Canllawiau

Cronfa Perchnogaeth Gymunedol: canllawiau ar y meini prawf asesu

Diweddarwyd 14 Rhagfyr 2021

This canllawiau was withdrawn on

This guidance is no longer current see Community Ownership Fund round 2 for latest guidance.

Mae鈥檙 canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am y meini prawf asesu a ddefnyddir. Maent yn amlinellu sut i ddefnyddio鈥檙 meini prawf asesu yn eich cais.

Dylech hefyd ddarllen:

Fframwaith asesu

Bydd Llywodraeth y DU yn asesu cynigion o bob cwr o鈥檙 DU yn erbyn fframwaith asesu cyffredin. Bydd ceisiadau yn cael eu sgorio yn defnyddio鈥檙 fframwaith hwn, a bydd penderfyniadau terfynol ynghylch cyllid yn cael eu gwneud gan y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG).

Cylch ymgeisio 1

Ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yng Nghylch Ymgeisio 1 yw buddsoddi mewn prosiectau hyfyw ac o ansawdd da, sy鈥檔 barod i gymryd perchnogaeth a rheolaeth o ased cymunedol a鈥檌 redeg fel busnes cymunedol cynaliadwy.

Meini prawf asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu hasesu ar sail y 4 maen prawf canlynol:

1. Achos strategol: dylai ymgeiswyr ddangos y byddai鈥檙 ased, heb ymyrraeth, yn cael ei golli i鈥檙 gymuned, yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael a鈥檙 gefnogaeth sydd ganddynt gan y gymuned a phartneriaid eraill. 2. Achos rheoli: dylai ymgeiswyr ddangos amcanion ac ymarferoldeb y prosiect a sut y bydd yr ased neu amwynder yn cael ei redeg yn gynaliadwy. 3. Potensial i ddarparu budd i鈥檙 gymuned: gan ddefnyddio鈥檙 fframwaith canlyniadau, dylai ymgeiswyr ddangos sut y bydd yr ased yn darparu buddion i鈥檙 gymuned o dan berchnogaeth gymunedol. 4. Gwerth ychwanegol yr ased cymunedol yn seiliedig ar angen cymunedol: gan ddefnyddio gwybodaeth a data lleol ynghylch angen cymunedol, dylai ymgeiswyr allu dangos gwerth ychwanegol yr ased neu amwynder cymunedol i鈥檙 gymuned.

1. Achos strategol

Bydd hyn yn cyfrif am 30% o鈥檙 asesiad.

Yr achos dros ymyrraeth gan y gymuned

Asesu a chanllawiau

Dylai eich achos dros ymyrraeth gan y gymuned gynnwys:

  • y risg sy鈥檔 wynebu鈥檙 ased ar hyn o bryd
  • pam y byddai鈥檙 ased, heb ymyrraeth gan y gymuned, yn cael ei golli
  • y r么l y mae鈥檙 ased cymunedol yn ei chwarae yn eich lle lleol (megis pa wasanaethau ac amwynderau y mae鈥檔 eu darparu)
  • yr effaith y byddai colli鈥檙 ased yn ei chael ar y gymuned

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cefnogaeth y gymuned

Asesu a chanllawiau

Rhaid i chi allu darparu tystiolaeth o gefnogaeth sydd gennych i鈥檆h cynlluniau i achub yr ased neu amwynder cymunedol. Gallai hyn gynnwys:

  • gweithgareddau ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned rydych wedi鈥檜 cynnal - a sut mae鈥檙 rhain wedi siapio eich cynlluniau
  • unrhyw godi arian cymunedol rydych wedi鈥檌 wneud
  • sut ydych wedi cynnwys pobl leol yn eich cynigion hyd yn hyn ac ystyried safbwyntiau cymunedol ynghylch nodau ac amcanion eich cynllun?

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Partneriaethau lleol a chysylltiadau 芒 chynlluniau lleol eraill

Asesu a chanllawiau

Rhaid i chi allu dangos eich bod wedi adeiladu partneriaethau lleol o amgylch eich cynlluniau, a鈥檙 r么l y gallai eich cynigion ei chwarae o fewn cynlluniau lleol eraill. Dylech gynnwys:

  • natur a graddfa鈥檙 gefnogaeth a chyfranogiad gan y cyngor lleol neu gyrff cyhoeddus eraill yn lleol
  • pa gefnogaeth sydd gennych gan sefydliadau neu fusnesau lleol eraill neu bartneriaid y sector cyhoeddus
  • sut mae eich cynlluniau yn ymwneud 芒 nodau unrhyw gynlluniau lleol eraill (megis cynllun cymdogaeth, strategaeth economaidd leol, strategaethau iechyd a llesiant)?

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cynaliadwyedd amgylcheddol

Asesu a chanllawiau

Rydym yn croesawu prosiectau a all gefnogi鈥檙 daith at sero-net ac yn ymgorffori dulliau di-garbon neu garbon isel.

Rydym hefyd yn croesawu prosiectau sy鈥檔 ystyried eu heffaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn lliniaru hyn.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 3.

Cyfanswm y Sg么r

Cyfanswm y sg么r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 18.

2. Achos rheoli

Bydd hyn yn cyfrif am 30% o鈥檙 asesiad.

Hyfywedd ariannol y model busnes

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi gynnwys trosolwg o鈥檆h model busnes, i ddangos eich bod wedi ystyried yr holl risgiau a thargedau cyflawnadwy sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h prosiect. Bydd angen i chi hefyd atodi eich cynllun busnes llawn.

Byddwn yn asesu eich cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd hirdymor yr ased cymunedol o dan berchnogaeth gymunedol drwy eich model busnes arfaethedig.

Amlinellwch eich cynlluniau ar gyfer cynhyrchu incwm a sut ydych yn bwriadu sicrhau adnoddau ar gyfer cynnal a chadw a rheoli鈥檙 ased, law yn llaw 芒鈥檙 gweithgareddau a gwasanaethau y byddwch yn eu darparu. Rhowch fanylion unrhyw arian dros ben disgwyliedig, a sut y bydd yn cael ei ailfuddsoddi yn eich gweithgareddau.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 10.

Cyllid cyfatebol a chostau llawn y prosiect

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi ddarparu:

  • faint o gyllid ydych yn ymgeisio amdano gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
  • eich costau prosiect llawn
  • ffynonellau o gyllid ydych chi eisoes wedi鈥檜 derbyn i ddatblygu eich prosiect hyd yn hyn
  • ffynonellau o gyllid ydych chi eisoes wedi鈥檜 sicrhau ar gyfer costau cyfalaf
  • ffynonellau o gyllid ydych chi鈥檔 bwriadu eu sicrhau ar gyfer eich prosiect

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu hyd at uchafswm o 50% o鈥檙 costau cyfalaf i brynu (ac adnewyddu ac atgyweirio) yr ased cymunedol. Dylech arddangos ffynonellau eraill o gyllid rydych wedi鈥檜 sicrhau neu a fyddwch yn eu sicrhau ar gyfer costau cyfalaf eich prosiect.

Gellir ymrwymo cyllid gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol 鈥榤ewn egwyddor鈥, cyn i chi sicrhau grantiau neu fenthyciadau eraill. Fodd bynnag, ar gyfer y cylch cyllido hwn, bydd angen tystiolaeth arnom y byddwch yn gallu sicrhau鈥檙 holl gyllid cyfatebol ar gyfer eich ased cymunedol ac yn defnyddio cyfalaf o fewn 6 mis i鈥檆h cais.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Sgiliau ac adnoddau sy鈥檔 ofynnol i reoli鈥檙 prosiect

Asesu a chanllawiau

Byddwn yn asesu sut ydych wedi ystyried gofynion rheoli eich prosiect, a鈥檙 camau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod gan eich sefydliad y gallu ac adnoddau iawn i redeg yr ased yn gynaliadwy. Arddangoswch eich bod wedi ystyried cynllunio olyniaeth ar gyfer staff ac ymddiriedolwyr eich sefydliad.

Os ydych yn bwriadu recriwtio staff i reoli a rhedeg yr ased a鈥檌 wasanaethau, rhowch drosolwg o鈥檙 cynlluniau hyn.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Rheolaeth, atebolrwydd, cynhwysiant ac integreiddiad y gymuned

Asesu a chanllawiau

Dylech arddangos eich bod yn atebol i鈥檙 gymuned a gynrychiolwch. Gallwch wneud hyn drwy ddangos:

  • pwy sydd ar eich bwrdd
  • eich strwythurau llywodraethu
  • ffyrdd y byddwch yn cynnwys y gymuned yn y gwaith o redeg yr ased
  • strwythur aelodaeth eich sefydliad
  • a fydd unrhyw rwystrau o ran pwy all ymuno

Arddangoswch sut ydych wedi ystyried cynhwysoldeb a materion integreiddio fel rhan o鈥檆h cynigion. Gan gynnwys sut y bydd yr ased cymunedol yn hygyrch a chynhwysol i holl aelodau鈥檙 gymuned, yn cynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sg么r

Cyfanswm y sg么r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 25.

3. Potensial i ddarparu buddion i鈥檙 gymuned

Bydd hyn yn cyfrif am 30% o鈥檙 asesiad.

Buddion cymunedol a ddarperir

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi arddangos buddion cymunedol yr ased, a sut y bydd y rhain yn cael eu cynnal a gwella drwy berchnogaeth gymunedol.

Dylai鈥檙 buddion hyn ymwneud ag un neu fwy o鈥檙 canlyniadau a amlinellir yn y prosbectws, sydd fel a ganlyn:

  • balchder cymunedol a chanfyddiadau o鈥檙 ardal leol fel lle i fyw
  • ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn
  • cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon
  • canlyniadau economaidd lleol - yn cynnwys cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth, a chyflogadwyedd a sgiliau
  • canlyniadau llesiant a chymdeithasol eraill - megis cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol

Ceir rhagor o ganllawiau yn adran 5.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 10.

Buddiolwyr cymunedol

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi arddangos pa grwpiau yn y gymuned sy鈥檔 defnyddio鈥檙 ased neu amwynder ar hyn o bryd, a sut y byddent yn elwa ar amddiffyn yr ased.

Byddwch yn dangos sut y bydd yr ased yn gynhwysol ac yn darparu buddion i aelodau鈥檙 gymuned ehangach o dan berchnogaeth gymunedol. Efallai fod un prif gr诺p o fuddiolwyr o fewn y gymuned sy鈥檔 elwa鈥檔 bennaf ar yr ased, ond bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus arddangos bod yr ased yn gwasanaethu鈥檙 lle daearyddol ehangach ac nid cymuned o ddiddordeb yn unig.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sg么r

Cyfanswm y sg么r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 15.

4. Gwerth ychwanegol yn seiliedig ar angen cymunedol

Bydd hyn yn cyfrif am 10% o鈥檙 asesiad.

Arddangos anghenion cymunedol

Asesu a chanllawiau

Bydd angen i chi ddarparu asesiad o angen cymunedol gan ddefnyddio ystadegau cymdogaeth lleol.

Dylech gynnwys data lleol perthnasol sy鈥檔 helpu i arddangos pam mae鈥檙 ased yn bwysig i鈥檆h cymuned.

Er enghraifft, gallai ceisiadau ddefnyddio pyrth IMD unigol i werthuso eu hangen perthynol a dangos sut y gallai鈥檙 ased a phrosiect fynd i鈥檙 afael 芒 her benodol ar gyfer eu lle - er enghraifft, iechyd neu gyflogaeth.

Gallai hyn gynnwys gwerthusiad o鈥檙 canlynol:

  • argaeledd gwasanaethau tebyg eraill (h.y. mae鈥檙 ased rydych yn ceisio ei achub yn darparu gwasanaeth neu amwynder unigryw y byddai鈥檔 rhaid i bobl deithio i leoedd eraill amdano)
  • potensial i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau lleol - er enghraifft, os ydych yn disgwyl i鈥檆h prosiect gyflawni ymdeimlad cynyddol o falchder lle i鈥檙 ardal, eglurwch yr effaith y byddai hyn yn ei chael mewn perthynas 芒 sut mae pobl leol yn teimlo ar hyn o bryd am y lle lleol, neu鈥檙 angen am adfywiad

Efallai yr hoffech hefyd gynnwys trosolwg o鈥檙 cryfderau presennol o fewn eich cymuned y gall eich prosiect helpu i鈥檞 harneisio a datblygu i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau lleol a darparu buddion i鈥檙 gymuned.

Sgorio

Bydd hyn yn cael ei sgorio allan o 5.

Cyfanswm y Sg么r

Cyfanswm y sg么r bosibl ar gyfer yr adran hon yw 5.

Sgorio

Bydd y sgorau asesu yn cael eu pwysoli yn unol 芒 phwysigrwydd y maen prawf hwnnw, a chyfanswm y sg么r yn cael ei roi fel canran.

Er enghraifft, byddai鈥檙 sg么r uchaf o 25 ar gyfer yr achos rheoli (sydd 芒 phwysoliad o 30%) yn cyfrannu 30% at y sg么r derfynol. Byddai鈥檙 sg么r uchaf o 5 ar gyfer gwerth ychwanegol yn seiliedig ar angen cymunedol (sydd 芒 phwysoliad o 10%) yn cyfrannu 10% at y sg么r derfynol.

Dylai cynigion sgorio o leiaf 11 ar gyfer achos strategol, 15 ar gyfer achos rheoli, 9 ar gyfer budd cymunedol ac o leiaf 2 ar gyfer angen cymunedol i gael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.

Canllawiau eraill: sut mae dangos buddion a chanlyniadau cymunedol

Mae鈥檙 adran hon yn darparu manylion eraill ynghylch sut y gall ymgeiswyr fynd i鈥檙 afael 芒 maen prawf asesu 3: 鈥淧otensial i ddarparu buddion i鈥檙 gymuned鈥.

Canlyniadau COF hanfodol:

Mae angen i chi arddangos y potensial i gyflawni鈥檙 HOLL ganlyniadau canlynol yn eich cais.

Amddiffyn ased neu amwynder cymunedol sydd mewn perygl a gwarchod ei werth cymunedol

Rhaid i chi arddangos bod yr ased cymunedol rydych yn ceisio ei achub, mewn perygl o gael ei golli.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan o鈥檙 trosolwg o鈥檆h prosiect ac yn cael ei hasesu fel rhan o鈥檆h achos strategol.

Cyfeiriwch at yr adrannau hyn o鈥檙 templed ffurflen gais am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gyflawni鈥檙 canlyniad hwn.

Datblygu model gweithredu cynaliadwy i sicrhau dyfodol yr ased cymunedol yn yr hirdymor o dan berchnogaeth gymunedol

Rhaid i chi arddangos bod gan eich sefydliad y gallu rheolaethol a鈥檙 potensial i gyflawni model gweithredu cynaliadwy ar gyfer yr ased cymunedol.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan o鈥檆h achos rheoli ac yn eich cynllun busnes. Cyfeiriwch at yr adrannau hyn o鈥檙 templed ffurflen gais am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gallwch gyflawni鈥檙 canlyniad hwn.

Diogelu a gwella鈥檙 defnydd o asedau ac amwynderau neu wasanaethau cymunedol lleol cysylltiedig

Rhaid i chi allu arddangos y bydd eich cynnig yn diogelu a gwella鈥檙 defnydd o鈥檙 ased cymunedol a/neu鈥檔 cynyddu mynediad at y gwasanaethau neu amwynderau.

Yn eich cais, bydd y dystiolaeth hon yn cael ei darparu fel rhan o鈥檆h achos rheoli a chynllun busnes (yn nhermau ymarferoldeb) ac yn eich amlinelliad o鈥檙 buddion cymunedol y bydd eich ased yn eu darparu.

Canlyniadau COF eraill

Eglurwch sut y gallwch arddangos potensial i gyflawni un neu fwy o鈥檙 canlyniadau hyn yn eich cais.

Dylid arddangos y rhain drwy鈥檙 adrannau 鈥榩otensial i ddarparu buddion i鈥檙 gymuned鈥 o鈥檙 ffurflen gais.

Cynyddu ymdeimlad o falchder a gwella canfyddiadau o鈥檙 ardal leol fel lle i fyw

Pa fuddion ydych chi鈥檔 disgwyl eu cyflawni mewn perthynas 芒 sut mae pobl yn teimlo am yr ardal fel lle i fyw? Gallwch arddangos hyn drwy:

  • ganlyniadau digwyddiadau ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned neu arolygon a safbwyntiau gan y gymuned ynghylch y r么l y mae鈥檙 ased yn ei chwarae o ran sut maent yn teimlo am yr ardal leol neu sut y gallai鈥檙 gwelliannau rydych am eu gwneud i鈥檙 ased newid y ffordd mae pobl yn teimlo am fyw yn y gymdogaeth honno
  • safbwyntiau gan randdeiliaid lleol eraill (megis busnesau lleol) ynghylch y r么l y gallai鈥檙 ased ei chwarae wrth gefnogi gwelliannau ehangach i鈥檙 lle hwnnw

Er enghraifft, yn achos dod ag ased adfeiliedig ar y stryd fawr o dan berchnogaeth gymunedol, pa effeithiau allai hyn eu cael ar y busnesau cyfagos eraill?

Gwella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn

Ym mha ffyrdd y gallech ddisgwyl i鈥檆h prosiect wella ymddiriedaeth gymdeithasol, cydlyniad ac ymdeimlad o berthyn yn eich cymuned. Gallai hyn fod drwy鈥檙 gwasanaethau a gweithgareddau sydd eisoes yn digwydd yn y lle, neu drwy wasanaethau a gweithgareddau newydd.

Pa grwpiau lleol eraill ydych chi鈥檔 gweithio 芒 nhw a sut mae鈥檙 ffordd rydych yn cydweithio yn dod ag aelodau gwahanol o鈥檙 gymuned ynghyd? Sut y gallai eich cynigion gryfhau鈥檙 partneriaethau hyn?

Gallech ddangos sut y bydd yr ased cymunedol yn dod ag aelodau gwahanol o鈥檙 gymuned ynghyd na fyddai鈥檔 cymysgu fel arall, o bosibl, neu鈥檔 darparu cyfleoedd i wahanol bobl gydweithio ar brosiectau cymunedol.

Cynyddu cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon

I arddangos effaith eich cynnig ar gyfranogiad ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant a/neu chwaraeon, dylech ddefnyddio gwybodaeth ynghylch defnydd presennol o鈥檙 ased neu amwynder cymunedol. Pwy sy鈥檔 defnyddio鈥檙 ased ar hyn o bryd a phwy yw鈥檙 prif fuddiolwyr?

Gallech ddod o hyd i鈥檙 wybodaeth hon gan y cyngor, y perchennog presennol, neu drwy eich arolygon a gweithgareddau ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned eich hun. Yn ogystal 芒 cheisio dangos sut y byddwch yn gwarchod cyfranogiad drwy ddiogelu鈥檙 ased, dylech hefyd ddangos beth yw鈥檙 cyfleoedd ar gyfer cynyddu cyfranogiad. Gallai hyn fod drwy gyfleoedd gwirfoddoli, oriau agor newydd, neu weithgareddau newydd a ddarperir.

Gallech ddangos hefyd sut y byddwch yn cynnwys aelodau鈥檙 gymuned yn y gwaith o redeg yr ased ac yn gwrando ar y gymuned a鈥檌 grymuso drwy ymgysylltu 芒鈥檙 gymuned.

Creu canlyniadau economaidd lleol eraill

Mae hyn yn cynnwys creu swyddi, cyfleoedd gwirfoddoli a gwella cyflogadwyedd a lefelau sgiliau yn y gymuned leol.

Gallech ddisgwyl i鈥檆h cynnig gyflawni canlyniadau economaidd lleol. Gallai hyn gynnwys gwarchod y gwerth presennol i鈥檙 economi leol, yn ogystal ag unrhyw fuddion disgwyliedig eraill.

Gallech ddangos hyn drwy:

  • y cyfleoedd gwirfoddoli rydych yn disgwyl eu darparu fel rhan o鈥檆h prosiect
  • y swyddi rydych yn disgwyl eu creu neu eu cefnogi fel rhan o鈥檆h prosiect
  • buddion eraill o ran cyflogadwyedd a sgiliau, drwy鈥檙 gwasanaethau a gweithgareddau rydych yn disgwyl eu rhedeg o鈥檙 ased fel rhan o鈥檆h cynnig
  • cynlluniau i fynd i鈥檙 afael 芒 chynaliadwyedd amgylcheddol, lleihau carbon a chwtogi gwastraff neu gyfrannu at economi leol fwy gwyrdd drwy gadwraeth ac addysg
  • cyfleoedd ar gyfer menter gymunedol neu BBaChau drwy sefydliadau tenant
  • cynlluniau i gefnogi鈥檙 economi leol drwy ailfuddsoddi arian dros ben mewn cadwyni cyflenwi lleol
  • denu twristiaid neu ymwelwyr newydd i鈥檙 economi leol
  • buddsoddi o鈥檙 newydd yn y lle lleol (yn cynnwys drwy gyfranddaliadau cymunedol neu gyllido torfol)

Creu canlyniadau cymdeithasol a llesiant eraill

Mae hyn yn cynnwys cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a/neu gorfforol a lleihau unigedd ac arwahanrwydd cymdeithasol.

Gallech ddisgwyl i鈥檆h cynnig gyflawni canlyniadau cymdeithasol a llesiant eraill. Gallai hyn gynnwys gwarchod y gwerth presennol i iechyd a llesiant, yn ogystal ag unrhyw fuddion disgwyliedig eraill.

Gallech ddangos hyn drwy:

  • y gwasanaethau y mae鈥檙 ased cymunedol yn eu darparu
  • pwy sy鈥檔 defnyddio鈥檙 lle a鈥檙 effaith y mae hyn yn ei chael ar eu hiechyd a llesiant
  • gwasanaethau a gweithgareddau鈥檙 sefydliadau tenant sy鈥檔 gweithredu yn y lle
  • y cyfleoedd i fynd i鈥檙 afael ag unigedd ac arwahanrwydd drwy ddod 芒 phobl ynghyd

Angen cymunedol

Fel rhan o faen prawf asesu 4, mae鈥檔 ofynnol i chi hefyd arddangos y gwahaniaeth a wna鈥檙 ased i鈥檙 gymuned yn seiliedig ar angen.

Gallwch ddod o hyd i ystod o ffynonellau data lleol a gwybodaeth a defnyddio鈥檙 rhain i ddangos angen eich cymuned, a鈥檙 r么l y bydd eich prosiect ac ased cymunedol yn ei chwarae wrth ddiwallu鈥檙 angen hwnnw.

Gall ffynonellau data perthnasol gynnwys y canlynol:

  • mynegai amddifadedd lluosog - gan ddefnyddio鈥檙 pyrth unigol sydd fwyaf perthnasol i鈥檆h prosiect
  • tystiolaeth wedi鈥檌 darparu fel rhan o gynllun cymdogaeth
  • proffiliau cymdogaeth lleol a data gan eich cyngor lleol
  • data iechyd a llesiant lleol gan eich asiantaeth iechyd cyhoeddus leol neu Ymddiriedolaeth y GIG