Canllawiau

Cynlluniau cyfranddaliadau sydd â mantais treth — CC/FS1f

Diweddarwyd 25 Mehefin 2025

Gwybodaeth gyffredinol am wiriadau cydymffurfio a gynhelir ar gynlluniau cyfranddaliadau sydd â mantais dreth

Mae’r daflen wybodaeth hon yn sôn am y gwiriadau cydymffurfio a gynhelir ar gynlluniau cyfranddaliadau sydd â mantais dreth. Mae’n un o gyfres. I weld y rhestr lawn, ewch i ÌìÃÀÓ°Ôº a chwilio am ‘HMRC compliance checks factsheets’.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Os yw’n bosibl y gall eich amgylchiadau personol neu’ch iechyd ei gwneud yn anodd i chi ddelio â ni, rhowch wybod i’r swyddog a gysylltodd â chi. Byddant yn eich helpu ym mha bynnag ffordd y gallant. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ewch i ÌìÃÀÓ°Ôº a chwilio am ‘get help from HMRC if you need extra support’.

Gallwch hefyd ofyn i rywun arall ddelio â ni ar eich rhan, er enghraifft, ymgynghorydd proffesiynol, ffrind neu berthynas. Fodd bynnag, efallai y bydd yn dal i fod yn rhaid i ni siarad â chi neu ysgrifennu atoch yn uniongyrchol am rai pethau. Os bydd angen i ni ysgrifennu atoch, byddwn yn anfon copi o’n llythyr at yr unigolyn rydych wedi gofyn i ni ddelio ag ef. Os bydd angen i ni siarad â chi, caiff yr unigolyn hwnnw fod gyda chi pan fyddwn yn gwneud hynny, pe bai’n well gennych.

Beth yw gwiriadau cydymffurfio

Rydym yn cynnal gwiriadau i’r cynlluniau, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion ar gyfer statws ‘â mantais dreth’. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:

  • Cynllun Cymell Cyfranddaliadau (SIP), Atodlen 2
  • Cynllun Cynilo Wrth Ennill (SAYE), Atodlen 3
  • Cynllun Opsiwn Prynu Cyfranddaliadau Cwmni (CSOP), Atodlen 4
  • Cymhellion Rheoli Mentrau (EMI)

Os byddwn yn dechrau gwiriad, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth rydym yn ei wirio. Byddwn yn gofyn i chi roi unrhyw wybodaeth neu ddogfennau y gallai fod eu hangen arnom. Os nad ydych yn siŵr pam rydym yn gofyn am rywbeth, rhowch wybod i ni a byddwn yn egluro pam.

Rhowch wybod i ni os na allwch wneud yr hyn a ofynnwn, neu os ydych yn meddwl bod rhywbeth rydym wedi gofyn amdano’n afresymol neu’n amherthnasol i’r gwiriad. Byddwn yn ystyried eich rhesymau’n ofalus ac, os ydym yn dal i feddwl bod ei angen arnom, byddwn yn egluro pam.

Y manteision o’n helpu gyda gwiriad

Os oes rhywbeth sydd o’i le, byddwn yn gweithio gyda chi i unioni pethau. Byddwn yn gweithio gyda chi i bennu swm unrhyw dreth ychwanegol, llog am ‘dalu’n hwyr’ a chosbau a allai fod yn ddyledus. Mae gweithio gyda ni yn debygol o ostwng swm unrhyw gosbau y gallwn eu codi.

Os ydych yn gwybod neu’n amau bod rhywbeth o’i le, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i ni am bopeth sydd o’i le cyn gynted ag y byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi dechrau gwiriad
  • gweithio gyda ni i gyfrifo’r swm cywir o dreth

Os gwelwn rywbeth o’i le nad oeddech yn gwybod amdano, mae’n rhaid i chi fod wedi rhoi cymaint o help ag yr oedd ei angen arnom hyd hynny.

Cyn gynted ag y byddwn yn rhoi gwybod i chi fod rhywbeth o’i le, dywedwch wrth y swyddog sy’n delio â’r gwiriad bopeth amdano.

Gadewch iddo weld unrhyw gofnodion ychwanegol sydd eu hangen arno a helpwch nhw i gyfrifo’r swm cywir o dreth.

Mae’n bosibl y byddwn yn anfon hysbysiad gwybodaeth atoch os ydym wedi gwneud un o’r canlynol:

  • gofyn i chi am wybodaeth neu ddogfennau ac nad ydych yn eu darparu
  • yn gofyn am gael ymweld â’ch safle busnes i archwilio cofnodion eich busnes, a’ch bod yn gwrthod

Byddai’r hysbysiad hwn yn mynnu eich bod yn rhoi’r dogfennau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnom.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS2, ‘Hysbysiadau gwybodaeth’. I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i www.gov.uk a chwilio am ‘CC/FS2’.

Sut yr ydym yn gweithio gyda busnesau mawr a chymhleth

Yr adran Busnesau Mawr yn CThEF sy’n gofalu am faterion treth y busnesau mwyaf o ran maint a chymhlethdod. Mae pob busnes yn Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid oherwydd ei faint neu gymhlethdod ei faterion treth. Mae’r Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn rheoli gweithgarwch cydymffurfio CThEF, a’r berthynas rhwng y busnes a CThEF o ran yr holl drethi a thollau. Mae ein Rheolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid yn gweithio gyda’r busnesau mawr hyn i nodi, gwirio a rheoli’r risg treth.

Ein nod yw meithrin perthynas agored ac ymddiriedus gyda’r busnesau hyn. Er mwyn gwneud hyn, byddwn:

  • yn agored ac yn dryloyw wrth ymwneud â chi
  • yn disgwyl i chi gydweithio’n agored ac yn dryloyw â ni
  • yn gweithio gyda chi i archwilio risgiau treth yr ydym ni, neu yr ydych chi, yn eu nodi
  • yn trafod unrhyw risgiau â chi yn y lle cyntaf, cyn ystyried defnyddio pwerau ffurfiol

Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni ddefnyddio ein pwerau ffurfiol neu anfon hysbysiad o asesiad o dan amgylchiadau penodol. Er enghraifft:

  • os ydych yn ffafrio dull ffurfiol
  • pan fo terfyn amser ar gyfer cynnal asesiad yn agosáu
  • os nad ydym wedi llwyddo i ddatrys problem, a bod angen i ni wneud cais ffurfiol am wybodaeth gennych
  • os yw’r mater yn debygol o gael ei gyflwyno gerbron tribiwnlys apelio annibynnol ar gyfer penderfyniad

Gadewch i ni wybod os:

  • ydym wedi gofyn i chi wneud rhywbeth a bod angen mwy o amser arnoch
  • nad ydych yn cytuno â rhywbeth

Os ydych yn anghytuno

Os oes rhywbeth nad ydych yn cytuno ag ef, rhowch wybod i ni. Yn y rhan fwyaf o achosion sy’n ymwneud â Busnesau Mawr, dylech ddisgwyl i’r Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid weithio gyda chi i ddatrys anghydfodau.

Os byddwn yn gwneud penderfyniad y gallwch apelio yn ei erbyn, byddwn yn ysgrifennu atoch ynghylch y penderfyniad ac yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud os ydych yn anghytuno. Fel arfer, bydd gennych 3 opsiwn. Cyn pen 30 diwrnod, gallwch:

  • anfon gwybodaeth newydd at y Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid sy’n delio â’r gwiriad, a gofyn iddo ei hystyried
  • cael eich achos wedi’i adolygu gan swyddog CThEF na fu’n ymwneud â’r mater cyn hyn
  • trefnu bod tribiwnlys annibynnol yn gwrando ar eich apêl ac yn penderfynu ar y mater

Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad ar ein llythyr. I gael rhagor o wybodaeth am apeliadau, ewch i www.gov.uk/anghytuno-phenderfyniad-treth.

Mae’n bosibl y gallwch hefyd ofyn i un o swyddogion arbenigol CThEF weithredu fel hwylusydd diduedd er mwyn helpu i ddatrys yr anghydfod.

‘Y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR)’ yw’r enw a roddir ar y gwasanaeth hwn.

Mae ADR dim ond ar gael ar gyfer anghydfodau sy’n ymwneud â meysydd treth penodol. Bydd y swyddog sy’n delio â’r gwiriad yn rhoi gwybod i chi a yw ADR ar gael ar gyfer eich anghydfod.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS21, ‘Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod’ I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i ÌìÃÀÓ°Ôº a chwilio am ‘CC/FS21’.

Eich prif hawliau ac ymrwymiadau

Mae gennych:

  • yr hawl i gael eich cynrychioli - gallwch benodi unrhyw un i weithredu ar eich rhan
  • dyletswydd i gymryd gofal rhesymol i gael pethau’n iawn — os oes gennych ymgynghorydd, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gymryd gofal rhesymol er mwyn sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth, dogfennau neu fanylion eraill a anfonir atom ar eich rhan yn gywir

Mae ‘Siarter CThEF’ yn egluro’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym ni, a’r hyn a ddisgwyliwn gennych chi. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i ÌìÃÀÓ°Ôº a chwilio am ‘Siarter CThEF’.

Eich hawliau os ydym yn ystyried cosbau

Byddwn yn rhoi gwybod i chi os oes rhywbeth o’i le a’n bod yn ystyried cosbau. I gael gwybod pa hawliau sydd gennych pan fyddwn yn ystyried cosbau, darllenwch ein taflen wybodaeth CC/FS9, ‘Y Ddeddf Hawliau Dynol a chosbau’.

I gael y daflen wybodaeth hon, ewch i ÌìÃÀÓ°Ôº a chwilio am ‘CC/FS9’.

Defnyddio deunydd cod agored yn ystod gwiriad cydymffurfio

Gallwn arsylwi ar ddata’r rhyngrwyd, sydd ar gael i bawb, yn ogystal â monitro, cofnodi a chadw’r data hynny. Gelwir hyn yn ddeunydd ‘cod agored’, ac mae’n cynnwys adroddiadau newyddion, gwefannau, cofnodion Tŷ’r Cwmnïau a’r Gofrestrfa Tir, blogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol lle nad oes unrhyw osodiadau preifatrwydd wedi’u defnyddio.

Rhagor o wybodaeth

Ein hysbysiad preifatrwydd

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn nodi’r safonau y gallwch eu disgwyl gennym pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu’n cadw gwybodaeth amdanoch. Ewch i ÌìÃÀÓ°Ôº a chwilio am ‘HMRC Privacy Notice’, yna dewiswch yr opsiwn Cymraeg.

Os nad ydych yn fodlon ar ein gwasanaeth

Rhowch wybod i’r person neu’r swyddfa rydych wedi bod yn delio â nhw. Byddant yn ceisio unioni pethau. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon, byddant yn rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn ffurfiol.