Cyfarwyddyd ymarfer 77: newid y gofrestr trwy dynnu tir o gynllun teitl
Diweddarwyd 16 Mawrth 2020
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
1.1 鈥楽tatutory magic鈥 a therfynau cyffredinol
Yn 么l Rheol 5(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003, rhaid i gofrestr eiddo ystad gofrestredig gynnwys disgrifiad o鈥檙 ystad gofrestredig a rhaid iddi gyfeirio at gynllun sy鈥檔 seiliedig ar Fap Arolwg Ordnans, ac fe鈥檌 gelwir yn gynllun teitl. Felly mae鈥檙 amlinelliad coch ar gynllun teitl ar gyfer ystad gofrestredig yn rhan o ddisgrifiad o ystad brydlesol neu rydd-ddaliol.
Rhaid ystyried dwy ddarpariaeth sylfaenol Deddf Cofrestru Tir 2002 wrth ymdrin 芒 chynllun teitl.
Y ddarpariaeth gyntaf yw鈥檙 adran sy鈥檔 parhau o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 sef yr hyn a elwir weithiau yn 鈥渟tatutory magic鈥.
鈥58 Conclusiveness
(1) If, on the entry of a person in the register as the proprietor of a legal estate, the legal estate would not otherwise be vested in him, it shall be deemed to be vested in him as a result of the registration.鈥
Fel y mae Law Com 271 yn ei egluro (paragraffau 251 a 252), mae鈥檙 isadran hon yn 鈥減reserves the fundamental principle that the register is conclusive as to the proprietor of a registered legal estate. In other words, a registered legal estate is deemed to be vested in the registered proprietor.鈥 Ond 鈥渃learly this does not prejudice the right 鈥 to apply for the register to be altered if this is appropriate鈥.鈥
Yr ail ddarpariaeth yw鈥檙 adran sy鈥檔 parhau鈥檙 rheol terfynau cyffredinol 鈥 鈥済eneral boundaries rule鈥.
鈥60 Boundaries
(1) The boundary of a registered estate as shown for the purposes of the register is a general boundary, unless shown as determined under this section.
(2) A general boundary does not determine the exact line of the boundary.鈥
Bwriad y sawl a oedd yn drafftio Deddf Cofrestru Tir 2002 oedd na ddylai鈥檙 rheol terfynau cyffredinol newid o鈥檙 hyn ydoedd o dan ddeddfwriaeth cofrestru tir flaenorol (Law Com 271, paragraffau 9.9 a 9.11) ac mae cyfraith achos ddilynol wedi tybio mai dyma yw鈥檙 achos (e.e. Drake v Fripp [2011] EWCA Civ 1279 yn [20]). Nodwyd y rheol yn wreiddiol yn Rheolau Cofrestru Tir 1925 (a oedd yn defnyddio鈥檙 term 鈥渇iled plan鈥 yn hytrach na 鈥渢itle plan鈥).
鈥淩ule 278
(1) Except in cases in which it is noted in the Property Register that the boundaries have been fixed, the filed plan shall be deemed to indicate the general boundaries only.
(2) In such cases the exact line of the boundary will be left undetermined 鈥 as, for instance, whether it includes a hedge or wall and ditch, or runs along the centre of a wall or fence, or its inner or outer face, or how far it runs within or beyond it; or whether or not the land registered includes the whole or any portion of an adjoining road or stream. 鈥.
(4) This rule shall apply notwithstanding that a part or the whole of a ditch, wall, fence, road, stream, or other boundary is expressly included in or excluded from the title or that it forms the whole of the land comprised in the title.鈥
(Mae effaith bosibl paragraff (4) yn arwyddocaol. Ystyriwch y canlynol. Mae cynllun teitl datblygwr yn dangos heol breifat yn rhedeg ar hyd ochr fewnol yr amlinelliad coch. Mae鈥檙 datblygwr yn gwerthu鈥檙 tir fesul llain nes bod yr amlinelliad coch yn cynnwys dim byd ond y ffordd. Mae鈥檙 paragraff yn awgrymu, o ganlyniad i鈥檙 rheol terfynau cyffredinol, nad oes o anghenraid unrhyw dir o gwbl o fewn teitl cofrestredig y datblygwr.)
Dyma yw effaith gyfunol adrannau 58 a 60.
- Ystyr cofrestru yw bod gan y perchennog deitl i鈥檙 ystad gyfreithiol hyd yn oed os na fyddai鈥檙 perchennog fel arall wedi bod ag unrhyw deitl.
- Bwriedir i derfynau cyfreithiol y cyfryw ystad gyfreithiol ddim ond gael eu dangos gan y cynllun teitl yn hytrach na鈥檜 diffinio鈥檔 fanwl gywir (gweler, yn benodol, Lee v Barrey [1957] P 251 yn 261). Gweler felly鈥檙 rhybudd sy鈥檔 ymddangos ar gop茂au swyddogol cynlluniau teitl: 鈥淭his title plan shows the general position of boundaries: it does not show the exact line of boundaries.鈥
1.2 Anghydfodau eiddo [鈥減roperty disputes鈥漖 ac anghydfodau terfynau [鈥渂oundary disputes鈥漖
Mae鈥檙 rheol terfynau cyffredinol yn golygu nad yw tynnu tir o gynllun teitl o anghenraid yn tynnu unrhyw dir o deitl cofrestredig.
Gall tir o fewn cwmpas y rheol terfynau cyffredinol fod y tu hwnt i鈥檙 teitl cofrestredig er ei fod o fewn yr amlinelliad coch (neu, yn yr un modd, o fewn y teitl cofrestredig ond y tu hwnt i鈥檙 amlinelliad coch). Lle byddai鈥檔 gamgymeriad i dir o fewn cwmpas y rheol gyffredinol fod yn y teitl cofrestredig, yna ystyrir nad yw鈥檙 teitl cofrestredig yn cynnwys y tir hwn. Felly, yn Drake v Fripp [2011] EWCA Civ 1279, dywedodd Lewison LJ (yn [20]) fod cofrestriad y perchennog 鈥渓eft the position of the precise boundary undetermined. Once the position of the precise boundary had been (retrospectively) determined by the adjudicator and the judge, it could be seen that [the proprietor] never had title to the disputed strip. [Counsel鈥檚] proposition that [the proprietor] has 鈥榣ost鈥 1陆 acres of land is thus either question begging or wrong.鈥
Felly nid yw tynnu tir sydd o fewn cwmpas y rheol terfynau cyffredinol yn golygu bod unrhyw dir yn cael ei dynnu o鈥檙 teitl cofrestredig; yn hytrach, yr unig beth a wna yw cynhyrchu 鈥渁nother general boundary in a more accurate position than the current general boundary鈥 (Derbyshire County Council v Fallon [2007] EWHC 1326 (P) yn [26]). Mae鈥檙 llysoedd yn nodweddu anghydfod ynghylch y math hwn o newidiad yn 鈥渁nghydfod terfynau鈥.
Ar y llaw arall, pan fo鈥檙 tir y tu hwnt i gwmpas y rheol terfynau cyffredinol, mae tynnu鈥檙 cyfryw dir o gynllun teitl yn golygu ei fod yn cael ei dynnu o deitl cofrestredig. Mae鈥檙 llysoedd yn nodweddu anghydfod o鈥檙 math hwn o newidiad yn 鈥渁nghydfod eiddo鈥.
Mewn rhai sefyllfaoedd nid oes unrhyw anhawster gwirioneddol wrth ddosbarthu. Roedd Knights Construction (March) Ltd v Roberto Mac [2011] 2 E.G.L.R. 123, yn achos a ddyfarnwyd gan Ddyfarnwr Cofrestrfa Tir EF. Ymgeisiodd Byddin yr Iachawdwriaeth am gofrestriad cyntaf ar dir lle safai hen gapel. Roedd y gweithredoedd teitl wedi鈥檜 distrywio yn yr Ail Ryfel Byd felly cafwyd datganiad statudol gan eu Prif Arolygwr Tir yn dweud y trosglwyddwyd y tir i William Booth ym 1888. O fewn amlinelliad coch ar gynllun y datganiad statudol 鈥 y tir a oedd yn destun anghydfod 鈥 bu iddo gynnwys darn o dir nad oedd wedi bod ym mherchnogaeth nac yn eiddo i Fyddin yr Iachawdwriaeth erioed. Cwblhawyd y cais. Yna, trosglwyddwyd y teitl cofrestredig i鈥檙 diffynnydd. Yr hawlydd oedd perchennog digofrestredig y tir a oedd yn destun anghydfod a gwnaeth gais am dynnu鈥檙 darn tir o gynllun teitl y diffynnydd. Roedd y tir a oedd yn destun anghydfod i bob diben yr un maint 芒鈥檙 tir a oedd wedi bod o fewn teitl digofrestredig Byddin yr Iachawdwriaeth. Fe鈥檌 defnyddiwyd ar gyfer parcio ac at ddibenion eraill gan denantiaid ar dir yr hawlydd, a oedd, fel y capel yn cyffinio 芒鈥檙 tir o dan sylw. Cafodd yr anghydfod ei drin fel anghydfod eiddo. Dyma鈥檙 math o sefyllfa a oedd gan Arglwydd Evershed MR o bosibl mewn golwg yn achos Lee v Barrey [1957] P 251 pan ddywedodd (yn 261) mai鈥檙 prawf oedd a oedd y cynllun teitl wedi鈥檌 lunio yn y fath fodd fel bod y perchennog cofrestredig 鈥済ot the wrong property鈥: os felly, roedd hwn yn achos o anghydfod eiddo.
Efallai nad oes anhawster mawr chwaith pan fo achos yn cynnwys un o鈥檙 enghreifftiau a welir yn rheol 278 o Reolau Cofrestru Tir 1925. Mae achos Drake v Fripp [2011] EWCA Civ 1279 yn enghraifft o hyn. Roedd yn cynnwys anghydfod ynghylch 2 nodwedd yn ymwneud 芒 therfynau 鈥 ffens neu glawdd Cernywaidd (clawdd carreg) 鈥 a oedd yn nodi鈥檙 terfyn cyfreithiol rhwng 2 eiddo yn dilyn gwerthu darn o鈥檙 tir mewn teitl digofrestredig. Roedd nodweddion y terfyn 4 neu 5 metr oddi wrth ei gilydd. Roedd y tir rhyngddynt 鈥 y tir a oedd yn destun anghydfod 鈥 tua 1陆 erw, er mai dim ond tua 1 y cant o鈥檙 tir a oedd wedi鈥檌 gytuno i gael ei drawsgludo. Roedd y teitl i鈥檙 tir a gadwyd ac i鈥檙 tir a drawsgludwyd wedi鈥檌 gofrestru erbyn hyn. Roedd y cynllun teitl ar gyfer y tir a drawsgludwyd yn awgrymu ei fod yn cynnwys y tir a oedd yn destun anghydfod ond dyfarnodd y Llys Ap锚l nad oedd mewn gwirionedd wedi鈥檌 gynnwys yn y gwaith trawsgludo. Dyfarnodd y llys fod hwn yn anghydfod terfynau. Un o鈥檙 ffactorau a ystyriodd oedd (yn [20]) bod adran 60 o ran sylwedd..yr un fath 芒 (鈥渋n substance鈥he same as鈥) rheol 278 ac roedd paragraff (2) yn dweud mewn ffordd mai un o鈥檙 materion a adawyd heb ei bennu oedd pa mor bell yr oedd terfyn yn rhedeg y tu hwnt i glawdd, wal neu ffens.
Fodd bynnag, gall y sefyllfa fod yn fwy cymhleth. Mae cyfraith achos hyd yn hyn yn awgrymu bod y canlynol yn gallu bod yn arwydd bod tir o fewn yr amlinelliad coch ar y cynllun teitl yn syrthio y tu hwnt i gwmpas y rheol terfynau cyffredinol ac felly o fewn y teitl cofrestredig.
- Mae arwynebedd ffisegol y tir yn arwyddocaol o gymharu 芒鈥檙 tir y derbynnir ei fod yn syrthio o fewn y teitl cofrestredig (Drake v Fripp [2011] EWCA Civ 1279; Knights Construction v Roberto Mac [2011] 2 E.G.L.R. 123).
- Gellir gwahaniaethu鈥檙 tir yn ffisegol rhywsut oddi wrth y tir arall yn y teitl cofrestredig ac mae o bwys penodol i鈥檙 perchennog cofrestredig (Paton v Todd [2012] EWHC 1248 (Ch); Parshall v Hackney [2013] EWCA Civ 240).
Nid ymddengys fod y naill na鈥檙 llall o鈥檙 nodweddion hyn yn bresennol mewn achosion lle mae tir o fewn yr amlinelliad coch wedi鈥檌 drin fel pe bai鈥檔 syrthio o fewn cwmpas rheol y terfynau cyffredinol a thu hwnt i鈥檙 teitl cofrestredig (Lee v Barrey [1957] P 251; Derbyshire CC v Fallon [2007] EWHC 1326 (P); Stratchey v Ramage [2008] EWCA Civ 384; Drake v Fripp [2011] EWCA Civ 1279).
Fodd bynnag, rhaid bod yn ofalus gydag unrhyw arwyddion posibl o鈥檙 fath o gyfraith achos y mae tir yn syrthio y tu mewn neu鈥檙 tu allan i gwmpas y rheol terfynau cyffredinol. Mae鈥檙 llysoedd wedi dweud bod y gwahaniaeth rhwng anghydfodau eiddo ac anghydfodau terfynau yn gwestiwn o ffaith a graddfa, 鈥渁 question of fact and degree鈥 (eg Drake v Fripp [2011] EWCA Civ 1279 at [21]), term (mewn cyd-destun arall) a eglurwyd fel a ganlyn, nad ydynt yn arwyddion penodol o bresenoldeb neu absenoldeb sydd yn ei hun yn ddigamsyniol 鈥渘o certain indicia the presence or absence of which is by itself conclusive鈥 (Simmons v Pizzey [1979] AC 37 at 59).
1.3 Newid a chywiro
Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn cyfeirio at newidiad 鈥渁lteration鈥 ac at gywirad 鈥渞ectification鈥. Gellir newid y gofrestr 鈥 sy鈥檔 cynnwys cynllun teitl 鈥 at nifer o ddibenion, gan gynnwys i gywiro camgymeriad (paragraffau 2(1) a 4 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae cywiriad yn newidiad sy鈥檔 unioni camgymeriad ac mae鈥檔 effeithio鈥檔 niweidiol ar deitl perchennog cofrestredig (paragraff 1 o Atodlen 4 a pharagraff 11(2) o Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Felly mae pob cywiriad yn newidiad ond dim ond rhai newidiadau sy鈥檔 gywiriadau.
Er mwyn i dynnu tir o鈥檙 cynllun teitl fod yn gywiriad, rhaid i鈥檙 tir o dan sylw fod o fewn yr amlinelliad coch ar y cynllun teitl ond rhaid iddo hefyd fod o fewn y teitl cofrestredig. Fel arall, nid yw teitl y perchennog cofrestredig yn cael ei effeithio鈥檔 niweidiol. Mewn geiriau eraill, rhaid bod anghydfod eiddo 鈥 neu, gan na fydd y cais bob amser yn arwain at anghydfod, rhaid cael amgylchiadau o鈥檙 fath fel pe byddai anghydfod yna anghydfod eiddo fyddai鈥檙 cyfryw anghydfod. Ni fydd newid yn sgil anghydfod terfynau, neu o dan amgylchiadau lle pe byddai anghydfod yna anghydfod terfynau fyddai鈥檙 cyfryw anghydfod, yn gywiriad.
Fodd bynnag, ni fydd pob newidiad sy鈥檔 ymwneud ag anghydfod eiddo yn gywiriad. Ymddengys fod yr hawl statudol i鈥檙 perchennog cyfreithlon wneud cais am newidiad i鈥檙 gofrestr yn gweithredu fel budd gor-redol os yw鈥檙 perchennog hwnnw mewn union feddiannaeth o鈥檙 tir (Malory Enterprises Ltd v Cheshire Homes (UK) Ltd [2002] P 216 yn [68] a [85]). Pan fo teitl cofrestredig yn cael ei newid er mwyn gweithredu budd gor-redol, nid oes niwed i鈥檙 perchennog cofrestredig gan fod eu teitl bob amser yn ddarostyngedig i鈥檙 hawl ac felly nid yw鈥檙 newidiad yn gyfystyr 芒 chywiro (Law Com 271, paragraff 10.16). Gan ddilyn ymlaen o hyn 鈥 er nad yw鈥檔 ymddangos bod unrhyw gyfraith achos ar y pwynt hwn 鈥 ymddengys na fydd newidiad ar gais person sydd wedi gweithredu ei hawl i newid fel budd gor-redol yn gyfystyr 芒 chywiro. Os bu i鈥檙 camgymeriad yn y cynllun teitl gael ei wneud pan gafodd ei gofrestru am y tro cyntaf, byddai angen i鈥檙 ceisydd neu ei ragflaenydd yn y teitl fod mewn union feddiannaeth, gyda鈥檙 meddiant yn parhau ar unrhyw warediad cofrestradwy dilynol at ddibenion ystyriaeth o werth; os cafodd y camgymeriad ei wneud rhywbryd ar 么l y cofrestriad cyntaf a鈥檌 ddilyn gan warediad cofrestradwy at ddibenion ystyriaeth o werth, byddai angen i鈥檙 ceisydd neu ei ragflaenydd fod mewn union feddiannaeth ar yr adeg ddiweddarach honno (adrannau11 (4)(b), 12(4)(c) a 29(2)(a)(ii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Mae 2 brif reswm pam y mae鈥檔 bwysig gwybod a yw newidiad yn gyfystyr 芒 chywiriad ai peidio.
1.3.1 Perchennog mewn meddiant
Heblaw am 2 eithriad, ni all cywiriad ddigwydd os yw鈥檙 perchennog mewn meddiant o鈥檙 tir ac nad yw鈥檔 cydsynio (Paragraff 6(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ystyr meddiant 鈥 鈥淧ossession鈥 鈥 yw 鈥 鈥減hysically in [the registered proprietor鈥檚] possession鈥, ac ystyrir tir ym meddiant tenant, morgeisai, trwyddedai neu fuddiolwr fel petai ym meddiant y landlord, morgeisiwr, trwyddedwr neu ymddiriedolwr (adran 131 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ymhellach, dehonglir meddiant 鈥 鈥減ossession鈥 鈥 yn y cyswllt hwn yn yr un modd ag y gwneir yng nghyd-destun meddiant gwrthgefn: rhaid cael 鈥渁 sufficient degree of exclusive physical custody and control鈥 (Paton v Todd [2012] EWHC 1248 (P) yn [60], lle鈥檙 oedd y tir o dan sylw 鈥 鈥渟eemed to have been available for use, and/or used, as an unenclosed accessway鈥 鈥 gan farnu nad oedd hyn yn gyfystyr 芒鈥檙 meddiant ffisegol angenrheidiol). Y 2 eithriad yw lle bo鈥檙: (a) perchennog cofrestredig trwy dwyll neu ddiffyg gofal priodol wedi achosi neu gyfrannu鈥檔 sylweddol at y camgymeriad neu (b) y byddai am unrhyw reswm arall yn anghyfiawn peidio 芒 gwneud y newidiad. Mae鈥檙 baich o sefydlu eithriad ar y ceisydd (Walker v Burton [2013] EWCA Civ 1228 yn [97]).
1.3.2 Indemniad
Mae gan berson hawl i gael ei indemnio gan y cofrestrydd os yw鈥檔 dioddef colled oherwydd naill ai (a) cywiriad neu (b) gamgymeriad y byddai ei unioni yn peri cywiriad ond nad oes cywiriad yn digwydd (paragraff 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Trowch i cyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac Indemniad i gael rhagor o wybodaeth am indemniad.
Nid oes t芒l am indemniad os nad cywiriad yw (neu y byddai鈥檙) newidiad. Serch hynny, mae angen cofio 2 beth.
Yn gyntaf, mewn achosion nad ydynt yn gywiriad, gall y cofrestrydd ddefnyddio鈥檌 grebwyll statudol i dalu鈥檙 swm y cred sy鈥檔 addas mewn perthynas ag unrhyw gostau neu dreuliau a achoswyd yn rhesymol gan berson mewn perthynas 芒鈥檙 newidiad. Dylid cael caniat芒d ymlaen llaw oddi wrth y cofrestrydd cyn mynd i gostau neu dreuliau o鈥檙 fath ac eithrio lle鈥檙 ymddengys i鈥檙 cofrestrydd y bu鈥檔 rhaid achosi鈥檙 costau neu鈥檙 treuliau ar frys ac nad oedd gwneud cais am ganiat芒d yn ymarferol resymol, neu fod y cofrestrydd yn ddiweddarach wedi cymeradwyo y dylid mynd i gostau neu dreuliau (paragraff 9 o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Yn ail, o dan yr amgylchiadau eithriadol lle bu penderfyniad afresymol ac esgeulus ynghylch tynnu鈥檙 llinell goch, gall y cofrestrydd drin y mater fel enghraifft o gamweinyddu a gwneud taliad i gydnabod y diffyg hwnnw. Mae Adolygydd Cwynion Annibynnol Cofrestrfa Tir EF wedi disgrifio camweinyddu fel methiant i gyflawni gweithdrefnau priodol neu fodloni safonau ansawdd gwasanaeth a gyhoeddwyd.
2. Pryd y gellir gwneud cais am newidiad trwy dynnu tir o gynllun teitl
Er gwaethaf y rheol terfynau cyffredinol, ceisiwn ddangos y tir a鈥檌 therfynau mor gywir 芒 phosibl, ac rydym yn derbyn bod camgymeriad yn y gofrestr os nad yw hyn wedi鈥檌 gyflawni. Felly, os oes gan rywun dystiolaeth sy鈥檔 gwneud iddo feddwl y dylai鈥檙 amlinelliad coch ar gynllun teitl fod mewn lle gwahanol dylai wneud cais am newidiad i鈥檙 gofrestr.
Cais am newidiad yw hwnnw bob tro. Nid oes cais ar wah芒n ar gyfer cywiro.
Nid oes yn rhaid i鈥檙 sawl sy鈥檔 gwneud cais am newidiad ddangos neu hyd yn oed hawlio budd perchnogol yn y tir o dan sylw. Yn benodol, nid oes angen iddynt fod yn hawlio perchnogaeth eu hunain. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod diffyg budd y ceisydd o anghenraid yn amherthnasol. Yn achos Walker v Burton [2013] EWCA Civ 1228, byddai鈥檙 newidiad wedi bod yn gywiriad ac roedd y perchnogion cofrestredig mewn meddiant; un o鈥檙 ffactorau a ganfuwyd nad oedd yn ei wneud yn anghyfiawn i鈥檙 gofrestr barhau鈥檔 ddigyfnewid oedd nad oedd gan y ceisydd unrhyw deitl i鈥檙 tir o dan sylw (gweler [31] a [102]).
Gall y perchennog cofrestredig sy鈥檔 ceisio tynnu tir o鈥檌 gynllun teitl ei hun wneud cais. Gall y newidiad olygu na ddangosir bellach bod y tir o dan sylw yn rhan o unrhyw deitl cofrestredig.
Ymddengys ei fod wedi鈥檌 sefydlu fod newidiad 鈥 gan gynnwys cywiriad 鈥 yn gallu digwydd hyd yn oed os yw鈥檙 teitl cofrestredig o dan sylw wedi ei drosglwyddo yn ddiweddarach (Paton v Todd [2012] EWHC 1248 (P) yn [55]).
Ymddengys nad yw鈥檙 gyfraith achos hyd yma ond wedi cynnwys camgymeriadau yn y cynllun teitl a wnaed yn wreiddiol wrth gofrestru鈥檙 tro cyntaf ond byddai鈥檙 rhesymu yr un fath ar gyfer camgymeriadau a wnaed ar warediadau o dir cofrestredig.
3. Sut i wneud cais am newidiad
Gwneir cais am newidiad trwy lenwi ffurflen AP1 a鈥檌 hanfon atom gyda thystiolaeth i gyfiawnhau鈥檙 newidiad (rheolau 129 o Reeolau Cofrestru Tir 2003).
Rydym yn argymell eich bod yn anfon eich cais i鈥檙 swyddfa agosaf at eich busnes 鈥 gweler cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.
O dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, mae ffi benodol yn daladwy ar gyfer unrhyw gais am newidiad i鈥檙 gofrestr. Mewn rhai achosion (yn enwedig, os achoswyd y camgymeriad gan Gofrestrfa Tir EF) ad-delir y ffi (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru).
Dylai鈥檙 dystiolaeth i gyfiawnhau鈥檙 newidiad nodi sail yr hawliad y dylid bod wedi llunio鈥檙 amlinelliad coch mewn lle gwahanol, gan nodi鈥檔 glir lle y dylai鈥檙 llinell fod. Hefyd:
- dylai鈥檙 ceisydd ddarparu鈥檙 holl wybodaeth a fydd yn berthnasol pe bai鈥檙 cais yn mynd yn ei flaen a chael ei ddosbarthu鈥檔 anghydfod a elwir yn anghydfod terfynau neu eiddo. Yn benodol, dylid cynnwys gwybodaeth am natur a defnydd y tir o dan sylw
- lle y gallai鈥檙 cofrestrydd ddosbarthu鈥檙 anghydfod yn anghydfod eiddo, dylai鈥檙 ceisydd ddatgan pwy sydd wedi bod mewn union feddiannaeth o鈥檙 tir o dan sylw mewn gwirionedd ac a yw鈥檙 ceisydd yn hawlio bod ei hawl i ofyn am newidiad wedi gweithredu fel budd gor-redol ai peidio
- dylai鈥檙 ceisydd ddatgan a yw鈥檙 tir ym meddiant y perchennog cofrestredig ai peidio
4. Beth sy鈥檔 digwydd unwaith y bydd cais am newidiad wedi鈥檌 dderbyn
Mae amlinelliad bras o鈥檙 broses wedi鈥檌 nodi ar y . Mae鈥檙 isadrannau canlynol yn egluro camau鈥檙 broses.
4.1 Y camau hyd at ddosbarthu yn anghydfod eiddo neu anghydfod terfynau
Unwaith y mae gennym y dystiolaeth angenrheidiol a bod y ffi sy鈥檔 daladwy wedi鈥檌 thalu, mae鈥檔 rhaid i ni benderfynu, yn amodol ar ganlyniadau archwiliad diynol o鈥檙 tir sy鈥檔 cefnogi鈥檙 cais, a yw鈥檙 ceisydd wedi dangos ar sail cydbwysedd tebygolrwydd bod camgymeriad yn y cynllun teitl ai peidio. Bydd hyn yn cynnwys ystyried y wybodaeth a anfonwyd gyda鈥檙 cais. Yn wir, gall gynnwys archwilio gweithredoedd cyn y cofrestru (os ydynt ar gael) neu drosglwyddiadau dilynol, neu鈥檙 ddau. Gall hefyd fod yn ofynnol edrych ar y lleoliad ar y ddaear adeg y trawsgludo neu鈥檙 trosglwyddo (Cameron v Boggiano [2012] EWCA Civ 157) gan ystyried hen fapiau Arolwg Ordnans a dogfennau gwybodaeth hanesyddol sydd ym meddiant Cofrestrfa Tir EF.
Os credir nad oes achos o鈥檙 fath wedi鈥檌 gyflwyno, fel rheol, caiff y cais ei ddileu. Weithiau bydd yn briodol gofyn am gadarnhad neu eglurhad ar bwynt cyn mynd ymlaen 芒鈥檙 cais neu ei ddileu 鈥 rydym yn anfon ymholiad.
Os ydym o鈥檙 farn y cyflwynwyd achos o鈥檙 fath, bydd angen archwilio鈥檙 tir bron bob tro. Ni fydd yn trefnu hyn. Hysbysir y ceisydd neu鈥檙 trawsgludwr a鈥檙 perchennog cofrestredig ymlaen llaw.
Ar 么l ystyried canlyniadau鈥檙 archwiliad (lle cynhaliwyd un) a鈥檙 holl wybodaeth y credwn sy鈥檔 briodol, os ydym o鈥檙 farn o hyd, ar sail cydbwysedd tebygolrwydd, bod camgymeriad yn y cynllun teitl, gallwn fynd yn ein blaenau i鈥檙 cam nesaf.
4.2 Sut mae ceisiadau鈥檔 cael eu trin ar 么l eu dosbarthu
Os ydym o鈥檙 farn bod gennym anghydfod terfynau, neu anghydfod eiddo ond bod yr hawl i ofyn am newidiad i鈥檙 gofrestr wedi gweithredu fel budd gor-redol, fel na fydd unrhyw newidiad yn gywiriad, byddwn yn cysylltu 芒鈥檙 ceisydd neu鈥檙 trawsgludwr i鈥檞 hysbysu am hyn a gofyn iddynt gadarnhau ein bod i fynd yn ein blaenau gyda鈥檙 cais (oni bai bod y cais wedi nodi鈥檔 glir bod y ceisydd hefyd yn ystyried y mater yn anghydfod terfynau). Os rhoddir cadarnhad, rhoddir gwybod i鈥檙 perchennog cofrestredig am y cais.
Os credwn mai anghydfod eiddo ydyw (ac nad yw鈥檙 hawl i ofyn am newidiad i鈥檙 gofrestr wedi gweithredu fel budd gor-redol), ac felly y bydd unrhyw newidiad yn gywiriad, yna rhaid i ni ystyried y perchennog cofrestredig ym mhwynt meddiant: gweler Perchennog mewn meddiant.
Os nad yw鈥檔 amlwg bod y perchennog cofrestredig mewn meddiant, byddwn yn anfon rhybudd am y cais atynt.
Os ymddengys fod y perchennog cofrestredig mewn meddiant, gallwn fynd yn ein blaenau i anfon y rhybudd heb ganiat芒d y perchennog cofrestredig yn unig os yw鈥檙 dystiolaeth a ddarparwyd ar ein cyfer yn awgrymu i ni fod (a) y perchennog cofrestredig trwy dwyll neu ddiffyg gofal priodol wedi achosi neu gyfrannu鈥檔 sylweddol at y camgymeriad neu (b) y byddai am unrhyw reswm arall yn anghyfiawn peidio 芒 gwneud y newidiad. (Nid ydym yn ceisio penderfynu鈥檔 derfynol ar y pryd hwn, ond rydym angen iddo gael ei sefydlu i鈥檙 safon hon o brawf am ein bod yn anfon rhybuddion yn unig pan fyddwn yn gwbl fodlon, yn absenoldeb unrhyw wrthwynebiadau, y gallwn gwblhau鈥檙 cais yn briodol.) Os nad yw鈥檔 ymddangos bod achos (a) neu (b) yn berthnasol, ac na allwn fynd ymhellach ymlaen 芒鈥檙 cais am newidiad, efallai y bydd y ceisydd yn dal i fod 芒鈥檙 hawl i indemniad.
Pan roddir gwybod i berchennog cofrestredig am gais am newidiad, fe鈥檌 hanfonir hefyd at (i) berchennog cofrestredig unrhyw arwystl cofrestredig ac (ii) os bydd gennym enw a chyfeiriad y person, anfonir at unrhyw berson yr ymddengys fod ganddynt hawl i fudd a ddiogelir gan rybudd, lle鈥檙 effeithir ar y budd hwnnw gan y newidiad arfaethedig, oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon bod rhybudd o鈥檙 fath yn un dianghenraid (rheolau 128(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Waeth a yw鈥檔 anghydfod ffin neu鈥檔 anghydfod eiddo, os yw鈥檙 perchennog cofrestredig neu unrhyw un arall yn gwrthwynebu鈥檙 cais ac nad yw鈥檙 gwrthwynebiad yn ddi-sail, cyfeirir yr anghydfod 鈥 os na ellir ei ddatrys 鈥 at adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os nad oes unrhyw wrthwynebiadau, neu os yw鈥檙 gwrthwynebiadau i gyd yn ddi-sail, bydd y newidiad yn cael ei weithredu: bydd y tir yn cael ei dynnu o鈥檙 cynllun teitl, ac felly yn achos cywiriad, o鈥檙 ystad gofrestredig.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau 鈥 cyfarwyddyd i ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF a chyfarwyddyd ymarfer 39: cywiro ac indemniad. Noder, yn benodol, y pwynt cyffredinol a wneir yn adran 5 cyfarwyddyd ymarfer 37 y gall yr holl ddogfennau ategol gael eu datgelu gennym i barti neu bart茂on cysylltiedig eraill, hyd yn oed os ydynt wedi鈥檜 marcio鈥檔 gyfrinachol.
Pe bai鈥檙 newidiad yn gyfystyr 芒 chywiriad ac nad yw鈥檙 perchennog cofrestredig mewn meddiant, rhaid i鈥檙 newidiad gael ei wneud lle bo gan y cofrestrydd y p诺er i newid, oni bai bod amgylchiadau eithriadol sy鈥檔 cyfiawnhau peidio 芒 gwneud y newidiad (paragraff 6(3) o Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Pe na bai鈥檙 newidiad yn gyfystyr 芒 chywiriad, mae gan y cofrestrydd rhyddid i benderfynu; mae鈥檙 Llys Ap锚l wedi cadarnhau, lle ceir amgylchiadau eithriadol fel hyn yn yr achosion newid hyn, y gall y cofrestrydd wrthod y cais yn gywir (Derbyshire County Council v Fallon [2007] EWHC 1326 (P) yn [29]).
Mae enghraifft o amgylchiadau eithriadol o鈥檙 fath i鈥檞 gweld yn Derbyshire County Council v Fallon [2007] EWHC 1326 (P). Gwnaeth y cyngor gais i newid y gofrestr fel bod llain o dir 36 metr o hyd a rhwng 2 a 4 metr o led yn cael ei dynnu o鈥檙 tu mewn i鈥檙 amlinelliad coch ar gynllun teitl y diffynnydd. Roedd y gweithredoedd cyn y cofrestru鈥檔 dangos yn wir fod y llain yn rhan o dir cyffiniol y cyngor. Cafodd yr anghydfod ei drin fel anghydfod ffin. Roedd y dirprwy feirniad o鈥檙 farn na fyddai鈥檙 un diben ymarferol i鈥檙 newidiad; erbyn hynny roedd y difinyddion wedi adeiladu ar y tir o dan sylw a chredai na fyddai鈥檙 cyngor o bosibl yn gallu cael gwaharddeb i atal y difinyddion rhag parhau i dresbasu a mynnu eu bod yn dymchwel yr adeilad. Cadarnhaodd yr Uchel Lys iddo gael yr hawl i drin y ffaith hon na fyddai i鈥檙 newidiad hwn yr un diben ymarferol a oedd yn gyfystyr ag amgylchiadau eithriadol a oedd yn cyfiawnhau peidio 芒 newid y teitl cofrestredig. Fel y nododd y dirprwy farnwr (yn [37]), oni bai a than y byddai llys yn cyhoeddi gwaharddeb o鈥檙 fath, dim ond gwneud y gofrestr yn gywirach 鈥渋n the limited sense of according with the [council鈥檚] paper title鈥 y byddai hynny鈥檔 ei wneud, ac roedd hynny yn 鈥減urely nominal or theoretical one鈥, bod gan y difinyddion (a鈥檜 holynwyr mewn teitl) 鈥渄e facto right to stay on the land鈥.
5. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.