Canllawiau ar gyfer cyrff sector cyhoeddus ar gymhwyso Erthygl 36(4) o鈥檙 Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Mae鈥檙 ddogfen hon yn darparu canllawiau ar gyfer awdurdodau cyhoeddus ar eu rhwymedigaeth i ymgynghori 芒 Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch unrhyw gynigion ar gyfer mesurau deddfwriaethol neu statudol a ddatblygir ganddynt sy鈥檔 cynnwys prosesu data personol.
Dogfennau
Manylion
Mae Erthygl 36(4) o GDPR y DU yn nodi bod 鈥渞haid i鈥檙 awdurdod perthnasol ymgynghori 芒鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth wrth baratoi cynnig ar gyfer mesur deddfwriaethol i鈥檞 fabwysiadu gan y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban neu Gynulliad Gogledd Iwerddon. neu fesur rheoleiddio sy鈥檔 seiliedig ar fesur deddfwriaethol o鈥檙 fath, sy鈥檔 ymwneud 芒 phrosesu鈥.
Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol rwymol ar bob sefydliad sector cyhoeddus perthnasol, a byddai methu ag ymgynghori鈥檔 ddigonol 芒鈥檙 ICO ar gynigion o鈥檙 fath yn gyfystyr 芒 thorri GDPR y DU.E.
Mae鈥檙 canllawiau hyn yn nodi proses y dylai pob corff cyhoeddus perthnasol ei dilyn i ymgynghori 芒 Swyddfa鈥檙 Comisiynydd Gwybodaeth er mwyn cyflawni ei rwymedigaethau mewn perthynas 芒鈥檙 gofyniad hwn. Mae鈥檙 broses ymgynghori yn gyson ag egwyddorion ymgynghori sefydledig Swyddfa鈥檙 Cabinet.