Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau

Diweddarwyd 6 Ebrill 2018

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Un ffurf ar ryddfraint yw hawl a roddir gan y Goron neu, i ddefnyddio鈥檙 diffiniad clasurol, 鈥渂raint frenhinol neu gangen o uchelfraint y goron yn bodoli yn nwylo deiliad, trwy grant y Brenin鈥. Gweler, er enghraifft Spook Erection Ltd yn erbyn yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd [1989] QB 300, 305.

Dyma鈥檙 ffurf o ryddfraint sy鈥檔 destun y cyfarwyddyd hwn, yn hytrach na鈥檙 cysyniad modern o fasnachfraint.

2. Natur rhyddfraint

Mae rhyddfraint yn gofyn am grant y Goron ar ffurf siarter neu lythyrau breinio. Mae modd ei hawlio hefyd trwy bresgripsiwn (sy鈥檔 rhagdybio grant a gollwyd).

Mae鈥檔 debygol hefyd y rhoddwyd rhyddfreintiau yn ddilys yn y gorffennol gan Arglwyddi penodol lle鈥檙 oedd pwerau breiniarll (鈥渏ura regalia鈥) o fewn eu Harglwyddiaethau. Ieirll Caer, Ieirll a Dugiaid Caerhirfryn, Ieirll a Dugiaid Cernyw ac Esgobion Durham yw鈥檙 rhain.

Nid yw perchnogaeth y tir diriaethol yn mynd gyda rhyddfraint ac mae ar wah芒n i鈥檙 ystadau rhydd-ddaliol neu brydlesol mewn tir.

Y rhyddfraint fwyaf cyffredin yw hawl i gynnal marchnad neu ffair. Mae hawl marchnad yn cyfrwymo hawl monopoli i鈥檙 perchennog, sef yr hawl gyfyngedig i gynnal marchnadoedd o fewn cylch o 6鈪 milltir (Cyngor Dinas Birmingham yn erbyn Anvil Fairs [1989] 1 WLR 312, 313). Ffair yw marchnad sy鈥檔 cael ei chynnal yn llai aml (Wyld yn erbyn Silver [1963] Ch 243, 261).

Gall y Goron atafaelu neu gall Deddf Seneddol ddiddymu rhyddfraint marchnad (Wyld yn erbyn Silver [1963] Chapters 243, 255 and 263).

Gall statud ddiddymu rhyddfraint marchnad trwy roi hawliau tebyg (Corfforaeth Manceinion yn erbyn Lyons (1882) 22 Ch D 287). Lle y mae marchnad statudol wedi disodli marchnad ryddfraint, nid yw鈥檔 bosibl cofrestru鈥檙 farchnad ryddfraint wreiddiol.

3. Cofrestru rhyddfreintiau

Gynt, nid oedd modd cofrestru rhyddfraint ar wah芒n, ond o 13 Hydref 2003 ymlaen, mae wedi bod yn bosibl cofrestru teitl i ryddfreintiau arbennig.

Mae cofrestru rhyddfreintiau yn wirfoddol ac nid yw鈥檙 hyn sy鈥檔 peri cofrestriad cyntaf gorfodol yn 么l y rhestr yn adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol.

Er mwyn ei chofrestru, rhaid i ryddfraint ffurfio ystad gyfreithiol a bod naill ai:

  • yn barhaus
  • am dymor blynyddoedd absoliwt gyda mwy na saith mlynedd ar 么l

Nid yw cofrestru rhyddfraint yn rhagfarnu hawl y Goron i fforffedu鈥檙 rhyddfraint (rheol 196B o Reolau Cofrestru Tir 2003).

4. Rhyddfreintiau sy鈥檔 effeithio a rhyddfreintiau cysylltiedig

4.1 Mathau o ryddfreintiau y bydd Deddf Cofrestru Tir 2002 yn eu cydnabod

Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn gwahaniaethu rhwng dau fath o ryddfraint.

Gall rhyddfraint fod yn:

  • 鈥榬hyddfraint sy鈥檔 effeithio鈥 鈥 鈥渞hyddfraint sy鈥檔 berthnasol i lain o dir diffiniedig ac sy鈥檔 hawl gwrthwynebus yn effeithio ar, neu sy鈥檔 gallu鈥檔 effeithio ar, deitl i ystad neu arwystl鈥
  • 鈥榬hyddfraint gysylltiedig鈥 鈥 鈥渞hyddfraint nad yw鈥檔 rhyddfraint sy鈥檔 effeithio鈥 (rheol 217(1) i Reolau Cofrestru Tir 2003)

4.2 Rhyddfreintiau cysylltiedig yn fwy cyffredin

Credwn fod y rhan fwyaf o ryddfreintiau yn rhyddfreintiau cysylltiedig.

Yn arbennig, mae awdurdod cryf dros y farn y bydd rhyddfraint marchnad yn rhyddfraint gysylltiedig. Hyd yn oed os yw rhyddfraint y farchnad yn berthnasol i ardal sy鈥檔 dal i fod yn ddiffiniedig, nid yw鈥檔 ymddangos ei bod yn rhoi hawl i ddaliwr y rhyddfraint fynd ar y tir heb ganiat芒d y tirfeddiannwr (Y Twrnai Cyffredinol yn erbyn Horner (1884) 14 QBD 245, 254 - 255, 260. (Cadarnhawyd (1885) 11 App Cas 66 HL)) ac, felly, nid yw鈥檔 rhoi hawliau eiddo sy鈥檔 effeithio鈥檔 wrthwynebus ar y teitl i unrhyw ystad neu arwystl.

4.3 Cofrestru rhyddfraint gysylltiedig

Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 yn caniat谩u cofrestru rhyddfraint gysylltiedig heb gynllun teitl (rheol 5 i Reolau Cofrestru Tir 2003).

O ganlyniad:

  • bydd disgrifiad geiriol o ryddfraint o鈥檙 fath ar y gofrestr eiddo
  • ni fydd yn cael ei dangos ar y map mynegai ond, yn lle hynny, bydd yn cael ei chofnodi yn y mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau, sydd yn fynegai geiriol (rheol 10 i Reolau Cofrestru Tir 2003)

Ni allwn ond cofnodi rhybudd o ran baich hawl gwrthwynebus sy鈥檔 effeithio ar y teitl i ystad neu arwystl (adrannau 32(1) a 132(3)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mae鈥檔 dilyn nad oes modd nodi rhyddfreintiau cysylltiedig yn nheitlau鈥檙 ystadau cofrestredig hynny sydd yn ardal y rhyddfraint.

Barn Cofrestrfa Tir EF yw na fu rhyddfreintiau cysylltiedig digofrestredig erioed yn fuddion digofrestredig mewn tir am nad oeddent yn effeithio ar ystad gofrestredig felly nid oeddent fyth yn 鈥渇udd gor-redol鈥. Felly, yn wahanol i ryddfreintiau sy鈥檔 effeithio, nid oedd adran 117 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn effeithio arnynt (gweler Colli statws budd gor-redol).

Ond lle y mae rhyddfraint gysylltiedig wedi ei fwynhau mewn lle penodol, megis trwy gytundeb gyda鈥檙 tirfeddiannwr, gellir gwarchod y cytundeb hwnnw trwy rybudd yng nghofrestr y tir yn ddarostyngedig i鈥檙 hawl. Yn yr un modd, mae鈥檔 bosibl y bydd hawl berthynol i hawddfraint trwy bresgripsiwn i fwynha鈥檙 rhyddfraint mewn lle penodol wedi ei chaffael. Gellir gwarchod yr hawl honno yng nghofrestr y tir o dan sylw hefyd.

Er hynny, barn Cofrestrfa Tir EF yw nad yw caffael hawl o鈥檙 fath yn troi rhyddfraint gysylltiedig yn rhyddfraint sy鈥檔 effeithio.

4.4 Cofrestru rhyddfraint sy鈥檔 effeithio

Os oes gennych le i gredu bod y rhyddfraint sydd i鈥檞 chofrestru gennych yn rhyddfraint sy鈥檔 effeithio, a鈥檆h bod am i ni ei chofrestru felly, rhaid i chi wneud hyn yn glir yn y cais am gofrestriad.

Os credwn ei bod yn fwy tebygol na pheidio, yn 么l y dystiolaeth a ddarparwyd, bod y rhyddfraint yn rhyddfraint sy鈥檔 effeithio, byddwn:

  • yn cyflwyno rhybudd i holl berchnogion ystadau mewn tir, arwystlon a rhyddfreintiau cofrestredig perthnasol o fewn cylch diffiniedig y rhyddfraint
  • yn ceisio cyflwyno rhybudd i鈥檙 perchnogion, arwystleion a dalwyr rhyddfraint digofrestredig perthnasol

Bydd sut yn union y gwnawn hyn a pha wybodaeth fydd arnom ei hangen i鈥檞 wneud yn dibynnu ar amgylchiadau鈥檙 achos penodol.

Dylid nodi, fodd bynnag, os yw rhyddfraint yn rhyddfraint sy鈥檔 effeithio, y darn o dir diffiniedig ar ddyddiad y grant fydd y darn o dir diffiniedig y bydd yn ei effeithio. Yn achos grant coll a dybiwyd, bydd y darn diffiniedig yn dibynnu ar yr amgylchiadau (Loose v Lynn Shellfish Ltd [2014] EWCA Civ 846).

Dim ond os nad oes gwrthwynebiad, neu fod yr holl wrthwynebiadau鈥檔 ddi-sail neu鈥檔 cael eu datrys (trwy gytundeb neu achos), y gall y cofrestriad fwrw ymlaen a chofnodi rhybudd o鈥檙 rhyddfraint sy鈥檔 effeithio yn yr holl deitlau cofrestredig yr effeithir arnynt.

Bydd rhyddfraint gofrestredig sy鈥檔 effeithio yn:

  • cynnwys cynllun teitl
  • yn cael ei dangos ar y map mynegai

5. Dogfennau i鈥檞 cyflwyno

Wrth wneud cais am gofrestriad cyntaf rhyddfraint, rhaid i chi ddarparu鈥檙 canlynol:

  • ffurflen FR1 ar gyfer pob rhyddfraint sydd i鈥檞 hawlio. Mae marchnadoedd a ffeiriau鈥檔 rhyddfreintiau ar wah芒n, felly hyd yn oed os yw siarter yn caniat谩u marchnad a ffair, dylid gwneud cais ar wah芒n ar gyfer y ddwy. Yn ogystal 芒 bod yn gywir o ran y gyfraith, ceir rhesymau ymarferol da ar gyfer hyn, gan fod modd ymdrin 芒鈥檙 farchnad a鈥檙 ffair yn unigol ac yn aml, bydd un yn cael ei phrydlesu heb y llall. Os, fodd bynnag, bydd y siarter yn caniat谩u mwy nag un ffair, er enghraifft, gellir ymdrin 芒鈥檙 rhain fel un rhyddfraint a鈥檜 cofrestru o dan deitl unigol
  • copi ardystiedig o鈥檙 siarter neu lythyrau breinio yn rhoi鈥檙 rhyddfraint. Os yw鈥檙 ddogfen yn Lladin, bydd angen cyfieithiad arnom hefyd
  • lle bo鈥檙 cais am gofrestriad cyntaf rhyddfraint sy鈥檔 effeithio, cynllun yn dangos hyd a lled y tir yr effeithir arno a manylion digonol i ganiat谩u i ni nodi鈥檙 tir yn eglur ar fap yr Arolwg Ordnans
  • os yw鈥檙 cais am gofrestriad cyntaf rhyddfraint gysylltiedig, manylion y rhanbarth gweinyddol presennol (y sir neu鈥檙 awdurdod unedol) lle mae鈥檙 rhyddfraint yn gweithredu
  • yr holl ddogfennau sy鈥檔 profi disgyniad teitl i鈥檙 ceisydd yn unol 芒鈥檙 arfer trawsgludo arferol. Sylwer nad yw鈥檔 ddigonol i brofi grant gwreiddiol y rhyddfraint. Rhaid ichi brofi disgyniad y teitl i鈥檙 ceisydd hefyd
  • yr holl weithredoedd a dogfennau eraill sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 teitl i鈥檙 rhyddfraint ac sydd o dan reolaeth y ceisydd (鈥榬heolaeth鈥 yw 鈥渕eddiant corfforol, neu hawl i feddiant, neu hawl i gymryd cop茂au o鈥檙 ddogfen鈥, rheol 217(1) i Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • os yw鈥檙 ceisydd yn methu cyflwyno teitl dogfennol llawn, tystiolaeth i roi cyfrif am y diffyg (gweler cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio)
  • os seiliwyd y cais ar bresgripsiwn, tystiolaeth mewn un neu fwy o ddatganiadau statudol neu ddatganiadau o wirionedd o fwynhad am o leiaf 20 mlynedd
  • ffurflen DL yn ddyblyg yn rhestru鈥檙 holl ddogfennau a gyflwynwyd
  • y t芒l priodol. Ffi graddfa 1 yw hon, yn seiliedig ar werth y budd sy鈥檔 cael ei gofrestru. Nid yw erthygl 2(6) (cofrestriad gwirfoddol: ff茂oedd gostyngol) yn gymwys i gofrestriad cyntaf rhyddfreintiau

Sylwer y gallwch wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail cop茂au ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriad cyntaf 鈥 ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr 鈥 derbyn gweithredoedd o gop茂au ardystiedig. Cofiwch pan fyddwch yn dewis gwneud eich cais ar sail cop茂au ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig, rhaid i hyn gynnwys tystiolaeth o gadwyn teitl y ceisydd o hyd

6. Cais am gyfyngiad ar Ffurf A

Lle bo unigolyn neu unigolion yn gwneud cais i gael eu cofrestru鈥檔 berchennog (perchnogion) rhyddfraint ac na fydd unig berchennog neu oroeswr cydberchnogion yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, rhaid gwneud cais i gofnodi cyfyngiad ar Ffurf A (rheolau 94(2) a (3) i Reolau Cofrestru Tir 2003). Dylid gwneud y cais yn ffurflen RX1 neu os yw ffurflenni trosglwyddo Cofrestrfa Tir EF wedi eu defnyddio ar gyfer y gwarediad i鈥檙 ceisydd, yn y ffurflen honno.

7. Cyflwyno rhybudd i鈥檙 Goron

Efallai y byddwn am gyflwyno rhybudd o gais i gofrestru rhyddfraint i gynrychiolydd y Goron.

Dylech gyflwyno unrhyw ohebiaeth berthnasol i鈥檙 Goron fel rhan o鈥檙 cais.

Yn achos rhyddfraint llongddrylliad, neu bysgod brenhinol (hynny yw morfil, morhwch neu syrsiwn a ddaliwyd ger yr arfordir Prydeinig neu a daflwyd i鈥檙 lan. O dan yr amgylchiadau hyn, maent yn eiddo i鈥檙 Goron neu yn Nugiaeth Cernyw, i Dywysog Cymru, byddwn yn anfon rhybudd at Dderbynnydd y Llongddrylliad.

Mae鈥檔 bosibl y byddwn yn ystyried anfon rhybudd at bart茂on eraill sydd 芒 budd.

8. Dosbarth teitl

Yn wahanol i geisiadau am gofrestriad cyntaf ystad mewn tir, mae鈥檔 anodd weithiau i berchennog rhyddfraint brofi ei deitl i鈥檙 rhyddfraint yn foddhaol cofrestrydd; gall perchennog ystad mewn tir ddangos meddiant materol ohono ond ni all perchennog rhyddfraint wneud hyn.

Tra bod modd cyflwyno鈥檙 dystiolaeth o鈥檙 grant gwreiddiol ar y cyd 芒 theitl modern yn ymestyn yn 么l dyweder 15 neu 30 mlynedd, yn aml, bydd gofod o nifer o ganrifoedd lle na fydd gwybodaeth ar gael. Oni bai bod Cofrestrfa Tir EF yn gwbl fodlon 芒鈥檙 dystiolaeth a gyflwynir, mae鈥檔 bosibl y cynigir teitl amodol. Mae hyn yn arbennig o wir pan fo鈥檙 rhyddfraint yn seiliedig ar grant maenoraidd. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

9. Colli statws budd gor-redol

Cyn 13 Hydref 2013, roedd hawliau eiddo rhyddfraint sy鈥檔 effeithio鈥檔 wrthwynebus ar dir (hawl mynediad efallai) yn fuddion gor-redol (paragraff 10 i Atodlen 1 a Pharagraff 10 i Atodlen 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002), sy鈥檔 golygu yr oeddynt ohonynt eu hunain yn cyfrwymo perchnogion y tir o dan sylw (adrannau 11, 12, 29, 30 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

O ganol nos 12 Hydref 2013, collodd y rhain eu statws gor-redol awtomatig a rhaid eu gwarchod yn awr yn y gofrestr. Mae rhwymau ar geiswyr ar bob cofrestriad cyntaf neu ar warediad tir cofrestredig i ddatgelu鈥檙 hawliau eiddo rhyddfraint y maent yn ymwybodol ohonynt ac sy鈥檔 effeithio ar eu heiddo. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: Buddion gor-redol a鈥檜 datgelu am ragor o wybodaeth.

Yn ogystal, gall y rheiny sydd 芒 budd hawliau eiddo rhyddfraint nad ydynt wedi eu gwarchod yn y gofrestr wneud cais iddynt gael eu nodi yn y gofrestr teitl sy鈥檔 ddarostyngedig iddynt ar yr amod eu bod yn rhwymo鈥檙 perchnogion cofrestredig ar y pryd. Mae ffi yn daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol am gais o鈥檙 fath (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ff茂oedd Gwasanaethau Cofrestru). Lle nad yw鈥檙 tir yn gofrestredig, gellir gwarchod hawliau eiddo rhyddfraint gan rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 66: buddion gor-redol sy鈥檔 colli gwarchodaeth awtomatig yn 2013.

10. Gwrthwynebiadau ac anghydfodau

10.1 Posibilrwydd gwrthwynebu

Mae anghydfodau鈥檔 ymwneud 芒 rhyddfreintiau yn fwyaf tebygol o ddigwydd lle gwnaed cais i gofrestru rhyddfraint fel rhyddfraint sy鈥檔 effeithio, neu i nodi bod hawliau eiddo rhyddfraint wedi eu nodi gan arwain at y perchennog cofrestredig yn gwneud cais i ddileu鈥檙 rhybudd unochrog, a bod un o鈥檙 bobl a gyflwynwyd 芒 rhybudd yn gwrthwynebu鈥檙 cais.

10.2 Gofynion ar gyfer gwrthwynebu

Rhaid i unrhyw un sydd am wrthwynebu cais gyflwyno datganiad ysgrifenedig wedi ei lofnodi ganddynt neu eu trawsgludwr i鈥檙 cofrestrydd.

Rhaid iddo ddatgan bod y gwrthwynebydd yn gwrthwynebu鈥檙 cais, nodi sail y gwrthwynebiad a rhoi enw a chyfeiriad y gwrthwynebydd ar gyfer cyfathrebu (rheol 19 i Reolau Cofrestru Tir 2003).

10.3 Ystyried y gwrthwynebiad gan Gofrestrfa Tir EF

Os derbyniwn wrthwynebiad, yna ni fydd modd terfynu鈥檙 cais nes bydd y gwrthwynebiad wedi ei ddatrys, oni bai bod y cofrestrydd yn fodlon bod y gwrthwynebiad yn ddi-sail (adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Os nad yw鈥檙 gwrthwynebiad yn ddi-sail, rhaid i ni gyflwyno rhybudd o鈥檙 gwrthwynebiad i鈥檙 ceisydd (adran 73(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yna byddwn yn gofyn i鈥檙 ddwy ochr:

  • a ydynt yn dymuno cyd-drafod
  • a ydynt yn ystyried y gall fod modd dod i gytundeb

Os bydd pawb yn ateb yn gadarnhaol, byddwn yn caniat谩u amser iddynt gytuno ar y mater. Fodd bynnag, cyn gynted ag y daw鈥檔 amlwg bod y ddwy ochr yn methu dod i gytundeb, rhaid i ni gyfeirio鈥檙 mater at y tribiwnlys (adran 73(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Byddwn yn gwneud hyn ar unwaith os nad yw鈥檙 part茂on am gyd-drafod.

Yna bydd y tribiwnlys naill ai:

  • yn pennu dyddiad i wrando a rhoi penderfyniad ar y mater ei hun
  • yn cyfarwyddo un ochr i ddechrau achos yn y llys. Os yw鈥檔 penderfynu gwrando ar y mater ei hun, bydd rhagor o fanylion o鈥檙 drefn i鈥檞 dilyn ac o鈥檙 sefyllfa o ran costau yn cael eu darparu ganddo

11. Delio dilynol gyda rhyddfraint gofrestredig

Gall perchennog rhyddfraint ddelio 芒 hi yn yr un ffordd i bob diben ag ystadau cofrestredig eraill. Er enghraifft, gall werthu neu brydlesu鈥檙 rhyddfraint.

Rhaid cofrestru gwerthu neu roi prydles rhyddfraint gofrestredig (adran 27(2)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ac ni fydd yn gweithredu鈥檔 gyfreithiol nes bydd y gofynion cofrestru wedi cael eu hateb (adran 27(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Os yw cyfnod y brydles am fwy na saith mlynedd, bydd cofrestru ar y ffurf arferol o agor teitl newydd a rhoi rhybudd yng nghofrestr teitl y prydleswr (paragraff 4 i Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os nad yw鈥檙 cyfnod dros saith mlynedd, yr unig ofyniad cofrestru yw bod rhybudd yn cael ei gofnodi yn nheitl y prydleswr (paragraff 5 i Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Mae effaith y rheol blaenoriaeth ar warediadau ystadau cofrestredig o dan adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn newid o ran rhyddfreintiau, fel bod hawl i鈥檙 Goron i fforffedu鈥檙 rhyddfraint yn 鈥榝udd wedi ei warchod鈥 at ddibenion adran 29(2)a (rheol 196(2) i Reolau Cofrestru Tir 2003).

12. Pethau i鈥檞 cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.