Stephen Tetlow MBE CEng FIET FIMechE

Bywgraffiad
Penodwyd Stephen Tetlow MBE yn Gyfarwyddwr Anweithredol y DVLA ym mis Chwefror 2024.
Addysg
Mae Stephen yn Gymrawd o’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ac yn beiriannydd siartredig. Mae ganddo BSc mewn Peirianneg o Brifysgol Dinas Llundain, MSc mewn Dylunio Systemau Gwybodaeth o Brifysgol Cranfield ac mae ganddo MBA o’r Brifysgol Agored.
Gyrfa
Dechreuodd Stephen ei yrfa fel prentis gyda Smiths Industries Ltd ac aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr Peirianneg Drydanol a Mecanyddol i’r Fyddin Brydeinig ac yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau ar gyfer y Defence Logistics Organisation yn y Weinyddiaeth Amddiffyn. Ar ôl gadael yr Amddiffyniad, fe’i penodwyd yn Brif Weithredwr yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu’n arwain y broses o gyfrifiaduro’r system MoT genedlaethol sydd wedi ennill sawl gwobr, gan weithio’n agos gyda DVLA i alluogi trwyddedu cerbydau ar-lein.
Yna fe’i penodwyd yn Brif Swyddog Gweithredol Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol a’i grŵp o gwmnïau, a arweiniodd am 10 mlynedd. Mae ganddo fwy na 15 mlynedd o brofiad fel cyfarwyddwr anweithredol, gan gynnwys EngineeringUK a’r Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Rheilffyrdd. Yn ddiweddar roedd yn aelod anweithredol o fwrdd yr Arolygiaeth Gynllunio ac mae hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr Cyf.
Cyfarwyddwr Anweithredol
Yn gyfrifol am ddarparu syniadau a chyngor, o’i brofiad o’r byd busnes ehangach ac o’i safbwynt fel dinesydd preifat.
Rolau blaenorol yn y llywodraeth
-
Non-executive Director, Planning Inspectorate
-
Non-Executive Director