Guidance

Nodiadau canllaw ar gyfer cwblhau ffurflen VO 7012: cynnig i newid rhestr ardrethu 2017 (Cymraeg)

Updated 17 July 2023

Applies to Wales

1. Cyn i chi ddechrau

Gellir defnyddio鈥檙 ffurflen hon i apelio i newid prisiad eich eiddo yng Nghymru. Os yw eich eiddo yn Lloegr, mae angen i chi fynd i wasanaeth gwirio a herio y VOA.

Bydd angen manylion arnoch am werth ardrethol eich eiddo a gwybodaeth arall sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (ASB) am eich eiddo. Ceir y manylion hyn ar-lein gyda phrisiad yr eiddo yn neu ar eich bil ardrethi.

Os telir rhent neu ffi drwyddedu, bydd angen manylion y rhent cyfredol arnoch, gan gynnwys pryd y鈥檌 talwyd gyntaf, ac enw a chyfeiriad perchennog yr eiddo. Mae鈥檔 bwysig eich bod yn nodi digon o wybodaeth am yr eiddo i鈥檔 galluogi i鈥檞 adnabod yn gywir a鈥檔 helpu i fodloni gofynion cyfreithiol. Os nad ydych yn ateb bob adran yn llawn mae鈥檔 bosibl na fydd eich ffurflen yn cael ei debyn.

2. Pwy gaiff wneud ap锚l (a elwir hefyd yn gynnig)?

Y perchennog neu鈥檙 deiliad presennol (neu asiant sy鈥檔 ei gynrychioli), neu bobl 芒 buddiannau cyfreithiol penodol yn yr eiddo ar y dyddiad y gwneir y cynnig.

Cyn-dalwyr ardrethi鈥檙 eiddo sydd am herio newid a wnaed i鈥檙 rhestr ardrethu pan oeddent yn dalwr ardrethi.

Mewn rhai amgylchiadau, yr awdurdod bilio lle mae鈥檙 eiddo wedi鈥檌 leoli.

3. Rhesymau dros apelio

Erbyn hyn, dim ond 2 reswm sydd dros gynnig newid (gwneud ap锚l) i werth ardrethol eiddo yng Nghymru sydd ar restr ardrethu 2017. Y rhesymau yw (y naill neu鈥檙 llall o鈥檙 canlynol):

  • bod y gwerth ardrethol yn anghywir oherwydd newid a wnaed gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • bod y prisiad yn anghywir oherwydd penderfyniad llys

Mae 鈥榞wneud ap锚l鈥 yn enw arall ar gynnig gwneud newid.

4. Terfynau amser

Mae鈥檔 rhaid gwneud cynnig sy鈥檔 cyfeirio at benderfyniad Tribiwnlys Prisio, neu lys uwch, erbyn 30 Medi 2023 fan bellaf.

Ar 么l 31 Mawrth 2024, ni all Asiantaeth y Swyddfa Brisio newid prisiadau sydd 芒 dyddiad dod i rym cyn 1 Ebrill 2023.

Os yw eich cynnig yn ymwneud 芒 newid i鈥檙 eiddo neu newidiadau yn yr ardal leol, mae鈥檔 bwysig dweud wrthym cyn gynted ag y bo modd. Mae hyn oherwydd bod y dyddiad rydym yn cael y cynnig yn pennu鈥檙 dyddiad rydym yn ystyried y newidiadau hynny.

5. Gwybodaeth gyffredinol

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ardrethi busnes a dod o hyd i鈥檆h gwerth ardrethol ar-lein.

Y Swyddog Prisio sy鈥檔 llunio鈥檙 rhestr ardrethu ac mae cynghorau lleol yn defnyddio鈥檙 wybodaeth ynddi er mwyn cyfrifo eich bil ardrethi. Mae鈥檔 cynnwys cyfeiriad yr eiddo, y gwerth ardrethol (gwerth yr eiddo), a鈥檙 dyddiad y mae鈥檙 gwerth hwn yn weithredol ohono.

Sylwer bod gwerthoedd ardrethol yn seiliedig ar y rhent y gallai鈥檙 eiddo fod wedi cael ei osod amdano ar 1 Ebrill 2015. Ni fydd unrhyw newidiadau cyffredinol yn y farchnad rentu ers hynny, i fyny neu i lawr, wedi effeithio ar y gwerth ardrethol.

Yn dilyn ailbrisiad, bydd y gwerthoedd ardrethol yn gyffredinol yn aros heb eu newid tan yr ailbrisiad nesaf oni newidir yr eiddo neu鈥檙 ardal leol.

6. Os oes angen help arnoch wrth lenwi鈥檙 ffurflen hon

E-bostiwch - ratingwales@voa.gov.uk

7. Llenwi鈥檙 ffurflen

Gallwch ddweud wrthym am fwy nag un eiddo, er enghraifft yn achos rhannu neu gyfuno eiddo, drwy ddefnyddio鈥檙 ffurflen hon. Cofnodwch fanylion yr eiddo cyntaf ar y ffurflen a manylion unrhyw eiddo arall ar ddalen ar wah芒n. Yna, dylid ei hatodi i鈥檙 ffurflen.

Sylwer - os ydych yn cynnig newidiadau ar ddyddiadau gwahanol, mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio ffurflen ar wah芒n ar gyfer pob newid.

8. Rhan A: manylion am yr eiddo/asesiad ardrethi

Mae鈥檙 adran hon yn cyfeirio at y manylion sydd gan ASB. Ceir y manylion hyn ar-lein gyda phrisiad yr eiddo yn, ar eich bil ardrethi, neu ar Hysbysiad o Newid a gyflwynwyd gan y Swyddog Prisio.

1) Nodwch gyfeiriad llawn yr eiddo sydd gan ASB. Os ydych yn cynnig cofnod newydd (gweler blwch 12 G), nodwch y cyfeiriad yr ydych yn credu y dylid ei ddangos. Os yw鈥檙 cyfeiriad presennol yn anghywir, dangoswch hefyd y cyfeiriad post llawn cywir. Defnyddiwch flwch 14 Rhan C y ffurflen os nad oes digon o le.

2) Nodwch ddisgrifiad o鈥檙 eiddo, e.e. 鈥淪iop ac eiddo鈥. Gallwch ddod o hyd i hyn gyda phrisiad eich eiddo ar-lein.

3) Nodwch enw deiliad presennol yr eiddo a ddangosir yn 1 ar y ffurflen. Os yw鈥檙 eiddo鈥檔 wag, nodwch 鈥淕wag鈥.

4) Dylid nodi cyfeiriad post llawn perchennog yr eiddo yma os yw鈥檔 wahanol i鈥檙 hyn a ddangosir yn 1 ar y ffurflen. Fel arall, nodwch 鈥渇el 1鈥.

5) Nodwch werth ardrethol yr eiddo a geir ar-lein.

6) Y dyddiad gweithredol yw鈥檙 dyddiad y mae atebolrwydd newydd neu a newidiwyd i dalu ardrethi busnes yn dechrau. Os anghytunwch 芒鈥檙 dyddiad gweithredol, nodwch hyn yn Rhan B y ffurflen.

7) Os yw鈥檙 perchennog yn meddiannu鈥檙 eiddo, ticiwch y blwch 鈥淧erchennog / meddianedig鈥. Os nad yw, nodwch enw perchennog yr eiddo yn y lle a ddarperir.

8) Dylid nodi cyfeiriad post llawn y perchennog dim ond os yw鈥檔 wahanol i鈥檙 hyn a ddangosir ar gyfer 1 a 4. Fel arall, nodwch 鈥渇el 1鈥 neu 鈥渇el 4鈥 fel y bo鈥檔 briodol.

9) Os nad yw鈥檙 perchennog yn meddiannu鈥檙 eiddo, a thelir rhent neu ffi drwydded, mae鈥檔 rhaid i chi dicio鈥檙 blwch 鈥淵dy鈥. Yna, nodwch y swm cyfredol sydd i鈥檞 dalu bob blwyddyn (ac eithrio ardrethi, taliadau gwasanaeth a TAW, os yw鈥檔 berthnasol). Cewch hefyd nodi鈥檙 dyddiad y daeth y rhent yn daladwy gyntaf. Fel arfer, y dyddiad hwn yw pan ddechreuodd y brydles neu鈥檙 cytundeb neu mewn adolygiad rhent dilynol. Nodwch y dyddiad nesaf yr adolygir y rhent os ydych yn ei wybod. Os ydych mewn cyfnod heb rent, nodwch hyn yn y blwch 鈥渞hent blynyddol cyfredol鈥. Gall y Swyddog Prisio anfon hysbysiad statudol atoch yn gofyn am fwy o fanylion am y rhent.

10) Nodwch enw llawn yr awdurdod bilio sy鈥檔 casglu鈥檙 ardrethi ar yr eiddo.

11) Nodwch gyfeirnod yr awdurdod bilio a geir gyda phrisiad yr eiddo ac ar eich bil ardrethi.

9. Rhan B: manylion y newidiadau arfaethedig

Dylid defnyddio鈥檙 rhan hon o鈥檙 ffurflen i gofnodi natur y newid rydych yn ei gynnig.

12) Mae鈥檙 gyfres o flychau ticio A i E yn nodi llawer o鈥檙 newidiadau mwyaf cyffredin. Dylid defnyddio blwch G os am gynnwys cofnod newydd (hynny yw, un na ddangosir mewn rhestr ardrethu ar hyn o bryd). Er mwyn sicrhau y gallwn dderbyn yr ap锚l, mae鈥檔 rhaid i chi hefyd lenwi pob blwch ychwanegol yn yr un rhes. Os nad yw鈥檙 newid rydych am ei wneud yn cael ei ddisgrifio yn 12A-E neu G, defnyddiwch y blwch 鈥渘ewidiadau eraill鈥 yn 12F, gan nodi鈥檔 union pa newid rydych yn ei gynnig. Hefyd, nodwch o ba ddyddiad yr ydych yn credu y dylai鈥檙 newid arfaethedig fod yn weithredol.

Rydym wedi rhoi rhai enghreifftiau i鈥檆h helpu i lenwi鈥檙 rhan hon o鈥檙 ffurflen.

9.1 Enghraifft 1

Os ydych yn credu bod y prisiad ar 1 Ebrill 2017 yn anghywir, dylech dicio blwch A, cynnwys y gwerth rydych yn credu ei fod yn gywir yn y blwch nesaf, a nodi 鈥01-04-2017鈥 yn y blwch olaf yn y rhes.

9.2 Enghraifft 2

Os ydych yn apelio oherwydd newid i鈥檙 eiddo neu yn yr ardal leol, bydd angen i chi dicio blwch A a nodi ei effaith ar y gwerth. Yn y blwch 鈥測n weithredol o鈥, dylid nodi鈥檙 dyddiad rydych yn credu i鈥檙 newid ddigwydd, e.e. 10 Mai 2017, fel 鈥10-05-2017鈥.

9.3 Enghraifft 3

Os ydych yn credu na ddylid cynnwys yr eiddo mwyach yn y rhestr ardrethu, e.e. nid yw siop yn masnachu mwyach ac mae wedi鈥檌 throi鈥檔 ddefnydd cwbl ddomestig, ticiwch flwch B a dangoswch yn y blwch ar y rhes hon y dyddiad rydych yn credu i鈥檙 newid ddigwydd.

9.4 Enghraifft 4

Os ydych yn credu y dylid dangos dau neu fwy o gofnodion ar y rhestr fel un neu fwy o gofnodion gwahanol, ticiwch flwch D. Yna, nodwch nifer y cofnodion presennol a nifer y cofnodion newydd rydych yn credo y dylid eu cynnwys. Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gynnwys y dyddiad i鈥檙 newid ddigwydd. Gall yr opsiwn hwn fod yn berthnasol dim ond pan fo un eiddo bellach wedi鈥檌 feddiannu mewn eiddo gwahanol, h.y. cyfunwyd yr eiddo.

10. Rhan C: seiliau dros eich ap锚l

10.1 Ateb Cwestiwn 13 - opsiynau ticio blychau

Erbyn hyn, dim ond 2 reswm sydd dros gynnig y newid (gwneud ap锚l) i鈥檙 gwerth ardrethol yr ydych wedi鈥檌 ddangos yn Rhan B.

Blwch 13/02: os ydych yn credu bod y gwerth ardrethol yn anghywir yn dilyn newid a wnaed gan y Swyddog Prisio. Nodwch hefyd y dyddiad i鈥檙 newid gael ei wneud. Dangosir y dyddiad newid rhestr hwn ar-lein neu ar eich bil ardrethi ac yn yr 鈥淗ysbysiad o Newid鈥 a gyflwynwyd gan y Swyddog Prisio. Os ydych hefyd yn anghytuno 芒 dyddiad gweithredol y newid, ticiwch flwch 13/03 a nodwch y dyddiad rydych yn credu ei fod yn briodol.

Blwch 13/11: os ydych yn credu bod y cofnod a ddangosir mewn rhestr ardrethu鈥檔 anghywir ar 么l penderfyniad Tribiwnlys neu Lys sy鈥檔 ymwneud ag eiddo arall. Mae鈥檔 rhaid i chi nodi dyddiad y penderfyniad, enw鈥檙 Tribiwnlys/Llys a chyfeiriad yr eiddo y mae鈥檙 penderfyniad yn ymwneud ag ef. Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd roi eich rhesymau dros gredu bod y penderfyniad yn berthnasol i鈥檙 eiddo a nodwyd yn Rhan A. Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd nodi pam, ar 么l y penderfyniad, eich bod yn credu bod y cofnod ar y rhestr yn anghywir. Os na rowch yr holl wybodaeth hon, ni ellir derbyn y cynnig o bosibl.

Peidiwch 芒 dewis unrhyw un o鈥檙 blychau eraill. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio鈥檔 gwrthod eich cynnig os gwnewch hynny.

Mae鈥檙 opsiynau hyn wedi鈥檜 crynhoi. Ceir yr union ddatganiadau yn y gyfraith yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apeliadau) (Cymru) 2005.

11. Rhan C: rhesymau manwl

14) Mae鈥檔 rhaid i chi roi rhesymau manwl pam eich bod yn credu bod y cofnod yn y rhestr ardrethu鈥檔 anghywir.

Er enghraifft, o ystyried opsiwn 13/02, efallai y bydd y Swyddog Prisio wedi cynyddu鈥檙 prisiad er mwyn ystyried estyniad i鈥檙 eiddo. Efallai y byddwch yn anghytuno 芒 maint yr estyniad ym manylion yr eiddo a鈥檙 dyddiad y daeth yr estyniad ar gael i鈥檞 ddefnyddio. Dylech egluro hyn, gan ddarparu dimensiynau a dyddiad newydd.

12. Rhan D: manylion am y sawl sy鈥檔 llenwi鈥檙 ffurflen hon

Ychwanegwch y cyfeiriad lle gallwn gysylltu 芒 chi ynghylch yr ap锚l hon. Nid oes angen iddo fod yn gyfeiriad yr eiddo lle rydych yn cynnig y newidiadau.

Bydd llenwi鈥檙 rhan hon o鈥檙 ffurflen yn helpu cyfathrebu rhyngom ni ac unrhyw bart茂on eraill a allai fod yn gysylltiedig 芒鈥檆h ap锚l. Felly, rydym yn awgrymu y dylech lenwi鈥檙 rhan hon mor llawn ag y bo modd.

Os ydych chi鈥檔 asiant, bydd angen i鈥檆h cleient roi yr awdurdod i chi gyflwyno apeliadau ar eu rhan.

15) Ticiwch y blwch sy鈥檔 nodi ym mha rinwedd y gwneir y cynnig, h.y. yr un sy鈥檔 disgrifio gywiraf eich cysylltiad. Ticiwch un blwch yn unig. Os dewiswch 鈥淩hinwedd Arall鈥, esboniwch ym mha rinwedd rydych wedi llofnodi鈥檙 ffurflen.

16) Nodwch eich enw mewn priflythrennau.

17) Dylid nodi eich llofnod arferol oddi tano a dylid nodi鈥檙 dyddiad ar y ffurflen.

18) Nodwch god post llawn y cyfeiriad y dylid anfon gohebiaeth iddo. Fodd bynnag, os yw鈥檙 cyfeiriad hwn eisoes wedi鈥檌 nodi鈥檔 llawn yn Rhan A, nodwch 鈥渇el ym mlwch 1鈥 neu 鈥4鈥 neu 鈥8鈥, pa un bynnag sy鈥檔 briodol.

19) Nodwch eich rhif ff么n yn ystod y dydd (gyda鈥檙 cod STD llawn).

20) Nodwch eich rhif ff么n symudol os gwelwch yn dda (dewisol).

21) Os ydych am gael gohebiaeth drwy e-bost, nodwch eich cyfeiriad e-bost, gan sicrhau ei fod yn glir ac yn gyflawn.

22) Nodwch yn yr adran hon y cyfeirnod (os oes un) yr hoffech iddo gael ei ddyfynnu yn yr holl ohebiaeth yn y dyfodol.

13. Ble i anfon y ffurflen hon

Ar 么l ei llenwi, bydd angen i chi anfon y ffurflen drwy e-bost i wales2017appeals@voa.gov.uk.

14. Ein safonau

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio鈥檔 ymrwymedig i gynnig gwasanaeth o safon i bawb mae鈥檔 ymdrin ag ef. Nodir y safonau gwasanaeth y gallwch eu disgwyl yn siarter yr Asiantaeth.

Sicrhewch fod yr holl adrannau priodol wedi鈥檜 llenwi cyn llofnodi鈥檙 ffurflen hon.

Sylwer bod cynnig yn ddogfen gyhoeddus a gall unrhyw un ei harchwilio. Hefyd, mae鈥檔 rhaid anfon copi o鈥檆h cynnig, gan y Swyddog Prisio, at unrhyw dalwr ardrethi arall yr eiddo y mae eich cynnig yn ymwneud ag ef.