Canllawiau

Cadw plant yn ddiogel rhag gwybodaeth cam-drin rhywiol (accessible version)

Diweddarwyd 3 Ebrill 2023

Darperir y wybodaeth hon fel rhan o鈥檙 Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw 芒 Phlant, a elwir hefyd yn 鈥淒deddf Sarah鈥. Nod y canllawiau hyn yw rhoi gwybodaeth ymarferol i chi i鈥檆h helpu i ddeall sut y gall cam-drin plant yn rhywiol ddigwydd, a beth allwch chi ei wneud i helpu i amddiffyn eich plentyn neu blentyn sy鈥檔 agos atoch rhag niwed.

Ebrill 2023

Cyflwyniad

Mae llawer o bobl yn teimlo eu bod eisoes yn clywed mwy nag y maent yn ei ddymuno am gam-drin plant yn rhywiol, ac mae clywed am y troseddau hyn, yn y cyfryngau ac yn y gymuned, yn gallu bod yn ofidus iawn.

Yn aml mae鈥檙 teledu, radio a phapurau newydd yn trafod straeon am blant sy鈥檔 cael eu cam-drin, eu cipio a hyd yn oed eu llofruddio, fel arfer gan ddieithriaid, ond mae鈥檔 bwysig gwybod nad yw鈥檙 rhain yn droseddau nodweddiadol. Mae cam-drin rhywiol yn digwydd yn amlach gan bobl sy鈥檔 adnabyddus i鈥檙 plentyn. Mae pobl sy鈥檔 cam-drin plant yn aml yn fedrus iawn wrth adeiladu ymddiriedaeth, gyda鈥檙 plentyn a gyda鈥檜 rhieni, eu gofalwyr, a鈥檜 ffrindiau. Gall cam-drini ddigwydd am flynyddoedd gyda neb yn ymwybodol ohono. Gall y rhyngrwyd hefyd ddarparu cyfleoedd i bobl gysylltu 芒 phlant er mwyn paratoi plentyn am gam-drin - ar-lein ac all-lein.

Fel arfer mae llawer o gyfrinachedd yn ymwneud 芒 cham-drin plant yn rhywiol, ac yn aml bydd plant yn teimlo na fydd yn gallu dweud wrth unrhyw un am y cam-drin pan yw鈥檔 digwydd.[footnote 1]Dyma pam mae鈥檔 bwysig i鈥檙 oedolion o amgylch plentyn fod yn ymwybodol o arwyddion a dangosyddion cam-drin plant yn rhywiol a sut i gadw plant yn ddiogel.

Mae鈥檙 rhan fwyaf o bobl eisiau amddiffyn plant rhag cam-drin o鈥檙 fath. Nid yw cydnabod ymddygiad camdriniol rhywiol bob amser yn hawdd oherwydd efallai nad ydym yn gwybod am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano, a gall fod yn anodd credu y gallai rhywun yr ydym yn ei garu neu鈥檔 ymddiried ynddo ymddwyn yn gamdriniol . Weithiau mae ein hamheuon mor bryderus fel ein bod yn eu gwthio nhw allan o鈥檔 meddyliau.

Efallai eich bod yn poeni am rywun sydd 芒 chysylltiad (gallai hyn fod ar-lein, all-lein neu鈥檙 ddau) gyda鈥檆h plentyn neu bentyn sy鈥檔 agos atoch, ac mae鈥檔 bwysig eich bod yn gwybod beth yw鈥檙 camau cywir i鈥檞 cymryd i godi eich pryderon ac i gymryd y mesurau priodol i gadw鈥檙 plentyn hwnnw鈥檔 ddiogel.

Nod y canllawiau hyn yw rhoi gwybodaeth ymarferol i chi i鈥檆h helpu i ddeall sut mae camdrinwyr a chamdrinwyr posibl yn gweithredu, sut y gallwch nodi arwyddion paratoi perthynas amhriodol a cham-drin plant yn rhywiol, a beth y gallwch ei wneud i helpu i amddiffyn eich plentyn neu blentyn sy鈥檔 agos atoch rhag niwed.

Beth yw cam-drin plant yn rhywiol?

Mae cam-drin plant yn rhywiol yn cynnwys gorfodi neu ddenu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol. Gall y gweithgareddau gynnwys cyswllt corfforol, gweithgareddau di-gyswllt, neu ddigwydd ar-lein.

Mae gweithgarwch cyswllt yn cynnwys:

  • ymosodiad trwy dreiddio, rhoi gwrthrychau neu rannau o鈥檙 corff y tu mewn i geg neu gorff y plentyn;

  • mastyrbio, gan annog plentyn i gyffwrdd ei hun yn rhywiol;

  • cusanu;

  • rhwbio; a

  • chyffwrdd y tu allan i ddillad.

Mae gweithgarwch di-gyswllt yn cynnwys:

  • dangos delweddau rhywiol i blentyn;

  • datgelu organau cenhedlu oedolyn i blentyn yn fwriadol;

  • tynnu delweddau anweddus o blentyn;

  • annog plentyn i dynnu delweddau anweddus ac amhriodol ohono ef ei hun neu eraill;

  • annog plant i ymddwyn mewn ffyrdd rhywiol amhriodol; a

  • paratoi plentyn i gael ei g/cham-drin.

Cam-drin plant yn rhywiol ar-lein

Gall cam-drin rhywiol ddigwydd ar-lein, a gellir defnyddio technoleg i hwyluso cam-drin all-lein. Gall troseddwyr rhywiol 芒 hplant ddefnyddio鈥檙 we mewn nifer o ffyrdd i gam-drin plant, gan gynnwys:

  • cysylltu 芒 phlant a defnyddio鈥檙 rhyngrwyd i鈥檞 paratoi i bwrpas rhyw;

  • annog plant i anfon delweddau anweddus neu gyflawni gweithredoedd rhywiol drwy we-gamera;

  • trefnu i gwrdd 芒 phlentyn yn bersonol i鈥檞 cam-drin; a

  • lawrlwytho, gwylio a/neu rannu delweddau anweddus o blant 芒 phobl eraill ar-lein.

Pwy sy鈥檔 cam-drin plant yn rhywiol?

Mae mwy na dwy ran o dair o blant sy鈥檔 cael eu cam-drin yn rhywiol yn adnabod eu cam-driniwr.[footnote 2]Mae hyn yn golygu bod camdrinwyr rhywiol yn debygol o fod yn bobl rydym yn eu hadnabod ac fe allai fod yn bobl yr ydym yn eu hoffi. Bydd rhai cam-drinwyr yn chwilio am waith neu waith gwirfoddol sy鈥檔 dod 芒 nhw i gysylltiad 芒 phlant. Bydd rhai pobl sy鈥檔 cam-drin yn dal swyddi ymddiriedaeth a all helpu i argyhoeddi pobl eraill eu bod y tu hwnt i amheuon, sy鈥檔 ei gwneud yn anodd i bobl godi eu pryderon. Mae pobl sy鈥檔 cam-drin plant ar-lein yn fedrus wrth feithrin perthnasoedd 芒 phlant yn gyflym, felly mae鈥檔 bosib y bydd plant yn teimlo eu bod yn 鈥榚u hadnabod鈥 ac yn ymddiried ynddynt.

Er ei bod yn fwy cyffredin clywed am gamdrinwyr gwryw, mae menywod hefyd yn gallu cam-drin plant yn rhywiol. Mae rhai pobl ifanc hefyd yn gallu cam-drin plant eraill yn rhywiol. Mae hwn yn fater arbennig o anodd i ddelio ag ef, yn rhannol oherwydd ei bod yn anodd i ni feddwl am blant yn gwneud pethau o鈥檙 fath, ond hefyd oherwydd nad yw bob amser yn hawdd dweud y gwahaniaeth rhwng ymddygiad rhywiol arferol ac ymddygiad rhywiol niweidiol. Ceir gwybodaeth am ddatblygiad rhywiol plant ar :

Daw鈥檙 camdrinwyr o bob dosbarth, cefndir hiliol a chrefyddol, a chyfeiriadedd rhywiol. Mae gan rai pobl sy鈥檔 cam-drin plant berthynas rywiol ag oedolion ac nid oes ganddynt ddiddordeb rhywiol mewn plant yn unig.

Sut mae cam-drin yn digwydd?

Drwy gyrchu plentyn

Mae pobl sy鈥檔 cam-drin plant yn aml yn meithrin perthynas 芒鈥檙 plentyn a鈥檙 oedolion gofalgar sydd am eu gwarchod. Mae llawer yn dda am wneud 鈥渇frindiau鈥 gyda phlant a gyda鈥檙 rhai sy鈥檔 agos atyn nhw.

Gall rhai fod yn ffrindiau i rieni sy鈥檔 wynebu anawsterau neu sydd ar eu pennau eu hunain. Gallant gynnig gwarchod neu gynnig cymorth gyda gofal plant a chyfrifoldebau eraill. Mae rhai yn chwilio am swyddi dibynadwy yn y gymuned sy鈥檔 eu rhoi mewn cysylltiad 芒 phlant, gan ymgymryd 芒 rolau ym maes gofal plant, ysgolion, grwpiau plant, a thimau chwaraeon.

Mae rhai鈥檔 ymweld 芒 llefydd fel arc锚dau, meysydd chwarae, parciau, baddonau nofio ac o amgylch ysgolion lle maen nhw鈥檔 gallu dod i adnabod plant. Mae rhai鈥檔 defnyddio鈥檙 rhyngrwyd i gysylltu 芒 phlant, gan gynnwys drwy ystafelloedd sgwrsio, gwefannau rhwydweithio cymdeithasol, safleoedd gemau rhyngweithiol, a gwefannau eraill a fforymau ar-lein y mae plant yn eu defnyddio. Mae cipio plant yn brin iawn ac yn ffurfio lleiafrif bach iawn o鈥檙 holl droseddau a adroddir.

Boed ar-lein neu all-lein, bydd pobl sy鈥檔 cam-drin plant yn manteisio ar unrhyw fregusrwydd y gallai plentyn (ac, mewn rhai achosion, eu teulu neu ofalwr) eu cael.

Drwy dawelu鈥檙 plentyn

Unwaith y bydd y rhai sy鈥檔 cam-drin wedi cyrchu plentyn, byddant yn aml yn dechrau paratoi nid yn unig y plentyn i bwrpas rhyw ond hefyd yr oedolion o gwmpas y plentyn hwnnw er mwyn ei gwneud yn anodd iawn i鈥檙 plentyn naill ai ddweud wrth rywun am y gam-drin neu i oedolyn eu hamau.

Mae rhoi anrhegion, annog plentyn i gadw cyfrinachau, gwneud bygythiadau, blacmel, datblygu perthynas 鈥渁rbennig鈥, a seboni i gyd yn dechnegau paratoi i bwrpas rhyw sy鈥檔 cael eu defnyddio gan gam-drinwyr, gan gynnwys y rhai sy鈥檔 paratoi plant ar-lein.

Efallai y byddan nhw鈥檔 gwneud i鈥檙 plentyn ofni cael ei frifo鈥檔 gorfforol, ond yn fwy arferol mae鈥檙 bygythiad yn ymwneud 芒鈥檙 hyn a allai ddigwydd os ydyn nhw鈥檔 dweud wrth rywun beth sy鈥檔 digwydd: er enghraifft, y teulu鈥檔 chwalu neu鈥檙 cam-driniwr yn mynd i鈥檙 carchar, neudim ond y byddan nhw鈥檔 mynd i drafferthion eu hunain. Er mwyn cadw鈥檙 gyfrinach am gam-drin, bydd y cam-driniwr yn aml yn chwarae ar ofn, embaras, neu euogrwydd y plentyn am yr hyn sy鈥檔 digwydd, efallai鈥檔 eu hargyhoeddi na fydd neb yn eu credu os ydyn nhw鈥檔 dweud wrth rywun. Weithiau bydd y cam-driniwr yn gwneud i鈥檙 plentyn gredu ei fod ef neu hi wedi mwynhau鈥檙 cam-drini ac wedi bod am iddo ddigwydd. Efallai na fydd gan blant ifanc neu anabl iawn neu鈥檙 rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig y geiriau na鈥檙 modd o gyfathrebu i roi gwybod i bobl beth sy鈥檔 digwydd. Efallai y bydd rhesymau eraill pam fod plentyn yn aros yn dawel a heb ddweud.

Os yw plentyn yn cael ei baratoi ar-lein, efallai y bydd pwysau ychwanegol y bydd cam-driniwr yn ei ddwyn, fel bygythiadau y bydd eu gwybodaeth, cyfrinachau neu ddelweddau鈥檔 cael eu rhannu dros y we a gyda鈥檜 ffrindiau neu eu rhieni.

Nodi arwyddion cam-drin

Mae plant yn dangos i ni鈥檔 aml iawn yn hytrach na dweud wrthym fod rhywbeth yn eu gofidio. Gall fod llawer o resymau dros newidiadau yn eu hymddygiad ond, os ydym yn sylwi ar arwyddion cyffredin, fe allai fod yn amser galw am gymorth neu gyngor. Gall rhai plant ddangos llawer o ddangosyddion o gam-drin, tra efallai na fydd rhai yn dangos unrhyw un, felly mae鈥檔 bwysig cadw meddwl agored bob amser. Mae rhai o鈥檙 arwyddion y gallech sylwi arnynt yn cynnwys (ond heb fod wedi鈥檜 cyfyngu i):

鈥 gweithredu mewn ffordd rywiol amhriodol gyda theganau, gwrthrychau, anifeiliaid, neu blant eraill;

鈥 defnyddio iaith amhriodol, rhywioledig;

鈥 hunllefau a phroblemau cysgu;

鈥 dod yn encilgar neu鈥檔 ymlynol iawn;

鈥 mae personoliaeth yn newid neu鈥檔 ymddangos yn ansicr yn sydyn;

鈥 llithro鈥檔 么l i ymddygiadau iau, e.e., gwlyu鈥檙 gwely neu sugno bawd;

鈥 ofn newydd neu anesboniadwy o lefydd neu bobl arbennig;

鈥 gwrthod/osgoi agosatrwydd neu agosrwydd;

鈥 gwrthsefyll neu fynd yn ofidus gyda gofal personol (e.e., newid cewynnau) neu ddadwisgo ar amser bath/amser gwely, ar gyfer nofio, ac ati;

鈥 ffrwydradau o ddicter;

鈥 cam-drin sylweddau neu hunan-niweidio;

鈥 newidiadau mewn arferion bwyta;

鈥 newidiadau mewn arferion hylendid personol;

鈥 arwyddion corfforol, fel doluriau neu gleisiau anesboniadwy o gwmpas yr organau cenhedlu, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, neu feichiogrwydd;

鈥 dod yn gyfrinachol;

鈥 cynnydd mewn defnydd o neu gyfrinachedd o amgylch eu defnydd o鈥檙 rhyngrwyd;

鈥 derbyn anrhegion nad ydynt yn fodlon eu hesbonio

Nid yw鈥檙 rhestr hon yn gynhwysfawr o bell ffordd, gan y gall plant arddangos arwyddion gwahanol.Gallwch ddysgu rhagor am arwyddion a dangosyddion cam-drin ar wefan y Ganolfan Arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol:

Beth i gadw llygad amdano yn y rhai sydd o amgylch plant

Gall fod achos pryder ynghylch ymddygiad oedolyn neu berson ifanc os ydyn nhw鈥檔:

鈥 mynnu anwyldeb corfforol fel cusanu, cofleidio, neu ymgodymu, hyd yn oed pan fo鈥檙 plentyn yn amlwg ddim yn ei ddymuno;

鈥 bod 芒 diddordeb amlwg yn natblygiad rhywiol plentyn neu berson ifanc yn ei arddegau;

鈥 mynnu amser ar ei ben ei hun gyda phlentyn heb unrhyw ymyrraeth;

鈥 treulio鈥檙 rhan fwyaf o鈥檜 hamser hamdden gyda phlant a heb fawr o ddiddordeb mewn treulio amser gyda phobl eu hoedran eu hunain;

鈥 cynnig yn rheolaidd i warchod plant am ddim neu fynd 芒 phlant ar deithiau dros nos ar eu hunain;

鈥 prynu anrhegion drud i blant neu roi arian iddyn nhw am ddim rheswm amlwg;

鈥 cerdded i mewn yn aml ar blant/pobl ifanc yn eu harddegau yn yr ystafell ymolchi;

鈥 gwrthod caniat谩u digon o breifatrwydd i blentyn neu i wneud eu penderfyniadau eu hunain ar faterion personol;

鈥 trin plentyn penodol fel ffefryn, gan wneud iddo deimlo鈥檔 鈥渁rbennig鈥 o鈥檌 gymharu ag eraill yn y teulu; a/neu

鈥 ceisio torri ar draws y berthynas rhwng y plentyn a rhiant/gofalwr (e.e., drwy eu tanseilio, eu rbychanu neu 鈥済ymryd drosodd鈥 r么l y rhieni).

Nid yw鈥檙 rhestr hon yn gynhwysfawr o bell ffordd, gan y gall rhai cam-drinwyr arddangos ymddygiadau gwahanol. Os oes gennych bryderon am ymddygiad rhywun tuag at blentyn, mae鈥檔 bwysig nad ydych yn eu hanwybyddu.Ceir rhagor o wybodaeth ar gyfer oedolion sy鈥檔 poeni am yr ymddygiad rhywiol tuag at blant pobl y maent yn eu hadnabod yn

Sut i gadw plant yn ddiogel

Y peth pwysicaf y gallwch ei wneud yw bod yn wyliadwrus o amgylch y rhai sydd 芒 mynediad at eich plentyn neu i鈥檆h plant, yn y byd ar-lein ac all-lein, a chadw deialog agored 芒鈥檆h plentyn, gan y bydd hyn yn ei helpu i ddweud wrthych chi os yw鈥檔 poeni am unrhyw beth sy鈥檔 digwydd neu sydd wedi digwydd iddo.

Siaradwch 芒鈥檆h plentyn a gwrando ar beth sydd ganddo i鈥檞 ddweud a gwybod beth mae鈥檔 ei wneud, i ble mae鈥檔 mynd a gyda phwy mae鈥檔 siarad, gan gynnwys pan fydd ar y we. Mae pobl sy鈥檔 cam-drin plant yn rhywiol yn dibynnu ar gyfrinachedd.

Gall cael sgyrsiau rheolaidd am berthnasoedd, rhyw, a chaniat芒d mewn ffordd sy鈥檔 briodol i oedran gyda鈥檆h plentyn helpu i鈥檞 hamddiffyn rhag cam-drin rhywiol. Ceisiwch osgoi unrhyw ddatganiadau dramatig 鈥渕ae angen i ni siarad鈥 - meddyliwch am gyfnod pan mae鈥檙 ddau ohonoch chi鈥檔 gyfforddus, a gallwch godi鈥檙 pwnc yn naturiol, fel gwylio鈥檙 teledu neu ar daith gerdded.Gofynnwch am eu bywydau a dysgu am eu harferion ar-lein ac all-lein. Defnyddiwch gwestiynau agored na ellir eu hateb gydag 鈥渋e鈥 neu 鈥渘a鈥. Mae鈥檔 bwysig ceisio peidio 芒 rhuthro i farn negyddol am yr hyn mae鈥檆h plentyn yn ei ddweud.Cofiwch, rydych chi am i鈥檆h plentyn wybod y gall ddweud wrthych beth sy鈥檔 digwydd.Mae rhagor o wybodaeth am sut i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 sgyrsiau hyn i鈥檞 cael ar wefan y Ganolfan Arbenigedd ar gam-drin plant yn rhywiol:

Anogwch eich plentyn i beidio 芒 chadw cyfrinachau 鈥 ni ddylai oedolion ofyn i blant gadw cyfrinachau a dylent bob amser deimlo eu bod yn gallu dweud wrth rywun os gofynnwyd iddo gadw cyfrinach, gyda鈥檙 ddealltwriaeth na fydden nhw wedyn yn mynd i drafferth am wneud hynny.

Po fwyaf anodd yw hi i鈥檙 rhai sy鈥檔 cam-drin ddod rhwng plant a rhieni neu ofalwyr, mwyaf y bydd y plant yn cael eu gwarchod.Gallwch helpu eich plentyn i adnabod rhywun arall y gall siarad ag ef os yw鈥檔 poeni am siarad 芒 chi, fel ffrind, aelod o鈥檙 teulu, neu aelod o staff yr ysgol.

Rhannwch eich gwybodaeth a鈥檆h profiad o berthnasoedd. Er enghraifft, weithiau mae pobl yn ymddangos yn neis ar y dechrau ac yna maen nhw鈥檔 troi allan i fod yn wael. Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi鈥檔 gwybod hyn, eu bod nhw鈥檔 gallu siarad 芒 chi amdano, ac na fyddwch chi鈥檔 mynd i banic na鈥檜 cosbi os ydyn nhw鈥檔 gwneud hynny.

Dangos i blant ei bod yn iawn i ddweud 鈥渘a鈥. Mae angen i ni addysgu plant pan mae鈥檔 iawn i ddweud 鈥渘a鈥, a ddylen ni ddim mynnu eu bod nhw鈥檔 gwneud rhywbeth nad ydyn nhw am ei wneud; er enghraifft, pan nad ydynt am chwarae neu gael eu gogleisio, eu cofleidio, neu eu cusanu. Rydym hefyd angen eu helpu i ddeall pa ymddygiad sy鈥檔 annerbyniol neu鈥檔 amhriodol, ac y dylent ddweud wrthym neu oedolyn arall y gellir ymddiried ynddo os yw rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy鈥檔 eu poeni.Weithiau mae鈥檙 cam-driniwr yn aelod agos o鈥檙 teulu.

Helpwch eich plentyn i ddeall bod dieithriaid ar-lein yn dal yn ddieithriaid a bod angen iddo gadw ei wybodaeth bersonol yn breifat.Helpwch nhw i ddatblygu amheuaeth iach a yw pobl yr hyn maent yn ei ddweud.Helpwch nhw i ddeall nad yw鈥檔 ddiogel cwrdd 芒 rhywun wyneb yn wyneb y gwnaethon nhw gyfarfod ar-lein am y tro cyntaf ac, os yw rhywun yn gofyn iddyn nhw gyfarfod, dylent ddweud wrth oedolyn dibynadwy. Mae鈥檙 Ganolfan Rhyngrwyd Fwy Diogel wedi cyhoeddi canllawiau ar sut i gadw鈥檔 ddiogel ar y we, gan gynnwys gwybodaeth am sut i reoli mynediad plant at dechnoleg:

Nid yn unig y mae addysgu plant yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud i鈥檞 cadw鈥檔 ddiogel. Cymerwch ragofalon synhwyrol wrth ddewis gofal plant neu weithgareddau y tu allan i鈥檙 ysgol a chanfod cymaint 芒 phosibl am warchodwyr a鈥檙 rhai sy鈥檔 cynnal grwpiau, dosbarthiadau, neu diwtora. Peidiwch 芒 gadael plant gydag unrhyw un y mae gennych amheuon amdanynt. Os yw plentyn yn anhapus am gael gofal gan oedolyn penodol, siaradwch 芒鈥檙 plentyn am y rhesymau dros hyn.

Mae pethau y gallwn ni i gyd eu gwneud i atal cam-drin plant yn rhywiol. Weithiau mae gan berson y tu allan i deulu agos y plentyn farn gliriach o鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd na鈥檙 rhai sy鈥檔 ymwneud yn agosach. Yn fwy na dim, os ydych chi鈥檔 poeni bod gan rywun rydych chi鈥檔 ei adnabod ddiddordeb rhywiol mewn plentyn, gofynnwch am gymorth gan yr heddlu, gwasanaethau plant neu gan yr asiantaethau y manylir arnynt isod.

Ble i fynd i gael help

Mae gan yr heddlu a gwasanaethau plant drefniadau cydweithio ar gyfer ymateb i amheuaeth o gam-drin plant yn rhywiol. Bydd rhywun yn siarad 芒 chi am eich pryderon ac efallai y bydd yn gofyn am fanylion fel bod modd ymchwilio ymhellach i鈥檙 sefyllfa. Mae swyddogion heddlu a gweithwyr cymdeithasol yn brofiadol iawn yn y gwaith hwn a byddant yn delio鈥檔 sensitif 芒鈥檙 plentyn a鈥檙 teulu.

Os ydych yn poeni am ymddygiad unigolyn tuag at blentyn y mae ganddo fynediad uniongyrchol ato, gallwch fynd at yr heddlu i gael gwybodaeth am yr unigolyn hwnnw drwy鈥檙 Cynllun Datgelu Troseddwyr Rhyw 芒 Phlant, a elwir hefyd yn 鈥淒deddf Sarah鈥.Os oes unrhyw wybodaeth yn cael ei chadw ar yr unigolyn hwnnw sy鈥檔 codi pryderon am eu haddasrwydd i fod o amgylch plant, gall yr heddlu naill ai ddatgelu鈥檙 wybodaeth honno i rieni, gofalwyr, neu warcheidwaid y plentyn hwnnw, a/neu eu helpu i weithredu mesurau i amddiffyn y plentyn hwnnw rhag cam-drin posibl.Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cynllun yma:

Os ydych yn poeni am ymddygiad rhywun tuag at blentyn, gallwch gysylltu 芒:

1. Heddlu Lleol

Os yw plentyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.Am gymorth nad yw鈥檔 ymwneud ag argyfwng, gallwch ymweld 芒鈥檆h gorsaf heddlu leol yn bersonol, mynd i wefan eich llu lleol, neu ffonio 101.Gallwch ddod o hyd i wefan eich heddlu lleol yma:

2. Gwasanaethau Plant

Gallwch hefyd gysylltu 芒鈥檆h t卯m gofal cymdeithasol plant lleol yn Mae鈥檙 manylion cyswllt hefyd ar gael yn eich cyfeirlyfr ff么n lleol.

3. Cysylltu 芒鈥檙 Llinell Gymorth Amddiffyn Plant - 0808 800 5000

Yr NSPCC yw prif elusen y DU sy鈥檔 ymroddedig i atal cam-drin plant. Gallwch gysylltu 芒鈥檜 llinell gymorth amddiffyn plant ar 0808 800 5000 neu drwy e-bost yn help@nspcc.org.uk (neu talk@nspcc.org.uk os ydych chi鈥檔 e-bostio o Ogledd Iwerddon).Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma:

4. Llinell Gymorth y DU ac Iwerddon - 0808 1000 900

Llinell gymorth gyfrinachol yw hon ar gyfer oedolion sy鈥檔 poeni am ymddygiad rhywiol pobl y maen nhw鈥檔 eu hadnabod tuag at blant, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy鈥檔 poeni am ymddygiad rhywiol eu plant. Mae鈥檙 llinell gymorth hefyd yn ymgysylltu 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 poeni am eu meddyliau rhywiol eu hunain neu eu hymddygiad tuag at blant, yn ogystal 芒 gyda gweithwyr proffesiynol sydd angen help gydag achosion anodd. Mae鈥檙 Llinell Gymorth yn gweithredu rhwng 9 am a 9pm o ddydd Llun i ddydd Iau ac o 9 am-5pm ar ddydd Gwener.Maen nhw hefyd yn cynnig gwasanaeth sgwrsio ac e-bost ar-lein.Ceir rhagor o wybodaeth hefyd ar a

Cyngor a chymorth pellach

  • - Mae Parents Protect yn helpu rhieni a gofalwyr i amddiffyn plant rhag cam-drin a chamfanteisio rhywiol drwy ddarparu adnoddau diogelwch plant.

  • 鈥 Asiantaeth gorfodi鈥檙 gyfraith yw鈥檙 Gorchymyn Camfanteisio ar Blant a鈥檜 Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) i helpu i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag cam-drin rhywiol a pharatoi i bwrpas rhyw ar-lein.

  • - Yn darparu gwybodaeth i rieni a gofalwyr sy鈥檔 pryderu am gam-drin plant yn rhywiol, yn ogystal ag adnoddau diogelwch ar-lein ar gyfer plant sy鈥檔 briodol i鈥檞 hoedran.

  • 鈥 Mae 叠补谤苍补谤诲辞鈥檚 yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi profi cam-drin rhywiol, i鈥檞 gwneud yn ddiogel a鈥檜 helpu i wella.

  • - Mae鈥檙 wefan hon yn cynnwys gwybodaeth a dolenni i unrhyw un sy鈥檔 poeni am gam-drin plant yn rhywiol.

  • 鈥 Y Mae Sefydliad Marie Collins yn elusen sy鈥檔 gweithio鈥檔 uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd i alluogi eu hadferiad yn dilyn cam-drin rhywiol yn ymwneud 芒 thechnoleg.

  • Mae wedi cyhoeddi canllawiau helaeth ar sut i gadw鈥檔 ddiogel ar y we. Mae ganddyn nhw gyngor i blant, rhieni, ac athrawon.

  • - Gall plant a phobl ifanc gysylltu 芒 Childline ar unrhyw adeg ddydd neu nos i siarad 芒 rhywun am eu pryderon.

  1. Ymchwiliad Annibynnol Cam-drin Plant yn Rhywiol (2022). 鈥楧angosfwrdd Mehefin 2016-Hydref 2021鈥. Prosiect Gwirionedd y Ymchwiliad Annibynnol Cam-drin Plant yn Rhywiol. Ar gael yn: .听

  2. Comisiynydd Plant (2015). 鈥楢mddiffyn plant rhag niwed: Asesiad beirniadol o gam-drin plant yn rhywiol yn rhwydwaith y teulu yn Lloegr a鈥檙 blaenoriaethau i weithredu鈥. Ar gael yn: .听