Response from Minister Gould to Sir Robert Chote - Census 2031 (Welsh HTML)
Published 15 July 2025
Syr Robert Chote
Cadeirydd, Awdurdod Ystadegau鈥檙 DU
15 Gorffennaf 2025
Annwyl Syr Robert,
Diolch am argymhelliad Awdurdod Ystadegau鈥檙 DU ynghylch dyfodol y cyfrifiad. Ysgrifennaf i gadarnhau bod Llywodraeth y DU yn comisiynu鈥檙 Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal cyfrifiad gorfodol sy鈥檔 seiliedig ar holiadur o holl boblogaeth Cymru a Lloegr yn 2031.
Mae ystadegau poblogaeth a mudo o ansawdd uchel yn sail i鈥檙 gwaith y mae llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau, dyrannu adnoddau a datblygu polisi. Wrth gynnal cyfrifiad 2031 o鈥檙 boblogaeth gyfan cewch ymgorffori鈥檙 defnydd arloesol o ddata gweinyddol lle y bo鈥檔 bosibl ac yn briodol, ond uwchlaw popeth mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cyfrifiad ddiwallu anghenion yr amrywiaeth eang o ddefnyddwyr ystadegol a darparu data cywir er mwyn cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau seiliedig ar wybodaeth ym mhob rhan o鈥檙 llywodraeth, ym myd busnes ac mewn cymdeithas sifil.
Hoffwn hefyd bwysleisio pwysigrwydd cydweithio鈥檔 agos 芒鈥檙 gweinyddiaethau datganoledig
yn yr Alban a Gogledd Iwerddon wrth iddynt gynnal eu cyfrifiadau eu hunain yn 2031, ac 芒
Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod ein cyfrifiad yn adlewyrchu ei hanghenion
cenedlaethol penodol. Mae atgyfnerthu cydlyniant mewn ystadegau poblogaeth ledled y DU yn hanfodol i wneud cymariaethau cywir a chefnogi amcanion polisi a rennir. Drwy
gydweithio, gallwn ddatblygu dull gweithredu wedi鈥檌 gysoni sy鈥檔 diwallu anghenion unigryw pob gwlad, gan ddarparu fframwaith cadarn ar gyfer data cyfrifiad cenedlaethol ar yr un pryd.
Dangosodd llwyddiant Cyfrifiad 2021 botensial dull casglu data ar-lein yn bennaf a sicrhaodd gyfradd ymateb ryfeddol. Gosododd hyn sylfaen gadarn i Gyfrifiad 2031 fynd ymhellach fyth, er bod yn rhaid i SYG wneud ymdrech i sicrhau cynwysoldeb a chofnodi nodweddion unigolyn a chymunedau sy鈥檔 fwy anodd eu cyrraedd y gall fod ganddynt fynediad cyfyngedig i鈥檙 rhyngrwyd.
Mae rhaglen Dyfodol Ystadegau Poblogaeth a Mudo (FPMS) wedi cael cryn gymorth gan
Lywodraeth EF dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Adolygiad o Wariant 2025
bellach wedi dod i ben a chytunwyd ar setliad er mwyn i SYG allu dechrau ar y gwaith
paratoi ar gyfer Cyfrifiad 2031. Rhaid i鈥檙 rhaglen hon, a SYG yn ehangach, barhau i sicrhau y caiff arian trethdalwyr ei wario yn ddoeth ac yn effeithlon.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i d卯m rhaglen FPMS am y gwaith sylweddol a wnaed hyd yma a鈥檌 ymrwymiad parhaus i sicrhau rhagoriaeth ym maes ystadegau.
Yn gywir,
Georgia Gould MP
Ysgrifennydd Seneddol Swyddfa鈥檙 Cabinet