Newyddion y Comisiwn Elusennau: Gorffennaf 2025
Diweddarwyd 22 Gorffennaf 2025
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mewnwelediadau newydd i gymhellion a sgiliau ymddiriedolwyr
Mae ymchwil newydd gan y Comisiwn Elusennau a Pro Bono Economics yn dangos bod y mwyafrif helaeth o ymddiriedolwyr yn 鈥済adarnhaol iawn鈥 am eu profiad, gydag 8 o bob 10 ymddiriedolwr yn debygol o argymell y r么l i eraill.
Dywedodd dros hanner yr ymddiriedolwyr ifanc fod ymddiriedolaeth yn cefnogi datblygiad eu gyrfa, tra bod ymddiriedolwyr h欧n yn dweud ei fod yn rhoi鈥檙 cyfle iddynt roi rhywbeth yn 么l. Mae鈥檙 ymchwil yn awgrymu symudiad tuag at gydraddoldeb rhywedd ar fyrddau ymddiriedolwyr, gyda 43% o ymddiriedolwyr bellach yn fenywod o鈥檌 gymharu 芒 36% yn 2017.
Mae canfyddiadau鈥檔 awgrymu y gallai rhai byrddau elwa o fwy o bobl 芒 sgiliau penodol gan gynnwys sgiliau cyfreithiol, cyllid, mesurau gwrth-dwyll a marchnata.
Dyma鈥檙 arolwg mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed o gymhellion a sgiliau ymddiriedolwyr. Mae creu darlun gwell o brofiad ymddiriedolwyr yn helpu鈥檙 Comisiwn, llunwyr polisi a鈥檙 sector i ddeall sgiliau, cymhellion a chefndiroedd ymddiriedolwyr presennol yn well, ac ymgysylltu 芒鈥檙 gronfa ehangaf bosibl o dalent ymddiriedolwyr.
Darllenwch y canfyddiadau llawn yma
Canllawiau wedi鈥檜 diweddaru i鈥檆h helpu i ddod o hyd i ymddiriedolwyr newydd
Oeddech chi鈥檔 gwybod mai dim ond 6% o ymddiriedolwyr a ddaeth o hyd i鈥檞 r么l drwy hysbyseb?
Rydym wedi adnewyddu ein canllawiau yn dilyn yr ymchwil ymddiriedolwyr uchod a ddangosodd fod y rhan fwyaf o elusennau yn dibynnu ar rwydweithiau personol eu hymddiriedolwyr wrth lenwi swyddi gwag ar fyrddau.
Archwiliwch ein canllawiau wedi鈥檜 diweddaru am gyngor ymarferol ar gael mynediad at gronfa ehangach o ymgeiswyr, gan gynnwys strategaethau a thechnegau hysbysebu effeithiol i annog ymgeiswyr posibl, ehangu eich cyrhaeddiad a鈥檆h helpu i sicrhau talent newydd gwerthfawr ar gyfer eich bwrdd.
Dod o hyd i ymddiriedolwyr newydd a鈥檜 penodi (CC30)
Fframwaith cyfrifyddu elusen newydd 鈥 y camau nesaf
Mae鈥檙 ymgynghoriad ar ddatblygu Datganiad a Argymhellir ar gyfer Arfer Elusennau (SORP) newydd wedi cau erbyn hyn.
Hoffai鈥檙 corff sy鈥檔 llunio鈥檙 SORP 鈥 sy鈥檔 cynnwys Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau鈥檙 Alban a Chomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon 鈥 ddiolch i bawb a ymatebodd.
Rydym wedi derbyn dros 140 o ymatebion gan randdeiliaid. Mae鈥檙 rhain bellach yn cael eu dadansoddi i lywio鈥檙 fersiwn derfynol o鈥檙 SORP newydd, yr ydym yn anelu at ei gyhoeddi ym mis Hydref 2025.
Bydd y SORP newydd yn dechrau, i鈥檙 elusennau hynny sy鈥檔 ei gymhwyso, mewn blynyddoedd ariannol sy鈥檔 dechrau ar neu ar 么l 1 Ionawr 2026.
Yn y cyfamser, rydym yn annog yr elusennau hynny i baratoi ar gyfer y newidiadau a gyflwynwyd gan y Cyngor Adrodd Ariannol mewn perthynas 芒 chyfrifyddu prydlesi a chydnabod refeniw.
Am fwy o fanylion ar sut i baratoi, cyfeiriwch at
Ffeithiau newydd wedi鈥檜 datgelu am y sector ac ymddiriedaeth y cyhoedd
Rhyddhaodd y Comisiwn Elusennau ddau adroddiad newydd yr wythnos ddiwethaf, gan gynnig cipolwg ar y sector a鈥檙 dirwedd newidiol y mae鈥檔 ei hwynebu.
-
Dangosodd ein hymchwil cyhoeddus blynyddol, yn erbyn cefndir heriol, fod hyder y cyhoedd mewn gwariant elusennol wedi cynyddu a bod ymddiriedaeth mewn elusennau yn parhau鈥檔 uchel. Dywedodd bron i 60% o bobl fod ganddynt ymddiriedaeth uchel 鈥 gan osod elusennau yn ail yn unig i feddygon. Mae鈥檙 ymchwil hefyd yn cynnig cipolwg ar y ffactorau sy鈥檔 sail i ymddiriedaeth y cyhoedd, ar lefelau galw鈥檙 cyhoedd am wasanaethau elusennol, ac ar arferion rhoi elusennol dros amser.
-
Mae mewnwelediadau newydd o ffurflenni blynyddol, a anfonir at y Comisiwn gan y rhan fwyaf o elusennau, yn awgrymu bod elusennau wedi gallu cyfeirio adnoddau ychwanegol at gyflawni eu hamcanion, yng nghanol pwysau ariannol tynnach. Mae ein dadansoddiad o鈥檙 ffurflenni blynyddol diweddaraf yn ffurfio鈥檙 set ddata fwyaf cynhwysfawr sydd ar gael ar y sector, gan ein galluogi i nodi risgiau a thueddiadau鈥檙 sector a chaniat谩u i lunwyr polisi, grwpiau sector a鈥檙 cyhoedd gael dealltwriaeth gyfoethocach o鈥檙 sector elusennol yng Nghymru a Lloegr.
Ceisio eich barn ar bartneriaethau mewn ymateb i argyfyngau
Mae鈥檙 Llywodraeth yn ceisio barn pob elusen sy鈥檔 darparu cefnogaeth, cydlynu a gofal i鈥檙 rhai yr effeithir arnynt gan argyfyngau. Mae鈥檙 ymgynghoriad yn canolbwyntio ar ddyletswyddau newydd posibl ar gyfer 鈥榶matebwyr Categori 1鈥 (megis y gwasanaethau brys ac awdurdodau lleol) i ymgynghori 芒 sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a ffydd ar gynllunio argyfyngau lleol. Fe鈥檌 lansiwyd yn dilyn ymchwiliad i鈥檙 drychineb yn Nh诺r Grenfell a bydd yn helpu i gryfhau parodrwydd ac ymateb i argyfyngau yn y dyfodol. Y dyddiad cau i rannu鈥檆h barn yw dydd Mawrth 16 Medi.
Darllenwch ac ymatebwch i鈥檙 Ymgynghoriad Cryfhau Partneriaethau
Nodwch y dyddiad: Wythnos yr Ymddiriedolwyr 2025
Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn ddigwyddiad blynyddol i arddangos gwaith gwych ymddiriedolwyr ac i roi cyfleoedd i bawb gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth.
Eleni, bydd yn digwydd o 3 鈥 7 Tachwedd.
Drwy gydol yr wythnos bydd cyfle i chi gysylltu ag ymddiriedolwyr eraill i rannu鈥檆h profiadau. Gallwch hefyd ddatblygu鈥檆h sgiliau drwy ystod eang o ddigwyddiadau, hyfforddiant ac arweiniad.
Bydd manylion amserlen y digwyddiad a sut i gofrestru yn cael eu rhannu鈥檔 agosach at y dyddiad.