhresenoldeb y llofnodwyr a enwir.

Gweithredoedd a gwblheir cyn 18 Ionawr

Fel y nodwyd eisoes, nid newid ymarfer yw hyn. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd yn ymddangos felly o bosibl, ac rydym yn ymwybodol y gall edrych yn anghyson 芒鈥檙 hyn rydym wedi ei dderbyn yn flaenorol. Rydym yn ymwybodol hefyd y bydd hyn, efallai, yn effeithio ar rai ceisiadau cofrestru sydd eisoes yn cael eu paratoi.

Felly, am y rhesymau hynny, ni fyddwn yn anfon ymholiad ar y pwynt hwn ar gyfer gweithredoedd a gwblheir cyn dydd Llun 18 Ionawr 2016. Fodd bynnag, lle y bydd cwblhau yn digwydd ar neu ar 么l y dyddiad hwn, caiff ymholiad ei anfon lle y mae鈥檔 ymddangos bod yr ardystiad yn anghywir.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Rhagfyr 2015