Sut gallwch chi fynychu neu gael mynediad i llysoedd neu dribiwnlysoedd
Diweddarwyd 29 Mai 2024
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall eich hawliau pan fyddwch yn mynychu gwrandawiadau llys neu dribiwnlys fel aelod o鈥檙 cyhoedd. Mae hefyd yn rhoi cyngor ar sut y gallwch gael gafael ar wybodaeth am achos llys neu dribiwnlys.
Mae canllawiau penodol os ydych chi鈥檔 mynychu llys neu dribiwnlys i gymryd rhan mewn gwrandawiad, mynychu fel dioddefwr neu dyst, neu鈥檔 mynychu treial fel aelod rheithgor. Rydym hefyd yn cynnig cymorth i bobl anabl i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad i鈥檔 llysoedd a鈥檔 tribiwnlysoedd i leihau a goresgyn unrhyw rwystrau.
Mae ein system gyfiawnder yn cael ei chydnabod yn eang fel system deg, annibynnol a thryloyw. Mae ganddi rai prosesau cymhleth, ac mae鈥檔 bosibl y byddai鈥檙 rhain yn ei gwneud hi鈥檔 anodd i chi ddeall beth sy鈥檔 digwydd a pham.
1. Mathau o lysoedd a thribiwnlysoedd
Yn fras mae pedwar math o wrandawiad yn y system gyfreithiol, sef awdurdodaethau:
1.1 Troseddol
Achosion lle honnir bod unigolyn wedi cyflawni trosedd. Mae pob achos yn dechrau mewn llys ynadon, gydag achosion mwy difrifol yn mynd ymlaen i Lys y Goron. Mae llysoedd ynadon arbenigol, sef llysoedd ieuenctid yn delio ag achosion troseddol sy鈥檔 ymwneud 芒 phlant rhwng 10 a 17 oed.
1.2 Sifil
Fel arfer anghydfodau rhwng pobl neu sefydliadau, yn cynnwys pethau fel anghydfodau rhwng landlord a thenant, adennill dyledion, hawliadau rhwng cwmn茂au. Mae鈥檙 achosion hyn yn cael eu gwrando yn bennaf yn y Llys Sirol. Mae gan lysoedd ynadon awdurdodaeth sifil hefyd sy鈥檔 cwmpasu gorfodi (e.e. treth y cyngor a chynhaliaeth plant), ceisiadau gan gyrff cyhoeddus am orchmynion megis gorchmynion atal niwed rhywiol neu orchmynion atal stelcio ac apeliadau yn erbyn rhai penderfyniadau awdurdodau lleol.
1.3 Teulu
Fel arfer anghydfodau rhwng aelodau鈥檙 teulu, er enghraifft ynghylch trefniadau ar gyfer plant a materion eraill megis cyfrifoldeb rhiant ac ysgariad. Hefyd ceisiadau gan awdurdodau lleol am orchmynion i amddiffyn plant rhag niwed.
1.4 Tribiwnlysoedd
Mae鈥檙 rhain yn baneli arbenigol sy鈥檔 delio ag ystod o anghydfodau o ddydd i ddydd fel hawliadau am loches a mewnfudo, diswyddo annheg, apeliadau nawdd cymdeithasol, a threth. Maen nhw鈥檔 derbyn tystiolaeth gan bart茂on a chan arbenigwyr eraill.
Mae gan wefan y Swyddfa Farnwrol lawer o wybodaeth ddefnyddiol am hanes y system gyfiawnder a strwythur y llysoedd a thribiwnlysoedd.
2. Cyn gwrandawiad
Mae鈥檙 rhan fwyaf o wrandawiadau llysoedd a thribiwnlysoedd fel arfer yn cael eu cynnal yn gyhoeddus. Mae achosion yn y Llys Teulu a鈥檙 llys ieuenctid yn breifat felly nid yw鈥檙 rhan nesaf yn berthnasol iddyn nhw.
Mae鈥檙 barnwr neu鈥檙 ynad ym mhob achos yn penderfynu sut y bydd gwrandawiad yn cael ei gynnal, gan gynnwys a all pobl ei wylio a sut y gall pobl ei wylio.
Ar achlysuron prin, os ydyn nhw鈥檔 credu ei bod yn angenrheidiol ar gyfer gweinyddu cyfiawnder yn briodol, gallan nhw benderfynu cynnal gwrandawiad yn breifat, heb ganiat芒d i unrhyw un ei wylio. Yn dibynnu ar y penderfyniad, mae鈥檔 bosibl y byddwch chi鈥檔 gallu gwylio gwrandawiad:
- yn bersonol, mewn seddi cyhoeddus penodol (e.e. mewn oriel gyhoeddus neu ran benodol o ystafell y llys)
- o bell, gan ddefnyddio dolen fideo neu sain
Gallwch ddefnyddio ein gwasanaeth Dod o hyd i Lys neu Dribiwnlys i weld:
- cyfeiriad a manylion cyswllt
- amseroedd agor
- pa faes/meysydd cyfreithiol y mae鈥檔 delio 芒 nhw
- hygyrchedd adeiladau
Gallwch ofyn i gael gwylio gwrandawiad yn y llys neu dribiwnlys o bell. I wirio a yw hynny鈥檔 opsiwn ar gyfer gwrandawiad penodol, bydd angen i chi gysylltu 芒鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys ymlaen llaw gyda鈥檆h enw llawn, cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi鈥檆h hun y mae鈥檙 barnwr yn gofyn amdani.
Os nad oes gan lys neu dribiwnlys y dechnoleg neu鈥檙 adnoddau priodol, neu os yw barnwr wedi gwneud penderfyniad i beidio 芒 chynnal y gwrandawiad o bell, mae鈥檔 bosibl y byddan nhw鈥檔 awgrymu gwylio鈥檙 gwrandawiad yn bersonol yn lle hynny.
Mae rhai awdurdodaethau llys yn ffrydio rhai o鈥檜 gwrandawiadau neu bob un ohonyn nhw ar-lein fel:
- Ffrydio byw y Goruchaf Lys
- Ffrydio byw y Llys Ap锚l (Is-adran Sifil)
- Ffrydio byw y Tribiwnlys Ap锚l Cystadleuaeth
Rhestrau llysoedd: Llysoedd sy鈥檔 gyfrifol am gyhoeddi rhestrau o wrandawiadau sydd ar ddigwydd. Mae鈥檙 rhestrau hyn ar gael i bawb, yn rhad ac am ddim, a dylen nhw fod ar gael fel arfer 鈥 arlein neu mewn copi caled mewn adeiladau鈥檙 llys a鈥檙 tribiwnlys 鈥 erbyn y bore y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal arno. Gall rhestrau llysoedd newid weithiau, os nad ydych chi鈥檔 sicr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau gofynnwch i aelod o staff y llys.
Gallwch weld ein rhestrau llysoedd cyhoeddus ar wefan 天美影院 neu drwy ein Gwasanaeth Gwrandawiadau Llysoedd a Thribiwnlysoedd Prosesau diogelwch: Er mwyn helpu i gadw ein hadeiladau yn ddiogel mae鈥檔 rhaid i chi fynd drwy broses ddiogelwch bob tro y byddwch yn mynd i mewn. Darllenwch ein canllaw prosesau diogelwch mewn adeilad llys neu dribiwnlys wrth i chi gynllunio鈥檆h ymweliad.
Pan fyddwch y tu mewn i adeilad llys, gall staff yn y dderbynfa ddweud wrthych ble mae鈥檙 ystafell berthnasol a鈥檙 man eistedd cyhoeddus. Os ydych yn barti neu鈥檔 dyst mewn gwrandawiad, rhowch wybod i aelod o staff y llys pan fyddwch yn cyrraedd.
3. Gwylio gwrandawiad
3.1 Ardal eistedd/oriel gyhoeddus
Lle bynnag y bo鈥檔 bosibl bydd seddi mewn 鈥榦riel gyhoeddus鈥 benodol neu ardal eistedd benodol arall. Dyma adran o seddi sy鈥檔 cael eu cadw ar gyfer y cyhoedd i ffwrdd oddi wrth y part茂on sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 achos. Gall aelod o staff ddweud wrthoch sut i fynd i鈥檙 ardal hon. Oni bai bod y barnwr wedi cyfyngu鈥檔 benodol ar fynediad cyhoeddus am reswm da, gallwch fynd i mewn a gadael ystafell y llys, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny heb amharu ar yr achos.
3.2 Gwrandawiadau o bell
Bydd y barnwr sy鈥檔 gwrando ar yr achos yn penderfynu a allwch wylio鈥檙 gwrandawiad o bell. Dyma rai o鈥檙 ffactorau y bydd y barnwr yn eu hystyried wrth wneud y penderfyniad:
- buddiannau cyfiawnder
- gallu technegol y llys i ddarparu dull gwylio o bell
- yr hyn sy鈥檔 angenrheidiol i sicrhau gweinyddu cyfiawnder yn briodol.
Ar ddiwrnod y gwrandawiad, bydd angen i chi ddilyn y cyfarwyddiadau a anfonwyd gan y llys neu鈥檙 tribiwnlys. Mae hyn fel arfer yn golygu bod y llys neu鈥檙 tribiwnlys yn rhannu dolen gyda chi drwy e-bost sy鈥檔 eich galluogi i wylio鈥檙 gwrandawiad ar-lein.
3.3 Cyfyngiadau ar fynediad
Mae gan bob llys neu dribiwnlys y p诺er i gyfyngu ar fynediad y cyhoedd i ystafell y llys lle mae angen gwneud hynny er budd cyfiawnder, er enghraifft i atal anhrefn neu i helpu tyst bregus i roi ei dystiolaeth orau.
Mae鈥檔 bosibl cyfyngu ar fynediad hefyd er mwyn atal aelodau鈥檙 cyhoedd, yn ogystal 芒 chyfranogwyr yn yr achos, rhag mynd i mewn a gadael ystafell y llys pan fydd y pethau canlynol yn digwydd:
- mae鈥檙 cyhuddiadau yn cael eu darllen ar goedd
- mae鈥檙 rheithgor yn cael ei chofrestru ac yn tyngu鈥檙 llw
- mae pobl fel y rheithgor neu鈥檙 tystion yn tyngu llw neu gadarnhad
- mae鈥檙 rheithgor yn rhoi ei reithfarn
- mae鈥檙 barnwr yn pasio dedfryd
Mae鈥檔 anghyfreithlon cyhoeddi polisi cyffredinol i lys neu dribiwnlys gyfyngu ar fynediad yn ystod rhannau eraill o鈥檙 achos.
3.4 Prosesau鈥檙 llys a鈥檙 tribiwnlys
Pan fydd aelod o staff yn dweud 鈥淪efwch yn y Llys鈥 mae鈥檔 rhaid i chi sefyll. Mae hyn yn golygu bod y barnwr neu鈥檙 ynad ar fin dod i mewn i鈥檙 ystafell. Bydd y barnwr yn dweud wrthych pryd i eistedd i lawr eto. Mae鈥檔 rhaid i chi aros yn dawel wrth wylio gwrandawiad. Os na allwch sefyll oherwydd anabledd neu gyflwr rhowch wybod i un o鈥檔 gweithwyr cyn i鈥檙 gwrandawiad ddechrau.
3.5 Tynnu lluniau, ffilmio a recordio sain
Mae鈥檔 anghyfreithlon, a gall hefyd fod yn ddirmyg llys, i rywun sy鈥檔 gwylio dynnu ffotograffau, ffilmio, neu wneud recordiadau sain yn ystafell y llys, ystafell wrandawiadau, adeilad y llys neu mewn unrhyw ran o adeilad y llys. Mae hyn hefyd yn berthnasol wrth ddod i wrandawiadau o bell. Mae hefyd yn anghyfreithlon, a gall fod yn ddirmyg i鈥檙 llys, gyhoeddi neu ddarlledu delweddau neu recordiadau a gafodd eu gwneud yn groes i鈥檙 gwaharddiad hwn. Mewn rhai achosion gall y llys garcharu person sy鈥檔 gwneud unrhyw un o鈥檙 pethau hyn.
3.6 Defnyddio ffonau a gliniaduron
Caniateir dod 芒 ffonau symudol a dyfeisiau eraill fel gliniaduron i mewn i鈥檙 ystafell llys neu dribiwnlys, ond gellir eu defnyddio i deipio nodiadau yn unig. Ni ellir aelod o鈥檙 cyhoedd eu defnyddio i rannu gwybodaeth, e.e. trwy anfon negeseuon testun, rhannu gwybodaeth ar gyfryngau cymdeithasol, anfon neges e-bost, ac ati. Dylech holi gydag aelod o staff y llys oherwydd gall rhai cyfyngiadau lleol fod ar waith. Os byddwch yn dod 芒 dyfais i mewn gyda chi, sicrhewch ei bod ar 鈥榙istaw鈥 neu trowch y ddyfais i ffwrdd os nad yw鈥檔 cael ei defnyddio fel na fydd yn tarfu ar yr achos. Os bydd staff y llys yn meddwl eich bod yn rhannu gwybodaeth, gall y llys eich gorchymyn i droi鈥檙 ddyfais i ffwrdd.
3.7 Cymryd nodiadau
Nid oes angen caniat芒d arnoch i gymryd nodiadau. Pan fo seiliau rhesymol i amau y gallai gwneud nodiadau fod at ddiben anghyfreithlon, neu y gallai amharu ar achos, mae鈥檔 bosibl y gofynnir i chi ymatal rhag eu gwneud. Os nad ydych yn si诺r, gofynnwch i aelod o staff y llys. Mae enghreifftiau yn cynnwys lle mae rheswm dros gredu bod nodiadau yn cael eu defnyddio i:
- drosglwyddo cyfathrebiadau byw sy鈥檔 seiliedigar destun heb y caniat芒d gofynnol
- hwyluso torri cyfyngiad ar adrodd
3.8 Cyfathrebu byw yn seiliedig ar destun (e.e. 鈥榅鈥 sef Twitter gynt)
Oni bai eich bod yn newyddiadurwr achrededig, neu mewn rhai achosion yn flogiwr cyfreithiol, ni allwch bostio ar gyfryngau cymdeithasol heb ganiat芒d nes bod y gwrandawiad wedi dod i ben ac yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau ar adrodd. Mewn rhai achosion mae鈥檙 llys yn cyhoeddi 鈥榗yfyngiadau ar adrodd鈥 gan atal unrhyw beth rhag cael ei gyhoeddi a fyddai鈥檔 arwain at adnabod unigolion yn yr achos. Gallai hyn olygu na allwch ddweud mewn unrhyw ffordd pwy yw鈥檙 person a gyhuddir neu a gafwyd yn euog o drosedd.
3.9 Wi-Fi mewn adeiladau llys a thribiwnlys
Mae GovWifi am ddim ar gael i鈥檙 cyhoedd ym mhob adeilad llys a thribiwnlys.
3.10 Darlledu mewn llysoedd
Mae gan gyfryngau awdurdodedig ganiat芒d i ffilmio sylwadau dedfrydu gan rai barnwyr yn Llys y Goron. Mae鈥檔 bosibl y byddan nhw鈥檔 dewis darlledu鈥檙 rhain yn eu bwletinau newyddion ar y teledu neu ar-lein neu eu cyhoeddi ar-lein. Dim ond barnwyr sy鈥檔 cael eu ffilmio, nid yw cyfranogwyr eraill, part茂on i鈥檙 achos neu鈥檙 oriel gyhoeddus yn cael eu ffilmio ar hyn o bryd.
4. Cael gwybodaeth am achosion llys a thribiwnlysoedd
Yn ogystal 芒 gwylio gwrandawiadau, mae gennych hawl i dderbyn gwybodaeth am yr hyn sy鈥檔digwydd mewn llysoedd a thribiwnlysoedd os oeddech chi鈥檔 cymryd rhan yn y gwrandawiad neu beidio.
Mewn rhai amgylchiadau gallwch wneud cais am drawsgrifiad o wrandawiad llys neu dribiwnlys (neu rannau penodol o wrandawiad) os cafodd ei recordio. Gall y llys wrthod darparu rhan neu鈥檙 cyfan o drawsgrifiad (er enghraifft, os yw manylion y gwrandawiad yn gyfrinachol). Nid yw llysoedd ynadon yn recordio eu hachosion.
Efallai y bydd rhaid i chi dalu am recordiad llys, am nodiadau gwrandawiad neu am drawsgrifiad, gofynnwch i鈥檙 llys neu i鈥檙 tribiwnlys os yw鈥檔 rhad ac am ddim neu os bydd t芒l.
4.1 Cyfyngiadau ar adrodd
Mae rhai gwrandawiadau llys neu dribiwnlys yn destun cyfyngiadau sy鈥檔 atal unrhyw un rhag adrodd ar achosion neu gyhoeddi gwybodaeth amdano. Os nad ydych yn si诺r a yw cyfyngiadau ar adrodd mewn grym yn achos gwrandawiad, dylech siarad 芒鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys yn uniongyrchol. Mae鈥檔 rhaid i chi gadw at y cyfyngiadau hyn ac ni ddylech gyhoeddi gwybodaeth gyfyngedig. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn ddirmyg llys a gallech gael dirwy neu ddedfryd o garchar.
4.2 Cais am wybodaeth am achosion
Os ydych chi eisiau gwybodaeth am wrandawiad gallwch gysylltu 芒鈥檙 llys neu 芒鈥檙 tribiwnlys perthnasol. Mae鈥檔 bosibl y bydd gennych hawl i鈥檙 wybodaeth, yn dibynnu ar reolau鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys. Yn achos gwybodaeth arall, a gwybodaeth am achosion troseddol a ddaeth i ben fwy na 6 mis yn 么l, mae鈥檔 rhaid i chi wneud cais i farnwr neu i ynad drwy鈥檙 llys neu鈥檙 tribiwnlys lleol ac esbonio鈥檙 rhesymau dros y cais.
4.3 Dirmyg llys
Mae 鈥楧irmyg llys鈥 yn digwydd pan fo risg bod rhywun yn dylanwadu鈥檔 annheg ar achos llys. Mae鈥檔 bosibl y bydd yn atal rhywun rhag cael treial teg a gall effeithio ar ganlyniad treial. Mae鈥檙 cosbau am ddirmyg yn cynnwys dirwyon a charchar. Gall dirmyg llys gynnwys:
- anufuddhau neu anwybyddu gorchymyn llys
- tynnu lluniau neu weiddi allan yn y llys
- gwrthod ateb cwestiynau鈥檙 llys os cewch eich galw i fod yno fel tyst
- gwneud sylwadau cyhoeddus ar achos llys byw, er enghraifft ar gyfryngau cymdeithasol neu mewn erthyglau newyddion ar-lein
5. Pwyntiau cyswllt a rhagor o wybodaeth
Mae鈥檔 bosibl dod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ar y gwefannau canlynol:
- Gwefan GLlTEF (天美影院)
- Rheolau Trefniadaeth Troseddol
- Chwilio am lys neu dribiwnlys
- Pwy yw pwy yn y llysoedd a鈥檙 tribiwnlysoedd
- Addasiadau rhesymol mewn llysoedd a thribiwnlysoedd
- Mynd i鈥檙 llys fel dioddefwr neu dyst
- Mynychu treial fel aelod rheithgor
- Canllaw GLlTEF am y prosesau diogelwch
- Dirmyg llys
- Gwneud cais am drawsgrifiad o wrandawiad llys neu dribiwnlys
- Cymorth i bobl anabl