Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith: 2025 Ffioedd Sylfaenol
Published 27 June 2025
Mae鈥檙 ddogfen yma yn darparu ffioedd sylfaenol blwyddyn 1 (2025 /2026) y cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) dros becynwaith. Mae鈥檔 ymwneud 芒 ffioedd a fyddai鈥檔 cael eu codi ar gynhyrchwyr pecynwaith dan rwymedigaeth gan PecynUK (Gweinyddwr y Cynllun). Bydd y ffioedd a delir gan y cynhyrchwyr yn talu costau PecynUK ac yn darparu incwm ychwanegol i鈥檙 awdurdodau lleol i dalu am gost ailgylchu a gwaredu deunyddiau pecynwaith gwastraff.聽
Nid yw鈥檔 cynnwys:
- ffioedd a thaliadau cofrestru sy鈥檔 cael eu talu i Gyfoeth Naturiol Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth Diogelu Amgylchedd yr Alban ac Asiantaeth Amgylchedd Gogledd Iwerddon
- costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 bodloni targedau ailgylchu pecynwaith e.e. trwy brynu Nodiadau Ailgylchu Gwastraff Pecynwaith.
Mae鈥檙 ddogfen yma wedi鈥檌 chyhoeddi gan PecynUK yn rhinwedd ei swydd fel Gweinyddwr y Cynllun ar gyfer y cynllun pedair gwlad.
1. 2025 Ffioedd sylfaenol
Tabl 1. Ffioedd sylfaenol Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr 2025/26 ar gyfer yr holl ddeunyddiau pecynwaith
Mae 鈥楢rall鈥 yn cynnwys unrhyw ddeunyddiau sydd heb eu rhestru isod, er enghraifft, bamb诺, cerameg, copr, corc, cywarch, rwber. Mae鈥檙 ffioedd wedi鈥檜 talgrynnu i鈥檙 拢1 agosaf. Sylwch y caiff yr anfonebau eu seilio ar ffioedd wedi鈥檜 talgrynnu i bedwar lle degol.
Deunydd | Cyfradd (拢/tunnell) |
---|---|
Alwminiwm | 266 |
Cyfansoddion seiliedig ar ffeibr | 461 |
Gwydr | 192 |
Papur a cherdyn | 196 |
Plastig | 423 |
Dur | 259 |
Pren | 280 |
Arall | 259 |
Mae鈥檙 ffioedd sylfaenol yn seiliedig ar y senario modelu arfaethedig terfynol y cytunwyd arno ar gyfer cyfanswm costau gwaredu鈥檙 awdurdodau lleol y dylid eu hadennill trwy EPR yn 2025/2026 a chostau perthnasol eraill y manylir arnyn nhw isod.
Mae鈥檙 ffioedd sylfaenol yn defnyddio鈥檙 data tunelledd pecynwaith diweddaraf a gyflwynwyd gan y cynhyrchwyr ar borth ar-lein Rhoi Gwybod am Ddata Pecynwaith (RPD) ar gyfer cyfnod llawn 2024 fel yr oedd ar 9 Mehefin 2025, gydag addasiadau wedi鈥檜 cymhwyso (gweler isod i gael rhagor o fanylion).
2. Methodoleg
Cyfrifir ffioedd sylfaenol drwy rannu costau rheoli gwastraff pecynwaith (ar gyfer gwastraff pecynwaith cartrefi) a chostau perthnasol eraill 芒 chyfanswm y pecynwaith cartrefi a roddwyd ar y farchnad. Y canlyniad yw cyfradd ffi a fynegir mewn 拢 am bob tunnell o becynwaith a roddwyd ar y farchnad. Gwneir y cyfrifiad canlynol ar gyfer pob categori o becynwaith ar wah芒n:
Rhifiadur: (1) Costau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff o鈥檙 categori pecynwaith hwnnw (gwastraff pecynwaith cartrefi yn unig) minws refeniw o werthu deunyddiau plws (2) cyfran y categori pecynwaith hwnnw o鈥檙 costau eraill, (costau PecynUK, costau cyfathrebu a chostau鈥檙 ddarpariaeth ar gyfer dyledion).
Enwadwr: Cyfanswm pwysau鈥檙 categori pecynwaith hwnnw a roddwyd ar y farchnad (pecynwaith cartrefi yn unig). Mae鈥檙 tunelledd cartrefi sydd o fewn y rhychwant ar gyfer ffioedd cynhyrchwyr ar gyfer pob categori deunydd wedi鈥檌 gyfrifo trwy adio鈥檙 tunelleddau y mae鈥檙 cynhyrchwyr wedi rhoi gwybod amdanyn nhw fel pecynwaith cartrefi ac fel pecynwaith a waredir yn gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel. Mae鈥檙 tunelledd gwydr yn cynnwys cynwysyddion diodydd cartrefi gan eu bod nhw o fewn rhychwant ffioedd cynhyrchwyr EPR, yn wahanol i gynwysyddion diodydd PET, alwminiwm a dur untro 150ml i 3l o faint, sydd o fewn y rhychwant y Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon a鈥檙 Alban a fydd yn lansio ym mis Hydref 2027. 聽Wrth i fanylion y cynllun hwn a DRS Cymru gael eu cwblhau, byddwn yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 pedair gwlad ac unrhyw Sefydliadau Rheoli Ernes penodedig i sicrhau bod DRS ac EPR yn gweithio鈥檔 effeithiol.
Sylwch: ar gyfer blwyddyn gyntaf Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros becynwaith (2025 i 2026), ni fydd costau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 rheoli pecynwaith sy鈥檔 cael ei waredu鈥檔 gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel yn cael eu cynnwys yn y rhifiadur. Er hynny, fe fydd yr enwadur yn cynnwys pecynwaith y rhoddir gwybod amdano fel pecynwaith cartrefi a phecynwaith y rhoddir gwybod ei fod yn cael ei waredu鈥檔 gyffredin mewn biniau cyhoeddus neu fel sbwriel.
Dylech gyfeirio at y datganiad cyntaf o ffioedd sylfaenol enghreifftiol i gael rhagor o fanylion ar egwyddorion cyfrifo鈥檙 ffioedd sylfaenol.
Mae鈥檙 model dadansoddol a ddefnyddiwyd i gyfrifo cyfanswm pwysau鈥檙 pecynwaith sydd o fewn y rhychwant ac i gyfrifo鈥檙 ffioedd sylfaenol wedi mynd drwy waith Sicrhau Ansawdd allanol gan Adran Actiwari鈥檙 Llywodraeth. Mae鈥檙 fethodoleg ar gyfer addasu at ddata pecynwaith yr RPD er mwyn rhoi鈥檙 disgrifiad gorau o鈥檙 cynhyrchwyr sydd heb roi gwybod eto wedi cael ei hadolygu gan Uwch Ddadansoddwyr o bob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig.
3. Sut mae鈥檙 datganiad yma yn wahanol i鈥檙 datganiad blaenorol
3.1 Gwahaniaethau yn y ffioedd enghreifftiol聽
Mae鈥檙 ffioedd sylfaenol a gyhoeddir yn y ddogfen yma i gyd o fewn yr amrediadau o ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd o鈥檙 blaen. O鈥檜 cymharu 芒鈥檙 ffioedd sylfaenol enghreifftiol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, mae鈥檙 gwahaniaethau yn deillio o鈥檙 canlynol:
- newidiadau yn nhunelledd y pecynwaith y rhoddwyd gwybod amdano gan y cynhyrchwyr yn RPD. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data y rhoddwyd gwybod amdano gan y cynhyrchwyr ar gyfer blwyddyn galendr lawn 2024, yn hytrach na hanner cyntaf 2024 fel a wnaed ar gyfer cyhoeddiad mis Rhagfyr.
- newidiadau yn y ffordd rydyn ni鈥檔 amcangyfrif tunelledd coll (gweler Adran 3.3 isod),
- newidiadau ym modelau costau鈥檙 awdurdodau lleol, gan gynnwys o ganlyniad i adborth y diwydiant a鈥檙 awdurdodau lleol.
- gostyngiad yn y ffi 鈥榙arpariaeth dyled ddrwg鈥 a gymhwysir at gyfanswm y costau, o 6% i 4%.
Yn gyffredinol, mae cyfraddau鈥檙 ffioedd sylfaenol wedi gostwng ers mis Rhagfyr 2024 (o 8% yn llai yn achos pecynwaith 鈥渁rall鈥 i 39% yn llai yn achos Alwminiwm). Yr eithriad yw ffioedd cyfansoddion sy鈥檔 seiliedig ar ffibr, sydd wedi cynyddu 1%.
3.2 Gwiriadau鈥檙 rheoleiddwyr ar ddata鈥檙 RPD
Mae cyfansymiau鈥檙 tunelledd pecynwaith a gynhwysir yn y cyfrifiadau ffioedd sylfaenol yn cynrychioli鈥檙 tunelledd pecynwaith mwyaf rhesymol o gywir, o fewn y rhychwant, sydd wedi鈥檌 gyflenwi sydd ar gael ar hyn o bryd.
Mae鈥檙 rheoleiddwyr o dan ddyletswydd i fonitro cywirdeb y data EPR a gyflwynir i鈥檙 porth RPD ar-lein. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu 芒 chynlluniau cydymffurfio a chynhyrchwyr unigol i nodi a chywiro gwallau data posibl. Mae鈥檙 rheoleiddwyr wedi bod yn cysylltu hefyd 芒 chynhyrchwyr a allai fod 芒 rhwymedigaethau o dan y Rheoliadau ond sydd wedi methu rhoi gwybod am ddata pecynwaith. Mae鈥檙 gweithgareddau hyn yn parhau.
3.3 Addasiadau yn nata RPD 2024
O ganlyniad i wiriadau data gan y rheoleiddwyr, rydyn ni wedi gwneud yr addasiadau canlynol yn nata鈥檙 RPD er mwyn creu鈥檙 disgrifiad gorau o鈥檙 cynhyrchwyr sydd heb roi gwybod eto:
- Pan nad yw鈥檙 cynhyrchwyr wedi rhoi gwybod eto yn 2024 ond eu bod wedi cydymffurfio鈥檔 llawn yn 2023, mae data鈥檙 RPD wedi鈥檌 addasu i fyny i gymryd i ystyriaeth y cynnydd disgwyliedig yn y tunelledd wrth i fwy o gynhyrchwyr gyflwyno data i鈥檙 RPD, yn seiliedig ar gymharu cyfanswm y tunelledd y rhoddwyd gwybod amdano yn 2023 a 2024.
- Pan fo鈥檙 rheoleiddwyr wedi darparu nifer y cynhyrchwyr yr amheuir eu bod yn gynffonwyr (yn osgoi talu ffioedd ond yn manteisio drwy鈥檙 ffioedd mae pawb arall yn eu talu), mae鈥檙 addasiadau canlynol wedi鈥檜 defnyddio:
- Yn achos cynffonwyr yn Lloegr, lluoswyd yr amcangyfrif o nifer y cynffonwyr 芒鈥檙 tunelli cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y Deyrnas Unedig fesul cynhyrchydd, sef rhif rydyn ni鈥檔 ei ostwng er mwyn cyfrif am y ffaith bod y rhai sy鈥檔 rhoi gwybod yn hwyr fel arfer yn cyflwyno tunelledd is (yn seiliedig ar gyfartaledd y rhai sy鈥檔 rhoi gwybod yn hwyr yn y Deyrnas Unedig).
- Yn achos cynffonwyr yn y gwledydd eraill, lluoswyd yr amcangyfrif o鈥檙 niferoedd priodol o gynffonwyr 芒鈥檙 tunelli cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y Deyrnas Unedig fesul cynhyrchydd, sef rhif rydyn ni鈥檔 ei ostwng er mwyn cyfrif am y tunelleddau cynhyrchwyr cyfartalog y rhoddwyd gwybod amdanyn nhw yn y wlad berthnasol.
- Yn achos y cynhyrchwyr hynny a gyflwynodd ddata am hanner y flwyddyn yn unig, cynyddwyd eu tunelledd nhw trwy gymharu cyfanswm y tunelledd ar draws dau hanner y flwyddyn.
- Cafodd cyflwyniadau data鈥檙 RPD gan gofrestrwyr uniongyrchol sydd wedi鈥檜 鈥榞wrthod鈥 gan y rheoleiddwyr eu tynnu o鈥檙 set ddata, o gofio鈥檙 ansicrwydd ynghylch ailgyflwyniadau yn y dyfodol
- Mae data鈥檙 RPD o gynlluniau cydymffurfio sydd wedi鈥檜 鈥榞wrthod鈥 gan y rheoleiddwyr wedi鈥檌 gadw i mewn, ar y rhagdybiaeth na fydd ailgyflwyniadau鈥檙 dyfodol yn bur wahanol i鈥檙 cyflwyniadau cychwynnol
3.4 Costau鈥檙 awdurdodau lleol
Defnyddiwyd model 鈥楥ost a Pherfformiad Pecynwaith Awdurdodau Lleol鈥 Defra (y cyfeirir ato fel 鈥楲APCAP鈥 neu 鈥榶 model鈥 yn y ddogfen yma) i gyfrifo鈥檙 ffioedd sylfaenol. Mae LAPCAP yn defnyddio cyfuniad o ddata penodol yr awdurdodau lleol (e.e. tunelli y rhoddir gwybod amdanyn nhw yn y Llif Data Gwastraff) a data cymharol (grwpiadau wedi鈥檜 seilio ar ddata costau a roddir gan sampl o awdurdodau lleol) er mwyn cyfrifo taliad i bob awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig.聽Cyfanswm y taliad i bob awdurdod lleol a gyfrifir gan LAPCAP yw鈥檙 鈥楥ostau a ysgwyddir gan yr awdurdodau lleol i reoli gwastraff鈥 a ddefnyddir wrth gyfrifo鈥檙 ffioedd sylfaenol enghreifftiol. Bydd nodyn esboniadol sy鈥檔 esbonio鈥檙 fethodoleg a鈥檙 weithdrefn a ddefnyddir i bennu amcangyfrifon taliadau EPR blwyddyn 1 ar gyfer awdurdodau lleol yn cael ei gyhoeddi cyn hir pan fydd asesiadau o鈥檙 taliadau ar gyfer Blwyddyn 1 EPR yn cael eu rhannu gyda鈥檙 awdurdodau lleol.
4. Y camau nesaf
Bydd manylion am sut y bydd ffioedd yn cael eu defnyddio i anfonebu cynhyrchwyr ym mis Hydref yn cael eu rhannu yn fuan.
Mae鈥檙 cynhyrchwyr o dan rwymedigaeth i barhau i roi gwybod am eu data pecynwaith trwy鈥檙 porth RPD ar-lein. Os ydych chi鈥檔 gynhyrchydd mawr, dylech roi gwybod am eich data ar gyfer 1 Ionawr i 31 Mehefin 2025 erbyn 1 Hydref 2025.
Bydd PecynUK yn defnyddio鈥檙 data yma a鈥檙 costau a restrir uchod i gyfrifo a rhyddhau ffioedd sylfaenol ar gyfer 2026/27.
5. Cyflwyno ffioedd modiwlaidd o 2026 ymlaen
O flwyddyn 2 EPR (2026 i 2027) ymlaen, bydd y ffioedd yn cael eu modiwleiddio i sbarduno symudiad at ddylunio pecynwaith sy鈥檔 fwy amgylcheddol gynaliadwy, gan ddefnyddio ailgylchadwyedd yn ddangosydd. Bydd y mathau o becynwaith a fydd yn talu ffioedd modiwlaidd uwch neu is yn seiliedig ar asesiadau o ailgylchadwyedd yn unol 芒 Methodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM). Bydd sg么r Coch, Melyn neu Wyrdd yn cael ei rhoi i bob deunydd pecynwaith sydd o fewn y rhychwant o dan yr RAM: Coch yw鈥檙 lleiaf ailgylchadwy a Gwyrdd yw鈥檙 mwyaf ailgylchadwy
Ar gyfer tair blynedd cyntaf y polisi, bydd yr arian ychwanegol a godir trwy ddefnyddio ffactor modiwleiddio uwch ar gyfer deunydd pecynwaith Coch RAM yn ffurfio pot o arian i鈥檞 ailddosbarthu. Bydd y pot ailddosbarthu鈥檔 cael ei ddefnyddio er mwyn codi ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartref is am ddeunydd pecynwaith Gwyrdd RAM. Ni fydd deunydd a sg么r melyn yn gweld unrhyw newid yn ei ffi gwaredu gwastraff pecynwaith cartrefi yn sgil modiwleiddio, gan aros ar y gyfradd ffi sylfaenol.
Cyhoeddwyd fersiwn 1.1 o RAM ym mis Ebrill 2025 ar 天美影院. Mae PecynUK yn bwriadu rhannu datganiad polisi modiwleiddio cyn hir ar 天美影院.