Cyfarwyddyd ymarfer 83: newidiad
Cyhoeddwyd 10 Mawrth 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
1.1 Anniddymoldeb amodol teitl
Un o ddibenion y gofrestr tir yw darparu cofrestr derfynol, gywir a diffiniol o fuddion cyfreithiol sy鈥檔 effeithio ar dir yng Nghymru a Lloegr. Ategir y nod hwn gan adran 58(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, sy鈥檔 darparu:
鈥淚f, on the entry of a person in the register as the proprietor of a legal estate, the legal estate would not otherwise be vested in him, it shall be deemed to be vested in him as a result of the registration.鈥
Felly, bydd cofrestru teitl cyfreithiol i barti yn breinio鈥檙 teitl hwnnw yn y parti hwnnw, ni waeth a oedd gan y parti hwnnw hawl i gael y teitl hwnnw wedi ei freinio ynddo ai peidio.
Mae terfynoldeb y gofrestr yn amodol ar y potensial i newid gael ei wneud o dan adran 65 o ac Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Lle gwneir newid i gywiro camgymeriad, sy鈥檔 effeithio鈥檔 niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig, gall indemniad statudol fod yn daladwy o dan Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
1.2 Newidiad yn gyffredinol
Mae Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu y gall y cofrestrydd newid, neu gall y llys wneud gorchymyn i newid, y gofrestr ar gyfer rhai dibenion cyfyngedig.
Mae paragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu y gall y llys wneud gorchymyn i newid y gofrestr at ddiben naill ai:
- unioni camgymeriad
- diweddaru鈥檙 gofrestr
- gweithredu unrhyw ystad, hawl neu fudd sydd wedi ei eithrio rhag effaith cofrestriad
Os nad yw newidiad bwriadedig yn dod o dan unrhyw un o鈥檙 dibenion hyn, nid oes p诺er i鈥檙 llys newid y gofrestr.
Mae paragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu y gall y cofrestrydd newid y gofrestr at ddiben naill ai:
- unioni camgymeriad
- diweddaru鈥檙 gofrestr
- gweithredu unrhyw ystad, hawl neu fudd a eithrir rhag effaith cofrestriad
- tynnu ymaith cofnod diangen
Os nad yw newidiad bwriadedig yn dod o dan unrhyw un o鈥檙 dibenion hyn nid oes p诺er i鈥檙 cofrestrydd newid y gofrestr.
1.2.1 Newidiad yn unol 芒 gorchymyn llys sy鈥檔 cynnwys gorchymyn i newid
Mae dyletswydd ar y cofrestrydd i weithredu gorchymyn llys i newid y gofrestr pan gaiff ei gyflwyno iddo (paragraff 2(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Rhaid cyflwyno gorchymyn i newid y gofrestr trwy gais i weithredu鈥檙 gorchymyn (rheol 127(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Rhaid i鈥檙 gorchymyn llys fodloni鈥檙 gofynion a nodir yn rheol 127(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003, felly mae鈥檔 rhaid iddo 鈥溾 state the title number of the title affected and the alteration that is to be made, and must direct the registrar to make the alteration.鈥 Rhaid i鈥檙 newidiad a wneir i鈥檙 gofrestr adlewyrchu bwriad y gorchymyn llys, a all arwain at newidiadau diwygiedig neu ychwanegol i鈥檙 rhai a nodir yn y gorchymyn ei hun.
1.2.2 Newidiad yn unol 芒 gorchymyn llys sydd heb gynnwys gorchymyn i newid
Nid oes dyletswydd ar y cofrestrydd i weithredu gorchymyn llys oni bai bod y gorchymyn i newid y gofrestr. Gellir gwneud cais am newidiad o ganlyniad i orchymyn llys nad yw鈥檔 orchymyn i newid y gofrestr oherwydd nid yw鈥檔 cydymffurfio 芒 rheol 127(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003. O dan yr amgylchiadau hynny, ni fydd yn gais a wneir o dan orchymyn llys y mae鈥檔 ofynnol i鈥檙 cofrestrydd ei weithredu o dan baragraff 2(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2003. O ganlyniad, bydd paragraffau 5 a 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (ac nid paragraffau 2 a 3 o Atodlen 4) yn gymwys i gais i newid o鈥檙 fath.
Lle nad yw gorchymyn llys yn bodloni鈥檙 gofynion i fod yn orchymyn i newid y gofrestr, nid yw hyn yn atal y gorchymyn rhag cael ei gyflwyno fel tystiolaeth i gyfiawnhau cais am newidiad at ddibenion rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
1.2.3 Newidiad heb fod yn unol 芒 gorchymyn llys
Mae rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn datgan bod yn rhaid i gais i newid y gofrestr (heblaw o dan orchymyn llys) gael ei ategu gan dystiolaeth i gyfiawnhau鈥檙 newidiad. Bydd natur y dystiolaeth hon yn dibynnu ar y ffeithiau ym mhob achos ond rhaid iddi ddangos, yn 么l pwysau tebygolrwydd, bod y newidiad a geisir wedi ei gyfiawnhau.
1.2.4 Newidiad gan y cofrestrydd heb gais
Yn ystod ei ddyletswyddau gall gweithiwr cais Cofrestrfa Tir EF ddarganfod bod teitl cofrestredig yn cynnwys cofnod sydd wedi dyddio neu sy鈥檔 ddiangen neu wall. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y gweithiwr cais yn ymchwilio i鈥檙 mater ac, os penderfynwn fod y newidiad yn angenrheidiol, byddwn yn cymryd camau i newid y gofrestr o dan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
1.2.5 Rhybuddion
Lle byddai ystad, arwystl neu fudd yn cael ei effeithio gan newidiad bwriadedig, heblaw am newidiad yn unol 芒 gorchymyn llys, mae rheol 128 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 cofrestrydd roi rhybudd o newidiad bwriadedig i:
- berchennog cofrestredig unrhyw ystad gofrestredig yr effeithir arni
- perchennog cofrestredig unrhyw arwystl cofrestredig yr effeithir arno, ac
- unrhyw berson sydd 芒 hawl i unrhyw fudd yr effeithir arno a warchodir gan rybudd os yw enw a chyfeiriad ar gyfer gohebu y person hwnnw wedi eu nodi yn y gofrestr lle cofnodir y rhybudd
oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon nad yw rhybudd o鈥檙 fath yn angenrheidiol. Gall y cofrestrydd hefyd 鈥溾ake such enquiries as he thinks fit.鈥 (rheol 128(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
Nid oes modd darparu rhestr gyflawn o鈥檙 sefyllfaoedd lle na ellir cyflwyno rhybudd o newidiad o dan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
2. Y dibenion ar gyfer newidiad o dan Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
2.1 Newidiadau i unioni camgymeriad
Diffinnir 鈥榗amgymeriad鈥 yng nghyd-destun cofrestru tir ym mharagraff 11(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002:
鈥淔or the purposes of this Schedule, references to a mistake in something include anything mistakenly omitted from it as well as anything mistakenly included in it.鈥
Yn absenoldeb diffiniad mwy sylweddol o gamgymeriad mewn man arall yn y Ddeddf Cofrestru Tir a鈥檙 Rheolau Cofrestru Tir, mae Cofrestrfa Tir EF yn ystyried bod y diffiniad hwn yr un mor gymwys i unioni camgymeriad o dan Atodlen 4. Gan fod y diffiniad yn cyfeirio at gamgymeriadau trwy gynnwys neu hepgor, gall camgymeriad yn y gofrestr godi o dan yr amgylchiadau canlynol (wedi eu nodi yn Ruoff & Roper: Registered Conveyancing ym mharagraff 46.009).
- Lle mae鈥檙 cofrestrydd yn gwneud cofnod yn y gofrestr na fyddai wedi ei wneud (er enghraifft 鈥 cofrestru trosglwyddai yn berchennog teitl cofrestredig lle nad yw鈥檙 trosglwyddiad wedi ei gyflawni鈥檔 briodol gan y trosglwyddwr).
- Lle mae鈥檙 cofrestrydd yn gwneud cofnod yn y gofrestr na fyddai wedi ei wneud yn y ffurf y cafodd ei gwneud (er enghraifft 鈥 cofrestru rhybudd unochrog mewn perthynas ag achos tir bwriadedig, pan ddaw i鈥檙 amlwg wedi hynny bod yr achos yn ymwneud yn unig 芒 chanran y cyfrannau priodol yn yr ystad ecwit茂ol a berchnogir gan ddau neu ragor o denantiaid cydradd. Ni ellir cofnodi rhybuddion yn y gofrestr mewn perthynas 芒 buddion tir o dan ymddiried tir (adran 33(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac felly byddai鈥檙 cofnod cywir yn gyfyngiad priodol).
- Lle mae鈥檙 cofrestrydd yn methu 芒 gwneud cofnod yn y gofrestr y byddai wedi ei wneud fel arall (er enghraifft 鈥 dim cofnod yn cael ei wneud ar gofrestriad cyntaf mewn perthynas 芒 chyfamod cyfyngu heb fod yn ddi-rym sydd wedi ei gynnwys mewn trawsgludiad).
- Lle mae鈥檙 cofrestrydd yn dileu cofnod na fyddai wedi ei ddileu pe byddai wedi gwybod y sefyllfa go iawn adeg y dileu (er enghraifft 鈥 dileu cofnod mewn perthynas ag arwystl cofrestredig lle nad oedd y rhyddhad a gyflwynwyd wedi ei awdurdodi gan yr arwystlai).
Nid yw creu camgymeriad yn y gofrestr yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 cofrestrydd fod wedi gwneud gwall yn y broses gofrestru. Er enghraifft, gallai parsel o dir digofrestredig fod wedi cael ei drawsgludo ddwywaith yn ddamweiniol gan y perchennog o fewn cyfnod byr. Gall parti sy鈥檔 hawlio teitl dogfennol o dan y trawsgludiad diweddarach gyflwyno cais am gofrestriad cyntaf. Mae鈥檙 cofrestrydd, heb fod yn ymwybodol o鈥檙 trawsgludiad cynharach, yn cofrestru鈥檙 ceisydd yn berchennog y tir. Heb unrhyw fai ar y cofrestrydd, mae鈥檔 bosibl bod hyn wedi creu camgymeriad yn y gofrestr oherwydd nid oedd gan y perchennog digofrestredig deitl cyfreithiol i鈥檙 tir mwyach pan ymrwymodd i鈥檙 trawsgludiad diweddarach. Byddai鈥檙 cofrestrydd yn dod yn ymwybodol o鈥檙 camgymeriad dim ond pan fydd parti yn cyflwyno cais dilynol am gofrestriad cyntaf yn hawlio teitl dogfennol o dan y trawsgludiad cynharach.
Bydd bodolaeth, neu ddiffyg bodolaeth, camgymeriad yn y gofrestr yn dibynnu ar ffeithiau鈥檙 achos unigol. Cymerwch yr enghraifft uchod: ar yr olwg gyntaf, roedd cofrestru yn berchennog cofrestredig deiliad y teitl dogfennol yn deillio o鈥檙 trawsgludiad digofrestredig diweddarach wedi creu camgymeriad yn y gofrestr. Fodd bynnag, os gall y perchennog cofrestredig hwn ddangos ei fod ef, ac unrhyw ragflaenwyr mewn teitl, wedi bod mewn meddiant gwrthgefn o鈥檙 tir am dros 12 mlynedd cyn y cofrestriad cyntaf, yna byddai鈥檙 teitl dogfennol digofrestredig cynharach wedi ei ddirymu (gweler adran 1 cyfarwyddyd ymarfer 4: meddiant gwrthgefn tir cofrestredig ). Felly, ni fyddai cofrestru鈥檙 sgwatiwr yn berchennog cofrestredig y tir yn creu camgymeriad yn y gofrestr gan ei fod wedi diddymu鈥檙 teitl dogfennol i鈥檙 tir adeg y cofrestriad cyntaf.
2.1.1 Gwarediadau 鈥榙i-rym鈥 a 鈥榙irymadwy鈥
Er nad yw wedi ei grybwyll yn y diffiniad o gamgymeriad a nodir yn Neddf Cofrestru Tir 2002, mae cyfraith achosion wedi cadarnhau bod 鈥榗amgymeriad鈥 yn cyfeirio at gamgymeriad yn y gofrestr ei hun yn unig yn hytrach na chamgymeriad mewn cais a gyflwynwyd i gofrestru. Dangosir hyn gan y gwahaniaeth rhwng gwarediadau sy鈥檔 鈥榙di-rym鈥 neu ddim ond yn 鈥榙dirymadwy鈥 fel y cyfeirir ato ym nyfarniad y Llys Ap锚l yn achos NRAM Ltd v Evans & Ors [2017] EWCA Civ 1013.
Mae gwarediad di-rym yn un nad yw鈥檔 ddilys pan gaiff ei greu, ac felly nid yw鈥檔 effeithio ar yr ystad gyfreithiol berthnasol. Mae gwarediad dirymadwy yn ddilys pan gaiff ei greu ond mae鈥檔 agored i ddirymiad dilynol gan y llysoedd oherwydd yr amgylchiadau pan gafodd ei greu.
Yn NRAM, Kitchen LJ, ym mharagraff 53, dyfynnwyd y canlynol gyda chymeradwyaeth gan Ruoff & Roper: Registered Conveyancing ym mharagraff 46.009:
鈥溾 So the entry of an estate or interest purportedly arising under a void disposition is a mistake. The entry made in the register does not reflect the true effect of the purported disposition when the entry was made. However, the entry of a person as having acquired an estate or interest under what proves to be a voidable disposition is not a mistake. Unless it had been rescinded at the date of registration, the disposition would be valid and it would not be a mistake to enter the disponee as the proprietor of the estate or interest under it鈥.鈥
Roedd achos NRAM yn ymwneud 芒 chais ar ffurf e-DS1 a gyflwynwyd ar gam gan y banc, yn rhyddhau arwystl cofrestredig nad oedd y banc yn bwriadu ei ryddhau. Yn y pen draw arweiniodd cais am newidiad gan y banc at yr Uchel Lys yn diddymu鈥檙 e-DS1. Un o鈥檙 cwestiynau gerbron y Llys Ap锚l oedd a oedd y newidiad dilynol (i weithredu gorchymyn yr Uchel Lys ac ailgofrestru arwystl cyfreithiol y banc) ar gyfer unioni camgymeriad yn y gofrestr neu ddiweddaru鈥檙 gofrestr. Byddai hyn yn dibynnu ar benderfynu a oedd yr e-DS1 yn cael ei ystyried yn ddi-rym neu鈥檔 ddirymadwy.
Yn y pen draw, penderfynwyd nad oedd dileu arwystl cyfreithiol NRAM ar 么l cyflwyno ei gais e-DS1 yn creu camgymeriad yn y gofrestr. Dywedodd Kitchen LJ wrth roi dyfarniad ar y pwynt hwn ym mharagraff 59:
鈥淚n my judgment, the registration of a voidable disposition such as that with which we are concerned before it is rescinded is not a mistake for the purposes of Schedule 4 to the Land Registration Act 2002. Such a voidable disposition is valid until it is rescinded and the entry in the register of such a disposition before it is rescinded cannot properly be characterised as a mistake. It may be the case that the disposition was made by mistake but that does not render its entry on the register a mistake, and it is entries on the register with which Schedule 4 is concerned. Nor, so it seems to me, can such an entry become a mistake if the disposition is at some later date avoided. Were it otherwise, the policy of the Land Registration Act 2002 that the register should be a complete and accurate statement of the position at any given time would be undermined.鈥
Gorchmynnwyd y cofrestrydd i adfer arwystl cyfreithiol NRAM i鈥檙 gofrestr at y diben o ddiweddaru鈥檙 gofrestr o dan baragraff 2(1)(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
2.1.2 Camgymeriad a gwarediadau dilynol
Mae cyfraith achosion hefyd wedi cadarnhau y gall y p诺er i newid y gofrestr i unioni camgymeriad, boed gan y llysoedd neu鈥檙 cofrestrydd, ymestyn i newidiadau dilynol i鈥檙 gofrestr sy鈥檔 deillio o鈥檙 camgymeriad cychwynnol. Mae hyn yn gymwys hyd yn oed pan nad yw鈥檙 newidiadau dilynol eu hunain yn gamgymeriadau yn y gofrestr.
Cymerwch yr enghraifft ganlynol:
鈥淢ae A yn berchennog cofrestredig eiddo. Nid yw llofnod A yn cael ei dystio ar ffurflen TR1, sy鈥檔 trosglwyddo鈥檙 eiddo i B. Yna mae B yn trosglwyddo鈥檙 eiddo yn ddilys i C, sy鈥檔 rhoi arwystl cyfreithiol cyntaf dilys i鈥檙 rhoddwr benthyg D.鈥
Gan gymryd bod yr holl warediadau wedi eu cofrestru, mae cofrestru鈥檙 trosglwyddiad o A i B yn creu camgymeriad yn y gofrestr oherwydd nid yw鈥檙 ffurflen TR1 wedi cael ei chyflawni鈥檔 briodol ac felly ni allai weithredu i drosglwyddo鈥檙 ystad gyfreithiol yn yr eiddo o A i B. Fodd bynnag, er gwaetha鈥檙 camgymeriad hwn, yn dilyn cofrestriad, mae鈥檙 eiddo yn breinio yn B trwy rinwedd adran 58(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Yn ogystal 芒 breinio鈥檙 eiddo ynddo, mae gan B bwerau gwaredu perchennog a nodir yn adrannau 23 a 24 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Yn wyneb yr uchod, nid yw trosglwyddiad dilynol yr eiddo o B i C, yn ogystal ag arwystlo dilynol yr eiddo o blaid D, ynddynt eu hunain yn creu camgymeriadau yn y gofrestr. Mae B ac C wedi arfer pwerau gwaredu perchennog ac mae鈥檙 gwarediadau wedi cael eu cofrestru鈥檔 gywir.
Cafodd y sefyllfa ynghylch newid y gofrestr mewn perthynas 芒 materion sy鈥檔 deillio o gamgymeriad ei hystyried gan y Llys Ap锚l yn Gold Harp Properties Ltd. v. McLeod [2014] EWCA Civ 1084. Roedd yr achos hwn yn ymwneud 芒 chau teitl prydlesol oedd yn bodoli a鈥檙 rhydd-ddeiliad yn rhoi prydles newydd dilynol i Gold Harp. Penderfynodd yr Uchel Lys yn ddiweddarach nad oedd yr ystad brydlesol oedd yn bodoli wedi ei therfynu ac felly bod cau鈥檙 teitl yn gamgymeriad.
Mewn achos gerbron yr Uchel Lys, penderfynwyd y gallai鈥檙 teitl prydlesol caeedig gael ei adfer i鈥檙 gofrestr er mwyn unioni鈥檙 camgymeriad. Penderfynwyd hefyd, er mwyn rhoi鈥檙 lesddeiliaid yn y sefyllfa y byddent wedi bod ynddi pe na bai鈥檙 camgymeriad wedi cael ei wneud, y byddai blaenoriaethau鈥檙 brydles a adferwyd a phrydles Gold Harp yn cael eu newid fel bod y brydles a adferwyd yn cael blaenoriaeth.
Apeliodd Gold Harp yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys, gan herio鈥檔 rhannol y penderfyniad i newid blaenoriaethau鈥檙 prydlesi. Wrth wrthod yr ap锚l, dywedodd Underhill LJ (ym mharagraff 95):
鈥淚t is worth recalling that Schedule 4 is concerned with 鈥渃orrecting鈥 mistakes in the Register, and it is established by the decisions to which I have referred that the power to do so extends to correcting the consequences of such mistakes.鈥
Yn amodol ar unrhyw derfynau ar bwerau鈥檙 cofrestrydd i newid (gweler, er enghraifft, Y perchennog cofrestredig mewn meddiant ynghylch y perchennog cofrestredig mewn meddiant), mae unrhyw fudd sy鈥檔 cael ei greu yn dilyn y camgymeriad yn agored i gael ei newid er mwyn unioni鈥檙 camgymeriad.
2.1.3 Buddion gor-redol
Fel rheol, ni fydd newidiad sy鈥檔 adlewyrchu budd gor-redol yn cael ei ystyried yn unioni camgymeriad. Mae hyn oherwydd bod y buddion hyn, a nodir yn Atodlenni 1 a 3 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn gyfrwymol ar berchennog cofrestredig er nad ydynt wedi eu crybwyll yn y gofrestr. Felly ni chaiff teitl ei effeithio鈥檔 andwyol os caiff manylion budd gor-redol eu hychwanegu at y gofrestr.
Ceir rhagor o wybodaeth am fuddion gor-redol yng nghyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a鈥檜 dadlennu.
2.1.4 Cywiro
Mae cywiro鈥檙 gofrestr yn fath penodol o newidiad wedi ei ddiffinio o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 fel newidiad sydd:
a. yn cynnwys unioni camgymeriad, a
b. yn effeithio鈥檔 niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig
O ran newid y gofrestr, dim ond mewn amgylchiadau lle mae鈥檙 newidiad yn gyfystyr 芒 chywiro y gall fod gan bersonau sy鈥檔 dioddef colled hawl i indemniad statudol o dan Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch cywiro鈥檙 gofrestr yn adran 4, isod, ac yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: indemniad.
2.2 Newidiadau i ddiweddaru鈥檙 gofrestr
Gall y gofrestr gael ei newid at y diben o ddiweddaru鈥檙 gofrestr hefyd. Gwneir hyn fel arfer i adlewyrchu newid yn y gwir sefyllfa o ran teitl cofrestredig. Enghraifft gyffredin yw lle mae perchennog cofrestredig wedi newid ei enw ac yn gwneud cais i ddiweddaru鈥檙 gofrestr er mwyn adlewyrchu鈥檙 newidiad hwn yn y gofrestr perchnogaeth.
Gan gymryd y penderfyniad yn NRAM v Evans, y cyfeiriwyd ato uchod, gorchmynnodd y Llys Ap锚l i鈥檙 gofrestr gael ei newid ar 么l i gais e-DS1 y banc gael ei ddiddymu. Roedd y cofnod mewn perthynas 芒鈥檙 arwystl cyfreithiol wedi cael ei dynnu ymaith yn gywir gan y cofrestrydd pan gyflwynwyd yr e-DS1, fodd bynnag roedd angen diweddaru鈥檙 gofrestr yn awr er mwyn adlewyrchu鈥檙 ffaith bod yr e-DS1 wedi cael ei ddiddymu a鈥檌 drin i bob pwrpas fel pe na bai erioed wedi cael ei gyflwyno i鈥檞 gofrestru.
Bydd newidiad i adlewyrchu yn y gofrestr hawl y mae鈥檙 teitl cofrestredig eisoes yn ddarostyngedig iddi fel budd gor-redol, megis hawddfraint a gaffaelwyd trwy bresgripsiwn, hefyd yn newidiad i ddiweddaru鈥檙 gofrestr.
Gellir newid teitl cofrestredig o ganlyniad i weithred gywiro, sy鈥檔 unioni gwall mewn gweithred gynharach. Er enghraifft, gall y part茂on i drosglwyddiad cynharach gytuno nad oedd eu trosglwyddiad yn cynnwys yr holl amodau bwriadedig (megis cyfamodau, hawddfreintiau ac ati). Effaith gweithred o鈥檙 fath yw bod yn rhaid darllen y weithred wedi ei chywiro (ei hunioni) fel pe bai wedi cael ei llunio鈥檔 wreiddiol yn ei ffurf wedi ei chywiro (ond dim ond o ddyddiad y weithred gywiro). Byddai newidiad o鈥檙 fath yn diweddaru鈥檙 gofrestr er mwyn adlewyrchu telerau鈥檙 weithred gywiro.
Fodd bynnag, lle mae鈥檙 part茂on i drosglwyddiad cynharach yn cytuno nad oedd eu cynllun trosglwyddo yn adlewyrchu鈥檙 stent roedd y part茂on yn bwriadu ei drosglwyddo, fel arfer bydd yn rhaid iddynt gyflawni trosglwyddiad pellach i unioni鈥檙 gwall hwn gan ddefnyddio ffurflen TR1 neu TP1 fel a bennir o dan reol 58 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Ceir rhagor o wybodaeth am y pwynt hwn yng nghyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy鈥檔 peri gwarediadau tir cofrestredig.
2.3 Newidiadau i weithredu unrhyw ystad, hawl neu fudd a eithrir rhag effaith cofrestriad
Mae newidiadau i鈥檙 gofrestr at y diben hwn i adlewyrchu unrhyw ystad, hawl neu fudd a eithrir o ganlyniad i gofrestriad y teitl gyda theitl meddiannol, amodol neu brydlesol da. Ni fyddai newidiad i adlewyrchu ystad, hawl neu fudd o鈥檙 fath yn unioni camgymeriad oherwydd bod dosbarth y teitl yn golygu bod y teitl cofrestredig bob amser wedi bod yn ddarostyngedig i ystad, hawl neu fudd o鈥檙 fath.
Enghraifft o hyn fyddai lle mae sgwatiwr wedi gwneud cais llwyddiannus am gofrestriad cyntaf tir ar y sail ei fod wedi caffael teitl trwy feddiant gwrthgefn o dan Ddeddf Cyfyngiadau 1980. Mae wedi ei gofrestru yn berchennog y tir gyda theitl rhydd-ddaliol meddiannol. Wedi hynny, mae deiliad teitl dogfennol y tir yn gwneud cais i newid y gofrestr er mwyn cau teitl meddiannol y sgwatiwr ar y sail nad oedd wedi caffael teitl o dan y Ddeddf Cyfyngiadau. Os bydd y deiliad teitl dogfennol yn llwyddiannus, bydd newidiad yn digwydd i weithredu ystad, hawl neu fudd a eithrir rhag effaith cofrestriad. Mae hyn oherwydd y diffiniad o deitl meddiannol o dan adran 11(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002:
鈥淩egistration with possessory title has the same effect as registration with absolute title, except that it does not affect the enforcement of any estate, right or interest adverse to, or in derogation of, the proprietor鈥檚 title subsisting at the time of registration or then capable of arising.鈥
sy鈥檔 golygu bod y teitl dogfennol digofrestredig wedi ei eithrio rhag effaith cofrestriad teitl meddiannol y sgwatiwr, ac y byddai鈥檙 newidiad yn gweithredu鈥檙 ystad honno.
2.4 Newidiadau i dynnu ymaith cofnod diangen
O鈥檙 pedwar diben ar gyfer newid y gofrestr, tynnu ymaith cofnod diangen yw鈥檙 unig ddiben sydd ar gael i鈥檙 cofrestrydd ond nid y llysoedd. Nid oes angen cais er mwyn i鈥檙 cofrestrydd arfer ei b诺er i newid y gofrestr trwy dynnu ymaith cofnod diangen, fodd bynnag mae鈥檔 bosib y bydd cais yn tynnu ein sylw at y ffaith bod cofnod yn ddiangen.
Bydd cofnod yn ddiangen pan nad yw鈥檙 mater y mae鈥檔 ymwneud ag ef yn gyfredol mwyach, er enghraifft lle mae鈥檙 cofnodion sy鈥檔 ymwneud ag ail arwystl yn cael eu tynnu o鈥檙 gofrestr adeg cofrestru person sy鈥檔 cymryd trosglwyddiad oddi wrth yr arwystlai cyntaf o dan ei b诺er gwerthu.
3. Gwneud cais am newidiad
Mae鈥檙 adran ganlynol yn rhoi gwybodaeth am geisiadau i newid y gofrestr neu gynllun teitl. Ceir rhagor o wybodaeth yng nghyfarwyddyd ymarfer 77: newid y gofrestr trwy dynnu ymaith tir o gynllun teitl.
3.1 Y cais
Dylai cais am newidiad nodi鈥檔 glir y newid(newidiadau) a geisir a chynnwys tystiolaeth i gyfiawnhau鈥檙 newid(newidiadau) (rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os yw鈥檙 newidiad yn unol 芒 gorchymyn llys ar gyfer newidiad, rhaid i鈥檙 gorchymyn gydymffurfio 芒 rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Yr unig eithriad i hyn yw lle mae鈥檙 cais i ddiweddaru鈥檙 gofrestr trwy dynnu ymaith enw cydberchennog ymadawedig (rheol 13(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
O dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, mae ffi benodol yn daladwy ar gyfer unrhyw gais i newid y gofrestr. Mewn rhai achosion (yn enwedig os achoswyd y gwall gan Gofrestrfa Tir EF) gellir ad-dalu鈥檙 ffi (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru).
3.2 Hawl gyfreithiol (locus standi)
Yn yr achos yn yr Uchel Lys Mann v Dingley [2011] EWlandRA 2010_582, ar ap锚l gan y Dyfarnwr i Gofrestrfa Tir EF (rhagflaenydd adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf)) cadarnhaodd HHJ McCahill QC:
鈥淎s a matter of law, there is no requirement for an applicant for rectification to have private law standing. The procedural rules and powers of the court are more than adequate to prevent vexatious or abusive applications.鈥
Felly, gall cais am newidiad gael ei gyflwyno gan unrhyw un ar yr amod ei fod yn unol 芒 gorchymyn llys sy鈥檔 cydymffurfio 芒 rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003 neu wedi ei ategu gan dystiolaeth ddigonol i fodloni鈥檙 cofrestrydd, yn 么l pwysau tebygolrwydd, bod y newidiad a geisir wedi ei gyfiawnhau (rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
3.3 Tystiolaeth ategol
3.3.1 Newidiad yn unol 芒 gorchymyn llys
Rhaid i gais am newidiad a wneir yn unol 芒 gorchymyn llys gael ei ategu gan y gorchymyn gwreiddiol, copi swyddfa o鈥檙 gorchymyn wedi ei selio neu gopi ardystiedig o鈥檙 gorchymyn. Rhaid i鈥檙 gorchymyn gydymffurfio 芒 rheol 127(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003.
Ni fydd llysoedd Cymru a Lloegr yn cydnabod dyfarniad tramor yn ymwneud 芒 thir yng Nghymru a Lloegr, felly ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn derbyn gorchymyn llys a wnaed y tu allan i Gymru a Lloegr fel un sy鈥檔 cydymffurfio 芒 rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
3.3.2 Newidiad nad yw鈥檔 unol 芒 gorchymyn llys
Mae gormod o sefyllfaoedd a all arwain at newidiadau posibl i鈥檙 gofrestr er mwyn i Gofrestrfa Tir EF allu darparu rhestr ddiffiniol o鈥檙 dystiolaeth y dylid ei chyflwyno ym mhob sefyllfa. Ar yr amod bod y dystiolaeth a gyflwynir yn cyfiawnhau鈥檙 newidiad a geisir, yn 么l pwysau tebygolrwydd, gall Cofrestrfa Tir EF benderfynu i newid y gofrestr (rheol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003 a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Lle mae鈥檙 newidiad yn gyfystyr 芒 chywiriad, rhaid i鈥檙 cofrestrydd gymeradwyo鈥檙 newidiad os oes ganddo鈥檙 p诺er i鈥檞 wneud, oni bai bod amgylchiadau eithriadol sy鈥檔 cyfiawnhau peidio 芒 gwneud y newidiad (paragraff 6(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Yn dibynnu ar ffeithiau鈥檙 achos dan sylw, gall un neu ragor o鈥檙 canlynol gael ei ystyried yn dystiolaeth sy鈥檔 cyfiawnhau鈥檙 newidiad penodol a geisir.
- Tystiolaeth ddatganiadol (naill ai datganiad o wirionedd neu ddatganiad statudol) a roddir gan berson sydd 芒 gwybodaeth am y ffeithiau perthnasol.
- Tystiolaeth arbenigol, megis adroddiad arolygwr tir neu arbenigwr llawysgrifen.
- Gorchymyn llys nad yw鈥檔 cydymffurfio 芒 rheol 127 o Reolau Cofrestru Tir 2003.
- Cop茂au ardystiedig o ddogfennau sy鈥檔 berthnasol i warediad penodol, megis contract gwerthu, sy鈥檔 egluro cyd-destun gwneud y gwarediad.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
3.4 Ein hymateb i gais am newidiad
Prif swyddogaeth Cofrestrfa Tir EF yw cynnal cywirdeb a chyfanrwydd y gofrestr tir. Felly, pan ddaw i鈥檔 sylw y gall newidiad i鈥檙 gofrestr neu gynllun teitl fod yn ofynnol, byddwn yn ymchwilio i鈥檙 mater perthnasol er mwyn sefydlu a ydym, yn 么l pwysau tebygolrwydd, yn ystyried bod unrhyw newidiad yn ofynnol. Oni bai bod y newidiad yn gyfystyr 芒 chywiriad, mae gan Gofrestrfa Tir EF ddisgresiwn i wneud y newidiad bwriadedig neu beidio.
Er mwyn sefydlu a yw newidiad yn ofynnol neu beidio, gall gweithwyr cais Cofrestrfa Tir EF ymchwilio i fersiynau cyfredol a hanesyddol o鈥檙 gofrestr a chynlluniau teitl, yn ogystal ag unrhyw ddogfennaeth a gedwir gan Gofrestrfa Tir EF. Gallwn hefyd ymchwilio i fersiynau hanesyddol y map Arolwg Ordnans yn ogystal 芒 chyfarwyddo arolygwr tir yr Arolwg Ordnans i archwilio (gyda chydsyniad y perchennog perthnasol) a pharatoi adroddiad ynghylch unrhyw dir sy鈥檔 ddarostyngedig i gais am newidiad. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, efallai y bydd angen i鈥檙 gweithiwr cais wneud ymholiadau hefyd, wrth ystyried y cais cychwynnol ac yn dilyn ein hymchwiliadau ychwanegol.
Unwaith y bydd ein hymchwiliadau wedi eu cwblhau, gan gynnwys ystyried unrhyw dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd mewn ymateb i鈥檔 hymholiadau, bydd y gweithiwr cais yn hysbysu鈥檙 parti a gyflwynodd y cais a ydym yn ystyried, yn 么l pwysau tebygolrwydd, y dylid gwneud newid(newidiadau) i鈥檙 gofrestr neu beidio.
3.4.1 Rhybuddion
Unwaith y bydd penderfyniad wedi cael ei wneud i fwrw ymlaen 芒鈥檙 newidiad bwriadedig, bydd y gweithiwr cais yn ystyried a ddylid cyflwyno rhybudd o鈥檙 cais.
Lle byddai ystad, arwystl neu fudd yn cael ei effeithio gan newidiad bwriadedig, heblaw am newidiad yn unol 芒 gorchymyn llys, mae rheol 128 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 cofrestrydd roi rhybudd o newidiad bwriadedig i:
- berchennog cofrestredig unrhyw ystad gofrestredig yr effeithir arni
- perchennog cofrestredig unrhyw arwystl cofrestredig yr effeithir arno
- unrhyw berson sydd 芒 hawl i unrhyw fudd yr effeithir arno a warchodir gan rybudd os yw enw a chyfeiriad ar gyfer gohebu y person hwnnw wedi eu nodi yn y gofrestr y cofnodwyd y rhybudd ynddi
oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon nad yw rhybudd o鈥檙 fath yn ofynnol. Gall y cofrestrydd hefyd 鈥溾ake such enquiries as he thinks fit.鈥 (rheol 128(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Os na fydd Cofrestrfa Tir EF yn cael gwrthwynebiad cadarn i鈥檙 cais, caiff y newidiad ei wneud i鈥檙 gofrestr neu gynllun teitl.
Os caiff Cofrestrfa Tir EF wrthwynebiad cadarn i鈥檙 cais, rhaid inni hysbysu鈥檙 ceisydd, ac ni allwn gwblhau鈥檙 cais hyd nes y gwaredir y gwrthwynebiad (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ceir rhagor o wybodaeth am broses anghydfodau Cofrestrfa Tir EF yng nghyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau: arferion a gweithdrefnau Cofrestrfa Tir EF.
4. Ystyriaethau penodol wrth wneud cais i gywiro鈥檙 gofrestr
Mae cywiro鈥檙 gofrestr yn fath penodol o newidiad wedi ei ddiffinio o dan baragraff 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 fel newidiad sydd:
a. yn cynnwys unioni camgymeriad, a
b. yn effeithio鈥檔 niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig.
Mae paragraffau 3 a 6 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys darpariaethau penodol ynghylch pwerau鈥檙 ddau lys a鈥檙 cofrestrydd, yn y drefn honno, pan fyddai newidiad yn gyfystyr 芒 chywiriad.
4.1 Y perchennog cofrestredig mewn meddiant
Mae cyfyngiadau ar y p诺er i gywiro鈥檙 gofrestr lle mae perchennog cofrestredig mewn meddiant. Nid yw鈥檔 bosibl cywiro (boed a yw鈥檙 mater gerbron y llys neu鈥檙 cofrestrydd) yn erbyn perchennog cofrestredig mewn meddiant oni bai bod y perchennog cofrestredig hwnnw:
- yn cydsynio i鈥檙 cywiriad
- wedi trwy dwyll neu ddiffyg gofal priodol achosi neu gyfrannu鈥檔 sylweddol at y camgymeriad, neu
- byddai am unrhyw reswm arall yn anghyfiawn i beidio 芒 gwneud y newidiad
Os penderfynir, ar 么l ystyried yr uchod, bod gan y llys neu鈥檙 cofrestrydd b诺er i gywiro鈥檙 gofrestr, rhaid cwblhau鈥檙 cywiriad oni bai bod amgylchiadau eithriadol sy鈥檔 cyfiawnhau peidio 芒 gwneud y newidiad.
Mae adran 131(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cadarnhau 鈥渓and is in the possession of the proprietor of a registered estate in land if it is physically in his possession, or in that of a person who is entitled to be registered as the proprietor of the registered estate鈥. Bydd y cwestiwn a yw tir ym meddiant ffisegol parti mewn achos penodol yn dibynnu ar natur y tir a鈥檙 defnydd a wneir o鈥檙 tir gan, neu ar ran, y parti hwnnw.
Mae adran 131(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn nodi sefyllfaoedd penodol lle gellir priodoli meddiant gan barti arall i鈥檙 perchennog cofrestredig, sef:
- gellir priodoli meddiant gan denant i鈥檞 landlord
- gellir priodoli meddiant gan forgeisai i鈥檞 forgeisiwr
- gellir priodoli meddiant gan drwyddedai i鈥檞 drwyddedwr
- gellir priodoli meddiant gan fuddiolwr i鈥檞 ymddiriedolwr
4.2 Indemniad statudol
Mae鈥檙 cynllun indemniad statudol yn indemnio unrhyw un sy鈥檔 dioddef colled oherwydd:
- cywiriad o鈥檙 gofrestr
- camgymeriad yn y gofrestr y gellid bod wedi ei gywiro ond na chafodd ei gywiro
- camgymeriad yn y gofrestr cyn iddo gael ei gywiro
Os daw parti o fewn unrhyw un o鈥檙 categor茂au uchod, mae ganddo hawl (yn amodol ar eithriadau penodol) i gael ei indemnio gan y cofrestrydd am unrhyw golledion a achoswyd. Mae鈥檙 adran ganlynol yn rhoi ychydig o wybodaeth ychwanegol ynghylch hawliadau indemniad sy鈥檔 ymwneud 芒 chostau a threuliau cyfreithiol. Mae rhagor o wybodaeth am hawliadau indemniad yn gyffredinol, gan gynnwys sut yr asesir hawliadau ac unrhyw eithriadau i鈥檙 hawl i indemniad, i鈥檞 chael yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad.
5. Costau mewn achosion newidiad
Gall parti sy鈥檔 dioddef colled oherwydd newidiad yn y gofrestr hawlio costau a threuliau. Yn dibynnu ar natur y newidiad, gall taliad fod yn 么l disgresiwn y cofrestrydd (achosion heb fod yn gywiriad) neu oherwydd hawl y parti i indemniad statudol (achosion cywiriad).
Yn y ddau achos, gwneir taliad dim ond ar gyfer costau neu dreuliau a dalwyd yn rhesymol gan yr hawlydd.
Gellir gwneud hawliad trwy lythyr, a dylai gynnwys (i鈥檙 graddau nad yw eisoes wedi ei ddarparu mewn cysylltiad 芒 chais am gydsyniad):
- manylion y newidiad a wnaed i鈥檙 gofrestr
- manylion y costau a鈥檙 treuliau a hawlir a sail y cyfrifiad, ynghyd ag anfonebau neu dderbynebau ategol lle bo鈥檔 briodol, ac
- (os caiff ei wneud mewn perthynas 芒 newidiad heb fod yn gywiriad) esboniad ynghylch pam y dylai鈥檙 cofrestrydd ei dalu o dan baragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
5.1 Achosion cywiriad
Mae paragraff 1(1) o Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cadarnhau bod 鈥淸a] person is entitled to be indemnified by the registrar if he suffers loss by reason of鈥︹ cywiriad o鈥檙 gofrestr neu gamgymeriad y byddai ei gywiriad yn cynnwys cywiro鈥檙 gofrestr. Yn ogystal 芒 thaliad am golledion sylweddol, caiff person hefyd hawlio indemniad ar gyfer y costau a threuliau a dalwyd o ganlyniad i鈥檙 cywiriad.
Fel rheol, bydd angen cydsyniad y cofrestrydd ymlaen llaw cyn talu costau neu dreuliau o鈥檙 fath, ac eithrio lle mae鈥檔 ymddangos i鈥檙 cofrestrydd bod yn rhaid talu鈥檙 costau neu dreuliau ar fyrder ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i wneud cais i鈥檙 parti gael cydsyniad y cofrestrydd. Mewn amgylchiadau o鈥檙 fath, byddem yn dal i ddisgwyl i鈥檙 hawlydd gysylltu 芒 ni cyn gynted ag y bo鈥檔 rhesymol ymarferol (hyd yn oed os yw hyn ar 么l talu鈥檙 costau perthnasol).
Ceir rhagor o wybodaeth ynghylch hawliadau indemniad sy鈥檔 codi o ganlyniad i gywiriad yng nghyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad.
5.2 Achosion heb fod yn gywiriad
Os caiff y gofrestr ei newid mewn achos nad yw鈥檔 cynnwys cywiriad, mae gan y cofrestrydd y p诺er i wneud taliad yn 么l disgresiwn mewn perthynas ag unrhyw gostau neu dreuliau a dalwyd yn rhesymol mewn cysylltiad 芒鈥檙 newidiad.
Fel mewn achosion cywiriad, fel rheol, bydd angen cydsyniad ymlaen llaw y cofrestrydd cyn talu costau neu dreuliau o鈥檙 fath ac eithrio lle mae鈥檙 cofrestrydd yn ystyried y bu鈥檔 rhaid talu鈥檙 costau neu dreuliau ar fyrder ac nad oedd yn rhesymol ymarferol i wneud cais i鈥檙 parti gael cydsyniad y cofrestrydd (paragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
6. Newidiad a thwyll
Gellir gwneud cais i newid y gofrestr o ganlyniad i gamgymeriad yn y gofrestr oherwydd twyll teitl cofrestredig. Er mai anaml y ceir achosion o dwyll teitl cofrestredig, gallant gael effaith fawr ar y rhai yr effeithir arnynt.
Gall perchnogion eiddo gymryd camau i leihau鈥檙 risg o ddioddef twyll, megis cofrestru ar gyfer gwasanaeth Cofrestrfa Tir EF.
Cysylltwch 芒鈥檔 t卯m twyll eiddo os ydych o鈥檙 farn eich bod wedi dioddef twyll eiddo.
T卯m twyll eiddo Cofrestrfa Tir EF
reportafraud@landregistry.gov.uk
Ff么n: 0300 006 7030
Dydd Llun 鈥 Dydd Iau, 8am i 5pm
Gallwch hefyd:
- gael cyngor gan neu gynghorydd cyfreithiol annibynnol
- rhoi gwybod i
7. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.