Ystadau sy鈥檔 datblygu: gwasanaethau cofrestru: gwerthu lleiniau: trosglwyddiadau a phrydlesi (cyfarwyddyd ymarfer 41, atodiad 4)
Diweddarwyd 15 Tachwedd 2021
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae鈥檙 atodiad hwn yn egluro sut y bydd prynwyr lleiniau ar ddatblygiadau newydd yn gallu bodloni eu hunain bod eu llain, a鈥檙 hawliau sy鈥檔 mynd 芒 hi, o fewn teitl y datblygwr. Mae hefyd yn cynnwys cyfarwyddyd ar chwiliadau swyddogol, rhyddhad o arwystl y datblygwr, cyfyngiadau a鈥檙 materion ychwanegol sy鈥檔 codi lle caiff y datblygiad ei waredu trwy roi prydlesi.
1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau
Dim ond cop茂au ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o鈥檙 dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chop茂au ardystiedig.
Wrth uwchlwytho dogfennau, byddwch yn gallu ardystio unrhyw ddogfennau wedi eu sganio trwy gadarnhau eu bod yn gopi gwir o鈥檙 gwreiddiol gan ddefnyddio鈥檙 datganiadau ardystio sydd ar gael.
2. Gwybodaeth sydd ei hangen ar y prynwr
Bydd angen ichi weld copi swyddogol o gofrestr teitl y datblygwr bob amser fel y gallwch weld y dosbarth teitl sy鈥檔 cael ei gynnig a鈥檙 beichiau sy鈥檔 effeithio ar y tir. Byddwn yn darparu copi swyddogol ar gais ond gall y datblygwr anfon un atoch gyda鈥檙 contract drafft.
Dylech sicrhau bod unrhyw ffensys a godwyd ar hyd terfynau鈥檙 llain wedi eu gosod, neu y byddant, yn unol 芒鈥檙 cynllun ynghlwm wrth y trosglwyddiad neu brydles. Os oes unrhyw amheuaeth dylech fynd dros hyn gyda鈥檙 datblygwr ac, os bydd angen, gofyn am gyngor tirfesurydd cymwys. Hefyd, bydd angen ichi wneud y canlynol:
- cadarnhau bod eich llain yn nheitl y datblygwr
- gweld pa gyfeiriadau (os oes rhai) ar y cynllun teitl sy鈥檔 effeithio ar y llain fel y gallwch weld pa rai o鈥檙 cofnodion ar y gofrestr sy鈥檔 perthyn i鈥檙 llain
- yn union cyn cwblhau, cadarnhau bod y llain yn dal yn y teitl, nad yw鈥檔 destun unrhyw gais blaenorol yn aros i鈥檞 brosesu ac na wnaed unrhyw gofnod gwrthwynebus sy鈥檔 effeithio arni ar y gofrestr ers y dyddiad y cyhoeddwyd copi swyddogol cofrestr y datblygwr
3. Tystiolaeth bod y llain sy鈥檔 cael ei phrynu yn nheitl y datblygwr
Mae ffurflen CI, tystysgrif archwiliad o鈥檙 cynllun teitl, yn ardystio bod y llain a ddisgrifia yn dod o fewn teitl cofrestredig y datblygwr ac yn datgan os oes unrhyw liw neu gyfeiriad arall yn ymddangos ar y cynllun teitl sy鈥檔 effeithio ar y llain neu beidio. Nid yw鈥檙 dystysgrif hon yn rhoi unrhyw flaenoriaeth o ran cofrestru鈥檙 trosglwyddiad neu brydles ond rydym yn gwarantu ei chywirdeb a gall ceisydd hawlio indemniad os yw鈥檙 dystysgrif yn cynnwys unrhyw gamgymeriad sy鈥檔 peri colled (gweler paragraff 1(1)(c) Atodlen 8, Deddf Cofrestru Tir 2002). Mae ffurflen CI yn rhoi鈥檔 union yr un wybodaeth y gallai鈥檙 prynwr ei chael o archwilio copi swyddogol o gynllun teitl y datblygwr. Nid oes ar brynwr sy鈥檔 dal ffurflen CI angen copi o鈥檙 cynllun teitl hwnnw.
Os na fydd y datblygwr yn darparu ffurflen CI gyda鈥檙 contract drafft, gall y prynwr wneud cais am un trwy borthol Cofrestrfa Tir EF neu trwy ddefnyddio ffurflen OC1. Mewn achosion lle鈥檙 ydym wedi cymeradwyo cynllun ystad yn swyddogol (gweler Atodiad 2 i鈥檙 cyfarwyddyd ymarfer hwn), dylai鈥檙 cais am dystysgrif ddisgrifio鈥檙 tir sy鈥檔 cael ei brynu trwy gyfeirio at rif y llain neu leiniau sy鈥檔 cael eu dangos ar y cynllun hwnnw. Fel arall, dylai鈥檙 prynwr uwchlwytho cynllun i鈥檙 cais. Yn y naill achos neu鈥檙 llall, rhaid i鈥檙 ceisydd ddarparu disgrifiad geiriol digonol o鈥檙 eiddo. Rhaid ichi roi enw neu ddisgrifiad dros dro y ffordd sy鈥檔 gwasanaethu鈥檙 eiddo yn ogystal 芒 rhif y llain neu leiniau ar unrhyw gynllun ystad cymeradwy. Dylid rhoi rhifau cynllun sy鈥檔 gwahaniaethu unrhyw ddarnau eraill (er enghraifft, modurdy neu fan parcio) sydd yn rhan o鈥檙 pryniant hefyd.
Gall defnyddio trefn ffurflen CI arbed yr oedi a all godi i ddatblygwyr wrth gael cop茂au swyddogol o gynlluniau teitl mawr a chymhleth er mwyn eu rhoi i brynwyr.
4. Tystiolaeth o hawddfreintiau
Bydd prynwyr a鈥檜 cynghorwyr cyfreithiol eisiau bodloni eu hunain bod p藛w锚r gan y datblygwr i roi unrhyw hawddfreintiau a ddarparwyd ar eu cyfer yn y contract, er enghraifft, hawliau tramwy dros ffyrdd a thramwyfeydd a hawliau draenio.
Dylai datblygwr sy鈥檔 bwriadu mabwysiadu ffurf safonol o warediad ar gyfer yr ystad ofyn inni gymeradwyo鈥檙 brydles neu drosglwyddiad drafft cyn dechrau datblygu. Yn ein llythyr at gynghorwyr cyfreithiol y datblygwr yn cymeradwyo鈥檙 drafft byddwn yn rhoi sicrwydd bryd bynnag y gallwn, os yw鈥檙 hawddfreintiau yn cael eu rhoi ar y ffurf safonol, y byddwn yn eu cofrestru fel yn perthyn i deitlau鈥檙 prynwyr. Os yw鈥檙 datblygwr yn rhoi copi o鈥檙 llythyr hwn i bob prynwr gall y prynwr ddibynnu ar ein sicrwydd ac ni fydd yn gorfod ymchwilio i b诺er y datblygwr i roi鈥檙 hawddfreintiau hynny. Mae鈥檙 broses gymeradwyo hefyd yn gadael inni dynnu sylw at unrhyw nodweddion anghyffredin, naill ai yng nghynllun yr ystad neu yn nhestun y trosglwyddiad neu brydles arfaethedig, cyn i unrhyw werthiant ddigwydd.
Fe fydd achosion lle na chafodd cynlluniau a dogfennau drafft datblygwyr eu cymeradwyo, am ryw reswm neu鈥檌 gilydd, fel na fyddwn yn gallu rhoi sicrwydd i brynwyr ynghylch hawddfreintiau. Cyn archebu copi swyddogol o gynllun teitl y datblygwr, dylech gofio bod hawddfreintiau a roddir wrth werthu lleiniau adeiladu yn aml o natur amhenodol, er enghraifft, hawl i ddraenio o dan dir cyffiniol y datblygwr heb unrhyw arwydd o le mae鈥檙 draeniau鈥檔 rhedeg. Yn y fath achos ni fydd archwiliad o鈥檙 cynllun teitl yn dwyn y mater ymhellach. Os yw鈥檙 grant yn fwy penodol, er enghraifft, hawl tramwy dros ffordd ddiffiniedig, mae modd gofyn inni gadarnhau bob amser, wrth wneud cais am ffurflen CI, bod y tir o dan sylw o fewn teitl y datblygwr. Mewn rhai achosion o鈥檙 fath rydym yn gallu trefnu gyda chynghorwyr cyfreithiol y datblygwr i gynnwys y wybodaeth hon ar holl dystysgrifau ffurflen CI a gyhoeddir o ran teitl eu cleient. Ar adegau eraill, fe all fod cofnodion ar y gofrestr sydd, o鈥檜 darllen ar y cyd 芒鈥檙 ffurflen CI a chopi neu ddetholiad o鈥檙 cynllun ystad cymeradwy, yn gallu rhoi sicrwydd digonol.
Fodd bynnag, mae trefn ffurflen CI yn ddewisol a gallwch wneud cais am gopi swyddogol o gynllun teitl y datblygwr.
5. Chwilio am gofnodion gwrthwynebus ar y gofrestr sy鈥檔 effeithio ar y llain
5.1 Sut i wneud cais
O leiaf 5 niwrnod cyn y dyddiad cwblhau a bennwyd, dylech wneud cais am chwiliad swyddogol o鈥檙 gofrestr. Byddwn yn ceisio cyhoeddi tystysgrif swyddogol y canlyniad o fewn 3 diwrnod gwaith ar 么l i ni dderbyn y cais. Mae鈥檙 dystysgrif chwiliad yn rhoi cyfnod blaenoriaeth ichi, yn dechrau ar adeg cofnodi鈥檙 cais hwnnw ar y rhestr ddydd ac yn dod i ben am hanner nos, yn nodi diwedd y 30ain diwrnod gwaith wedi hynny. Mae鈥檙 dystysgrif chwiliad yn datgan ar ba ddyddiadau y bydd y cyfnod blaenoriaeth yn dechrau ac yn dod i ben.
Rhaid i鈥檙 cais am chwiliad swyddogol ddisgrifio鈥檔 fanwl gywir hyd a lled y tir sydd yn destun y chwiliad. Os ydym wedi cymeradwyo鈥檙 cynllun ystad, dylai鈥檙 cais ddisgrifio鈥檙 tir trwy ei rif llain neu rifau lleiniau ar y cynllun hwnnw. Lle nad oes unrhyw gynllun ystad cymeradwy, rhaid ichi ddiffinio鈥檙 tir o dan sylw ar gynllun wedi ei uwchlwytho i鈥檙 cais. Mae ein gofynion o ran y cynllun hwn yr un fath 芒鈥檙 rhai ar gyfer cynllun y trosglwyddiad neu brydles (gweler Atodiad 5 i鈥檙 cyfarwyddyd ymarfer hwn). Dylai prynwyr sydd am osgoi dryswch sicrhau bod y cynllun a gyflwynir gyda鈥檜 cais am chwiliad swyddogol yn gopi union o gynllun y trosglwyddiad neu brydles.
Fel sy鈥檔 digwydd yn aml, lle mae鈥檙 prynwr yn bwriadu arwystlo鈥檙 eiddo ar unwaith wedi cymryd y trosglwyddiad neu brydles, mae tystysgrif chwiliad swyddogol a gafwyd ar ran yr arwystlai yn diogelu cofrestru鈥檙 arwystl a鈥檙 trosglwyddiad neu brydles y mae鈥檔 dibynnu arnynt.
Os oes oedi cyn cwblhau, gallwch wneud cais pellach am chwiliad swyddogol a byddwn yn cyhoeddi tystysgrif chwiliad swyddogol arall yn rhoi cyfnod blaenoriaeth newydd. Bydd y cyfnod hwn yn rhedeg o ddyddiad y dystysgrif newydd.
I gael rhagor o wybodaeth gweler cyfarwyddyd ymarfer 12: chwiliadau swyddogol.
5.2 Tir mewn mwy nag un teitl
Weithiau mae llain t欧 cael ei chynnwys mewn mwy nag un teitl, gyda鈥檙 datblygwr fel perchennog y ddau deitl. Yn y fath achos, gall prynwyr sydd am wneud cais am chwiliad swyddogol ar gyfer y ddau deitl roi鈥檙 2 rif teitl ar un cais am chwiliad swyddogol. Rhaid ichi addasu鈥檙 wybodaeth am eiddo i wneud eich gofynion yn glir. Os oes gennych ddyddiadau 鈥榗ofnodion sy鈥檔 bodoli鈥 gwahanol ar gyfer pob teitl, a gymrwyd naill ai o gop茂au swyddogol o鈥檙 cofrestri neu o olwg o鈥檙 gofrestr, rhaid ichi ddyfynnu鈥檙 ddau ddyddiad fel y dyddiad 鈥榶 chwilir ohono鈥, gan ddangos pa ddyddiad sy鈥檔 berthnasol i ba deitl. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 12: chwiliadau swyddogol.
5.3 Hawddfreintiau a roddwyd dros dir cyffiniol
Mae鈥檙 flaenoriaeth a roddwyd o dan dystysgrif chwiliad swyddogol yn ymestyn i鈥檙 hawddfreintiau a hawliau eraill a roddwyd dros y teitl a chwiliwyd. Lle bo鈥檙 hawddfreintiau a roddwyd yn dod o fewn teitl arall, dylech gyflwyno chwiliad yn erbyn yr holl deitlau sy鈥檔 cael eu heffeithio. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 12: chwiliadau swyddogol.
6. Rhyddhau rhan o arwystl presennol
Dylid gwneud cais i ryddhau鈥檙 rhan a drosglwyddwyd o arwystl cofrestredig presennol ar deitl y datblygwr trwy gynnwys y trafodiad 鈥榬hyddhau o ran鈥 ac uwchlwytho ffurflen DS3. Rhaid cynnwys cynlun sy鈥檔 nodi鈥檙 tir sy鈥檔 cael ei ryddhau gyda鈥檙 cais. Rhaid i鈥檙 cynllun ateb ein gofyniad (gweler Atodiad 5 i鈥檙 cyfarwyddyd ymarfer hwn) ac, yn ddelfrydol, bydd yn gopi union o鈥檙 cynllun trosglwyddo.
Rhaid gwneud cais i ddileu rhybudd o arwystl (heblaw rhybudd unochrog) o ran y llain sy鈥檔 cael ei chofrestru trwy ddewis y trafodiad 鈥榙ileu rhybudd (ac eithrio rhybudd unochrog)鈥 ac uwchlwytho ffurflen CN1. Rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddigonol y rhyddhawyd yr arwystl hefyd, trwy naill ai:
- ffurflen DS3
- derbynneb ardystiedig ar offeryn yr arwystl
- llythyr wedi ei gyfeirio at y cofrestrydd, wedi ei lofnodi gan yr arwystlai a nodwyd (neu lofnodwr awdurdodedig yr arwystlai a nodwyd os yw鈥檔 gorfforaeth), ac yn cynnwys cadarnhad na fu unrhyw aseiniad o fudd yr arwystl. (Os bu aseiniad, rhaid cyflwyno鈥檙 dystiolaeth trawsgludo arferol o ddisgyniad teitl), neu
- lythyr anghrisialu, yn achos arwystl ansefydlog
Nid oes angen cyflwyno鈥檙 arwystl ei hun ond (os yw ar gael) gall fod yn ddefnyddiol fel tystiolaeth bod y ceisydd yn dal 芒 hawl i鈥檙 budd ohono.
Lle cofnodwyd rhybudd unochrog o ran arwystl, rhaid gwneud cais i ddileu鈥檙 rhybudd o ran y llain sy鈥檔 cael ei chofrestru ar ffurflen UN2 lle bo鈥檙 cais i鈥檞 ddileu gan y buddiolwr cofrestredig. Os nad oes modd cyflwyno cais o鈥檙 fath mae modd i鈥檙 perchennog cofrestredig (neu bwy bynnag sydd 芒 hawl i鈥檞 gofrestru fel perchennog) wneud cais ar ffurflen UN4. Yn yr achos hwn bydd rhybudd o鈥檙 cais yn cael ei gyflwyno i鈥檙 buddiolwr.
Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.
7. Datblygu ystadau prydlesol: cop茂au swyddogol o鈥檙 gofrestr
Cyn cyhoeddi copi swyddogol o gofrestr rhaid i ni ystyried unrhyw gais sy鈥檔 aros i鈥檞 brosesu a fydd yn peri cofnod pellach ar y gofrestr. Oherwydd hyn byddwn yn 么l-ddyddio unrhyw gopi swyddogol i ddyddiad cyn derbyn y cais sy鈥檔 aros i鈥檞 brosesu. Yn anffodus, mae mwy o 么l-ddyddio ar gop茂au swyddogol o gofrestri teitlau sy鈥檔 cael eu datblygu trwy roi prydlesi nag ar gop茂au swyddogol o gofrestri ystadau adeiladu rhydd-ddaliol. Mae hyn oherwydd ein bod yn gorfod gwneud cofnod ar wah芒n ar y gofrestr o deitl y prydleswr am bob prydles. Rhaid i鈥檙 cofnodion hyn ddilyn ei gilydd yn union yn nhrefn amser, yn 么l dyddiad cofrestru pob prydles. Mae unrhyw oedi cyn cofrestru prydles arbennig (er enghraifft, oherwydd anhawster gyda鈥檙 terfyn) yn rhwystro cofnodi rhybudd o holl brydlesi gaiff eu derbyn yn ddiweddarach. Dyma fel y mae, er y gall cofrestru鈥檙 prydlesi diweddarach fod yn barod i鈥檞 gwblhau ar bob cyfrif arall. Nid yw鈥檙 anhawster hwn yn codi yn achos ystadau a werthir trwy drosglwyddiadau o ran. Yn yr achos hwnnw nid oes angen cofnodion ar wah芒n fel arfer oherwydd bod un cofnod cyffredinol ar gofrestr y datblygwr dros yr holl ddileadau i鈥檙 perwyl bod y rhannau o鈥檙 tir gydag ymyl gwyrdd ar y cynllun teitl wedi cael eu dileu o deitl y datblygwr.
Nid oes angen i ddarpar brydlesai neu arwystlai eiddo unigol bryderu nad yw copi swyddogol teitl y prydleswr yn nodi manylion holl brydlesi鈥檙 eiddo arall a roddwyd gan y prydleswr. Nid oes angen iddo ond sicrhau鈥檙 prydlesai neu arwystlai bod yr eiddo o dan sylw yn aros yn nheitl y prydleswr. Hyd yn oed os byddwn yn 么l-ddyddio copi swyddogol yn sylweddol, bydd chwiliad swyddogol yn diweddaru鈥檙 sefyllfa o ran eiddo鈥檙 prydlesai. Mae鈥檙 dystysgrif chwiliad swyddogol ei hun yn cadarnhau bod yr eiddo鈥檔 dal yn nheitl y prydleswr. Bydd y dystysgrif hefyd yn dadlennu os gwnaed unrhyw gofnodion gwrthwynebus yn effeithio ar yr eiddo sy鈥檔 destun y chwiliad ar y gofrestr ers dyddiad y copi swyddogol neu olwg o鈥檙 gofrestr. Bydd canlyniad y chwiliad hefyd yn dadlennu manylion unrhyw gais i gofrestru sy鈥檔 aros i鈥檞 brosesu neu chwiliad swyddogol sy鈥檔 effeithio ar y rhan a chwiliwyd.
8. Cofrestru gyda theitl prydlesol llwyr
Dylid cyflwyno unrhyw gydsyniad i roddiad a/neu gofrestriad y brydles sy鈥檔 ofynnol o ganlyniad i gofnodion yng nghofrestr teitl y prydleswr gyda鈥檙 cais i gofrestru鈥檙 brydles.
Mewn rhai amgylchiadau fodd bynnag, byddwn yn cwblhau鈥檙 cofrestriad gyda theitl llwyr os na chyflwynir cydsyniad. Byddwn fel rheol yn cymeradwyo teitl llwyr lle bo arwystl cofrestredig, ecwit茂ol neu ansefydlog wedi eu cofnodi yng nghofrestr teitl y prydleswr ond nad yw cydsyniad yr arwystlai i roddiad y brydles wedi ei gyflwyno nac eglurhad wedi ei ddarparu o ran pam nad oes angen y cydsyniad. Rhaid nad oes cyfyngiad yn gofyn am ganiat芒d cofrestriad y brydles chwaith. Yn y sefyllfa hon byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo鈥檙 teitl prydlesol newydd:
鈥淢ae鈥檙 teitl i鈥檙 brydles, yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig鈥 blaid鈥y鈥檔 effeithio ar deitl y prydleswr (ac, i鈥檙 graddau a ganiateir gan y gyfraith, unrhyw arwystl sy鈥檔 newid neu鈥檔 amrywio鈥檙 arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran yr holl swm neu ran o鈥檙 swm a sicrheir gan yr arwystl hwn), yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a allai fod wedi codi yn absenoldeb cydsyniad yr arwystlai, oni bai bod y brydles wedi ei hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.鈥
Diben y cofnod hwn yw tynnu sylw darpar brynwyr at wendid posibl y brydles gofrestredig. Dylai hefyd leihau鈥檙 posibilrwydd o hawl yr arwystlai鈥檔 effeithiol i bennu bod y brydles wedi鈥檌 cholli o ganlyniad i adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Bydd angen cydsyniad yr arwystlai arnom bob tro os oes cyfyngiad yn nheitl y prydleswr sy鈥檔 gofyn am ganiat芒d yr arwystlai i gofrestru prydles. Mae hyn oherwydd rhaid cydymffurfio 芒 chyfyngiad yn y gofrestr teitl pryd bynnag y bydd gwarediad yn cael ei ddal gan delerau cyfyngiad. Bydd cyfyngiad yn erbyn cofrestriad gwarediadau鈥檔 dal prydlesi.
Yn achos isbrydles, byddwn yn cymeradwyo teitl llwyr os oes nodyn ar deitl y prydleswr yn dangos bod y brif brydles yn cynnwys gwaharddiad yn erbyn arallu heb drwydded, ond nad yw trwydded na chydsyniad y prydleswr uwch gyda鈥檙 cais. Mae hyn oherwydd tra bod isbrydles sy鈥檔 torri gwaharddiad neu gyfyngiad mewn prif brydles neu brydles uwch yn brydles ddilys a allai gael ei chofrestru gyda theitl llwyr, nid yw hyn yn atal fforffediad y brydles honno a therfyniad yr isbrydles, gan gau teitl yr isbrydles o ganlyniad. Yn y sefyllfa hon, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo鈥檙 teitl prydlesol newydd.
鈥淣id yw鈥檙 cofrestrydd wedi gweld unrhyw ganiat芒d i roddiad yr isbrydles hon a allai fod yn ofynnol gan y brydles uwch, o鈥檙 hon y鈥檌 rhoddwyd.鈥
9. Cyfyngiadau
Mae cyfyngiadau鈥檔 rheoleiddio cofrestriad gwarediadau. Os yw trosglwyddiad o ran neu brydles yn cael eu dal gan delerau cyfyngiad ar deitl datblygwr, rhaid cydymffurfio 芒鈥檙 cyfyngiad, oni bai:
- bod y cyfyngiad ar Ffurf safonol P a bod y cais yn cynnwys rhyddhad o鈥檙 arwystl y cyfeirir ato yn y cyfyngiad, naill ai鈥檔 gyfan neu cyn belled ag y bo鈥檔 effeithio ar y tir a drosglwyddir neu a brydlesir (mae hyn oherwydd y caiff y cyfyngiad ei ddileu naill ai鈥檔 gyfan neu o ran fel rhan o鈥檙 cais i ryddhau)
- bod y cyfyngiad yn cael ei ddileu neu ei dynnu鈥檔 么l naill ai yn gyfan neu cyn belled ag y bo鈥檔 effeithio ar y tir a drosglwyddir
Ar 么l ei gofnodi, mae cyfyngiad yn aros yn y gofrestr hyd nes iddo gael ei ddileu neu ei dynnu鈥檔 么l. Mae hyn yn golygu wrth gofrestru trosglwyddiad o ran, bydd unrhyw gyfyngiad a fydd yn ymddangos yn nheitl y datblygwr fel rheol yn cael ei gario ymlaen i deitl y trosglwyddai oni bai bod y cyfyngiad yn cael ei ddileu neu ei dynnu鈥檔 么l cyn belled ag y bo鈥檔 effeithio ar y tir a drosglwyddir gan ddefnyddio ffurflen RX3 neu ffurflen RX4. Gan fod cofrestriad prydles yn creu ystad newydd, ni chaiff cyfyngiad ei gario ymlaen o deitl y prydleswr pan fo prydles yn cael ei chofrestru.
Os yw鈥檙 cyfyngiad yn aros ar deitl y datblygwr, gallwch gyflwyno cydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio unigol ar gyfer pob llain wrth gofrestru pob trosglwyddiad neu brydles. Fodd bynnag, yn achos trosglwyddiad, efallai y byddwch hefyd am i鈥檙 cydsyniad neu鈥檙 dystysgrif ddatgan nad yw鈥檙 cyfyngiad i鈥檞 gario ymlaen i鈥檙 teitl newydd. Rhaid i鈥檙 cydsyniad/tystysgrif ac unrhyw ddatganiad i鈥檙 perwyl nad yw鈥檙 cyfyngiad i gael ei gario ymlaen fod gan y buddiolwr neu ei drawsgludwr. Os caiff ei roi gan drawsgludwr y buddiolwr, rhaid i eiriad y cydsyniad/tystysgrif gynnwys datganiad yn dweud bod y trawsgludwr yn gweithredu ar ran y buddiolwr.
Os yw cais i gofrestru trosglwyddiad o ran neu brydles yn cynnwys cais, naill ai yn y trosglwyddiad, cymal LR13 o brydles cymalau penodedig neu ffurflen RX1, i gofnodi cyfyngiad newydd ac i gofrestru arwystl, dylech nodi trefn blaenoriaeth y ceisiadau i gofrestru鈥檙 cyfyngiad a鈥檙 arwystl. Os yw鈥檙 cyfyngiad yn dod i rym gyda blaenoriaeth dros yr arwystl a bod telerau鈥檙 cyfyngiad yn dal yr arwystl hwnnw, rhaid darparu unrhyw ganiat芒d neu dystysgrif sy鈥檔 ofynnol gan y cyfyngiad.
Mae gwybodaeth bellach ynghylch cofnodi, effaith a thynnu cyfyngiadau ymaith i鈥檞 gweld yng nghyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.
9.1 Cydsyniadau neu dystysgrifau cydymffurfio swmp
Gallwch gyflwyno cydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio swmp lle bydd y cyfyngiad yn aros ar deitl y datblygwr ond ni ddylid ei gario ymlaen i鈥檙 tir a drosglwyddir.
Bydd angen i鈥檙 cydsyniad neu dystysgrif:
- gael eu rhoi gan fuddiolwr y cyfyngiad neu ei drawsgludwr
- pan fydd y cydsyniad neu dystysgrif yn cael eu rhoi gan drawsgludwr ar ran y buddiolwr, rhaid i鈥檙 trawsgludwr gadarnhau ei fod yn gweithredu ar ran buddiolwr y cyfyngiad
- datgan yn glir na fwriedir i鈥檙 cyfyngiad gael ei gario ymlaen i unrhyw deitlau llain unigol
- rhaid i dystysgrif cydymffurfio ddatgan naill ai y cydymffurfiwyd 芒 darpariaethau鈥檙 cymal cydymffurfio y cyfeirir ato yn y cyfyngiad neu, os yw telerau鈥檙 cyfyngiad yn ei ganiat谩u, nad ydynt yn berthnasol i鈥檙 gwarediad
Gellir rhoi cydsyniad neu dystysgrif swmp gan ddefnyddio ffurflen RXC. Rhoddir canllawiau ar sut i lenwi鈥檙 ffurflen yn adran 3.1.6 o gyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod trydydd parti yn y gofrestr. Pan roddir cydsyniad neu dystysgrif swmp mewn perthynas 芒 lleiniau penodol, gellir cyfeirio at y rhain ym mhanel 4 neu banel 5 ffurflen RXC fel y bo鈥檔 briodol.
Rhaid ichi anfon y cydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio swmp i鈥檙 T卯m Datblygu yng Nghofrestrfa Tir EF a fydd yn delio 芒鈥檙 datblygiad, gyda llythyr eglurhaol yn datgan ei fod yn gydsyniad neu dystysgrif cydymffurfio swmp yn ymwneud 芒鈥檙 datblygiad a enwir, a dyfynnu rhif(au) teitl y datblygwr.
10. Rhybuddion unochrog
Lle na ddylid trosglwyddo rhybudd unochrog i鈥檙 llain a drosglwyddir neu a brydlesir, gallwch gyflwyno ffurflen UN2 unigol ar gyfer pob llain neu brydles.
Os mai eich bwriad yw atal y rhybudd unochrog rhag cael ei gario ymlaen i鈥檙 teitl newydd a鈥檌 dynnu o deitl y datblygwr, sicrhewch eich bod yn gwneud hyn yn glir ar y ffurflen UN2.
Pan fydd y rhybudd yn effeithio ar fwy o dir nag sydd yn y llain a werthir neu a brydlesir, a鈥檆h bod am ei dynnu ymaith mewn perthynas 芒鈥檙 llain a werthir neu a brydlesir yn unig, rhaid ichi nodi鈥檙 tir sy鈥檔 cael ei dynnu ymaith o鈥檙 rhybudd trwy un o鈥檙 canlynol.
- Rhif llain ar fersiwn diweddaraf cynllun ystad cymeradwy.
- Cyfeirnod sy鈥檔 bodoli ar gynllun teitl y datblygwr.
- Trwy gynllun gyda鈥檙 ffurflen UN2.
- Trwy gyfeirio at y cynllun yn llain y TP1 neu鈥檙 brydles.
11. Ffurflenni UN2 Swmp
Gellir cyflwyno cais UN2 swmp ar yr amod ei fod:
- yn nodi鈥檙 lleiniau yr effeithir arnynt gan y rhybudd sydd i鈥檞 gwerthu neu eu prydlesu a allai fod trwy gyfeirio at rifau鈥檙 lleiniau ar fersiwn diweddaraf cynllun ystad cymeradwy neu gan gynllun sydd wedi ei atodi i鈥檙 ffurflen UN2 yn nodi鈥檙 lleiniau unigol i鈥檞 gwerthu neu eu prydlesu
- yn rhoi eglurhad o pryd y gellir dileu pob llain o effaith y rhybudd (er enghraifft ar werthu鈥檙 llain)
Os ydych yn cyflwyno cais UN2 swmp, pan fyddwn yn cofrestru pob llain a gynhwysir yn y UN2, ni fyddwn yn trosglwyddo鈥檙 rhybudd i鈥檙 tir a drosglwyddir neu a brydlesir. Bydd y rhybudd yn aros ar deitl y datblygwr hyd nes y gwneir cais i鈥檞 dynnu o鈥檙 teitl hwnnw.
Rhaid ichi anfon y cais UN2 swmp i鈥檙 T卯m Datblygu yng Nghofrestrfa Tir EF a fydd yn delio 芒鈥檙 datblygiad gyda llythyr eglurhaol yn datgan ei fod yn gais UN2 swmp yn ymwneud 芒鈥檙 datblygiad a enwir a dyfynnu rhif(au) teitl y datblygwr.
Mae rhagor o wybodaeth am gofnodi, effaith a dileu rhybuddion unochrog wedi ei chynnwys yng nghyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti.
12. Gwneud cais
Dylid gwneud cais i gofrestru trosglwyddiad neu brydles rhan o deitl cofrestredig trwy ddewis y trafodiad trosglwyddo neu brydlesu. Rhaid i鈥檙 ceisydd ddadlennu unrhyw fuddion digofrestredig sy鈥檔 gor-redeg gwarediadau cofrestredig sydd o fewn gwybodaeth y ceisydd mewn gwirionedd ac sy鈥檔 effeithio ar yr ystad berthynol i鈥檙 cais.
13. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.