Guidance

Cyfamod y Gymdeithas Sifil

Published 17 July 2025

Crynodeb

Cyfamod parhaol rhwng y llywodraeth a phawb ar draws y gymdeithas sifil sy鈥檔 buddsoddi eu hamser a鈥檜 harian er mwyn gwasanaethu eraill.

Rydyn ni鈥檔 credu:

bod cymdeithas sifil Prydain, gan gynnwys gwirfoddolwyr, elusennau, sefydliadau ffydd, mentrau cydweithredol, undebau llafur, dyngarwyr, mentrau cymdeithasol, buddsoddwyr cymdeithasol a busnesau pwrpasol, yn rhan o wead ein gwlad.

bod eu gwasanaeth yn rhan falch o鈥檔 hunaniaeth genedlaethol. Mae鈥檔 fynegiant o鈥檙 cyfrifoldeb tuag at ein gilydd sy鈥檔 sail i鈥檔 contract cymdeithasol. Mae鈥檔 cryfhau鈥檙 cysylltiadau sy鈥檔 dod 芒鈥檔 cymunedau at ei gilydd, yn cyfoethogi鈥檔 democratiaeth, ac yn gwella bywydau ledled y Deyrnas Unedig a ledled y byd.

bod cymdeithas sifil gref ac annibynnol yn hanfodol er mwyn mynd ar drywydd adnewyddu cenedlaethol gyda鈥檔 gilydd. Bydd gweithio mewn partneriaeth yn fodd inni adeiladu dyfodol gwell, tecach i bawb.

bod y gymdeithas sifil yn rym ar gyfer arloesi. Mae ganddi鈥檙 wybodaeth leol o鈥檙 hyn sy鈥檔 gweithio, mae wedi鈥檌 gwreiddio mewn profiad byw ac yn ennill ymddiriedaeth y rhai y mae鈥檔 eu gwasanaethu. Trwy gyd-fuddsoddi鈥檔 strategol gyda鈥檙 llywodraeth, gall cyllid cymdeithasol helpu i sbarduno arloesedd trwy brofi a thyfu syniadau newydd.

na ddylid disgwyl byth i鈥檙 gymdeithas sifil gamu i mewn a disodli鈥檙 llywodraeth. Yn hytrach, dylai鈥檙 llywodraeth fynnu gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 gymdeithas sifil.

Fe fyddwn ni:

yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pawb sy鈥檔 rhoi eu hamser a鈥檜 harian er mwyn gwasanaethu eraill, yn parchu鈥檔 gwahanol rolau, ac yn adeiladu ymddiriedaeth ac amcanion cyffredin.

yn parchu annibyniaeth sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil ac yn sicrhau eu bod yn gallu eiriol dros y rhai maen nhw鈥檔 eu gwasanaethu a dal y llywodraeth i gyfrif heb ofni dial.

yn partneru ac yn cydweithio ar draws pob adran a phob cenhadaeth yn y llywodraeth, gan weithio ar lefel genedlaethol a lleol ledled y Deyrnas Unedig i gyflawni鈥檙 Cynllun ar gyfer Newid.

yn dylunio, yn cyllido ac yn cyflawni polis茂au a gwasanaethau mewn partneriaeth wirioneddol; yn gweithio gyda meiri, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill ar bartneriaethau sydd wedi鈥檜 seilio ar le ac yn datblygu trefniadau comisiynu a chaffael cydweithredol.

yn hybu cyfranogiad a chynhwysiant trwy gynnwys pobl mewn penderfyniadau sy鈥檔 effeithio ar eu bywydau, yn sicrhau bod eu lleisiau鈥檔 cael eu clywed ac yn dileu rhwystrau sy鈥檔 atal cyfranogiad democrataidd.

yn cryfhau ymddiriedaeth gan gyfathrebu a rhannu gwybodaeth, data a鈥檙 arferion gorau鈥檔 agored, a thrwy sicrhau bod sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil yn mynd ati i fod yn dryloyw ac yn atebol am yr arian maen nhw鈥檔 ei gael.

yn adrodd yn flynyddol ar gamau i anrhydeddu鈥檙 cyfamod yma ac effaith y bartneriaeth yma 芒鈥檙 gymdeithas sifil.

Y Cyfamod

Pwrpas: pam mae arnon ni angen Cyfamod

I fynd i鈥檙 afael 芒 heriau dwfn ein hoes, mae arnon ni angen model newydd o bartneriaeth rhwng y gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth. Bydd y Cyfamod yn creu amgylchedd lle mae鈥檙 gymdeithas sifil yn cael ei pharchu, ei chefnogi a鈥檌 gwrando gan y llywodraeth, wrth weithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 gymdeithas sifil ac yn annibynnol, pan fydd y gymdeithas sifil yn dwyn y llywodraeth i gyfrif. Mae鈥檙 Cyfamod yn drefniant cilyddol sy鈥檔 cydnabod bod gan y gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth rolau gwahanol a rolau cyffredin wrth wasanaethu鈥檙 cyhoedd. Mae鈥檙 Cyfamod yn adeiladu ar sylfaen y ddeddfwriaeth a鈥檙 rheoliadau cyfredol sy鈥檔 llywodraethu gweithredoedd ac ymddygiad y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a鈥檙 gymdeithas sifil. Nid yw鈥檔 dyblygu鈥檙 gofynion presennol hyn, ond mae鈥檔 ceisio atgyfnerthu safonau uchel o lywodraethu ac ymddygiad. Bydd y Cyfamod yn sbarduno cyd-ddeall a chyd-barch, ac yn galluogi cydweithio rhwng ystod ehangach o sefydliadau. Nod y Cyfamod yma yw ategu鈥檙 bartneriaeth yma er mwyn cyflawni:

  • cymdeithas deg a chyfiawn gyda gwelliannau ym mywydau pobl a diogelwch i hawliau dynol

  • cymdeithas sifil gref, gynaliadwy ac annibynnol sy鈥檔 cydweithio 芒鈥檙 llywodraeth er budd y cyhoedd ac yn cyflawni eu cenhadaeth
  • llywodraeth ymatebol sy鈥檔 cydweithio 芒鈥檙 gymdeithas sifil i gyflawni ei chenhadaeth er budd y cyhoedd
  • cymunedau gwydn, cysylltiedig a grymus gyda chyfleoedd cynhwysol i gyfranogi sy鈥檔 cryfhau鈥檔 gwead cymdeithasol
  • prosesau penderfynu bywiog sy鈥檔 cofleidio dirnadaeth, arbenigedd a her adeiladol y gymdeithas sifil
  • prosesau datrys problemau hirdymor arloesol er budd pobl ym mhob rhan o鈥檙 wlad
  • democratiaeth gref lle gall pawb gymryd rhan a lle mae pob llais yn cael ei glywed Rhychwant: Cyfamod i bwy yw hwn Mae鈥檙 Cyfamod wedi鈥檌 gyd-ddylunio rhwng cynrychiolwyr o鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil. Mae鈥檔 deillio o ymgysylltu eang 芒 mwy na 1,200 o sefydliadau ar draws y gymdeithas sifil, ac 芒鈥檙 llywodraethau lleol, canolog a datganoledig trwy gydol ymarfer ymgysylltu a gynhaliwyd yn 2024.

Mae egwyddorion y Cyfamod yn nodi disgwyliadau craidd a ddylai fod yn gymwys i鈥檙 berthynas rhwng y gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth. Y tu hwnt i鈥檙 disgwyliadau craidd yma, bydd y Cyfamod yn ysgogi ac yn ysbrydoli rhagor o welliannau yn y berthynas. Yn ymarferol, bydd effeithiau鈥檙 Cyfamod yn cael eu teimlo mewn ffyrdd amrywiol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol a lleol.

Mae鈥檙 gymdeithas sifil yn cynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, undebau llafur, sefydliadau ffydd, grwpiau cymunedol anffurfiol, dyngarwyr a buddsoddwyr cymdeithasol. Mae鈥檙 Cyfamod yn cynnwys sefydliadau o bob diben, maint, lleoliad daearyddol, a鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu harwain gan grwpiau sydd wedi鈥檜 tangynrychioli. Mae hefyd wedi鈥檌 fwriadu i fod yn berthnasol i鈥檙 sefydliadau hynny yn y Deyrnas Unedig sy鈥檔 gweithio yn y Deyrnas Unedig a thros y m么r.

Mae鈥檙 egwyddorion yn y Cyfamod yma yn gymwys i gyrff y llywodraeth a chyrff cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys:

  • adrannau o lywodraeth y Deyrnas Unedig, gan gynnwys asiantaethau gweithredol a chyrff hyd braich

  • awdurdodau strategol ac awdurdodau lleol Lloegr

  • cyrff yn y sector cyhoeddus ehangach sy鈥檔 gweithio gyda鈥檙 gymdeithas sifil gan gynnwys sefydliadau a phartneriaethau鈥檙 GIG, megis Systemau Gofal Integredig, a鈥檙 system cyfiawnder troseddol

Ni ddylai鈥檙 Cyfamod dorri ar draws fframweithiau gweinyddol neu statudol presennol lle mae鈥檙 rheiny鈥檔 cyrraedd safon uwch neu safon gyfatebol, ond fe ddylai鈥檙 Cyfamod gael ei ddefnyddio i godi safonau lle nad yw hyn yn wir.

Ni ddylai鈥檙 Cyfamod gyfaddawdu swyddogaethau rheoleiddio cyrff cyhoeddus mewn perthynas 芒鈥檙 gymdeithas sifil, ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn peryglu ymreolaeth neu annibyniaeth y sefydliad oddi wrth y llywodraeth.

Mae鈥檙 Cyfamod hefyd yn berthnasol ledled y Deyrnas Unedig mewn meysydd polisi lle mae鈥檙 cyfrifoldebau wedi鈥檜 cadw i lywodraeth y Deyrnas Unedig a heb gael eu datganoli i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bwriad y Cyfamod yw ategu a pharchu鈥檙 trefniadau llywodraethu a鈥檙 bartneriaeth bresennol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan weithio ochr yn ochr 芒鈥檙 fframweithiau gwahanol ym mhob gwlad. Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dal i weithio mewn partneriaeth 芒 sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil ym mhob un o鈥檙 pedair rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig.

Gwerthoedd ac ymddygiadau: beth sy鈥檔 sail i鈥檙 Cyfamod

Mae鈥檙 gwerthoedd a鈥檙 ymddygiadau sy鈥檔 sail iddo yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y Cyfamod. Mae鈥檙 rhain yn cynnwys:

  • dealltwriaeth 鈥 dangos dealltwriaeth o鈥檙 heriau a鈥檙 pwysau sy鈥檔 wynebu pob parti, parchu rolau a chyfrifoldebau ei gilydd
  • hyblygrwydd 鈥 dangos y gallu i addasu at amgylchiadau sy鈥檔 newid ac addasu ffyrdd o weithio er mwyn arloesi a chynnwys gwahanol fathau o sefydliadau
  • dysgu cydfuddiannol 鈥 gweithio gyda鈥檌 gilydd i sicrhau bod pob parti yn gallu bod yn agored am yr hyn sydd wedi gweithio鈥檔 dda a鈥檙 hyn sydd angen ei wella
  • ymddiriedaeth 鈥 creu ymddiriedaeth gydfuddiannol trwy fuddsoddi mewn perthnasoedd sy鈥檔 cydnabod ewyllys da ac yn adeiladu pwrpas cyffredin, cyfathrebu鈥檔 rheolaidd, yn onest ac yn agored, gweithredu gydag uniondeb ac anrhydeddu ymrwymiadau
  • agored 鈥 cynnal sianeli agored o gyfathrebu a pharch, cytuno i anghytuno lle bo angen a cheisio datrys tensiynau heb danseilio cydweithredu
  • amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant 鈥 hybu hawliau a chyfrifoldebau yn y ffordd rydyn ni鈥檔 gweithio gyda鈥檔 gilydd a chyda chymunedau, gan sicrhau cydraddoldeb mynediad lle bynnag y bo modd.

Egwyddorion y Cyfamod

Cydnabyddiaeth a gwerth

Mae鈥檙 Cyfamod yn adeiladu perthnasoedd cadarn ac yn cryfhau annibyniaeth sectorau trwy hybu parch a gwerth i briod gryfderau, cyfrifoldebau, safbwyntiau a chyfyngiadau鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil.

Parch at annibyniaeth a dilysrwydd

  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn parchu annibyniaeth a dilysrwydd sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil i eiriol ac ymgyrchu, gan gynnwys amddiffyn yr hawl i gymryd rhan mewn protest heddychlon, ac i ddal y llywodraeth i gyfrif er mwyn gwneud gwell deddfau, rheoliadau a phenderfyniadau.
  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil yn parchu dilysrwydd y llywodraeth i wneud penderfyniadau, arfer ei phwerau uchelfreiniol, a鈥檌 hatebolrwydd i鈥檙 Senedd.
  • Nid yw鈥檙 llywodraeth yn trin sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil sydd wedi mynegi anghytundeb 芒 pholis茂au鈥檙 llywodraeth yn llai ffafriol trwy eu hepgor o drafodaethau polisi neu gyfleoedd ariannu.

Cydnabod gwerth, r么l a gwahanol safbwyntiau

  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn cydnabod gwerth cyfraniadau economaidd a chymdeithasol y gymdeithas sifil, gan gynnwys y gwerth cymdeithasol cynhenid y mae sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil yn ei roi, a鈥檜 gallu i adeiladu cymunedau cydlynol, cynhwysol.
  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil yn cydnabod bod Ysgrifenyddion Gwladol a Gweinidogion yn cael eu hethol yn ddemocrataidd a鈥檜 bod yn atebol yn ffurfiol i鈥檙 Senedd ac i鈥檙 cyhoedd fel arweinwyr, ac am ddatblygu, pennu a gweithredu polis茂au鈥檙 llywodraeth trwy adrannau a鈥檜 cyrff hyd braich (ALBs).
  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn gwrando ar y gymdeithas sifil ac yn parchu arbenigedd amrywiol y gymdeithas sifil wrth ddylunio polis茂au a gwasanaethau, gan gynnwys perthnasoedd dibynadwy, gwybodaeth ddofn am yr hyn sy鈥檔 gweithio, arwain ac adeiladu cymunedau, busnes cymdeithasol, a darparu gwasanaethau.

Deall cyfrifoldebau a chyfyngiadau

  • Mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn deall cyfrifoldebau a pharamedrau gweithredol ei gilydd o dan ofynion y gyfraith, rheoliadau perthnasol a safonau moesegol.
  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn cydnabod cyfrifoldeb y gymdeithas sifil i siarad allan a dal y llywodraeth i gyfrif lle mae hynny鈥檔 helpu un o sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil i gyflawni eu cenhadaeth.
  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth yn deall na fyddan nhw bob amser yn cytuno, ac y gall fod rhaid i鈥檙 llywodraeth gydbwyso ffactorau a blaenoriaethau cyferbyniol yn ei phenderfyniadau.

Astudiaethau achos: Cytundeb VCFSE (Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol, Crefyddol a Chymdeithasol) Manceinion Fwyaf (GM)

Cafodd ei lofnodi ym mis Tachwedd 2017 fel cytundeb cydweithredu rhwng cyrff cyhoeddus a鈥檙 gymdeithas sifil.

Sefydlwyd y Cytundeb gan Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf a Phartneriaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Manceinion Fwyaf gyda gr诺p o arweinwyr y gymdeithas sifil wedi鈥檜 lleoli ym Manceinion Fwyaf er mwyn adeiladu perthynas a fyddai鈥檔 cydnabod ac yn datgloi potensial llawn y gymdeithas sifil i fynd i鈥檙 afael ag anghydraddoldebau yn y ddinas-ranbarth er budd y cyhoedd.

Mae鈥檙 Cytundeb wedi helpu i godi proffil sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil gydag arweinwyr y sector cyhoeddus lleol gan fwrw goleuni ar y gwerth a鈥檙 arbenigedd y gallan nhw eu cynnig. Un bartneriaeth sy鈥檔 deillio o hynny yw Uned Lleihau Trais Manceinion Fwyaf (GMVRU) rhwng y llywodraeth, yr heddlu, iechyd, addysg, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, awdurdodau lleol, asiantaethau statudol eraill a鈥檙 gymdeithas sifil. Mae鈥檙 GMVRU wedi ymrwymo i arddel ymagwedd a arweinir gan y gymuned yn ei hymdrechion i atal trais. Mae鈥檙 dull yma yn cydnabod gwerth a chryfder sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil wrth weithio鈥檔 agos gyda chymunedau, i ddeall eu hanghenion, eu heriau a鈥檜 cryfderau mewn perthynas ag atal trais. Mae hefyd yn rhoi penderfyniadau yn nwylo cymunedau, gan gynnwys gosod blaenoriaethau a chytuno ar gyllid ar gyfer prosiectau ac ymyriadau sy鈥檔 anelu at ymgysylltu 芒 phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

Mae mentrau鈥檙 VRU wedi cynnwys rhaglen StreetDoctors dan arweiniad y gymdeithas sifil, sy鈥檔 darparu sesiynau hyfforddi i bobl ifanc weithredu mewn argyfwng meddygol. Yn sgil hyn roedd 95% o鈥檙 bobl ifanc yn gwybod beth i鈥檞 wneud os byddai rhywun yn gwaedu neu鈥檔 anymwybodol, ac roedd 85% yn barod i weithredu mewn argyfwng meddygol.

Mae Adroddiad Interim ar Gynnydd Cytundeb VCFSE Manceinion Fwyaf yn awgrymu gwella gwelededd y Cytundeb ac ymgorffori ei egwyddorion ar draws sefydliadau鈥檙 sector cyhoeddus. Bydd hyn yn gwella cydnabyddiaeth o werth y gymdeithas sifil ar draws Manceinion Fwyaf, a thrwy hynny yn cefnogi mwy o gyfranogiad gan VCSEs a chynyddu lleisiau dinasyddion mewn gwaith ledled Manceinion Fwyaf.

Astudiaethau achos: Calderdale 鈥 cydnabod gwerth y VCSE ar gyfer dyfodol ffyniannus

Mae strategaeth VCSE Cyngor Calderdale 2024 i 2029 yn cydnabod r么l hanfodol y sector Mentrau Gwirfoddol, Cymunedol a Chymdeithasol (VCSE) yn Calderdale. Mae鈥檔 gwerthfawrogi鈥檙 VCSE fel partner allweddol wrth gyflawni鈥檙 weledigaeth leol o fod yn lle mentrus, llawn cyfleoedd, lle gall pawb ffynnu yn eu cymuned.

Adeg ei chreu, roedd grwpiau鈥檙 VCSE yn wynebu llai o gyllid o鈥檙 sector cyhoeddus, costau cynyddol, a galw cynyddol am eu gwasanaethau. Roedd prinder staff, cyflog is, a llai o wirfoddolwyr yn ychwanegu at y pwysau. Un peth sy鈥檔 ganolog i鈥檞 datblygiad a鈥檌 gweithredu oedd cydnabyddiaeth Cyngor Calderdale o werth ac arbenigedd cynhenid y sector VCSE.

Mae鈥檙 strategaeth, sydd wedi鈥檌 chydgynhyrchu gyda chynrychiolwyr y VCSE, yn cydnabod natur amrywiol a chymhleth y sector VCSE a鈥檌 heffaith arwyddocaol ar drigolion a chymunedau Calderdale. Mae鈥檔 cydnabod cyfraniad y sector i鈥檙 gymdeithas yn ogystal 芒鈥檙 economi lleol. Nododd ymchwil iechyd a lles lleol yn 2023 fod cyfanswm gwerth y VCSE yn Calderdale oddeutu 拢549.5 miliwn. Mae鈥檙 ffigur yma yn cynnwys gwariant y sector, y gwerth a gynhyrchir gan wirfoddolwyr cyson, a gwerth a gr毛wyd i ddefnyddwyr gwasanaethau.

Mae Cyngor Calderdale wedi ymgorffori cydnabyddiaeth o r么l y VCSE mewn sawl strategaeth arall yn y fwrdeistref. Un enghraifft allweddol yw Strategaeth yr Economi Cynhwysol, sy鈥檔 gweld sector VCSE ffyniannus yn sylfaenol i gyflawni economi cynhwysol. Yn Calderdale, mae鈥檙 VCSE yn rhan allweddol o鈥檙 economi lleol, gan gyflogi dros 5,000 o bobl, a chefnogi 13,000 fel gwirfoddolwyr. Fel rhan o Strategaeth yr Economi Cynhwysol, bydd Calderdale yn ceisio archwilio mwy o lwybrau gyrfa i bobl ifanc yn y sector VCSE lleol, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl ifanc aros yn Calderdale, gyda mynediad at waith o ansawdd da.

Partneriaeth a chydweithredu

Mae鈥檙 Cyfamod yn hybu gwaith cydweithredol pwrpasol o ansawdd uchel rhwng y llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil i lywio鈥檙 broses o wneud penderfyniadau a dylunio gwasanaethau, gan ddarparu atebion gwell i bawb.

Ymgysylltu cynnar, cyson a pharhaus

  • Mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn cydweithio fel partneriaid strategol i nodi a datblygu blaenoriaethau er mwyn cyflawni nodau cyffredin.
  • Mae鈥檙 llywodraeth yn cyfathrebu鈥檔 strategol ac yn effeithiol 芒鈥檙 gymdeithas sifil trwy sianeli sy鈥檔 hygyrch, yn agored ac yn gynhwysol ar gyfer sgyrsiau dwyffordd dilys.
  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn hwyluso ymgysylltu cynnar i alluogi鈥檙 gymdeithas sifil i gyfrannu dirnadaeth ac arbenigedd i ddiffinio鈥檙 broblem, creu pwrpas cyffredin a chytuno ar ganlyniadau er mwyn llywio datblygiadau polisi a dylunio gwasanaethau.

  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil yn tynnu ar ei chryfderau, gan gynnwys ei harbenigedd mewn cynrychioli buddiannau鈥檙 bobl neu鈥檙 achosion y mae wedi鈥檌 sefydlu i鈥檞 cefnogi, gan weithredu鈥檔 strategol trwy ymgysylltu鈥檔 gynnar, rhannu tystiolaeth, dirnadaeth ac arbenigedd lle bynnag y bo鈥檙 adnoddau yn caniat谩u, trwy鈥檙 cylch polisi i gyd.

Creu鈥檙 amodau ar gyfer cydweithredu ac arloesi

  • Mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn hybu diwylliant ac amgylchedd sy鈥檔 ffafriol i arloesi, gan greu cyfleoedd i brofi syniadau newydd, cymryd risgiau, canolbwyntio ar effaith a gwersi, ac adeiladu ar yr hyn sy鈥檔 gweithio.
  • Mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn cydweithio i flaenoriaethu ymyriadau ataliol a chymryd golwg hirdymor i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau a gwireddu cyfleoedd.

Mynd i鈥檙 afael 芒 rhwystrau sy鈥檔 atal cyflawni mewn partneriaeth

  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn cefnogi modelau comisiynu a chaffael cydweithredol, gan gydnabod y gwerth cymdeithasol cynhenid y mae鈥檙 gymdeithas sifil yn ei gynnig, gan gynnig hyblygrwydd i gyflawni canlyniadau, sicrhau monitro cymesur a darparu cyllid digonol i gyflawni鈥檙 canlyniadau gofynnol.
  • Mae鈥檙 Llywodraeth yn adeiladu ac yn hybu partneriaethau ar sail trefniadau cyllido hirdymor lle bo鈥檔 bosibl, gan gydnabod bod gweithio mewn partneriaeth gynaliadwy yn hanfodol er mwyn cydweithio ar faterion hirdymor.
  • Mae sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil yn gweithio mewn partneriaeth 芒 sefydliadau eraill yn y gymdeithas sifil a sectorau eraill, gan geisio dileu rhwystrau sy鈥檔 atal partneriaid llai.
  • Mae鈥檙 llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 gymdeithas sifil i leihau rhwystrau sy鈥檔 atal gwaith partneriaeth ac i greu cyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth.

Astudiaethau achos: Trawsnewid y GIG 鈥 cydweithredu yn llunio iechyd pobl ar gyfer y dyfodol

Trwy ddeialog agored a phartneriaethau 芒鈥檙 gymdeithas sifil, mae Cenhadaeth Iechyd llywodraeth y Deyrnas Unedig wrthi鈥檔 adeiladu Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn Lloegr sy鈥檔 addas at y dyfodol.

Gosododd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol strategaeth ymgysylltu gynhwysfawr ar waith i lywio datblygiad y Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, sy鈥檔 troi鈥檙 miloedd o fewnwelediadau a gasglwyd yn gynllun gweithredu clir. Gall y gymdeithas sifil chwarae rhan hanfodol wrth ategu鈥檙 tair sifft sylfaenol: o鈥檙 ysbyty i鈥檙 gymuned, o analog i ddigidol ac o driniaeth i atal.

Mae鈥檙 Cynllun Iechyd 10 Mlynedd yn cynnwys nod penodol o sicrhau mai鈥檙 GIG yw鈥檙 partner gorau posibl a鈥檙 darparwr gofal iechyd cyhoeddus mwyaf cydweithredol yn y byd. Drwy arloesi o鈥檙 gwaelod i fyny ac ar lawr gwlad y byddwn ni鈥檔 gwneud y cynnydd mwyaf posibl. Ochr yn ochr 芒 gosod strategaeth, bydd gan y Cynllun nod penodol o harneisio partneriaethau 芒 buddsoddwyr, diwydiant, llywodraeth leol, cyflogwyr, busnesau bach a chanolig, mudiadau gwirfoddol ac undebau llafur. Bydd dyfnhau鈥檙 berthynas 芒 phartneriaid yn y gymdeithas sifil yn helpu i gyflawni nodau鈥檙 Cynllun Iechyd 10 Mlynedd, gan gynnwys trwy feithrin model 鈥淕wasanaeth Iechyd Cymdogaeth鈥.

Yr uchelgais yw defnyddio nifer o ddarparwyr 鈥 yn y GIG, y sector gwirfoddol, y sector annibynnol a mentrau cymdeithasol. Lle mae arloesedd mor gyflym yn digwydd heddiw o ran sut y gellir trawsnewid gwasanaethau trwy ddatblygiadau mewn gwyddoniaeth a thechnoleg, mae鈥檙 llywodraeth am ehangu eco-system y darparwyr. Er enghraifft, mae yna botensial enfawr i ystod eang o ddarparwyr gynnig gwerth gwirioneddol yn y Gwasanaeth Iechyd Cymdogaeth. Y nod sydd gennym yw sefydlu Canolfan Iechyd Cymdogaeth ym mhob cymuned, sef 鈥榮iop un stop鈥 ar gyfer gofal i gleifion a鈥檙 man y bydd timau aml-ddisgyblaeth yn gweithredu ohono. Bydd Canolfannau Iechyd Cymdogaeth yn cydleoli gwasanaethau鈥檙 GIG, yr awdurdodau lleol a鈥檙 sector gwirfoddol i helpu i greu arlwy sy鈥檔 ateb anghenion y boblogaeth yn holistig.

Astudiaethau achos: Clymblaid Troseddau Cyllyll y Swyddfa Gartref 鈥 dull wedi鈥檌 seilio ar bartneriaeth o leihau troseddau cyllyll

Mae鈥檙 Glymblaid i Fynd i鈥檙 Afael 芒 Throseddau Cyllyll, a lansiwyd gan y Prif Weinidog ym mis Medi 2024, yn bartneriaeth o unigolion sydd 芒 phrofiad byw, y gymdeithas sifil, a grwpiau ymgyrchu. Mae wedi mabwysiadu dull partneriaeth gyda鈥檙 llywodraeth er mwyn haneru troseddau cyllyll o fewn degawd.

Mae鈥檙 cydweithrediad yn dod 芒 dealltwriaeth ddofn o ymyriadau a all helpu i atal troseddau cyllyll, gan ddod 芒鈥檙 safbwyntiau hyn i mewn i鈥檙 gwaith o greu polis茂au a rhaglenni i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 mater.

Mae鈥檙 Swyddfa Gartref hefyd yn gweithio gyda phartneriaid y Glymblaid i roi llwyfan i lais ieuenctid a鈥檜 safbwyntiau ar y materion craidd yngl欧n 芒 throseddau cyllyll, gan gynyddu diogelwch y cyhoedd a chefnogi鈥檙 rhai sydd ei angen fwyaf, gan sicrhau bod profiadau byw pobl ifanc yn cyfrannu at lunio polisi鈥檙 Llywodraeth.

Un enghraifft allweddol lle mae鈥檙 Glymblaid yn gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 llywodraeth yw鈥檙 cyfraniad gwerthfawr a wnaeth er mwyn llywio鈥檙 broses o ddatblygu polisi a dylunio鈥檙 trefniadau ildio estynedig ar gyfer cleddyfau ninja ac arfau eraill.

Gydag aelod o鈥檙 Glymblaid Fazamnesty a Words4Weapons, bydd y llywodraeth yn cyflwyno rhaglenni ildio arfau estynedig. Bydd Fazamnesty yn gweithredu faniau ildio symudol yn Llundain, Gorllewin Canolbarth Lloegr, a Manceinion Fwyaf, tra bydd Words4Weapons yn defnyddio biniau ildio dienw yn yr ardaloedd hynny ar gyfer cyllyll ac arfau eraill, gan gynnwys cleddyfau ninja.

Mae鈥檙 mentrau hyn yn darparu opsiynau diogel i bobl ifanc ildio arfau peryglus, gan wneud ein strydoedd yn fwy diogel a thynnu mwy o arfau o gymunedau.

Cyfranogi a Chynhwysiant

Mae鈥檙 Cyfamod yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl fod yn rhan o benderfyniadau a gweithgareddau sy鈥檔 effeithio ar eu bywydau, lle mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn galluogi mwy o gyfranogiad a chynrychiolaeth.

Galluogi amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant

  • Mae sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil yn hybu amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant mewn ffyrdd sy鈥檔 berthnasol i鈥檞 cenhadaeth, ac yn cynrychioli buddiannau鈥檙 bobl neu鈥檙 achosion maen nhw wedi鈥檜 sefydlu i鈥檞 cefnogi.

  • Mae鈥檙 llywodraeth yn gweithio gyda鈥檙 gymdeithas sifil i sicrhau bod yr holl grwpiau perthnasol yn cael eu cynrychioli wrth lunio polis茂au, trwy ba ddull bynnag sy鈥檔 fwyaf priodol, yn enwedig y rhai a allai brofi rhwystrau neu allg谩u, ac mae鈥檔 gwrando ar y rhai y mae penderfyniadau鈥檔 effeithio arnyn nhw.

  • Mae鈥檙 llywodraeth yn dilyn gofynion yngl欧n 芒鈥檙 arferion gorau mewn hygyrchedd, cyfathrebu, y Gymraeg ac asesu鈥檙 effaith ar gydraddoldeb.

Ymgysylltu 芒 dinasyddion a chymunedau wrth wneud a chyflawni penderfyniadau

  • Mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn cydweithio ar yr uchelgais i gydgynhyrchu atebion gyda鈥檙 cymunedau a鈥檙 dinasyddion hynny sy鈥檔 cael eu heffeithio fwyaf.
  • Mae sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil yn cynnwys eu buddiolwyr yn eu gwaith, gan gynnwys y rhai sydd 芒 phrofiad byw, lle mae鈥檔 berthnasol i鈥檞 cenhadaeth. Dileu rhwystrau sy鈥檔 atal cyfranogiad gweithredol at adeiladu democratiaeth iach a gwydnwch cymunedol

  • Mae llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn cydweithio i hwyluso a chreu鈥檙 amodau ar gyfer cyfranogiad gweithredol yn y gymdeithas, megis gwirfoddoli neu weithredu cymdeithasol, i adeiladu capasiti cymunedol, cydlyniant a gwydnwch cymdeithasol.

  • Mae鈥檙 llywodraeth a鈥檙 gymdeithas sifil yn cydweithio i adeiladu democratiaeth iach ac i hybu cyfranogiad democrataidd.

Astudiaethau achos: Y Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol 鈥 gosod pobl ifanc wrth wraidd datblygu polisi

Pobl ifanc sydd wedi bod wrth y llyw o ran cydgynhyrchu Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol newydd ers iddi gael ei chyhoeddi ym mis Tachwedd 2024 gan Ysgrifennydd Gwladol y DCMS fel rhan o genhadaeth y llywodraeth i wella cyfleoedd.

Fel cam cyntaf, i sicrhau y byddai lleisiau ieuenctid wrth wraidd y broses, penododd y llywodraeth 13 o bobl ifanc amrywiol i ffurfio Gr诺p Cynghori Ieuenctid (YAG) a dod 芒 phrofiad byw ar draws meysydd allweddol gan gynnwys eiriolaeth, atal trais, symudedd cymdeithasol ac iechyd meddwl. Eisteddodd Gr诺p Cynghori Arbenigol o 14 o arbenigwyr o amrywiaeth o sectorau ochr yn ochr 芒鈥檙 YAG i ddod ag arbenigedd o sectorau perthnasol, gan roi mewnbwn a herio syniadau.

Ffurfiodd y DCMS bartneriaethau 芒 chonsortiwm arbenigol 鈥 ymgynghoriaeth ymchwil farchnad Savanta, My Life My Say a鈥檙 Mudiad #iwill gyda gwaith cydlynu gan Volunteering Matters a UK Youth 鈥 i sefydlu ymgyrch ymgysylltu dan arweiniad ieuenctid i sicrhau bod pobl ifanc o bob rhan o鈥檙 wlad yn cael cyfle i ddweud eu dweud. Gweithiodd y consortiwm gyda deg Cydweithiwr Ieuenctid i sicrhau bod yr holl weithgareddau ymgyrchu yn cael eu dylunio a鈥檜 harwain gan bobl ifanc mewn gwirionedd. Defnyddiodd yr ymgyrch 鈥淒eliver You鈥 ystod o ddulliau arloesol wedi鈥檜 targedu er mwyn sicrhau bod grwpiau sydd wedi鈥檜 tangynrychioli yn gallu lleisio鈥檜 barn. Sicrhaodd yr ymgyrch fewnwelediadau gan fwy nag 20,000 o bobl ifanc.

Mae ein hymagwedd wedi grymuso pobl ifanc i arwain newid wrth galon y broses o lunio polis茂au ac yn eu bywydau eu hunain. Bydd eu profiadau byw, gan gynnwys eu pryderon a鈥檜 gobeithion ar gyfer y dyfodol, yn sail i uchelgais newydd i bobl ifanc yn y Strategaeth Ieuenctid Genedlaethol.

Astudiaethau achos: Cymunedau Cryfach Barnsley 鈥 gwella ardaloedd lleol trwy gydgynhyrchu gyda chymunedau

Yn 2013, symudodd Rhaglen Cymunedau Cryfach Cyngor Barnsley o ddarparu gwasanaethau traddodiadol i fodel partneriaeth gymunedol. Mae鈥檔 mynd ati i gynnwys cymunedau a sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil wrth ddylunio, darparu ac adolygu gwasanaethau trwy wneud penderfyniadau datganoledig.

Er mwyn targedu adnoddau yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol i ateb anghenion lleol, cynyddodd y cyngor gyfranogiad cymunedol, gan symud o wneud pethau ar gyfer trigolion a grwpiau cymunedol i weithio gyda nhw.

Sefydlodd Cyngor Barnsley gynghreiriau ward, bob un gydag aelodau etholedig a chynrychiolwyr cymunedol, cyllideb ddatganoledig, a phwerau penderfynu. Roedd y cynghreiriau ward yn cynnwys trigolion a grwpiau lleol i lywio blaenoriaethau cyffredin lleol a dyraniad cyllidebau. Mae鈥檙 strategaethau maen nhw wedi鈥檜 cydgynllunio ar draws Barnsley wedi cynyddu鈥檙 ymrwymiad a鈥檙 cyfranogiad lleol. Cynhyrchwyd cynllun sbwriel a throseddau amgylcheddol ar gyfer 2024 i 2030 ar y cyd ag aelodau o鈥檙 gymuned a gwirfoddolwyr y mae eu profiadau wedi llywio鈥檙 strategaeth, gan feithrin perchnogaeth gyffredin.

Mae鈥檙 newid yma i weithio gyda鈥檙 gymuned leol yn golygu bod mwy o gymunedau yn cymryd rhan mewn penderfyniadau lleol, bod yna gynnydd yn yr oriau gwirfoddoli ac yn nifer y grwpiau lleol sy鈥檔 weithredol yn yr ardal. Mae鈥檙 pwerau i ddyrannu cyllidebau o fewn cynghreiriau ward wedi cefnogi ystod o brosiectau lleol, ac wedi grymuso cymunedau i ddod at ei gilydd, a theimlo鈥檔 unedig mewn ymdeimlad o falchder yn eu hardal.

Mae鈥檙 effaith gymunedol yma wedi cyfrannu at gydnabyddiaeth genedlaethol i Gyngor Barnsley, gan ennill teitl Cyngor y Flwyddyn gan y Local Government Chronicle a gwobr Awdurdod Lleol y Flwyddyn gan y Municipal Journal yn 2023, yr unig gyngor i ennill y ddwy wobr yn yr un flwyddyn.

Tryloywder a data

Mae鈥檙 Cyfamod yn hybu rhannu gwybodaeth a data鈥檔 fwy agored trwy well argaeledd, dealltwriaeth o angen ac atebion sy鈥檔 seiliedig ar dystiolaeth.

Cymryd rhan mewn cyfathrebu agored, gonest a thryloyw

  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth yn cydweithio i greu鈥檙 amodau angenrheidiol ar gyfer cyfathrebu agored, gan gymhwyso trefniadau cyfrinachedd sy鈥檔 gymesur ac sydd wedi鈥檜 hesbonio yn unig, gan fodloni safonau uchel ac ategu trafodaeth a her adeiladol.
  • Mae鈥檙 llywodraeth yn anelu at gynnig adborth ar 么l ymgysylltu 芒 phenderfyniadau polisi a chyllid er mwyn sbarduno dysgu a gwelliannau.
  • Mae鈥檙 llywodraeth yn ymateb yn brydlon ac yn agored i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth ac yn dilyn yr arferion gorau o ran cyhoeddi asesiadau effaith ac ymatebion i ymgyngoriadau.

Trefnu bod tystiolaeth a data ar gael i鈥檙 cyhoedd

  • Mae鈥檙 llywodraeth yn gweithio tuag at sicrhau bod y data a鈥檙 wybodaeth sylfaenol y mae鈥檔 ei chasglu yn fwy hygyrch.
  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil yn cynnal ymddiriedaeth y cyhoedd trwy fynd ati i fod yn dryloyw ac yn atebol am yr arian maen nhw鈥檔 ei gael.
  • Mae sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil yn rhannu鈥檙 ymchwil a鈥檙 dadansoddiadau y maen nhw鈥檔 eu gwneud cyn belled ag y bo鈥檔 rhesymol bosibl, gan gydymffurfio 芒鈥檙 rheoliadau diogelu data hefyd

Gwella datblygiad data

  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth yn cydweithio i ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o fesur gwerth ac iechyd y gymdeithas sifil, a nodi unrhyw fylchau yn y dystiolaeth.
  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth yn cydweithio i gydnabod gwerth gwahanol ffynonellau tystiolaeth, gan gynnwys profiad byw.
  • Mae鈥檙 gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth yn cydweithio i wella鈥檙 gwaith casglu data ar draws y gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth, gan gydnabod yr heriau o ran data a thystiolaeth y gall sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil eu hwynebu a chael eu llywio gan ystod o wahanol ffynonellau tystiolaeth a dirnadaeth.

Astudiaethau achos: Rhaglen Bregusrwydd Cynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE (EUSS) 鈥 trosoli data a thryloywder i bontio rhaniadau digidol dinasyddion bregus

Gan fod Cynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE wedi鈥檌 ddylunio ar sail digidol yn gyntaf, roedd yn creu heriau i ddinasyddion o鈥檙 UE sy鈥檔 agored i niwed yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y rhai sy鈥檔 wynebu rhwystrau iaith, allg谩u digidol, problemau iechyd meddwl a digartrefedd. Roedd y materion hyn yn rhwystro pobl rhag gwneud cais am statws sefydlog a sicrhau statws sefydlog yn y Deyrnas Unedig. Er bod llawer o sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil (CSOs) mewn sefyllfa unigryw i gyrraedd a chefnogi鈥檙 unigolion hyn, doedd ganddyn nhw mo鈥檙 data cywir i weithio arno.

Mewn ymateb, lansiodd y llywodraeth raglen grant ar gyfer CSOs i wella鈥檙 broses o gasglu, a rhannu data ac i wella鈥檌 dryloywder. Roedd hyn yn caniat谩u gwell dulliau rhannu data rhwng y llywodraeth a derbynwyr y grantiau ar gyfer asesiadau uniongyrchol, gan sefydlu safonau tryloywder, a chynnig cefnogaeth i sefydliadau llai ym maes cydymffurfio 芒 rheolaeth data. Roedd y data a gasglwyd oddi wrth y gymdeithas sifil yn llywio newidiadau mewn polisi ac allgymorth, gan wella鈥檙 ddealltwriaeth o anghenion a chaniat谩u atebion cydweithredol, wedi鈥檜 seilio ar dystiolaeth.

Dyrannwyd dros 拢32.5 miliwn yn llwyddiannus i fwy na 70 o sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil, gan eu galluogi i roi cymorth hanfodol i fwy na 500,000 o ddinasyddion bregus na fydden nhw wedi gwneud cais i鈥檙 cynllun fel arall. Helpodd y fenter hanfodol yma unigolion i ddeall y cynllun, llenwi ceisiadau, a chael mynediad at wasanaethau cyfreithiol neu wasanaethau cyfieithu.

Helpodd y grantiau hefyd bedwar sefydliad cenedlaethol (un yr un yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) a nifer o sefydliadau rhanbarthol, gan sicrhau mynediad at wasanaethau ledled y Deyrnas Unedig. Un enghraifft yw Citizens Advice Scotland, gyda 1,000 o gynghorwyr mewn 200 o leoliadau allgymorth yn rhoi cyngor ar Gynllun Preswylio鈥檔 Sefydlog yr UE (EUSS), gan gynnwys budd-daliadau, tai, a chymorth yngl欧n 芒 dyledion, gan wella lles cymunedol.

Mae鈥檙 camau nesaf yn cynnwys cymhwyso鈥檙 model yma at gynlluniau yn y dyfodol ac olrhain effeithiau hirdymor ar wydnwch cymunedol.

Astudiaethau achos: Evaluation Support Scotland (ESS) 鈥 gwella gwasanaethau trwy fesur effaith

Mae Evaluation Support Scotland (ESS) yn elusen yn yr Alban sy鈥檔 helpu sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil, ymddiriedolwyr a chyllidwyr, i fesur a dangos eu heffaith trwy werthuso. Y nod yw defnyddio data a thystiolaeth yngl欧n ag effaith i lywio datblygiad polis茂au yn y dyfodol; cafodd ei greu ar 么l i ymchwil ganfod nad oedd gan lawer o sefydliadau a chyllidwyr y trydydd sector (gan gynnwys cyrff cyhoeddus) mo鈥檙 sgiliau a鈥檙 adnoddau i wneud gwerthusiadau ac i ddefnyddio鈥檙 ddirnadaeth i lywio penderfyniadau.

Mae ESS yn cael cyllid craidd gan Lywodraeth yr Alban i ddarparu gweithdai agored, cymorth wedi鈥檌 deilwra, modiwlau dysgu hunangyfeiriedig ar-lein am ddim, a chyfoeth o adnoddau ar-lein. Maen nhw hefyd wedi datblygu nifer o ganllawiau i gyllidwyr a sefydliadau, gan gynnwys [5 egwyddor gwerthuso da ESS](https://evaluationsupportscotland.org.uk/ess-principles-for-good-evaluation/], sy鈥檔 galluogi sefydliadau i gael mewnwelediadau mewn amser real, addasu eu gwaith a pharhau i ymateb i adborth gan gymunedau a dinasyddion. Cafodd partneriaeth ei chreu hefyd 芒 Llywodraeth yr Alban i ddatblygu Egwyddorion Partneriaeth Gadarnhaol, i wella鈥檙 berthynas rhwng rheolwyr grantiau a deiliaid grantiau, gan ddarparu cyngor ymarferol i gryfhau鈥檙 ddau barti.

Yn 2023, ariannwyd ESS gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF), mewn ymateb i gynllun gweithredu digartrefedd Llywodraeth yr Alban, i ganolbwyntio ar atal digartrefedd yn Glasgow a Chaeredin. Gyda chefnogaeth ESS, gallai sefydliadau dynnu sylw at effaith eu gwaith yn well a helpodd hyn i lywio鈥檙 broses o dargedu gweithgareddau yn y dyfodol. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod y rhai sy鈥檔 wynebu鈥檙 risg o fod yn ddigartref:

  • yn gallu cael mynediad at wasanaethau sy鈥檔 ateb eu hanghenion, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl a gwasanaethau allgymorth ieuenctid

  • yn cael mwy o fynediad at lety mwy addas i鈥檞 hanghenion

  • yn cael mwy o ddylanwad ar y systemau sy鈥檔 effeithio arnyn nhw, trwy gynnwys profiadau byw o fewn polis茂au cymdeithasau tai

Mae gwaith ESS wedi helpu鈥檙 TNLCF i wneud penderfyniadau ynghylch cyllido prosiectau yn y dyfodol, ac wedi sicrhau bod ffrydiau cyllido鈥檙 dyfodol yn cael eu hysbysu am gymorth ac ymyriadau effeithiol oedd yn cael effaith go iawn ar y bobl y cawson nhw eu cynllunio i鈥檞 cefnogi.

Ymgorffori egwyddorion y Cyfamod

Uchelgais y Cyfamod yw ail-lunio perthnasoedd ac adeiladu partneriaethau parhaol rhwng y gymdeithas sifil a phob math o lywodraeth ledled y Deyrnas Unedig. Mae hon yn her sylweddol, hirdymor a fydd yn gofyn am ymrwymiad parhaus ac ymrwymiad gan ystod eang ac amrywiol o wahanol sefydliadau.

Er mwyn helpu i yrru momentwm a dangos arweinyddiaeth, mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i sicrhau bod Adrannau鈥檙 Llywodraeth yn cefnogi鈥檙 Cyfamod yn gyhoeddus ac yn gweithio tuag at ei roi ar waith er mwyn dod yn bartner gwell i鈥檙 gymdeithas sifil. Mae鈥檙 camau cyntaf y byddwn yn eu cymryd i weithredu鈥檙 Cyfamod yn cynnwys:

  • sefydlu Cyd-gyngor Cyfamod y Gymdeithas Sifil. Bydd y bwrdd traws-sector yma yn ganolog i gyflawni ac adolygu鈥檙 Cyfamod, gan osod y cyfeiriad a darparu鈥檙 oruchwyliaeth strategol ar gyfer ei weithredu

  • cyflwyno ystod o Grwpiau Gorchwyl a Gorffen yn canolbwyntio ar faterion polisi penodol sy鈥檔 effeithio ar y berthynas rhwng y gymdeithas sifil a鈥檙 llywodraeth. Bydd dau gr诺p cychwynnol yn canolbwyntio ar gomisiynu a phartneriaethau ar lefel leol

  • datblygu rhaglen i feithrin capasiti a dealltwriaeth ar draws y sectorau, gan gynnwys hybu mwy o secondiadau traws-sector

  • sefydlu hyb ar-lein ar gyfer canllawiau ac adnoddau ymarferol sy鈥檔 ymwneud 芒 Chyfamod y Gymdeithas Sifil

Ar lefel leol y mae perthnasoedd allweddol llawer o sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil 芒鈥檙 wladwriaeth yn gweithio. Nid ydym am dorri ar draws y fframweithiau gweinyddol neu statudol presennol lle mae鈥檙 rhain yn bodloni safon uwch neu gyfwerth, ond fe ddylai鈥檙 Cyfamod gael ei ddefnyddio i godi safonau lle nad yw hyn yn wir. Rydym yn bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol, meiri etholedig, iechyd lleol, a sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil leol i hybu a chefnogi trefniadau partneriaeth sydd wedi鈥檌 seilio ar le, sy鈥檔 adeiladu ar gryfderau lleol ac yn ateb anghenion lleol.

Mae鈥檙 Cyfamod yn cydnabod bod sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gweithio ar draws ystod eang o faterion polisi ac yn cael eu heffeithio ganddyn nhw, rai ohonyn nhw wedi鈥檜 datganoli i lywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a rhai wedi鈥檜 cadw i lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae鈥檙 Cyfamod hefyd yn cydnabod bod gan y Llywodraethau Datganoledig eu trefniadau eu hunain ar gyfer gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 gymdeithas sifil ym mhob gwlad. Nid yw鈥檙 Cyfamod wedi鈥檌 fwriadu i danseilio nac amharu ar y trefniadau partneriaeth yma ac mae wedi鈥檌 gynllunio i sicrhau aliniad 芒鈥檙 cynlluniau a鈥檙 dulliau presennol. Bydd y Cyfamod yn eistedd ochr yn ochr 芒鈥檙 trefniadau presennol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac yn helpu i ategu perthynas adeiladol rhwng llywodraeth y Deyrnas Unedig a鈥檙 gymdeithas sifil ar faterion sydd wedi鈥檜 cadw. Bydd llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i weithio mewn partneriaeth 芒 sefydliadau鈥檙 gymdeithas sifil ym mhob un o鈥檙 pedair rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig a chyda鈥檙 tair Llywodraeth Ddatganoledig i sicrhau cysondeb wrth i鈥檙 Cyfamod ennill ei blwyf.