Anfonwch Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol
Diweddarwyd 27 Mai 2021
O fis Ebrill 2021 ymlaen, os oes angen i chi wneud cywiriad i swm a gyflwynwyd mewn Amser Real ar gyfer blwyddyn sydd wedi’i chau, bydd angen i chi ddefnyddio’r broses Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS). Dylech ddefnyddio Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 neu cyn hynny yn unig.

Rhagarweiniad
Dyma’r canllaw Offer Talu Wrth Ennill (TWE) Sylfaenol ar gyfer gwneud Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU). Defnyddiwch y canllaw hwn os ydych yn defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol i weithredu’r gyflogres ar hyn o bryd.
Y sgrinluniau yn y canllaw hwn yw’r prif rai y bydd angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Nid ydym wedi cynnwys yr holl sgriniau gan fod rhai na fydd y rhan fwyaf o gyflogwyr yn eu defnyddio oherwydd eu bod yn berthnasol i amgylchiadau mwy anarferol.
Oherwydd gwelliannau parhaus, gall y sgriniau yn y gwasanaeth Offer TWE Sylfaenol edrych ychydig bach yn wahanol i’r rheiny a ddangosir yn y canllaw hwn.
Dechrau arni
²Ñ²¹±ð’r canllaw hwn yn tybio eich bod yn defnyddio’r Offer TWE Sylfaenol i redeg y gyflogres a’ch bod eisoes wedi:
- lawrlwytho a gosod y feddalwedd
- gosod y cyflogwr
- gosod eich cyflogeion
Cael gwybod a allwch greu cyflwyniadau EYU lluosog
Awgrymwn eich bod yn cwblhau’r broses lawn isod ar gyfer pob cyflogai ar wahân.
Cam 1: dewis y cyflogwr cywir
Os ydych wedi ychwanegu mwy nag un cyflogwr at yr Offer TWE Sylfaenol, bydd yn rhaid i chi ddewis y cyflogwr cywir.
O’r sgrin hafan, dewiswch y cyflogwr cywir o gornel chwith uchaf eich sgrin.
Yn yr enghraifft isod, mae ‘Harveys’ wedi ei ddewis.

Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y Cyflogwr’ fel y dangosir isod.
Gwiriwch fod y flwyddyn dreth gywir wedi ei dewis, dangosir hyn yn y blwch coch yn yr enghraifft isod.
Er enghraifft, os ydych yn creu EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y flwyddyn dreth 2019 i 2020, fel y dangosir isod.

Cam 2: dewis y cyflogai cywir ar gyfer y cyflwyniad EYU
Dewiswch y cysylltiad ‘Rheoli cyflogeion’ o’r ddewislen.

²Ñ²¹±ð’r sgrin nesaf yn dangos rhestr o’r holl ‘Cyflogeion cyfredol’ ar gyfer y cyflogwr.
Dewiswch y cyflogai perthnasol o’r rhestr.

O’r sgrin ‘Manylion y cyflogai’, dewiswch ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ o’r ddewislen.

Darllenwch yr arweiniad ar y sgrin nesaf ac yna dewiswch ‘Ychwanegu Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ i fynd yn eich blaen.

Nodi’r wybodaeth gywir
Byddwch nawr yn gweld y sgrin ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU) – Manylion y cywiriad’.
Pwrpas y sgrin hon yw rhoi cyfle i chi nodi’r symiau cywir pan fo’r naill neu’r llall o’r canlynol yn gymwys:
- mae swm wedi’i ddangos yn y golofn ‘Swm a gyflwynwyd yn flaenorol’
- mae gennych ffigurau newydd i’w rhoi ar gyfer eitemau nad ydynt wedi’u cyflwyno o’r blaen
Byddwch yn gweld bod y symiau yn y golofn ‘Swm a gyflwynwyd yn flaenorol’ wedi eu mewnforio o’r Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) diwethaf ar gyfer y flwyddyn flaenorol.
Gwiriwch fod y rhain yn unol â’r disgwyl.
Darllenwch y neges rybuddio a ddangosir ar y sgrin nesaf oherwydd gallai hyn effeithio ar eich cyflwyniad EYU.
Os nad ydynt, gwiriwch yr arweiniad drwy ddewis y botwm ‘?’, os nad ydych yn siŵr o hyd, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.

Enghraifft
Os gwnaethoch gyflwyno ffigur ar gyfer cyflog o £20,000 ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn ar eich FPS diwethaf ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020 ond rydych wedi sylweddoli y dylai hyn wedi bod yn £21,000, mae’n rhaid i chi nodi £21,000 ar y cam hwn.
Pwysig
Os na wnaethoch anfon yr FPS diwethaf ar gyfer y flwyddyn dreth 2019 i 2020 i CThEM, yna ni fydd y gwerthoedd yn y golofn ‘Swm a gyflwynwyd yn flaenorol’ yn dangos y data diweddaraf a anfonwyd i CThEM.
Os oes unrhyw daliadau wedi’u creu nad ydynt erioed wedi’u cyflwyno ond y dylid bod wedi’u hanfon, bwriwch olwg dros y ‘Crynodeb o’r flwyddyn hyd yn hyn ar gyfer y cyflogai’ a’i argraffu er mwyn rhoi cofnod o’r ffigur cywir i’w ddefnyddio wrth i chi lenwi’r EYU. Wedyn dilëwch y taliadau sydd heb eu cyflwyno cyn creu’r EYU.
Os yw’ch cyflogai wedi cael dynodydd (ID) y gyflogres, rhif gwaith neu rif cyflogai, a gwnaethoch ei ddefnyddio wrth osod eich cyflogai yn wreiddiol, mae’n rhaid i chi ei nodi yma. Gallai methu â gwneud hynny arwain at greu cofnod cyflogaeth dyblyg ar gyfer y cyflogai hwn. Fel arall, gadewch y maes hwn yn wag.
Cod treth
Yn y blwch ‘Manylion treth’, nodwch y cod treth a’r sail weithredu sy’n gywir ar gyfer y flwyddyn honno.
Llythrennau categori Yswiriant Gwladol
Mae llythyren Yswiriant Gwladol eisoes wedi’i dangos ynghyd â symiau’r enillion sy’n agored i Yswiriant Gwladol y rhoddwyd gwybod amdanynt yn flaenorol. Nodwch y symiau cywir ar gyfer y llythyren Yswiriant Gwladol honno.
Os oes angen i chi nodi manylion ar gyfer llythyren Yswiriant Gwladol wahanol, sgroliwch lawr i’r gwymplen nesaf fel y dangosir yn y sgrinlun isod.

Os oes swm negyddol o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) y cyflogai ar yr EYU wrth lenwi’r sgrin hon:
- nodwch ‘Iawn’:
- os oes gordaliad o CYG y cyflogai sydd wedi’i ad-dalu i’r cyflogai
- er mwyn cadarnhau mai diben yr EYU yw diwygio cyflwyniad blaenorol ond nad yw ad-daliad o CYG y cyflogai yn ddyledus
- nodwch ‘Na’ os oes gordaliad o CYG y cyflogai nad yw wedi’i ad-dalu i’r cyflogai

Taliadau statudol a benthyciadau myfyrwyr
Nodwch fanylion unrhyw rai o’r canlynol y mae angen eu haddasu:
- taliadau statudol
- didyniadau benthyciad myfyriwr
- didyniadau benthyciad ôl-raddedig
Pan fyddwch wedi llenwi pob blwch perthnasol ar y sgrin hon, dewiswch ‘nesaf’ i fynd yn eich blaen.
Pwysig
Mae’n rhaid i chi nodi’r symiau llawn yn y golofn ‘Swm cywir’, ac nid y gwahaniaeth rhwng y ffigur a gyflwynwyd yn flaenorol a’r ffigur cywir.
Dewiswch ‘nesaf’ i symud i’r sgrin nesaf.
Adolygu EYU
Bydd y sgrin nesaf yn dangos y gwahaniaethau rhwng y symiau a gyflwynwyd gennych yn flaenorol i CThEM a’r symiau cywir.
Y ‘gwahaniaethau’ yw’r ffigurau y bydd angen eu hanfon i CThEM ar yr EYU.

Sicrhewch eich bod yn adolygu’r sgrin hon yn llwyr a gwiriwch fod y gwahaniaethau rhwng y ffigurau blaenorol a’r rhai wedi’u cywiro yn cyfateb â’r hyn yr ydych yn ei ddisgwyl.
Bydd y data hwn yn ffurfio’r cyflwyniad a anfonir i CThEM.
Dewiswch ‘nesaf’ i symud i’r sgrin nesaf.
Cael gwybod a ydych wedi gwneud camgymeriad
Os nad ydych wedi cyflwyno’r EYU hyd yn hyn, gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
- newid y manylion ‘swm cywir’
- »å¾±±ô±ð³Ü’r EYU a dechrau eto
I wneud hyn, dewiswch y cyflogai perthnasol o’r ddewislen, yna dewiswch ‘Diweddariad Blwyddyn Gynharach’ o’r ddewislen.

Pwysig
Unwaith yr ydych wedi cyflwyno EYU ar gyfer cyflogai, ni allwch ei newid. Os oes rhaid i chi wneud newidiadau pellach ar gyfer y cyflogai hwn ar gyfer yr un flwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi greu EYU arall.
Cam 3: anfon yr EYU
Rydych nawr wedi creu’r EYU yn barod i’w anfon i CThEM.
Gallwch greu EYU ar gyfer cyflogeion eraill drwy ailadrodd Cam 2 uchod, ond efallai y byddai’n well gennych anfon yr un rydych wedi’i greu cyn dechrau gyda chyflogai arall.
Pan fyddwch wedi gorffen creu’r EYU, mae’n rhaid i chi anfon y cyflwyniad(au) i CThEM.
Dewiswch y cyflogwr cywir o’r rhestr o gyflogwyr ar y ‘sgrin gartref’.
Bydd hyn yn mynd â chi i’r sgrin ‘Manylion y cyflogwr’.

Gallwch weld yma fod un cyflwyniad sydd heb ei wneud, sef yr EYU ar gyfer Ethan Morgan.
Dewiswch ‘anfon yr holl gyflwyniadau sydd heb eu cyflwyno’.

Darllenwch yr wybodaeth ar y sgrin nesaf, ac yna dewiswch ‘nesaf’. Dewiswch y cysylltiad ‘Bwrw golwg ar gyflwyniadau sydd heb eu gwneud’ o’r ddewislen.
Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth yn y blychau gwag isod ar gyfer cyflwyniadau ar-lein, ac yna dewiswch nesaf.

Dylech wedyn gael y neges o lwyddiant ganlynol.

Yn olaf, byddwch yn cael sgrin sy’n dangos canlyniadau’ch cyflwyniad ac yn cynnwys cyfeirnod unigryw ar gyfer eich cyflwyniad.

Pwysig
Ewch ati i argraffu unrhyw gyflwyniadau EYU, a’u cadw gyda chofnodion eich cyflogres, er mwyn eich atgoffa os bydd unrhyw ymholiadau pellach ynghylch cofnod y cyflogai hwn.
Cam 4: Codau gwall Offer TWE Sylfaenol
Mae CThEM yn ymwybodol bod rhai defnyddwyr Offer TWE Sylfaenol wedi cael negeseuon gwall wrth geisio cyflwyno EYU. ²Ñ²¹±ð’r negeseuon hyn yn golygu nad yw’ch cyflwyniad wedi cyrraedd CThEM yn llwyddiannus. ²Ñ²¹±ð’r tabl canlynol yn dangos y neges wall y gallech ei gweld, yn ogystal â disgrifiad o’r hyn y mae’n rhaid i chi ei wneud i gywiro’r cyflwyniad.
Neges wall | Yr hyn y mae angen i chi ei wneud |
---|---|
Mae Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon neu Gyfeirnod TWE y Cyflogwr yn anghywir | Mae Cyfeirnod y Cyflogwr a/neu Gyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon yn anghywir. Gwiriwch y ddau ohonynt yn erbyn gwaith papur oddi wrth CThEM a diwygio’r un anghywir. I gael help i wneud hyn, gweler y canllaw sy’n ymwneud â defnyddio Offer TWE Sylfaenol ar gyfer hysbysu mewn amser real ac ewch drwy’r adrannau ‘Llywio drwy’r Offer TWE Sylfaenol’ a ‘Trosolwg cyflogwr’ nes eich bod yn dewis ‘Newid manylion y cyflogwr’. |
Ni ellir derbyn y cyflwyniad hwn gan nad yw’r dyddiad rhagddiffiniedig ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol wedi mynd heibio eto | Os oeddech yn ceisio anfon EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2017 i 2018, ni allwch anfon EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2017 i 2018 tan 20 Ebrill 2018. Arhoswch tan 20 Ebrill 2018, yna anfonwch yr EYU. |
Ni ellir derbyn y cyflwyniad hwn gan nad yw’n syrthio o fewn y cyfnod cyflwyno cymwys | Os oeddech yn ceisio anfon EYU ar gyfer y flwyddyn dreth 2012 i 2013, ni allwch gyflwyno cyflwyniadau Gwybodaeth Amser Real (RTI) ar gyfer y flwyddyn dreth 2012 i 2013, oni bai eich bod ymhlith un o’r nifer fach o gyflogwyr a gymerodd ran yn y peilot RTI yn ystod y blynyddoedd dreth 2012 i 2013 neu 2013 i 2014. Mae’n rhaid i chi anfon y ffurflenni diwygiedig P35 a P14. Ni allwch wneud hyn gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol. Efallai y bydd y feddalwedd a ddefnyddioch i redeg eich cyflogres yn ystod y flwyddyn dreth 2012 i 2013 yn eich galluogi i wneud hyn, fel arall gallwch ddefnyddio’r ffurflenni ar-lein sydd yn rhan o wasanaeth TWE Ar-lein CThEM. |
- Cod gwall: 7900 - ²Ñ²¹±ð’r [ECON] yn orfodol os yw un o’r canlynol, ‘D’, ‘E’, ‘I’, ‘K’, ‘L’, ‘N’, ‘O’, yn rhan o unrhyw [LYTHYRENYG] - Mae [ECON] yn orfodol os yw un o’r canlynol, ‘D’, ‘E’, ‘I’, ‘K’, ‘L’, ‘N’, ‘O’, yn rhan o unrhyw [LYTHYRENYG] - Neges ddiagnostig: Methiant i arddel: |
Ni ellir anfon yr EYU hwn i CThEM gan fod gan y cyflogai lythyren CYG sydd wedi’i chontractio allan (D, E, I, K, L, N neu O) ond nid ydych wedi darparu Rhif Contractio Allan y Cyflogwr (ECON). Cefndir: - cyfeirnod yw ECON a bennir i gyflogwr sy’n gweithredu, neu sy’n rhan o grŵp o gwmnïau sy’n gweithredu, cynllun pensiwn wedi’i gontractio allan ar gyfer ei gyflogeion - gall cyflogai fod ar lythyren CYG wedi’i chontractio allan (D, E, L, I, K, N neu O) dim ond os oes gan y cyflogwr gynllun pensiwn wedi’i gontractio allan y mae’r cyflogai yn aelod ohono - os oes gennych gynllun pensiwn wedi’i gontractio allan, bydd gennych ECON Camau sydd eu hangen: Mae’n rhaid i chi naill ai: - Ychwanegu’r ECON at fanylion y cyflogwr. I gael help i wneud hyn, gweler y canllaw sy’n ymwneud â defnyddio Offer TWE Sylfaenol ar gyfer hysbysu mewn amser real ac ewch drwy’r adrannau ‘Llywio drwy’r Offer TWE Sylfaenol’ a ‘Trosolwg cyflogwr’ nes eich bod yn dewis ‘Newid manylion y cyflogwr’. ²Ñ²¹±ð’r ECON i’w weld ar y dystysgrif contractio allan a anfonir gan CThEM, ac a anfonwyd yn flaenorol gan Gyllid y Wlad neu’r Adran Nawdd Cymdeithasol, pan fo cyflogwr yn dewis cael ei gontractio allan. Os na allwch ddod o hyd i’ch ECON, cysylltwch â’r llinell gymorth ar gyfer Pensiynau wedi’u Contractio allan. NEU Os nad oes gennych ECON cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM drwy ffonio: 0300 200 1900, a rhowch wybod iddynt eich bod yn gweld cod gwall 7900 ac nad oes gennych ECON. |