Lefel 3: Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Diweddarwyd 27 Mehefin 2025
Cyflwyniad
Mae Hyderus o ran Anabledd yn creu mudiad o newid, gan annog cyflogwyr i feddwl yn wahanol am anabledd a chymryd camau i wella sut maen nhw’n recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl. Mae bod yn Hyderus o ran Anabledd yn gyfle unigryw i arwain y ffordd yn eich cymuned a dangos eich bod yn gyflogwr sy’n gynhwysol i’r anabl.
²Ñ²¹±ð’r cynllun Hyderus o ran Anabledd wedi’i gynllunio fel taith ddysgu barhaus, gan annog cyflogwyr fel chi i esblygu a gwella gyda phob cam. Nid yw’n ymwneud â chyflawni lefel statig o’r cynllun; mae’n ymwneud â chofleidio cyfeiriad meddwl o dwf ac addasu. Gan ddefnyddio adnoddau’r cynllun, byddwch mewn sefyllfa well i feithrin gweithlu lle mae pob aelod yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i rymuso i gyfrannu ei dalentau unigryw.
Mae tair lefel y cynllun wedi’u cynllunio i’ch cefnogi ar eich taith Hyderus o ran Anabledd. Efallai bod gennych ddiddordeb yn y cynllun a’ch bod yn chwilio am fwy o wybodaeth am yr hyn y mae’r daith gyfan yn ei olygu neu efallai eich bod eisoes yn gyflogwr lefel 1 ac yn edrych i gymryd y cam nesaf i ddod yn gyflogwr lefel 2. Lle bynnag yr ydych ar eich taith, bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gymryd y cam nesaf.
Y 3 lefel yw:
- Ymrwymedig i Hyderus o ran Anabledd (Lefel 1)
- Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd (Lefel 2)
- Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (Lefel 3)
Mae aelodaeth ar gyfer Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd yn para tair blynedd. Rhaid i chi gwblhau pob lefel cyn symud ymlaen i’r nesaf ac fe’ch anogir i symud ymlaen i’r lefel nesaf (Arweinydd Hyderus o ran Anabledd – Lefel 3) cyn gynted ag y byddwch yn barod a fydd yn ail-ddechrau’r cyfnod aelodaeth tair blynedd.
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru fel cyflogwr Ymrwymedig i Hyderus o ran Anabledd, ceir ragor o wybodaeth ac arweiniad yn yr adran Ymrwymedig i Hyderus o ran Anabledd (lefel 1) ar .
Mwy o wybodaeth
mwyaf cyffredin
- Y manteision o gyflogi pobl ag anabledd dysgu.
(fideo)
²Ñ²¹±ð’r yn helpu recriwtwyr a chyflogwyr i ddod yn hyderus o ran anabledd a chynnig mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau.
Cyflogi pobl anabl: Canllaw rheolwr ar gyfer Hyderus o ran Anabledd a CIPD
Cychwyn arni
Felly, beth yw’r camau cyntaf?
Llongyfarchiadau ar gymryd y cam nesaf hwn ar eich taith Hyderus o ran Anabledd i fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.
²Ñ²¹±ð’r ddogfen hon yn darparu canllaw cynhwysfawr ar gyfer cyflawni statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd (Lefel 3). Mae’n amlinellu’r camau nesaf sydd eu hangen i gyrraedd y lefel hon ac yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac adnoddau i’ch cefnogi ar hyd y ffordd.
Fel y byddwch chi’n gwybod ar y cam hwn, mae’n bwysig cymryd ymagwedd fusnes gyfan at ddod yn Hyderus o ran Anabledd. Waeth beth yw maint eich busnes, eich cydymdrech a’ch ymrwymiad yw’r hyn a fydd yn gwneud y gwahaniaeth i’ch busnes. Dylai eich perchnogion busnes ac uwch arweinwyr barhau i arwain ar weithredu’r egwyddorion Hyderus o ran Anabledd a dylid annog eich sefydliad cyfan i ddangos ymgysylltiad parhaus â datblygu ac ymgorffori eich diwylliant sy’n cynhwysol o ran anabledd.
Diolch am eich ymrwymiad parhaus i wneud effaith gadarnhaol drwy’r cynllun Hyderus o ran Anabledd. Gyda’n gilydd, gallwn greu gweithle mwy cynhwysol a chyfartal i bawb.
Mae 3 cham y bydd angen i chi eu cymryd i ddod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.
Cam un - Herio
Bydd angen i chi:
-
Drosglwyddo’r dystiolaeth yn eich hunanasesiad i’r templed dilysu a chynnwys tystiolaeth wedi’i diweddaru lle bo’n briodol
-
Cadarnhau eich bod yn cyflogi pobl anabl
-
Nodi a chytuno ar ddilyswr addas
-
Rhoi eich templed dilysu wedi’i gwblhau a’r dystiolaeth i’ch dilyswr dewisol sy’n cadarnhau eich bod yn cyflawni’r holl gamau craidd
Cam dau - Arweinyddiaeth
- Darparu naratif o’r gweithgareddau rydych chi’n eu gwneud i gefnogi bod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac ychwanegu hyn at yr adran ar y templed dilysu.
Cam tri - Adrodd ar anabledd, iechyd meddwl a lles
- ¶Ù±ð´Ú²Ô²â»å»å¾±´Ç’r Fframwaith Adrodd Gwirfoddol fel canllaw i gofnodi ac adrodd yn gyhoeddus ar anabledd, iechyd meddwl a lles yn y gweithle a chwblhau’r adran ar y templed dilysu
Fe welwch fanylion a chanllawiau pellach ar y 3 cham hyn yn yr adrannau isod.
1. Herio
I ddod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, bydd yr hunanasesiad a gwblhaodd eich sefydliad ar gyfer lefel 2 y cynllun wedi’i ddilysu’n annibynnol.
Bydd eich dilyswr yn:
- adolygu’r dystiolaeth rydych chi’n ei chyflwyno i gadarnhau eich bod chi’n cyflawni’r holl weithgareddau craidd a’r gweithgareddau ychwanegol y gwnaethoch chi ymrwymo i’w darparu ar draws y themâu canlynol;
- cael y bobl gywir ar gyfer eich busnes
- cadw a datblygu eich pobl
- cadarnhau eich bod chi’n cyflogi pobl anabl ac yn adrodd yn gyhoeddus ar anabledd neu fod gennych chi amserlen fanwl i adrodd yn fuan.
- bydd y dilyswr hefyd yn asesu eich datganiad arweinyddiaeth sy’n cynnwys manylion ar sut rydych chi’n dangos arweinyddiaeth fel cyflogwr Hyderus o ran Anabledd.
Gallwch edrych ar y y byddwch chi’n gweithio drwyddo gyda’ch Dilyswr. Cyn dilysu bydd angen i chi drosglwyddo gwybodaeth o’ch hunanasesiad lefel 2 i’r templed dilysu fel y gall eich dilyswr ychwanegu eu sylwadau.
Awgrymiadau ar gyfer eich dilysiad
Mae dilysu effeithiol angen dilyswr sy’n fedrus, yn wybodus, ac yn gallu darparu lefel ddigonol o her. Bydd eich dilyswr yn cydnabod bod busnesau’n amrywio o ran maint a chymhlethdod ac yn gweithio gyda chi i ddeall y ffordd orau y gallwch chi ddangos tystiolaeth o sut rydych chi’n glynu wrth egwyddorion y cynllun.
Cynhelir dilysiadau gan unigolion a sefydliadau sydd eisoes wedi ymgymryd â’r safon i fod yn Arweinydd Hyderus ac wedi’i bodloni neu sydd ag arbenigedd mewn cyflogaeth i bobl anabl. Maent yn deall y cynllun a’r busnes, felly mae hon hefyd yn ffordd wych o ddatblygu eich rhwydwaith proffesiynol gyda phobl sy’n meddwl yn debyg.
Unwaith y bydd eich dilysiad wedi’i gwblhau a bod y dilyswr yn cytuno eich bod yn bodloni’r meini prawf Arweinydd, bydd angen i chi ddiweddaru eich statws ar . Gwnewch yn siŵr bod gennych sefydliad, enw cyswllt, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn eich dilyswr a dyddiad y dilysu wrth law. Bydd angen i chi hefyd gopïo a gludo eich datganiad arweinyddiaeth i’r ffurflen ar-lein. ²Ñ²¹±ð’r holl wybodaeth hon i’w gweld ar eich templed dilysu wedi’i gwblhau.
Mathau o dystiolaeth ar gyfer dilysiad llwyddiannus
Ar gyfer busnesau sydd â llai na 49 o weithwyr
-
Arferion Recriwtio: Enghreifftiau o sut rydych chi wedi sicrhau bod eich proses recriwtio yn hygyrch, fel trefniadau cyfweliad hyblyg neu drefniadau ymgeisio amgen (e.e. cyfweliadau gwaith ymarferol)
-
Polisïau Anffurfiol: Disgrifiadau o arferion anffurfiol sy’n cefnogi gweithwyr, hyd yn oed os nad ydynt wedi’u dogfennu’n ffurfiol, fel ymrwymiadau llafar i wneud addasiadau rhesymol neu drefniadau gweithio hyblyg
-
Tystebau Gweithwyr: Datganiadau gan weithwyr am eu profiadau a’r gefnogaeth y maent wedi’i derbyn
-
Ymgysylltu â Sefydliadau Anabledd: Tystiolaeth o ymgysylltu â sefydliadau anabledd neu gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag anabledd a chefnogi gweithgareddau o’r fath.
-
Canolfan Byd Gwaith: Tystiolaeth o weithio gyda Chanolfan Byd Gwaith a Chynghorwyr Cyflogaeth Anabledd i gynnig cyfleoedd sy’n gysylltiedig â chyflogaeth i bobl anabl
-
Addasiadau: Enghreifftiau o unrhyw addasiadau i’r gweithle, newidiadau i’r gweithle neu newidiadau i ffyrdd o weithio a wnaed i ddarparu ar gyfer gweithwyr neu gwsmeriaid anabl
-
Hyfforddiant Amrywiaeth a Chynhwysiant: Tystiolaeth o sesiynau ffurfiol neu anffurfiol a ddarparwyd ar gyfer eich timau i godi ymwybyddiaeth o gynhwysiant yn y gweithle
Ar gyfer busnesau sydd â dros 50 o weithwyr
- Prosesau Recriwtio: Tystiolaeth o arferion recriwtio cynhwysol, megis copïau o hysbysebion swyddi sy’n annog ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, a thystiolaeth o addasiadau rhesymol a wnaed yn ystod y broses recriwtio
- Polisïau a Gweithdrefnau: Polisïau ysgrifenedig ar gynhwysiant anabledd, megis polisi cyfle cyfartal, a gweithdrefnau ar gyfer gwneud addasiadau yn y gweithle
- Rhaglenni Hyfforddi: Cofnodion o sesiynau hyfforddi ar ymwybyddiaeth a chynhwysiant anabledd ar gyfer staff ar bob lefel
- Cymorth i Weithwyr: Tystiolaeth o fecanweithiau cymorth ar gyfer gweithwyr anabl, megis rhaglenni mentora, grwpiau adnoddau gweithwyr, mynediad at dechnolegau cynorthwyol, cofnodion o addasiadau yn y gweithle sy’n cael eu gweithredu a’u hadolygu, gweithio hyblyg ac arolygon boddhad staff
- Metrigau Perfformiad: Data ar recriwtio, cadw a chynnydd gweithwyr anabl o fewn y sefydliad
- Hyrwyddo’r Cynllun: Tystiolaeth o sut rydych chi’n hyrwyddo’r cynllun yn eich rhwydweithiau busnes
- Hygyrchedd: Tystiolaeth o brofi hygyrchedd gwefan
- Cynnig Cyfweliad: Dangos tystiolaeth o gynnig cyfweliadau i bobl anabl trwy ymrwymiad gweithredu cadarnhaol y cynllun
- Ymgysylltu ag Uwch Arweinyddiaeth: Tystiolaeth o uwch arweinwyr yn gweithredu fel modelau rôl ar gyfer anabledd o fewn y sefydliad
Pwy allai gwblhau fy nilysiad?
Gall maint eich sefydliad effeithio ar bwy allai fod fwyaf priodol i gefnogi eich dilysiad.
Mae gen i lai na 49 o weithwyr
Fe allech chi gysylltu ag:
- Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd presennol
- sefydliad anabledd y mae gennych gysylltiadau ag ef neu sydd o fewn eich cymuned
- rhwydwaith amrywiaeth a chynhwysiant lleol
Gellir dod o hyd i restr o sefydliadau a all gynnig cefnogaeth i ymgymryd â’r broses ddilysu ar ÌìÃÀÓ°Ôº (gall rhai o’r sefydliadau hyn godi tâl am y gwasanaeth hwn).
Mae gen i 50 o weithwyr neu fwy
Fe allech chi gysylltu ag:
- Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd presennol
- rhwydwaith amrywiaeth a chynhwysiant mewnol
- rhwydwaith o weithwyr anabl
- grwpiau neu fforymau rhanddeiliaid anabl
- sefydliadau neu rwydweithiau anabledd cenedlaethol neu leol
- sefydliadau dan arweiniad defnyddwyr pobl anabl (DPULOs)
2. Arweinyddiaeth
Mae eich datganiad arweinyddiaeth yn tynnu sylw at sut mae eich sefydliad yn cyd-fynd ag egwyddorion Arweinydd Hyderus o ran Anabledd a’r camau ychwanegol rydych chi’n eu cymryd i hyrwyddo cyflogaeth i bobl anabl yn eich sector neu’ch ardal leol. Dylech ddarparu enghreifftiau penodol o ble rydych chi’n bod yn rhagweithiol. ²Ñ²¹±ð’r datganiad yn gyfle i rannu’r gwaith gwych rydych chi’n ei wneud a gallai hefyd ysbrydoli cyflogwyr eraill i wneud mwy yn eu sefydliadau a/neu ddechrau eu taith Hyderus o ran Anabledd.
Ychwanegwch eich datganiad arweinyddiaeth at y templed dilysu. Wrth wneud cais i ddiweddaru eich lefel Hyderus o ran Anabledd, gallwch wedyn gludo’ch cyfraniad i’r maes perthnasol yn y cyflwyniad ar-lein pan ofynnir i chi wneud hynny.
Sut ydw i’n dangos y rhan arweinyddiaeth o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd?
Mae rhan o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd yn ymwneud ag annog cyflogwyr eraill i gychwyn ar eu taith Hyderus o ran Anabledd.
Gall dangos arweinyddiaeth gynnwys:
-
arddangos eich bathodyn Hyderus o ran Anabledd yn amlwg yn eich busnes
-
defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo neu ddeunyddiau cyfathrebu busnes i rannu arfer da ar Hyderus o ran Anabledd
-
trafod eich arferion amrywiaeth a chynhwysiant mewn digwyddiadau rhwydweithio, gallai hyn fod o fewn eich diwydiant neu drwy rwydweithiau a digwyddiadau busnes lleol
-
rhannu manylion am eich ffyrdd o weithio gyda’ch cwsmeriaid
-
annog cyflogwyr eraill yn eich cadwyn gyflenwi (e.e. drwy gynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd, drwy ddigwyddiadau rhwydweithio neu ofynion caffael)
-
bod yn fentor, hyfforddwr, cyfaill neu ddarparu cefnogaeth gan gymheiriaid i eraill i helpu i rymuso’ch timau a chodi proffil pwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant ym mhob agwedd eich busnes
-
ymgysylltu â chyflogwyr lleol eraill i rannu arfer da. Gallwch chi bob amser weld pwy arall sy’n aelod Hyderus o ran Anabledd drwy ein cronfa ddata ar-lein
-
dathlu llwyddiant, er enghraifft enwebu eich sefydliad ar gyfer Gwobrau Hyderus o ran Anabledd blynyddol
-
gan ddefnyddio eich enghreifftiau o arfer da, ystyriwch chwilio’n rhagweithiol am ffyrdd eraill y gallwch chi dynnu sylw at yr hyn rydych chi’n ei wneud drwy enwebu eich hun ar gyfer gwobrau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol eraill sy’n dathlu amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle
-
noddi neu gynnal digwyddiadau wedi’u hysbrydoli gan Hyderus o ran Anabledd – gallai’r rhain fod mor fach neu mor fawr ag y dymunwch!
Os oes gennych chi dros 50 o weithwyr, ffordd werthfawr y gallwch chi ddangos eich ymrwymiad i arweinyddiaeth yw drwy:
- ddilysu hunanasesiad(au) cyflogwyr eraill. Drwy gynnal dilysiadau, mae Arweinwyr yn helpu i gynnal safonau uchel a chysondeb ar draws pob sefydliad achrededig, gan feithrin rhwydwaith dibynadwy ac effeithiol o gyflogwyr cynhwysol. ²Ñ²¹±ð’r mecanwaith adolygu gan gymheiriaid hwn hefyd yn hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus a dysgu ar y cyd, gan y gall Arweinwyr ddarparu adborth a chanllawiau gwerthfawr yn seiliedig ar eu profiadau eu hunain.
3. Adrodd ar anabledd, iechyd meddwl a lles
Mae adrodd ar y gweithlu anabledd yn cynnwys casglu data a mewnwelediadau am anabledd a gweithwyr anabl o fewn sefydliad. Yna defnyddir y wybodaeth hon i wella polisïau, arferion a diwylliant sefydliadol, gyda’r nod o greu gweithleoedd mwy cynhwysol i weithwyr anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor.
Sut ddylwn i ddechrau casglu’r data a’r mewnwelediad hwn?
Rydym yn argymell defnyddio’r Fframwaith Adrodd Gwirfoddol. ²Ñ²¹±ð’r fframwaith yn ganllaw 2 dudalen sy’n cwmpasu’r hyn y dylech ei adrodd ac mae’n anelu at eich cefnogi ar eich taith tuag at fwy o dryloywder.
Mae wedi’i rannu’n ddwy ran.
1. Anabledd
2. Iechyd meddwl a lles
Mae’n werth nodi bod y Fframwaith Adrodd Gwirfoddol wedi’i anelu’n wreiddiol at gyflogwyr mawr gyda dros 250 o weithwyr ond gellir ei ddefnyddio hefyd i gefnogi sefydliadau llai sy’n awyddus i ysgogi mwy o dryloywder yn eu sefydliad.
Rhan Un: Anabledd
Bydd angen i chi:
A. Darparu naratif i esbonio’r gweithgareddau yn eich sefydliad mewn perthynas â recriwtio a chadw pobl anabl gan anelu at gynnwys gwybodaeth am:
-
bolisïau sefydliadol mewn perthynas â recriwtio a chadw pobl anabl
-
cefnogaeth a gynigir i weithwyr ag anableddau penodol
-
rôl rhwydweithiau a grwpiau cymorth
-
cynnydd a chyflog pobl anabl
-
addasiadau i’r gweithle
-
sgoriau ymgysylltu gweithwyr
B. Adrodd ar ganran yr unigolion yn eich sefydliad sy’n ystyried eu hunain yn anabl neu sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor.
Dylai ystyriaethau gynnwys:
-
a yw’r data yn ddigon dibynadwy i’w gyhoeddi, gan gynnwys sut y gall cyfraddau peidio â datgelu effeithio ar y data
-
nodi’r cwestiwn a ddefnyddiwyd i gasglu’r wybodaeth
-
egluro’r fethodoleg casglu
Mae gwahanol ffyrdd o gasglu’r data, dylech fabwysiadu’r dull sy’n gweithio orau i’ch sefydliad gan ystyried yr adnoddau sydd ar gael i chi. Gellid cwblhau casglu gwybodaeth trwy weithwyr yn diweddaru cofnodion AD hunanwasanaeth presennol neu drwy arolygon staff dienw.
Mae’n bwysig bod yn dryloyw gyda gweithwyr ynghylch sut y bydd eu data yn cael ei ddefnyddio, ei drin a’i storio a sicrhau cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau  Cyffredinol ar Ddiogelu Data.
Cwestiwn a argymhellir
A ydych chi’n ystyried bod gennych chi anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor (iechyd meddwl a/neu iechyd corfforol)?
Rhan Dau: Iechyd Meddwl a Lles
Eto, mae dau beth y bydd angen i chi eu gwneud.
A. Darparu naratif i esbonio’r gweithgareddau yn eich sefydliad mewn perthynas â chefnogi iechyd a lles eich gweithwyr. Nid yw’r rhestr ganlynol yn gynhwysfawr, ond gallai eich naratif gynnwys:
-
faint o weithwyr sy’n manteisio ar y gefnogaeth iechyd meddwl a gynigir gan y sefydliad
-
yr hyfforddiant a gynigir i weithwyr sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl
-
canran yr unigolion o fewn y sefydliad sy’n gyfforddus yn datgelu cyflwr iechyd meddwl
-
a oes ymrwymiad cyhoeddus wedi’i wneud i gadw at y safonau craidd a’r safonau uwch fel y nodir yn adolygiad Thriving at Work – (Stevenson/Farmer) o iechyd meddwl, a sut rydych chi’n cyflawni’r rhain
B. Adrodd ar allbwn arolygon staff sy’n darparu mesurau o lesiant gweithwyr. Mae rhai cwestiynau a argymhellir a all ddarparu man cychwyn i fesur llesiant eich gweithwyr.
²Ñ²¹±ð’r a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn argymell y cwestiynau canlynol:
-
ar y cyfan, pa mor fodlon ydych chi â’ch bywyd y dyddiau hyn?
-
ar y cyfan, i ba raddau ydych chi’n teimlo bod pethau rydych chi’n eu gwneud yn eich bywyd yn werth chweil?
-
pa mor hapus oeddech chi’n teimlo ddoe?
-
pa mor bryderus oeddech chi’n teimlo ddoe?
Awgrymodd :
-
ar y cyfan, pa mor fodlon ydych chi â’ch swydd?
-
Byddwn i’n argymell fy sefydliad fel lle gwych i weithio
-
sut fyddech chi’n graddio’ch iechyd corfforol cyffredinol nawr?
-
sut fyddech chi’n graddio’ch iechyd meddwl cyffredinol nawr?
-
Rwy’n teimlo’n ddiogel rhag bygythiadau a pheryglon corfforol yn fy amgylchedd gwaith
-
mae fy rheolwr llinell yn fy helpu ac yn fy nghefnogi
-
mae fy nghydweithwyr yn fy helpu ac yn fy nghefnogi
-
Rwy’n fodlon ar fy amgylchedd gwaith corfforol
-
mae fy ngwaith yn rhoi’r teimlad i mi fy mod wedi gwneud gwaith yn dda
Gellir dod o hyd i enghreifftiau eraill yng .
Beth ddylwn i’w  wneud â’r Fframwaith Adrodd Gwirfoddol ar ôl i mi ei gwblhau?
Bydd cwblhau’r Fframwaith Adrodd Gwirfoddol yn eich cefnogi i gyflawni gofynion yr Arweinydd Hyderus o ran Anabledd o ran casglu gwybodaeth am anabledd, iechyd meddwl a lles.
Eich penderfyniad chi yw ble rydych chi’n adrodd y wybodaeth hon, i lawer o sefydliadau gwneir hyn ar eu gwefan neu o fewn adroddiadau blynyddol. Os nad oes gennych y pethau hyn, dylech sicrhau bod y wybodaeth ddienw ar gael o fewn eich sefydliad.
Mae’n bwysig cofio bod cael y wybodaeth hon hefyd yn offeryn gwerthfawr i’ch sefydliad ac, er nad yw’n ofyniad o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd, gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i ddeall mwy am eich sefydliad a llunio penderfyniadau yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth
– CIPD
Beth nesaf?
Ar ôl i chi gwblhau’r camau gweithredu hyn, gallwch wneud cais i fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd.
Bydd angen eich rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd arnoch, sydd ar eich tystysgrif a’ch ffurflen ddilysu, mae’n dechrau gyda DCS, ac yna 6 digid.
-
defnyddiwch y ffurflen i wneud newidiadau i’ch aelodaeth
-
ar ôl nodi eich rhif Hyderus o ran Anabledd, anfonir e-bost at eich cyfeiriadau e-bost cyswllt cynradd ac amgen
-
cliciwch ar ddiweddaru eich manylion Hyderus o ran Anabledd. Bydd y ddolen hon yn dod i ben mewn awr
-
yna gallwch gadarnhau manylion eich dilysiad
-
cliciwch cadarnhau manylion i gyflwyno eich newidiadau
-
byddwn yn adolygu eich newidiadau ac yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau. Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost unwaith y bydd eich newidiadau wedi’u derbyn. Gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith
Os na allwch ddod o hyd iddo, anfonwch e-bost atom at Tîm Hyderus o ran Anabledd.
Cofiwch – Mae eich templed dilysu ar gyfer eich cofnodion eich hun ac nid oes angen ei anfon atom ni.
Yn gyfnewid byddwn yn anfon y canlynol atoch:
-
e-bost cadarnhau
-
tystysgrif i gydnabod eich cyflawniad; a
-
bathodyn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd y gallwch ei ddefnyddio yn eich deunydd ysgrifennu a chyfathrebu busnes eich hun am y 3 blynedd nesaf
Fel Arweinydd Hyderus o ran Anabledd, byddwn yn parhau i gynnwys enw eich busnes, tref a statws eich DC (pa lefel rydych chi arni) mewn rhestr o’r holl fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun ar ein gwefan Hyderus o ran Anabledd.
Drwy’r ffurflen, byddwch yn cadarnhau:
-
eich bod wedi cael eich tystiolaeth wedi’i dilysu, a gan bwy
-
bod eich dilyswr(wyr) yn cytuno â’ch tystiolaeth a’ch asesiad, a’ch bod yn cyflawni yn erbyn yr holl gamau craidd fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd
-
eich bod yn cyflogi pobl anabl
-
eich bod yn cofnodi ac yn adrodd yn gyhoeddus ar wybodaeth ddienw am anabledd, iechyd meddwl a lles yn eich gweithle
-
eich bod yn cynnwys naratif o’r gweithgareddau rydych yn eu cymryd i gefnogi bod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Atodiad 1: Gwirio neu ddiweddaru eich manylion Hyderus o ran Anabledd
Mae’n bwysig cadw’ch manylion yn gyfredol a dweud wrthym os bydd unrhyw un o’ch manylion yn newid neu os ydych yn darganfod eu bod yn anghywir.
Gallwch adolygu a diweddaru gwybodaeth eich cyfrif (gan gynnwys darparu cysylltiadau ychwanegol) ac adolygu eich ymrwymiadau hyderus o ran anabledd.
Dylech roi gwybod i ni am newidiadau i’ch:
-
Cysylltiad a ennwyd.
-
Cyfeiriad e-bost.
-
Rhif ffôn.
-
Enw busnes.
-
Cyfeiriad busnes a chod post.
Dywedwch wrthym hefyd os yw’ch busnes wedi rhoi’r gorau i fasnachu.
Pryd i roi gwybod i ni am newid
Dylech wneud unrhyw newidiadau i’ch manylion cyn gynted ag y gallwch.
Pwy all wneud y newid
Dim ond gan y cyswllt busnes sylfaenol neu amgen sydd wedi’i gofrestru gyda’r cynllun y gellir gwneud newidiadau. Os nad ydych chi’n gwybod pwy oedd hynny neu os ydyn nhw wedi gadael y busnes, yna bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau isod o dan ffyrdd eraill o newid eich manylion.
Sut i wneud newid
I wneud newid, bydd angen eich rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd, sydd ar eich tystysgrif, mae’n dechrau gyda DCS, ac yna chwe digid.
-
defnyddiwch y i wirio neu wneud newidiadau i’ch aelodaeth.
-
ar ôl rhoi eich rhif hyderus o ran anabledd anfonir e-bost at eich prif gyfeiriadau e-bost cyswllt ac amgen.
-
cliciwch ar ddiweddaru eich manylion Hyderus o ran Anabledd. Bydd y ddolen hon yn dod i ben o fewn awr.
-
yna gallwch wirio’r manylion sydd gennym ar gyfer eich busnes.
-
na gallwch ddefnyddio’r dolenni newid i ddiweddaru eich manylion.
-
cliciwch gadarnhau manylion i gyflwyno eich newidiadau.
-
byddwn yn adolygu eich newidiadau ac yn cysylltu â chi os oes gennym unrhyw gwestiynau. Byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau unwaith y bydd eich newidiadau wedi’u derbyn. Gall hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith.
Ffyrdd eraill o newid eich manylion
Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen, nid ydych yn gwybod eich rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd neu fod angen i chi ddweud wrthym fod eich busnes yn uno neu’n rhoi’r gorau i fasnachu, gallwch rhoi gwybod am y newidiadau hyn trwy e-bostio disabilityconfident.scheme@dwp.gov.uk.
Rhowch fanylion am yr hyn sydd wedi newid. Er enghraifft, eich rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost newydd.
Er mwyn ein helpu i olrhain eich cofnodion, dylech gynnwys y canlynol yn yr e-bost eich:
-
Rhif cyfeirnod Hyderus o ran Anabledd, os ydych chi’n ei wybod (mae hyn yn dechrau gyda DCS0).
-
Enw busnes.
-
Cod post.
Fel rhan o ddyfarnu eich statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd i chi, byddwn yn cynnwys enw eich busnes, tref, cod post, sector a statws Hyderus o ran Anabledd ar y rhestr o gyflogwyr Hyderus o ran Anabledd sydd wedi cofrestru. Efallai y bydd Canolfan Byd Gwaith, DWP a/neu ddarparwr Rhaglen Gwaith ac Iechyd DWP hefyd yn cysylltu â chi i’ch helpu i ddenu, recriwtio a chadw pobl anabl.
Atodiad 2: Proses Adnewyddu Arweinydd Hyderus o ran Anabledd
Byddwch yn derbyn nodyn atgoffa cyn diwedd eich cyfnod aelodaeth tair blynedd. Bydd y rhain yn cael eu hanfon 180, 60 a 30 diwrnod cyn y dyddiad adnewyddu.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
-
cynnal adolygiad o’ch hunanasesiad a diweddaru eich templed dilysu gan gynnwys eich tystiolaeth ar Adrodd Gwirfoddol
-
trefnu i’ch tystiolaeth gael ei hailddilysu. Mae manylion am yr hyn sy’n ofynnol wedi’u cynnwys yn yr adran Herio
-
cwblhau’r camau gweithredu yn yr adran Beth sy’n digwydd nesaf