Ffioedd am drwyddedu a chymeradwyo canolfannau semen buchol
Diweddarwyd 28 Chwefror 2025
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Rhaid i chi dalu am eich cais am drwydded i weithredu fel canolfan gasglu, storio neu gwarantin ar gyfer semen anifeiliaid.
Rhaid i chi hefyd wneud cais a thalu am gymeradwyaeth i ddefnyddio anifail buchol i gasglu semen.
Sut mae APHA yn codi t芒l am yr amser a dreulir
Rhaid i chi dalu 拢22 fesul chwarter awr neu lai ar gyfer yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn archwilio eich safle. Mae ffioedd am amser a dreuliwyd yn ychwanegol at y ffioedd penodol ar gyfer pob gwasanaeth.
Mae APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio a theithio i鈥檙 chwarter awr llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.
Sut mae APHA yn cyfrifo amser teithio
Caiff swm y ffi ar gyfer amser teithio ei gyfrifo ar sail y pellter o鈥檙 swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio.
Os bydd arolygydd yn cynnal archwiliadau mewn sawl safle cyfagos ar yr un diwrnod, caiff y ffi ar gyfer pob un ei chyfrifo o鈥檙 swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio unigol.
Rhoddir terfyn amser teithio o 45 munud bob ffordd, felly ni fydd rhaid i chi dalu mwy na 拢132 am gostau teithio.
Ffioedd
Rhaid i chi dalu am asesiadau cais p鈥檜n a gaiff eich cais ei gymeradwyo ai peidio.
骋飞补蝉补苍补别迟丑听 | 聽聽 Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023聽 | 聽 Ffioedd o 1 Gorffennaf 2024聽 |
---|---|---|
Amser archwilio ar gyfer trwyddedu neu gymeradwyo | 拢22 | 拢22 |
Amser teithio i safleoedd ac oddi wrthynt ar gyfer trwyddedu neu gymeradwyo | 拢22 | 拢22 |
Cymeradwyaeth i gasglu semen buchol mewn canolfan gasglu ddomestig neu mewn safle heb drwydded (o dan reoliadau 7 a 10 o Reoliadau 2007) | 拢27 | 拢33 |
聽 Cais am gymeradwyaeth i gasglu semen buchol mewn canolfan gasglu drwyddedig (o dan reoliad 7 o Reoliadau 2007) | 拢35 | 拢44 |
Cais am drwydded i weithredu canolfan storio neu gasglu drwyddedig neu ddomestig (o dan reoliad 4 o Reoliadau 2007 | 拢39 | 拢48 |
Cais i weithredu canolfan storio neu gasglu drwyddedig neu ddomestig (o dan reoliad 4 o Reoliadau 2007) | 拢37 | 拢46 |
Archwiliad cychwynnol o ganolfan semen buchol (o dan reoliad 40 o Reoliadau 2007 | 拢23 | 拢28 |
Archwiliad rheolaidd o anifeiliaid buchol cymeradwy i鈥檞 defnyddio mewn canolfan gasglu ddomestig neu drwyddedig | 拢31 | 拢38 |
Cyfrifiad ffi enghreifftiol
Cais am drwydded i weithredu canolfan gwarantin drwyddedig, lle cafodd y gwaith milfeddygol ei gwblhau gan Swyddog Milfeddygol APHA a gymerodd 1.5 awr:
Ffi sefydlog o 拢39 + 拢22 x 6 = 拢171 a ffi amser teithio.
Ffioedd ar gyfer profion labordy ychwanegol
Rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol am unrhyw brofion sydd eu hangen yn dilyn archwiliad. Bydd y labordy yn codi t芒l ar wah芒n arnoch.