Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau a Thwyll DWP

Neil Couling CB CBE

Bywgraffiad

Penodwyd Neil yn Gyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau a Thwyll DWP ym mis Mawrth 2025.

Dechreuodd gyrfa Neil mewn swyddfa budd-daliadau leol yn gweinyddu hawliadau am Gymhorthdal ​​Incwm. Mae ei rolau dilynol wedi cynnwys:

  • gweithio ym maes polisi
  • Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol
  • sawl rôl weithredol o fewn y Ganolfan Byd Gwaith a’i rhagflaenwyr
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol y Rhaglen Credyd Cynhwysol ers mis Hydref 2014
  • Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Credyd Cynhwysol

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Gwasanaethau a Thwyll DWP

Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau a Thwyll DWP yn:

  • arwain y Rhaglen Twyll, Gwallau a Dyled (FED) ochr yn ochr â chyflawniad a pholisi gweithredol y FED
  • arwain y ddarpariaeth o Wasanaethau Anabledd
  • gyfrifol am y Rhaglen Trawsnewid Iechyd a fydd yn trawsnewid y ddarpariaeth weithredol gan DWP ar gyfer pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd
  • arwain y ddarpariaeth o wasanaethau ar draws cylch bywyd aelwydydd y DU, gan gynnwys cynhaliaeth plant a gwasanaethau ymddeol

Adran Gwaith a Phensiynau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid a Gwydnwch ac Uwch-berchennog Cyfrifol Credyd Cynhwysol
  • Cyfarwyddwr Cyffredinol, Rhaglen Credyd Cynhwysol