Buddsoddi arian elusennol: canllaw i ymddiriedolwyr
Diweddarwyd 1 Awst 2023
Eich dyletswyddau ymddiriedolwr聽
Fel ymddiriedolwyr, eich prif ddyletswydd yw hyrwyddo dibenion eich elusen. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud eich penderfyniadau buddsoddi er mwyn hyrwyddo鈥檙 dibenion hynny.
Chi sydd i benderfynu sut i fuddsoddi i gefnogi cyflawni dibenion eich elusen dros amser.
Yn dibynnu ar amgylchiadau eich elusen, mae gennych amrediad eang o opsiynau, ond mae鈥檔 rhaid i chi:
- gydymffurfio 芒鈥檙 dyletswyddau 补鈥檙 gofynion cyfreithiol a nodir yn y canllaw hwn
- wneud penderfyniadau er budd pennaf eich elusen
Adolygwch eich dull buddsoddi yn rheolaidd.
Gwneud penderfyniadau
Fel gydag unrhyw benderfyniad ymddiriedolwr arall, wrth wneud eich penderfyniadau buddsoddi mae鈥檔 rhaid i chi ddilyn egwyddorion gwneud penderfyniadau da:
- gweithredu o fewn eich pwerau
- gweithredu鈥檔 ddidwyll a dim ond er buddiannau eich elusen
- sicrhau eich bod yn cael digon o wybodaeth
- ystyried yr holl ffactorau perthnasol
- anwybyddu unrhyw ffactorau amherthnasol
- rheoli gwrthdaro buddiannau
- gwneud penderfyniadau sydd o fewn yr ystod o benderfyniadau y gallai corff ymddiriedolwyr rhesymol eu gwneud
Mae gweithredu er budd pennaf eich elusen yn golygu bob amser gwneud yr hyn rydych chi鈥檔 penderfynu fydd yn helpu鈥檆h elusen orau i gyflawni ei ddibenion, nawr ac ar gyfer y dyfodol. Nid yw鈥檔 ymwneud 芒 diogelu eich elusen er ei mwyn ei hun.
Fel ymddiriedolwyr, mae鈥檔 rhaid i chi beidio 芒 chaniat谩u i鈥檆h cymhellion personol, eich barn na鈥檆h buddiannau effeithio ar y penderfyniadau a wnewch.
Cydymffurfiwch 芒鈥檙 egwyddorion a nodir uchod pan fyddwch yn cynllunio, rheoli ac adolygu buddsoddiadau eich elusen. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad cywir a dangos eich bod wedi gweithredu鈥檔 briodol.
Gweithredu 芒 gofal a sg矛l rhesymol
Fel ymddiriedolwyr:
- mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio gofal a sg矛l rhesymol, gan ddefnyddio鈥檆h sgiliau a鈥檆h profiad a cheisio cyngor pan fydd angen
- dylech roi digon o amser, meddwl ac egni i mewn i鈥檆h r么l. Er enghraifft, trwy baratoi ar gyfer, mynychu a chymryd rhan weithredol ym mhob cyfarfod ymddiriedolwyr
Weithiau gelwir hyn yn ddyletswydd gofal.
Dirprwyo a chadw cofnodion
Dylech gadw cofnod o鈥檆h penderfyniadau buddsoddi a sut y gwnaethoch eu cyrraedd.
Gallwch ddirprwyo rhai penderfyniadau am fuddsoddiadau i bobl eraill. Er enghraifft i:
- reolwr buddsoddi
- cronfa neu gynllun buddsoddi cyfunol
Ond eich cyfrifoldeb chi yw鈥檙 cyfan.
Darganfod mwy am:
Eich pwerau buddsoddi
Gall pob elusen fuddsoddi, ac mae eich pwerau i fuddsoddi fel arfer yn dod o un neu鈥檙 ddau o鈥檙 canlynol:
- eich dogfen lywodraethol
- y gyfraith
Yn gyffredinol, mae ffynhonnell pwerau buddsoddi eich elusen yn dibynnu ar ei strwythur - boed yn gorfforedig (fel yn achos cwmni elusennol) neu beidio.
Ond yn ymarferol, mae gan y rhan fwyaf o ymddiriedolwyr bwerau buddsoddi eang tebyg.
Darganfyddwch mwy am bwerau buddsoddi.
Eich dogfen lywodraethol
Gwiriwch eich dogfen lywodraethol ym mhob achos. Gall osod rhai amodau neu gyfyngiadau ar y defnydd o unrhyw b诺er buddsoddi. Er enghraifft, gall:
- ddweud bod yn rhaid i chi fuddsoddi mewn rhai mathau o fuddsoddiadau neu beidio
- ddweud bod yn rhaid i chi fuddsoddi rhywfaint neu holl arian eich elusen
- gynnwys rheolau eraill ynghylch sut mae鈥檔 rhaid i chi neu sut y gallwch fuddsoddi
Gwiriwch os yw eich dogfen lywodraethol yn cynnwys unrhyw rai o鈥檙 rheolau hyn a sicrhewch eich bod yn eu dilyn.
Dylai eich elusen geisio cyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr am:
- bwerau buddsoddi eich elusen
- reolau yn eich dogfen lywodraethol
Budd preifat
Mae鈥檔 rhaid i ddibenion elusen fod er budd y cyhoedd.
Fodd bynnag, weithiau, gall y ffordd orau i elusen helpu ei fuddiolwyr olygu bod unigolion neu sefydliadau yn cael budd preifat.
Mae budd preifat yn golygu unrhyw fuddion y mae person neu sefydliad yn eu cael gan eich elusen. Mae budd preifat yn 鈥榓chlysurol鈥 os yw (gan ystyried ei natur a鈥檌 swm) yn ganlyniad neu鈥檔 sgil-gynnyrch angenrheidiol i gyflawni dibenion eich elusen.
Gall buddsoddiad y mae eich elusen yn gwneud gynnwys rhywfaint o fudd preifat i eraill, megis perchnogion busnes neu fuddsoddwyr eraill. Mae hyn yn dderbyniol os ydych yn fodlon fod pob un o鈥檙 canlynol yn berthnasol i鈥檙 budd preifat. Mae鈥檔:
- ddim mwy nag achlysurol
- angenrheidiol dan yr amgylchiadau
- yn rhesymol o ran swm
- er budd pennaf eich elusen
Mae鈥檔 rhaid i chi ddefnyddio eich barn i benderfynu os yw unrhyw fudd preifat o fuddsoddiad y mae eich elusen yn ei wneud yn dderbyniol, a gweithredu er budd pennaf eich elusen bob amser.
Dysgwch fwy am fudd preifat.
Buddsoddiad ariannol
Buddsoddiad ariannol yw buddsoddi 芒鈥檙 amcan yn y pen draw o wneud arian drwy un neu鈥檙 ddau o鈥檙 canlynol:
- cynhyrchu incwm o fuddsoddiad
- cynyddu gwerth buddsoddiad (twf cyfalaf)
Gelwir unrhyw arian a wnewch o鈥檙 buddsoddiad yn enillion ariannol.
Dyma rai enghreifftiau:
- rhentu adeilad, anelu at gynhyrchu incwm
- prynu cyfranddaliadau, anelu at gynhyrchu incwm, twf yng ngwerth cyfranddaliadau, neu鈥檙 ddau
- rhoi arian parod ar adnau, gan anelu at gael llog
Gallwch ddefnyddio鈥檙 enillion ariannol at ddibenion eich elusen, ond mae rhai rheolau gwahanol yn gymwys pan fydd eich elusen yn buddsoddi gwaddol parhaol.
Eich dyletswyddau ymddiriedolwr penodol - buddsoddiadau ariannol
Yn ogystal 芒 dyletswyddau ymddiriedolwyr cyffredinol, mae rhai dyletswyddau ymddiriedolwyr penodol wrth wneud buddsoddiadau ariannol:
- ystyried os yw鈥檙 buddsoddiadau yn addas ar gyfer eich elusen os byddant yn bodloni ei hamcanion buddsoddi. Mae hyn yn golygu ystyried pa mor addas yw unrhyw fuddsoddiad ar gyfer eich elusen: y math o fuddsoddiad (er enghraifft, cyfranddaliadau) a buddsoddiadau arbennig o fewn y math hwnnw (er enghraifft, cyfranddaliadau mewn busnes penodol)
- ystyried yr angen i amrywio buddsoddiadau, os yw鈥檔 briodol i鈥檆h elusen, er mwyn lledaenu鈥檙 risg (er enghraifft, bod yn berchen ar gyfranddaliadau mewn nifer o gwmn茂au neu sectorau gwahanol)
- cymryd cyngor gan rywun sydd 芒 phrofiad o faterion buddsoddi, heblaw bod gennych reswm da dros beidio 芒 gwneud hyn. Er enghraifft, os oes gennych ddigon o arbenigedd yn eich gr诺p ymddiriedolwyr neu os oes gennych fuddsoddiadau cyfyngedig neu werth isel
- adolygu buddsoddiadau eich elusen ar adegau priodol
Mae鈥檙 dyletswyddau cyfreithiol hyn yn gymwys i鈥檆h elusen os yw wedi鈥檌 strwythuro fel ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig.
Ar gyfer cwmn茂au elusennol, ac elusennau corfforaethol eraill, nid yw鈥檙 dyletswyddau hyn yn gymwys fel gofynion cyfreithiol heblaw eu bod wedi鈥檜 cynnwys yn nogfen lywodraethol yr elusen. Fodd bynnag, mae鈥檙 Comisiwn yn disgwyl i bob ymddiriedolwr eu dilyn. Bydd hyn yn helpu ymddiriedolwyr i ddangos eu bod yn gweithredu er budd pennaf eu helusen ac yn rheoli ei hadnoddau鈥檔 effeithiol.
Dulliau enghreifftiol 鈥 buddsoddiadau ariannol
Wrth benderfynu ar ddull buddsoddi eich elusen, mae鈥檔 rhaid i chi gydymffurfio 芒鈥檆h dyletswyddau cyffredinol a phenodol fel ymddiriedolwyr a nodir uchod. Mae hyn yn cynnwys ystyried yr holl faterion sy鈥檔 berthnasol i amgylchiadau eich elusen a鈥檆h penderfyniadau am eich dull buddsoddi.
Ar yr amod eich bod yn gwneud hyn, gall y dull buddsoddi y byddwch yn penderfynu arno gynnwys un neu fwy o鈥檙 dulliau o鈥檙 rhestr ganlynol (nad yw鈥檔 hollgynhwysfawr):
- anelu at yr enillion ariannol gorau y gallwch eu cyflawni yn unig, o fewn lefel y risg rydych wedi鈥檌 phenderfynu yn dderbyniol ar gyfer eich elusen
- ochr yn ochr 芒鈥檙 enillion ariannol rydych yn anelu atynt, gan osgoi buddsoddiadau sy鈥檔 gwrthdaro 芒 dibenion eich elusen. Er enghraifft, gall elusen iechyd benderfynu osgoi buddsoddi mewn cwmn茂au sy鈥檔 cynhyrchu alcohol, tybaco, neu fwyd sydd wedi鈥檌 brosesu鈥檔 helaeth yn bennaf; neu elusen amgylcheddol sy鈥檔 penderfynu osgoi buddsoddi mewn tanwydd ffosil
- ochr yn ochr 芒鈥檙 enillion ariannol rydych yn anelu atynt, gan osgoi buddsoddiadau a allai leihau cymorth i鈥檆h elusen neu niweidio ei henw da, yn enwedig ymhlith ei chefnogwyr neu ei fuddiolwyr. Er enghraifft, gall elusen benderfynu osgoi buddsoddi mewn tanwyddau ffosil os yw鈥檙 ymddiriedolwyr yn gallu dangos y byddai hyn er eu budd pennaf trwy osgoi niwed i鈥檞 henw da neu godi arian. Weithiau disgrifir buddsoddiadau yn y categori hwn fel creu gwrthdaro 鈥渁nuniongyrchol鈥 芒 dibenion elusen
- ochr yn ochr 芒鈥檙 elw ariannol rydych yn anelu ato, yn osgoi neu鈥檔 gwneud buddsoddiadau mewn cwmn茂au oherwydd eu harfer ar ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) fel: hinsawdd, hawliau dynol, cynaliadwyedd, effaith gymunedol ac atebolrwydd bwrdd. Gallai cymryd y dull hwn fod er budd pennaf eich elusen pe gallai ddiogelu neu wella gwerth ariannol eich buddsoddiadau neu enillion dros amser, neu oherwydd y bydd yn cefnogi cyflawni dibenion eich elusen yn fwy uniongyrchol
- ochr yn ochr 芒鈥檙 enillion ariannol rydych yn anelu atynt, gan ddefnyddio eich pleidlais cyfranddalwyr, neu gyfleoedd eraill a ddaw gyda鈥檆h buddsoddiad, i ddylanwadu ar arfer cwmn茂au y mae eich elusen wedi鈥檌 buddsoddi ynddynt. Fel gyd补鈥檙 enghraifft uchod, gallai cymryd y dull hwn fod er budd pennaf eich elusen oherwydd gallai ddiogelu neu wella gwerth ariannol eich buddsoddiadau neu enillion dros amser, neu oherwydd y bydd yn cefnogi cyflawni dibenion eich elusen yn fwy uniongyrchol.
Buddsoddiadau sy鈥檔 gwrthdaro 芒 dibenion eich elusen
Os byddwch yn nodi y gallai buddsoddiad (cyfredol neu arfaethedig) wrthdaro 芒 dibenion eich elusen neu niweidio ei henw da, mae hyn yn ffactor perthnasol ar gyfer eich penderfyniad.
Mae鈥檙 gyfraith yn dweud mai chi sydd i benderfynu os ydych am wneud y buddsoddiad neu beidio, gan weithredu yn unol 芒鈥檆h dyletswyddau fel ymddiriedolwr, a chydbwyso鈥檙 canlynol:
- yr holl ffactorau sy鈥檔 berthnasol i amgylchiadau a phenderfyniadau buddsoddi eich elusen
- maint unrhyw wrthdaro posibl a pha mor debygol a difrifol ydyw
- unrhyw effaith ariannol bosibl o benderfyniad i eithrio鈥檙 buddsoddiad a pha mor debygol a difrifol yw hyn
Y sail gyfreithiol a gyhoeddwyd gyd补鈥檙 canllaw hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y gyfraith ar fuddsoddiadau ariannol sy鈥檔 gwrthdaro.
Sut bynnag y byddwch yn penderfynu buddsoddi, mae鈥檔 rhaid i chi gydbwyso鈥檙 buddion posibl o gymryd agwedd arbennig ag unrhyw risgiau i鈥檆h elusen. Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h dull gweithredu fod er budd pennaf eich elusen.
Buddsoddiad cymdeithasol
Yn ogystal 芒鈥檙 dulliau a ddangosir yn y rhestr uchod, gallwch hefyd fuddsoddi 芒鈥檙 bwriad o gyflawni dibenion eich elusen yn uniongyrchol drwy鈥檙 buddsoddiad a gwneud elw ariannol.
Mae cyfraith elusennau yn galw hyn yn fuddsoddiad cymdeithasol.
Os yw eich elusen yn gwneud buddsoddiad cymdeithasol, mae鈥檙 dyletswyddau ymddiriedolwyr penodol sy鈥檔 berthnasol yn wahanol i鈥檙 rhai sy鈥檔 berthnasol i fuddsoddiad ariannol.
Dysgwch fwy am ddulliau buddsoddi cymdeithasol yn adran nesaf y canllaw hwn.
Elusennau sy鈥檔 buddsoddi arian dros ben yn bennaf
Mae rhoi arian dros ben ar adnau yn cyfrif fel buddsoddiad. Er bod y dyletswyddau ymddiriedolwyr sy鈥檔 berthnasol yr un fath, mae鈥檔 debygol mai adran ddiweddarach o鈥檙 canllaw hwn fydd fwyaf defnyddiol ar gyfer elusennau sy鈥檔 buddsoddi arian yn bennaf.
Mae鈥檙 adrannau eraill yn y canllaw hwn yn darparu manylion yn bennaf ar gyfer elusennau sydd ag amrediad ehangach o fuddsoddiadau.
Buddsoddiad cymdeithasol
Beth mae buddsoddiad cymdeithasol yn ei olygu
Mae Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd) yn dweud mai buddsoddiad cymdeithasol yw pan fydd ymddiriedolwyr elusen yn defnyddio arian neu eiddo 芒鈥檙 bwriad o:
- gyflawni dibenion eu helusen yn uniongyrchol drwy鈥檙 buddsoddiad
- wneud elw ariannol
Mae鈥檙 diffiniad hwn yn cwmpasu amrediad o ddulliau gweithredu a ganiateir y mae elusennau ac eraill yn rhoi enwau gwahanol iddynt.
Er enghraifft:
- elusen lleddfu tlodi sy鈥檔 gwneud rhai buddsoddiadau mewn tai fforddiadwy, meddygaeth fforddiadwy, neu mewn cwmn茂au sy鈥檔 talu cyflog byw i weithwyr, ochr yn ochr 芒鈥檙 elw ariannol y mae鈥檙 ymddiriedolwyr yn anelu ato o鈥檙 buddsoddiad. Mae hyn yn helpu i gael effaith gadarnhaol i gefnogi dibenion yr elusen, tra bod arian yr elusen yn cael ei fuddsoddi
- elusen ddatblygu sy鈥檔 rhoi benthyciad i fusnes ffermio ar raddfa fach. Mae hyn yn helpu i gyflawni dibenion yr elusen yn uniongyrchol drwy鈥檙 buddsoddiad drwy ddod 芒 buddion i鈥檙 boblogaeth leol, yn ogystal 芒 darparu enillion ariannol o log ar y benthyciad ac ad-daliad ohono.
Gall buddsoddiad cymdeithasol fod ar sawl ffurf fel:
- gwneud benthyciadau
- cymryd ymrwymiad, er enghraifft trwy roi gwarant
- prynu cyfranddaliadau mewn cwmni preifat
Mae Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd) yn rhoi p诺er i elusennau wneud buddsoddiadau cymdeithasol, ac eithrio elusennau a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol neu ddeddfwriaeth. Gall y mathau hyn o elusennau ddibynnu ar eu pwerau dogfen lywodraethol i wneud buddsoddiadau cymdeithasol. Dylech geisio cyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr ynghylch pwerau buddsoddi eich elusen.
Dyletswyddau ymddiriedolwyr
Wrth wneud eich penderfyniadau buddsoddi cymdeithasol mae鈥檔 rhaid i chi gydymffurfio 芒鈥檙 ddau a ganlyn:
- eich dyletswyddau cyffredinol fel ymddiriedolwyr 补鈥檙 egwyddorion gwneud penderfyniadau y cyfeirir atynt ar ddechrau鈥檙 canllaw hwn
- dyletswyddau cyfreithiol penodol sy鈥檔 berthnasol i fuddsoddiad cymdeithasol, a nodir isod. Mae鈥檙 rhain yn wahanol i鈥檙 dyletswyddau cyfreithiol penodol sy鈥檔 berthnasol i fuddsoddiad ariannol
Ym mhob achos, gwiriwch a dilynwch unrhyw reolau dogfen lywodraethol ynghylch os gall neu sut y gall eich elusen wneud buddsoddiadau cymdeithasol.
Buddsoddiad cymhelliad cymysg a sy鈥檔 gysylltiedig 芒 rhaglen聽
Mae鈥檙 Comisiwn wedi defnyddio鈥檙 termau canlynol o鈥檙 blaen:
- 鈥渂uddsoddiad sy鈥檔 gysylltiedig 芒 rhaglen鈥 i ddisgrifio elusennau sy鈥檔 buddsoddi鈥檔 bennaf i gyflawni eu dibenion
- 鈥渂uddsoddiad cymhelliad cymysg鈥 i ddisgrifio elusennau sy鈥檔 buddsoddi i wneud elw ariannol a chyflawni eu dibenion
Nid ydym yn defnyddio鈥檙 termau hyn rhagor oherwydd ein bod o鈥檙 farn bod y gweithgareddau y maent yn eu disgrifio yn debygol o gael eu cwmpasu gan ddiffiniad y gyfraith elusennau o fuddsoddiad cymdeithasol.
Os oes gan eich elusen fuddsoddiadau rydych yn eu disgrifio ar hyn o bryd fel rhai 鈥渃ysylltiedig 芒 rhaglen鈥 neu 鈥済ymhelliad cymysg,鈥 efallai yr hoffech ailystyried sut rydych yn eu hadnabod. Ond chi sydd i benderfynu pa dermau a ddefnyddiwch yn eich elusen i ddisgrifio buddsoddiad sydd o fewn diffiniad y gyfraith elusennau o fuddsoddiad cymdeithasol.
Dylech nodi bod y yn dal i ddefnyddio (ac yn diffinio) y termau buddsoddiadau 鈥渟y鈥檔 gysylltiedig 芒 rhaglen鈥 a 鈥渃hymhelliant cymysg鈥, felly mae鈥檙 telerau鈥檔 dal yn berthnasol wrth ystyried y driniaeth gyfrifo ar gyfer y mathau hyn o fuddsoddiadau.
Dilynwch y canllawiau isod ar gyfer cynllunio, rheoli ac adolygu鈥檙 buddsoddiadau hyn.
Beth yw elw ariannol o fuddsoddiad cymdeithasol
Mae buddsoddiad cymdeithasol yn sicrhau enillion ariannol os yw eich elusen, mewn termau ariannol, yn well ei byd o鈥檙 buddsoddiad nag y byddai pe bai鈥檙 arian neu鈥檙 eiddo yn cael ei wario.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid disgwyl i o leiaf rhywfaint o arian ddod yn 么l i鈥檆h elusen o fuddsoddiad cymdeithasol. Gall yr elw ariannol disgwyliedig ar fuddsoddiad cymdeithasol fod yn adenillion o鈥檙 arian a fuddsoddwyd, ynghyd 芒 thwf cyfalaf neu incwm.
Gall hefyd fod pan fydd eich elusen ond yn disgwyl derbyn rhywfaint neu鈥檙 cyfan o鈥檙 arian a fuddsoddwyd gennych yn 么l, heb unrhyw dwf cyfalaf nac incwm.
Pan fyddwch chi鈥檔 gwneud buddsoddiad cymdeithasol, gallwch chi benderfynu beth rydych chi鈥檔 anelu ato:
-
o鈥檙 enillion ariannol; a
-
thrwy helpu i gyflawni dibenion eich elusen
Nid oes rhaid i chi nodi鈥檙 union elw rydych yn bwriadu eu gwneud ar gyfer pob un o鈥檙 canlyniadau hyn, ond gallwch benderfynu gwneud hyn.
Dylai fod gennych rywfaint o gofnod o鈥檆h nodau a鈥檆h elwau disgwyliedig fel y gellir eu hadolygu os oes angen. Mae鈥檔 rhaid i chi fod yn fodlon, gyda鈥檌 gilydd, bod yr elw disgwyliedig er budd pennaf eich elusen.
Darllenwch yr adran hon o鈥檙 canllaw, os ydych yn defnyddio gwaddol parhaol eich elusen i wneud buddsoddiadau cymdeithasol.
Gwneud penderfyniadau am fuddsoddiadau cymdeithasol
Wrth benderfynu os yw buddsoddiad cymdeithasol er budd pennaf eich elusen, cydymffurfiwch 芒鈥檙 egwyddorion gwneud penderfyniadau a meddyliwch am:
-
sut mae鈥檙 buddsoddiad cymdeithasol yn cyd-fynd 芒 sefyllfa ariannol gyffredinol, cynlluniau gwariant a chynlluniau eich elusen ar gyfer cyflawni ei ddibenion
-
yr hyn rydych yn ei ddisgwyl o鈥檙 buddsoddiad - yr elw ariannol a鈥檆h helpu i gyflawni dibenion eich elusen
-
y risg na fydd y buddsoddiad cymdeithasol yn cyflawni (neu鈥檔 tanberfformio) ar eich disgwyliadau
-
gost gwneud y buddsoddiad
-
faint o amser rydych yn bwriadu buddsoddi arian eich elusen, a鈥檆h trefniadau ymadael
-
sut y byddwch yn mesur ac yn monitro perfformiad y buddsoddiad cymdeithasol
-
y driniaeth dreth y buddsoddiad
Mae鈥檔 rhaid i chi hefyd gydymffurfio 芒鈥檆h dyletswyddau cyfreithiol penodol i gymryd cyngor ar unrhyw fuddsoddiadau cymdeithasol ac adolygu鈥檙 rhain.
Eich dyletswydd i gymryd cyngor
Cyn i chi wneud unrhyw fuddsoddiadau cymdeithasol, mae鈥檔 rhaid i chi wneud pob un o鈥檙 canlynol:
-
penderfynwch os dylech gymryd unrhyw gyngor am y buddsoddiad cymdeithasol arfaethedig
-
ystyriwch unrhyw gyngor a gymerwch
-
bod yn fodlon fod y buddsoddiad cymdeithasol er budd eich elusen, gan ystyried yr hyn rydych yn disgwyl wrth helpu i gyflawni dibenion eich elusen a gwneud elw ariannol
Efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol, ariannol neu gyfrifyddu arnoch ar eich cynigion.
Yn dibynnu ar arbenigedd perthnasol y cynghorydd gallai hyn fod, er enghraifft:
-
person proffesiynol y tu allan i鈥檆h elusen
-
ymddiriedolwr
-
eich staff
Fel ymddiriedolwyr, mae鈥檔 rhaid i chi ystyried y cyngor a bod yn fodlon fod y buddsoddiad cymdeithasol er budd yr elusen.
Cadwch gofnod o鈥檆h penderfyniadau 补鈥檙 rhesymau drostynt.
Eich dyletswydd i adolygu buddsoddiadau cymdeithasol eich elusen
Mae鈥檔 rhaid i chi adolygu buddsoddiadau cymdeithasol eich elusen. Dewiswch gyfnodau adolygu sy鈥檔 adlewyrchu amgylchiadau eich elusen.
Fel rhan o鈥檆h adolygiad, mae鈥檔 rhaid i chi ystyried os oes angen unrhyw gyngor arnoch. Gall os oes angen cyngor arnoch newid 芒 phob adolygiad.
Gwarantau
Er nad yw gwarantau fel arfer yn fuddsoddiadau, gellir eu rhoi fel buddsoddiad cymdeithasol.
Mae rhoi gwarant yn golygu cytuno i fod yn gyfrifol am dalu costau neu rwymedigaethau a fyddai fel arall yn cael eu talu gan rywun arall.
Er enghraifft, elusen ddigartrefedd yn cytuno i dalu rhent tenant i landlord os nad yw鈥檙 tenant yn ei dalu.
Os ydych yn rhoi gwarant fel buddsoddiad cymdeithasol, mae鈥檔 rhaid i chi gyflawni dibenion eich elusen yn uniongyrchol drwy鈥檙 buddsoddiad fel rhan o鈥檆h cymhelliant.
Mae鈥檙 diffiniad o enillion ariannol yn wahanol os ydych yn rhoi gwarant fel buddsoddiad cymdeithasol. Byddwch yn cael enillion ariannol o roi gwarant os bydd un o鈥檙 canlynol yn digwydd:
-
ni chaiff y warant ei alw
-
dim ond yn rhannol y mae鈥檙 warant yn cael ei alw
Mae hyn yn golygu, yn wahanol i fathau eraill o fuddsoddiad cymdeithasol, gall gwarant fod yn fuddsoddiad cymdeithasol heb ddisgwyliad y bydd unrhyw arian yn dod yn 么l i鈥檆h elusen.
Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y mae rhoi gwarant yn debygol o fod yn briodol a dylech ddeall y risgiau rydych yn eu cymryd wrth roi gwarant.
Pennu polisi buddsoddi eich elusen
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h penderfyniadau am eich polisi buddsoddi:
-
fod er budd pennaf eich elusen
-
gydymffurfio 芒鈥檆h dyletswyddau fel ymddiriedolwr ac egwyddorion gwneud penderfyniadau da
Eich amcanion buddsoddi
Wrth feddwl am yr hyn rydych yn anelu ato o fuddsoddiadau eich elusen, mae鈥檔 rhaid i chi benderfynu beth sydd er budd pennaf eich elusen, gan ystyried yr holl ffactorau perthnasol gan gynnwys:
-
y swm sydd gennych i鈥檞 fuddsoddi
-
sefyllfa ariannol gyffredinol eich elusen, gan gynnwys ei hanghenion hirdymor a byrdymor
-
sut rydych wedi penderfynu y dylai eich buddsoddiadau gyfrannu at sefyllfa a darpariaeth ariannol eich elusen o鈥檌 ddibenion
Yn dibynnu ar amgylchiadau eich elusen, efallai y byddwch yn penderfynu ei bod yn well i鈥檆h elusen ganolbwyntio ar un neu fwy o鈥檙 canlynol:
-
cael y swm uchaf o incwm y gallwch, neu gadw incwm yn sefydlog
-
cynyddu gwerth eich buddsoddiadau, neu gadw gwerth yn sefydlog
-
cyflawni dibenion eich elusen yn uniongyrchol drwy鈥檙 buddsoddiad
Mae rhai rheolau gwahanol yn berthnasol i鈥檆h amcan buddsoddi pan fydd eich elusen yn buddsoddi gwaddol parhaol.
Wrth osod polisi buddsoddi eich elusen dylech hefyd feddwl am eich:
-
amserlen ar gyfer buddsoddi
-
mynediad at arian eich elusen
-
agwedd at risg
Eich amserlen ar gyfer buddsoddi
Dylech ystyried amserlen eich elusen ar gyfer buddsoddi.
Meddyliwch am ba mor hir rydych chi鈥檔 bwriadu buddsoddi arian eich elusen.
Mae rhai buddsoddiadau yn fwy addas fel buddsoddiadau tymor byr ac mae eraill yn well ar gyfer y tymor canolig neu鈥檙 tymor hir.
Gall eich amserlen ar gyfer buddsoddi hefyd ddylanwadu ar faint o risg rydych yn fodlon ei derbyn er mwyn sicrhau lefel arbennig o enillion i鈥檆h elusen.
Mynediad at arian eich elusen (hylifedd)
Meddyliwch os byddwch chi鈥檔 gallu cael gafael ar arian eich elusen pan fydd ei angen arnoch chi.
Ni allwch drosi rhai mathau o fuddsoddiadau yn arian parod mor gyflym ag eraill.
Eich agwedd at risg
Mae鈥檙 rhan fwyaf o fuddsoddiadau yn cynnwys risg. Fel ymddiriedolwyr, dylech sicrhau eich bod yn:
-
adnabod a rheoli risg
-
ystyried risgiau tymor byr a hirdymor
-
penderfynu pa lefel o risg rydych yn fodlon ei derbyn er mwyn cyflawni lefel arbennig o enillion i鈥檆h elusen. Fel rhan o鈥檆h dyletswyddau dylech fod yn fodlon bod lefel gyffredinol y risg rydych yn ei chymryd yn briodol i鈥檆h elusen a鈥檌 hamgylchiadau
-
ceisio cyngor proffesiynol, lle鈥檔 briodol, ar agwedd eich elusen at risg, 补鈥檙 mathau o risg a allai fod yn berthnasol i鈥檆h elusen
Mae enghreifftiau o risgiau ariannol y gallai fod angen i chi eu hystyried yn cynnwys:
-
risg cyfalaf: colli rhywfaint, neu鈥檙 cyfan, o鈥檙 arian a fuddsoddwyd gennych os bydd buddsoddiad yn methu
-
risg y farchnad: colled oherwydd amrywiadau yn y marchnadoedd ariannol
-
risg sector: colled o gael gormod o鈥檆h buddsoddiadau mewn un sector
-
risg arian cyfred: colled o newidiadau i gyfraddau cyfnewid buddsoddiad a brisiwyd mewn arian cyfred gwahanol
-
risg amgylcheddol, cymdeithasol neu lywodraethol (ESG): colled oherwydd arfer ESG gwael gan gwmni rydych wedi buddsoddi ynddo
-
risg reoleiddiol: colled oherwydd buddsoddi mewn buddsoddiadau heb eu rheoleiddio, neu mewn marchnadoedd lle mae rheoleiddio gwasanaethau ariannol yn llai trwyadl neu lle nad oes cynlluniau iawndal ar waith
Mae enghreifftiau o risgiau eraill i鈥檆h elusen y dylech eu hystyried yn cynnwys:
-
risg i enw da: llai o gymorth i鈥檆h elusen neu niwed i鈥檞 henw da o ganlyniad i鈥檆h dull buddsoddi
-
risg sy鈥檔 gysylltiedig 芒 chyflawni dibenion eich elusen o fuddsoddiadau sy鈥檔 gwrthdaro 芒 nhw
Ysgrifennu eich dogfen polisi buddsoddi
Mae鈥檔 rhaid i chi gael polisi buddsoddi ysgrifenedig os yw eich dogfen lywodraethol yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael un neu os yw eich elusen:
-
wedi鈥檌 strwythuro fel ymddiriedolaeth, neu鈥檔 gymdeithas anghorfforedig, ac
-
yn rhoi pwerau i reolwr buddsoddi wneud penderfyniadau buddsoddi ar eich rhan
Os yw eich elusen yn gwmni, neu鈥檔 fath arall o elusen gorfforedig, nid yw鈥檔 ofynnol yn gyfreithiol i chi gael polisi buddsoddi ysgrifenedig heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae鈥檙 Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy鈥檔 buddsoddi gael polisi ysgrifenedig. Gall hon fod yn ddogfen syml os yw eich swm ar gyfer buddsoddiad yn fach.
Gallwch gael cyngor wrth osod eich polisi buddsoddi, ond dylech sicrhau eich bod:
-
yn ystyried y cyngor yn wrthrychol, ac yn gwneud yr hyn sydd orau i鈥檆h elusen
-
yn nodi a rheoli unrhyw botensial gwrthdaro buddiannau sy鈥檔 effeithio ar gynghorydd
Sicrhewch fod yr holl ymddiriedolwyr, staff perthnasol, is-bwyllgorau a鈥檆h cynghorwyr proffesiynol yn gyfarwydd 芒鈥檆h polisi, ac os yw鈥檔 briodol yn gallu ei weithredu.
Dylai eich polisi gynnwys dibenion a chynlluniau eich elusen a sut mae eich buddsoddiadau yn cyd-fynd 芒鈥檙 rhain
Gall hefyd gynnwys y canlynol, yn dibynnu ar faint a chymhlethdod eich elusen:
-
beth, os o gwbl, mae dogfen lywodraethol eich elusen yn dweud am sut mae鈥檔 rhaid i chi fuddsoddi
-
amcanion buddsoddi eich elusen, gan gynnwys unrhyw ffactorau perthnasol o ran enw da a ffactorau anariannol eraill
-
unrhyw sectorau neu sefydliadau yr ystyriwch eu bod yn gwrthdaro 芒 dibenion eich elusen
-
eich amserlen ar gyfer buddsoddi - tymor byr, canolig neu hir
-
pa mor hawdd neu aml y mae angen mynediad at arian eich elusen
-
agwedd eich elusen at risg
-
eich ymagwedd, os o gwbl, at ffactorau ESG a鈥檆h ymgysylltiad 芒鈥檙 cwmn茂au rydych yn buddsoddi ynddynt
-
sut y byddwch yn monitro ac adolygu eich buddsoddiadau, gan gynnwys meincnodau allweddol
-
pwy yw eich cynghorwyr buddsoddi a rheolwyr, eu cyfrifoldeb a鈥檜 cylch gwaith, a sut y byddwch yn gweithio gyda nhw
Adolygwch eich polisi yn rheolaidd a鈥檌 drafod ag ymddiriedolwyr newydd.
Mae鈥檔 annhebygol y bydd gan y Comisiwn bryderon am eich penderfyniadau neu bolisi buddsoddi os gallwch ddangos eich bod wedi:
-
cydymffurfio 芒鈥檆h dyletswyddau fel ymddiriedolwr a鈥檆h dogfen lywodraethol
-
ystyried a chydbwyso ffactorau perthnasol
-
cymryd cyngor, heblaw bod gennych reswm da dros beidio 芒 gwneud hynny.
-
dod i benderfyniad rhesymol
Mathau o fuddsoddiad
Mae enghreifftiau o fuddsoddiadau ariannol yn cynnwys:
-
adneuon arian parod sy鈥檔 dwyn llog mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu
-
cyfranddaliadau mewn cwmni preifat neu restredig (ecwit茂au)
-
benthyciadau sy鈥檔 dwyn llog i gwmni neu鈥檙 llywodraeth (bondiau neu giltiau)
-
benthyciadau i elusennau neu fentrau cymdeithasol eraill
-
adeiladau neu dir
-
cynlluniau buddsoddi cyfunol, gan gynnwys y rhai y gall elusennau yn unig fuddsoddi ynddynt megis cronfeydd adnau cyffredin or charity authorised investment funds
-
cronfeydd rhagfantoli
-
nwyddau
-
deilliadau
Gall buddsoddiadau cymdeithasol fod ar amrywiaeth o ffurfiau megis:
-
benthyciadau
-
rhoi gwarantau
-
buddsoddi yn ecwiti cwmni preifat
Nid yw pob un o鈥檙 opsiynau hyn yn gyffredin nac yn brif ffrwd i bob elusen. Nid yw鈥檙 rhestr yn hollgynhwysfawr a bydd cynhyrchion a dulliau buddsoddi newydd ar gael dros amser.
Ym mhob achos mae鈥檙 Comisiwn yn disgwyl i chi ystyried:
-
pa mor addas yw unrhyw fuddsoddiad i鈥檆h elusen - bydd hyn yn cael ei ddylanwadu gan eich agwedd at risg ar draws eich portffolio buddsoddi
-
yr angen i gael cymysgedd o asedau yn eich portffolios - gall hyn ddiogelu eich buddsoddiadau rhag amrywiadau sydyn yn y farchnad a lleihau鈥檙 risg o golled
Buddsoddiadau risg uchel
Gall rhai buddsoddiadau fod yn risg uwch. Mae鈥檙 rhain yn debygol o fod yn addas dim ond os oes gan eich elusen ddigon o fuddsoddiadau i ledaenu risg yn effeithiol a byddant yn dibynnu ar eich lefel risg y cytunwyd arni a ffactorau eraill megis maint cronfa fuddsoddi eich elusen.
Er efallai na fyddwch yn gallu cyfiawnhau polisi buddsoddi sy鈥檔 golygu ysgwyddo lefel uchel o risg gyffredinol, efallai y byddai鈥檔 briodol cynnwys rhai buddsoddiadau risg uchel yn y portffolio cyffredinol.
Dylech geisio cyngor proffesiynol os ydych yn meddwl am fuddsoddiadau risg uchel. Gallwch hefyd ddarganfod .
Mae asedau crypto yn enghraifft o fuddsoddiad risg uchel. Mae鈥檔 annhebygol o fod yn addas i鈥檙 rhan fwyaf o elusennau fuddsoddi mewn asedau crypto. Mae鈥檙 buddsoddiadau hyn yn risg uchel iawn ac ychydig iawn o amddiffyniadau sydd ganddynt os aiff rhywbeth o鈥檌 le.
Mae鈥檔 rhaid i chi ddeall y risgiau o fuddsoddi mewn asedau crypto cyn unrhyw fuddsoddiad, gan y gallent golli eu gwerth.
Fel gyda buddsoddiadau risg uchel eraill, dylech fod yn sicr bod gennych yr arbenigedd i reoli鈥檙 risgiau hyn yn ofalus. Os aiff rhywbeth o鈥檌 le, byddai鈥檙 Comisiwn yn disgwyl tystiolaeth glir o pam y gwnaethoch y buddsoddiadau hyn a gallech fod yn atebol am golledion.
Dysgwch fwy am elusennau sy鈥檔 berchen ar asedau crypto.
Buddsoddi yng nghwmni masnachu eich elusen
Mae rhai elusennau yn sefydlu cwmni ar wah芒n i fasnachu i godi arian neu i gefnogi eu gwaith mewn ffyrdd eraill.
Darllenwch y canllaw hwn cyn buddsoddi arian eich elusen yn ei chwmni masnachu.
Buddsoddi mewn cwmn茂au sy鈥檔 gysylltiedig ag ymddiriedolwyr
Dylech fod yn arbennig o ofalus cyn penderfynu buddsoddi mewn cwmni sy鈥檔 gysylltiedig ag ymddiriedolwr. Yn benodol:
-
mae鈥檔 rhaid i chi wirio a yw dogfen lywodraethol eich elusen yn caniat谩u hyn
-
dylech ystyried cymariaethau 芒 buddsoddiadau eraill sydd ar gael, a gwneud asesiad gwrthrychol a manwl o iechyd a rhagolygon ariannol y cwmni
-
dylech ystyried cael cyngor ar iechyd ariannol y cwmni 补鈥檙 buddsoddiad
-
mae鈥檔 rhaid i chi adolygu鈥檙 buddsoddiad ar adegau addas
-
mae鈥檔 rhaid i chi fod yn fodlon bod gwrthdaro buddiannau wedi鈥檜 nodi a鈥檜 rheoli
-
mae鈥檔 rhaid i chi fod yn fodlon bod unrhyw fudd preifat i ymddiriedolwr yn dderbyniol
Cyn buddsoddi arian eich elusen mewn cwmni sy鈥檔 gysylltiedig ag ymddiriedolwr mae鈥檔 rhaid i chi gydymffurfio 芒鈥檆h dyletswydd i ystyried os yw鈥檙 buddsoddiad yn addas ar gyfer eich elusen. Mae hyn yn gymwys fel gofyniad cyfreithiol yn unig os yw eich elusen wedi鈥檌 strwythuro fel:
-
ymddiriedolaeth
-
cymdeithas anghorfforedig
Os yw eich elusen yn gwmni, neu鈥檔 fath arall o elusen gorfforedig, nid yw鈥檔 ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae鈥檙 Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy鈥檔 gwneud buddsoddiadau ariannol ystyried os yw buddsoddiad yn addas i鈥檞 helusen.
Cymryd cyngor a dirprwyo
Goruchwyliaeth ymddiriedolwyr
Mae gennych chi 补鈥檙 ymddiriedolwyr eraill gyfrifoldeb cyffredinol am fuddsoddi arian eich elusen.
Gallwch ddirprwyo rhai penderfyniadau am fuddsoddiadau i eraill, ond fel ymddiriedolwyr mae鈥檙 cyfrifoldeb yn parhau i fod gennych chi.
Yn dibynnu ar y swm y mae鈥檔 rhaid i鈥檆h elusen ei fuddsoddi, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi:
-
gael o leiaf un ymddiriedolwr 芒 gwybodaeth arbenigol am fuddsoddiadau
-
feddwl pa fathau eraill o brofiad a gwybodaeth fyddai鈥檔 helpu鈥檆h elusen i gyflawni ei pholisi a鈥檌 hamcanion buddsoddi
-
gael is-bwyllgor buddsoddi o ymddiriedolwyr a staff i鈥檆h cynghori
Cymryd cyngor proffesiynol
Mae鈥檔 rhaid i chi geisio cyngor proffesiynol cyn gwneud ac adolygu buddsoddiadau, heblaw bod gennych reswm da dros beidio 芒 gwneud hynny os yw eich elusen wedi鈥檌 strwythuro fel:
-
ymddiriedolaeth
-
cymdeithas anghorfforedig
Os yw eich elusen yn gwmni, neu鈥檔 fath arall o elusen gorfforedig, nid yw鈥檔 ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae鈥檙 Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy鈥檔 buddsoddi wneud hyn.
Dylai cyngor proffesiynol fod yn ddiduedd a dylai gael ei roi gan rywun sydd 芒 phrofiad o faterion ariannol a materion eraill sy鈥檔 berthnasol i ddull buddsoddi eich elusen. Rhoddir cyngor fel arfer gan:
-
reolwr buddsoddi neu gynghorydd
-
ymddiriedolwr neu unigolyn arall sydd 芒 phrofiad a gallu perthnasol
Efallai y byddwch yn penderfynu nad oes angen cyngor proffesiynol allanol arnoch. Er enghraifft, efallai bod gennych:
-
ddigon o arbenigedd yn eich elusen
-
fuddsoddiadau cyfyngedig, gwerth isel
Cadwch gofnod o鈥檆h rhesymau os penderfynwch beidio 芒 chymryd cyngor proffesiynol allanol.
Cael cyngor proffesiynol gan ymddiriedolwr
Os ydych yn ymddiriedolwr sy鈥檔 rhoi cyngor proffesiynol i鈥檆h elusen, chi sy鈥檔 gyfrifol am ansawdd y cyngor hwnnw.
Fel cynghorwyr eraill, gallwch gael eich dal yn gyfrifol os nad yw eich elusen yn bodloni ei hamcanion buddsoddi oherwydd cyngor gwael.
Os yw eich elusen yn ceisio cyngor proffesiynol gan ymddiriedolwr, mae鈥檔 rhaid i chi:
-
ystyried y cyngor yn wrthrychol, a gwneud yr hyn sydd orau i鈥檆h elusen
-
nodi a rheoli unrhyw botensial gwrthdaro buddiannau sy鈥檔 effeithio ar ymddiriedolwr sy鈥檔 rhoi cyngor
Defnyddio rheolwr buddsoddi
Efallai y bydd angen cymorth proffesiynol ychwanegol arnoch i reoli eich buddsoddiadau.
Gall rheolwyr buddsoddi wneud y naill neu鈥檙 llall neu鈥檙 ddau o鈥檙 canlynol:
-
rhoi cyngor i chi ar gynllunio a rheoli buddsoddiadau eich elusen (rheolaeth ymgynghorol)
-
mae ganddynt rai pwerau i wneud penderfyniadau buddsoddi ar eich rhan (rheolaeth ddewisol)
Mae nifer o elusennau yn rhedeg proses dendro ffurfiol wrth ddewis rheolwr buddsoddi.
Wrth eu dewis, dylech feddwl am:
-
sut y byddant yn cyflawni eich polisi buddsoddi, gan gynnwys unrhyw amcanion enw da ac anariannol eraill
-
y math a nifer y portffolios y mae鈥檙 darparwr yn eu rheoli
-
werth yr asedau y maent yn eu rheoli
-
eu profiad o reoli buddsoddiadau elusen
-
eu ffioedd a鈥檜 taliadau yn y tymor byr 补鈥檙 hirdymor
-
eu proses dewis buddsoddiad ac adolygu risg
-
eu gallu i addasu eu hymagwedd i weddu i鈥檆h elusen
-
os oes angen mwy nag un rheolwr buddsoddi arnoch - i helpu i ledaenu risg neu i gael mynediad at gynnyrch neu farchnad benodol
Cymharu rheolwyr buddsoddi a chostau ac ystyried cyfarfod 芒 darparwyr ar y rhestr fer.
Wrth ddewis eich rheolwr dylech fod yn fodlon:
-
bod y rheolwr yn gallu cyflawni polisi ac amcanion buddsoddi eich elusen
-
bod trefniadau adrodd yn eu lle
-
eich bod yn gwybod pa daliadau a thaliadau i鈥檞 disgwyl
-
eich bod yn gwybod am unrhyw fuddion y bydd y rheolwr neu unrhyw un arall yn eu cael o dan eich cytundeb ag ef
-
bod costau鈥檙 trefniant yn werth da am arian eich elusen - gallwch geisio cyngor i鈥檆h helpu i benderfynu ar hyn
Dirprwyo gwneud penderfyniadau i reolwr buddsoddi (rheolaeth ddewisol)
Mae rhai rheolau ychwanegol os byddwch yn rhoi pwerau i鈥檆h rheolwr buddsoddi wneud penderfyniadau buddsoddi ar eich rhan.
Mae鈥檔 rhaid i chi gael y ddau o鈥檙 canlynol os yw eich elusen wedi鈥檌 strwythuro fel ymddiriedolaeth neu gymdeithas anghorfforedig:
-
datganiad polisi buddsoddi ysgrifenedig
-
contract ffurfiol 芒鈥檙 rheolwr
Os yw eich elusen yn gwmni, neu鈥檔 fath arall o elusen gorfforedig, nid yw鈥檔 ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud hyn heblaw bod eich dogfen lywodraethol yn dweud bod yn rhaid i chi. Fodd bynnag, mae鈥檙 Comisiwn yn disgwyl i bob elusen sy鈥檔 gwneud buddsoddiadau ariannol wneud hyn.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h polisi buddsoddi gwmpasu鈥檙 canlynol:
-
cylch gwaith a chyfrifoldebau eich rheolwr buddsoddi: pa benderfyniadau y gallant ac na allant eu gwneud
-
arweiniad i鈥檆h rheolwr ar sut y dylid gwneud penderfyniadau buddsoddi ar ran eich elusen
-
y bydd swyddogaethau dirprwyedig y rheolwr yn cael eu cyflawni er budd pennaf eich elusen
Ni ddylai eich rheolwr buddsoddi baratoi eich polisi buddsoddi. Dyna yw eich r么l fel ymddiriedolwyr. Ond:
-
rydych yn gallu cael cyngor arbenigol annibynnol ar ei gynnwys
-
efallai y byddai鈥檔 ddefnyddiol i chi ymgynghori 芒鈥檆h rheolwr buddsoddi i sicrhau bod ei delerau鈥檔 ymarferol ac yn gyraeddadwy
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h contract ffurfiol 芒鈥檆h rheolwr buddsoddi dewisol ei wneud yn ofynnol iddynt weithredu yn unol 芒鈥檆h datganiad polisi rheoli buddsoddi. Gallwch gynnwys y gofyniad hwn yn y contract.
Ni ddylai鈥檙 contract, heblaw ei fod yn rhesymol angenrheidiol:
-
ganiat谩u i鈥檙 rheolwr benodi dirprwy
-
leihau dyletswydd gofal arferol y rheolwr buddsoddi na gosod cap ar ei atebolrwydd am dorri contract
-
ganiat谩u i鈥檙 rheolwr weithredu mewn sefyllfaoedd a allai arwain at wrthdaro buddiannau
Dylech adolygu鈥檙 contract yn rheolaidd.
Os ydych wedi dirprwyo cyfrifoldebau pleidleisio i鈥檆h rheolwr buddsoddi, dylech fod yn ymwybodol o bolisi pleidleisio鈥檙 rheolwr. Dylech gymryd camau rhesymol i ddeall sut mae eich rheolwr buddsoddi wedi pleidleisio ar eich rhan.
Adolygu perfformiad eich rheolwr buddsoddi
Os ydych wedi penodi rheolwr buddsoddi ar gyfer eich elusen, dylech adolygu鈥檙 gwasanaeth y mae鈥檔 ei ddarparu yn rheolaidd. Dylai hyn ddigwydd yn annibynnol ar y rheolwr.
Dylech chi 补鈥檙 ymddiriedolwyr eraill gynnal yr adolygiad hwn eich hunain, neu gall person neu sefydliad annibynnol weithio gyda chi.
Fel rhan o鈥檆h adolygiad, mae鈥檔 rhaid i chi ystyried:
-
pa mor dda y mae鈥檙 rheolwr yn perfformio
-
os yw鈥檙 rheolwr yn cydymffurfio 芒 pholisi buddsoddi eich elusen
-
os yw telerau鈥檙 penodiad yn dal yn briodol
-
os yw鈥檙 rheolwr yn dal yn addas ar gyfer y r么l
Dylech fod yn barod i ymyrryd drwy, er enghraifft:
-
roi cyfarwyddiadau i鈥檆h rheolwr buddsoddi
-
newid neu ddod 芒鈥檆h cytundeb 芒 nhw i ben
Buddsoddi mewn cronfa neu gynllun buddsoddi cyfun neu gyfunol
Dyma ffordd arall o gael mynediad at reolaeth broffesiynol o fuddsoddiadau eich elusen, ochr yn ochr 芒 buddion eraill.
Mae鈥檙 trefniadau hyn yn caniat谩u i chi gyfuno鈥檆h asedau ar gyfer buddsoddi ag asedau buddsoddwyr eraill, gan gynnwys rhai y gall elusennau yn unig eu defnyddio.
Gall buddsoddi mewn cynllun fel hwn fod yn rhan neu鈥檔 gyfan gwbl o ymagwedd elusen, os yw鈥檙 ymddiriedolwyr yn penderfynu bod hyn yn briodol.
Os oes gennych symiau llai i鈥檞 buddsoddi, gall eu cronni gydag arian buddsoddwyr eraill arbed arian i chi a鈥檆h helpu i ledaenu risg.
Cyn buddsoddi mewn cronfa gyfun dylech fod yn fodlon ei fod yn bodloni anghenion eich elusen, gan ystyried:
-
nodau鈥檙 cynllun a sut mae鈥檔 cyd-fynd 芒鈥檆h polisi buddsoddi
-
ymagwedd y cynllun at unrhyw ffactorau enw da a ffactorau anariannol eraill sy鈥檔 rhan o bolisi ac amcanion buddsoddi eich elusen
-
faint o reolaeth sydd gennych dros y penderfyniadau a wneir yn y cynllun
-
addasrwydd y rheolwr buddsoddi
-
sut mae鈥檔 adrodd ar berfformiad
-
ei chymysgedd o asedau
-
sut mae鈥檔 lledaenu risg
-
ei chostau a鈥檌 thaliadau
Adolygwch gymryd rhan mewn cronfa gyfun yn rheolaidd i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion eich elusen.
Darganfyddwch fwy am gronfeydd buddsoddi cyfun neu gyfunol .
Gwasanaethau ar gyfer dal buddsoddiadau
Os yw eich elusen yn gwmni neu鈥檔 Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE), neu鈥檔 gorff corfforaethol arall, gall ddal buddsoddiadau yn ei henw ei hun.
Ar gyfer mathau eraill o elusennau, megis ymddiriedolaethau ac elusennau anghorfforedig eraill, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 ymddiriedolwyr ddal buddsoddiadau yn eu henwau ar ran eu helusen. Ar gyfer yr elusennau hyn gall arbed costau a bod yn fwy cyfleus penodi enwebai neu geidwad i ddal buddsoddiadau, ond gall unrhyw fath o elusen wneud y penodiadau hyn.
Adolygu ac adrodd ar eich buddsoddiadau
Dylech gytuno ar y targed ar gyfer enillion a chanlyniadau eraill y byddwch yn eu defnyddio i asesu perfformiad eich buddsoddiadau dros gyfnod o amser y cytunwyd arno.
Ystyriwch gael cyngor arbenigol annibynnol i鈥檆h helpu i osod eich targedau.
Os yw eich elusen yn defnyddio rheolwr buddsoddi, gall weithio gyda chi i adolygu perfformiad buddsoddiadau eich elusen.
Gallwch hefyd gymharu perfformiad 芒 pherfformiad elusennau gydag amcanion buddsoddi tebyg.
Dylech adolygu buddsoddiadau eich elusen yn rheolaidd, ac efallai y bydd angen i chi gynnal adolygiad os bydd digwyddiadau eraill yn digwydd megis:
-
os bydd eich buddsoddiadau yn tanberfformio yn erbyn eich targedau
-
os oes newid yn y rhagolygon economaidd
-
os bydd sefyllfa ariannol neu flaenoriaethau eich elusen yn newid yn sylweddol
Adrodd ar eich buddsoddiadau
Mae鈥檔 rhaid i chi ysgrifennu adroddiad blynyddol yr ymddiriedolwyr os yw eich elusen wedi鈥檌 chofrestru 芒鈥檙 Comisiwn Elusennau.
Mae鈥檔 rhaid i鈥檆h adroddiad blynyddol gynnwys esboniad o:
-
sut mae buddsoddiadau eich elusen wedi perfformio yn ystod y flwyddyn
-
beth yw eich polisi buddsoddi, gan gynnwys unrhyw nodau anariannol sydd gennych ar gyfer buddsoddiadau eich elusen
Nid oes angen i elusennau llai neu elusennau ag ychydig neu lai o fuddsoddiadau cymhleth gynnwys gwybodaeth fanwl.
Dysgwch fwy yn Adroddiadau a Chyfrifon Elusennau 补鈥檙 .
Buddsoddi gwaddol parhaol eich elusen
Yn syml, mae gwaddol parhaol yn eiddo y mae鈥檔 rhaid i鈥檆h elusen ei gadw yn hytrach na鈥檌 wario.
I ddarganfod os oes gan eich elusen fuddsoddiadau gwaddol parhaol, edrychwch ar:
-
unrhyw ddogfennau sy鈥檔 dweud wrthych sut mae鈥檔 rhaid cadw a defnyddio buddsoddiadau
-
unrhyw ddogfennau a ddefnyddiwyd i roi buddsoddiadau i鈥檆h elusen
-
ddogfen lywodraethol eich elusen
Gall fod yn anodd dweud os yw eiddo yn waddol parhaol. Cymerwch gyngor bob amser os ydych yn ansicr.
Rheolau safonol
Os oes gan eich elusen fuddsoddiadau sy鈥檔 waddol parhaol fel arfer mae鈥檔 rhaid i chi:
-
gadw鈥檙 cyfalaf a fuddsoddwyd, gan gynnwys ailfuddsoddi unrhyw dwf cyfalaf
-
wario鈥檙 incwm yn unig
Dylech sicrhau eich bod yn rheoli buddsoddiadau gwaddol parhaol mewn ffordd sy鈥檔 cydbwyso angen eich elusen am:
-
ddigon o incwm nawr
-
ddigon o dwf ar gyfer y dyfodol
Gall hyn achosi anawsterau pan fydd incwm llog neu ddifidend yn isel ac enillion cyfalaf yn uchel.
Gall mabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion alluogi ymddiriedolwyr elusen 芒 gwaddoliad parhaol i gymryd camau i fynd i鈥檙 afael ag anawsterau a achosir gan y rheolau safonol.
Cyfanswm enillion buddsoddiad
Gallwch fabwysiadu dull 鈥榗yfanswm elw鈥 o reoli buddsoddiadau gwaddol parhaol eich elusen.
Mae hyn yn caniat谩u i chi wario o鈥檙 holl enillion ar fuddsoddiadau, os derbyniwyd fel incwm neu dwf cyfalaf. Mae鈥檔 golygu y gallwch chi benderfynu faint o gyfanswm eich enillion buddsoddi:
-
i鈥檞 wario ar ddibenion eich elusen
-
i鈥檞 ailfuddsoddi
Er mwyn mabwysiadu dull cyfanswm enillion mae鈥檔 rhaid i chi wneud penderfyniad ffurfiol (drwy basio penderfyniad).
Os byddwch yn mabwysiadu dull cyfanswm enillion, fel ymddiriedolwyr, mae鈥檔 rhaid i chi reoli eich buddsoddiadau gwaddol parhaol mewn ffordd sy鈥檔 caniat谩u i鈥檆h elusen hyrwyddo ei ddibenion nawr ac yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy am gyfanswm yr enillion, 补鈥檙 rheolau y mae鈥檔 rhaid i chi eu dilyn pan fyddwch wedi mabwysiadu dull buddsoddi cyfanswm enillion.
Mae鈥檙 rheolau safonol yn berthnasol os nad ydych wedi mabwysiadu dull cyfanswm elw yn ffurfiol.
Gwaddol parhaol a buddsoddiad cymdeithasol
Os yw eich elusen wedi mabwysiadu ymagwedd cyfanswm enillion at fuddsoddi ei waddol parhaol, gallwch benderfynu ar wah芒n (gwneud penderfyniad ffurfiol) i ddefnyddio rhywfaint neu鈥檙 cyfan o鈥檆h cronfa enillion i wneud buddsoddiadau cymdeithasol y disgwyliwch a allai ddarparu enillion ariannol negyddol neu ansicr.
Mae鈥檔 rhaid i unrhyw golledion gael eu gwrthbwyso (dros amser) gan enillion eraill ym mhortffolio buddsoddiad cyfanswm enillion eich elusen. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gwaddol parhaol eich elusen yn cadw ei werth cyffredinol yn y tymor hir.
Fel ymddiriedolwyr, mae鈥檔 rhaid i chi ddilyn:
-
eich dyletswyddau cyffredinol a phenodol fel ymddiriedolwr wrth ystyried gwneud buddsoddiadau cymdeithasol y disgwylir iddynt wneud elw ariannol negyddol neu ansicr
-
y rheolau eraill yn y [Rheoliadau Elusennau (Cyfanswm yr Elw)] (/government/publications/charity-commission-regulations-total-return) i wneud buddsoddiadau cymdeithasol o鈥檙 math hwn
Darganfyddwch fwy am waddol parhaol.
Treth ar fuddsoddiadau
Mae鈥檔 bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar incwm buddsoddi eich elusen os na allwch fodloni HMRC eich bod wedi gwneud buddsoddiad neu fenthyciad cymeradwy er budd eich elusen, yn hytrach nag fel y gall eich elusen neu unrhyw un arall osgoi treth.
Nid yw鈥檙 canllawiau hyn yn ymdrin 芒 goblygiadau treth buddsoddiadau.
Darllenwch ganllawiau HMRC i elusennau i gael gwybod mwy am dreth rheolau i elusennau, gan gynnwys:
-
rhestr gymeradwy HMRC o fuddsoddiadau
-
sut mae rheolau rhoddion llygredig yn gymwys i roddion o fuddsoddiadau
-
triniaeth dreth elw masnachu
-
triniaeth drethu buddsoddiadau mewn cwmni sy鈥檔 gysylltiedig ag un o鈥檆h ymddiriedolwyr
Cyngor i elusennau sy鈥檔 buddsoddi arian parod yn bennaf
Gall eich elusen gadw arian mewn cyfrif cynilo neu adnau. Mae鈥檙 trefniadau hyn yn cyfrif fel buddsoddiadau.
Mae鈥檙 un dyletswyddau cyfreithiol (a nodir ar ddechrau鈥檙 canllaw hwn) yn berthnasol i benderfyniadau am fuddsoddi mewn arian parod ag i benderfyniadau buddsoddi eraill. Os yw eich elusen yn buddsoddi arian parod yn bennaf gallwch gymryd y camau canlynol i鈥檆h helpu i gydymffurfio 芒鈥檙 rhain.
Diogelu arian eich elusen
Dim ond 芒 darparwr dibynadwy y dylech adneuo arian eich elusen. Er enghraifft, banciau neu gymdeithasau adeiladu a awdurdodwyd gan:
-
[Awdurdod Rheoleiddio Darbodus] (https://www.bankofengland.co.uk/explainers/what-is-the-prudential-regulation-authority-pra)
-
rheolydd ariannol perthnasol mewn unrhyw wlad arall
Darganfyddwch beth yw鈥檙 trefniadau diogelu os bydd eich banc neu gymdeithas adeiladu yn methu, boed yn y DU neu dramor.
Gallwch ddefnyddio 鈥 i weld faint o鈥檆h arian sydd wedi cael ei ddiogelu.
Os oes gennych swm sylweddol i鈥檞 adneuo, meddyliwch am osod uchafswm y gall eich elusen ei roi gydag un darparwr. Gall hyn eich helpu i leihau鈥檙 risg o golled fawr os bydd darparwr yn methu. Mae angen i chi gydbwyso鈥檙 risg is yn erbyn cyfradd llog is ar adneuon symiau llai.
Dewis cyfrif
Dylech ystyried:
-
y cyfraddau llog a gynigir gan ddarparwyr gwahanol
-
pryd y telir llog
-
os telir llog yn gros neu鈥檔 net o dreth - os yw鈥檔 net sicrhewch eich bod yn gallu adennill y dreth
-
unrhyw daliadau neu gosbau sy鈥檔 gymwys os ydych am gael mynediad i鈥檆h arian ar fyr rybudd neu gau eich cyfrif
-
unrhyw ffactorau enw da a ffactorau anariannol eraill sy鈥檔 rhan o bolisi ac amcanion buddsoddi eich elusen, ac os yw鈥檙 rhain yn berthnasol i鈥檆h dewis o gyfrif
Efallai y bydd angen mwy nag un cyfrif ar eich elusen. Er enghraifft, cyfrifon sy鈥檔 eich galluogi i gael mynediad at arian ar fyr rybudd neu rybudd hirach.
Ysgrifennwch bolisi buddsoddi syml
Dylai hyn gynnwys:
-
ble ac am ba hyd y gall eich elusen adneuo arian parod
-
yr uchafswm y gall eich elusen ei adneuo ag un darparwr
-
agwedd eich elusen at adneuon tymor byr, canolig neu hir
Mynnwch gyngor proffesiynol lle鈥檔 briodol
Os oes angen cyngor arnoch, dylai fod gan rywun sydd 芒 gwybodaeth a phrofiad addas.
Adolygu trefniadau yn rheolaidd
Adolygwch eich trefniadau banc yn rheolaidd i sicrhau:
-
eu bod yn dal i ddiwallu anghenion eich elusen
-
bod eich adneuon yn dal i gael eu diogelu鈥檔 briodol
-
bod unrhyw daliadau neu gyfraddau llog yn dal yn gystadleuol
-
eich bod yn fodlon ar lefel y gwasanaeth a ddarperir
Ffyrdd eraill o fuddsoddi arian parod
Mae ffyrdd eraill o fuddsoddi arian parod, yn enwedig ar gyfer elusennau mwy. Mynnwch gyngor am eich opsiynau.
Mae cronfeydd adnau cyffredin yn caniat谩u i chi gyfuno鈥檆h asedau i鈥檞 hadneuo ag asedau elusennau eraill. Trwy gyfuno arian ag elusennau eraill gallwch gael cyfradd llog uwch.
Gall buddsoddi mewn cynllun fel hwn fod yn rhan neu鈥檔 gyfan gwbl o ymagwedd unrhyw elusen.
Dysgwch fwy am gronfeydd adnau cyffredin.
Buddsoddi cronfeydd wrth gefn
Dysgwch fwy am yr hyn y dylech ei ystyried wrth fuddsoddi cronfeydd wrth gefn eich elusen.
Nodyn cyfreithiol
Y prif ffynonellau cyfreithiol sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 canllaw hwn yw:
-
Penderfyniad yr Uchel Lys yn