Papur polisi

Cynllun 5 mlynedd ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain: Swyddfa Cymru

Cyhoeddwyd 22 Gorffennaf 2025

1. Datganiad o fwriad

Mae Swyddfa Cymru wedi creu鈥檙 datganiad hwn o fwriad i dynnu sylw at ei r么l, a鈥檌 nod yw defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn ei chyfathrebiadau.

Mae Swyddfa Cymru yn cydnabod pwysigrwydd Deddf Iaith Arwyddion Prydain a鈥檙 angen am gynhwysiant yng nghyfathrebiadau鈥檙 llywodraeth. Dros y 5 mlynedd nesaf, byddwn yn chwilio am gyfleoedd i integreiddio Iaith Arwyddion Prydain yn ein cyfathrebiadau lle bo hynny鈥檔 bosibl ac yn briodol.

Bydd natur gwaith y swyddfa yn cyfyngu ar yr ystod o achlysuron lle bydd defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn fuddiol. Yn wahanol i adrannau sy鈥檔 darparu gwasanaethau uniongyrchol i鈥檙 cyhoedd, fel yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu鈥檙 Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), cymharol brin yw鈥檙 cyfleoedd sydd gennym i gyfathrebu鈥檔 uniongyrchol.

Byddwn yn defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo ac ehangu cynnwys perthnasol sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain ac wedi鈥檌 greu gan adrannau eraill y llywodraeth.

Nod yr adran yw sicrhau bod ein cyfathrebiadau鈥檔 dod yn fwy weladwy i bawb yng Nghymru a鈥檙 DU. Mae adran gyfathrebu Swyddfa Cymru hefyd yn ceisio cynyddu ein hymdrechion ym maes cynhwysiant wrth ddathlu鈥檙 gymuned fyddar yng Nghymru.

2. Y camau nesaf

Bydd Swyddfa Cymru yn ystyried creu mwy o gynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ar adeg briodol. Er enghraifft, yn ystod wythnos benodol o welededd, gyda鈥檙 bwriad o gynyddu鈥檙 niferoedd o un flwyddyn i鈥檙 llall.

Byddwn yn defnyddio ein sianeli i ehangu cynnwys sy鈥檔 cael ei greu gan adrannau eraill y llywodraeth, a, lle bo hynny鈥檔 briodol, Llywodraeth Cymru.

Bydd ein hadran yn ceisio cynnwys ymweliadau a gwaith ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned fyddar.