Ffurflen

Ffioedd ar gyfer timau (casglu, cynhyrchu a throsglwyddo) a chanolfannau storio embryonau buchol

Diweddarwyd 28 Chwefror 2025

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Rhaid i chi dalu ffioedd i wneud cais i gymeradwyo t卯m i gasglu a phrosesu embryonau buchol ac i archwilio timau a safleoedd.

Ffioedd ar gyfer cymeradwyo neu ailgymeradwyo

Rhaid i chi dalu am asesiadau cais p鈥檜n a gaiff eich cais ei gymeradwyo ai peidio.

Rhaid i chi dalu 拢38 (a fydd yn cynyddu i 拢47 ar 1 Gorffennaf 2024) i wneud cais am y canlynol:

  • cymeradwyo t卯m trosglwyddo embryonau buchol (domestig, neu er mwyn masnachu ag Aelod-wladwriaeth neu storfa fferm)
  • cymeradwyo t卯m casglu neu gynhyrchu embryonau buchol, gydag archwiliad labordy neu hab archwiliad o鈥檙 fath

Codir ffi o 拢13 (a fydd yn cynyddu i 拢16 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer:

  • ailgymeradwyo labordy neu storfa (yn dilyn unrhyw newidiadau)
  • cymeradwyo storfa neu labordy t卯m embryonau ychwanegol (llai na 8 km i ffwrdd o storfa neu labordy arall yr ymwelwyd ag ef ar yr un diwrnod)

Codir ffi o 拢34 (a fydd yn cynyddu i 拢42 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer cymeradwyo storfa neu labordy t卯m embryonau ychwanegol sydd dros 8km o storfa neu labordy arall yr ymwelwyd ag ef.

Ffioedd am archwiliadau

Rhaid i chi dalu 拢23 (a fydd yn cynyddu i 拢28 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer archwiliadau rheolaidd o dimau a safleoedd.

Os oes gennych dimau, labordai neu storfeydd ychwanegol, rhaid i chi dalu 拢6 (a fydd yn cynyddu i 拢7 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer pob archwiliad rheolaidd ychwanegol.

Sut mae APHA yn codi t芒l am yr amser a dreulir

Rhaid i chi dalu 拢22 fesul chwarter awr neu lai ar gyfer amser a dreulir gan APHA. Mae ffioedd am amser a dreuliwyd yn ychwanegol at y ffioedd penodol ar gyfer pob gwasanaeth.

Mae APHA yn cyfrifo eich ffioedd archwilio, cymeradwyo a theithio i鈥檙 chwarter awr llawn nesaf o waith. Er enghraifft, os bydd APHA yn treulio 20 munud ar eich archwiliad, byddwch yn talu am hanner awr.

Sut mae APHA yn cyfrifo amser teithio

Caiff swm y ffi ar gyfer amser teithio ei gyfrifo ar sail y pellter o鈥檙 swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio.

Os bydd arolygydd yn cynnal archwiliadau mewn sawl safle cyfagos ar yr un diwrnod, caiff y ffi ar gyfer pob un ei chyfrifo o鈥檙 swyddfa APHA agosaf i bob safle archwilio unigol.

Rhoddir terfyn amser teithio o 45 munud bob ffordd, felly ni fydd rhaid i chi dalu mwy na 拢132 am gostau teithio.

Cyfrifiad ffi enghreifftiol

Cymeradwyo t卯m casglu embryonau buchol unigol drwy archwilio un labordy, os treuliwyd 1.5 awr yn cwblhau鈥檙 gwaith milfeddygol:

Ffi sefydlog o 拢38 + 拢22 x 6 = 拢170 a ffi amser teithio.

Ffioedd ar gyfer profion labordy ychwanegol

Rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol am unrhyw brofion sydd eu hangen yn dilyn archwiliad. Bydd y labordy yn codi t芒l ar wah芒n arnoch.