Canllawiau

Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol

Diweddarwyd 26 Mehefin 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

1. Cyflwyniad

Ystyr EGMA yw Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol.

Mae EGMA yn fath newydd o eiriolaeth statudol a gyflwynwyd gan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (y Ddeddf). Mae’r Ddeddf yn rhoi hawl i rai pobl heb alluedd i dderbyn cymorth gan EGMA.

Mae Awdurdodau Lleol wedi comisiynu gwasanaethau EGMA yn Lloegr ac mae Byrddau Iechyd Lleol wedi’u comisiynu yng Nghymru.

Mae gan gyrff cyfrifol, y GIG ac Awdurdodau Lleol i gyd ddyletswydd i wneud yn siŵr bod EGMA ar gael i gynrychioli pobl heb alluedd i wneud penderfyniadau penodol, felly bydd angen i staff yr effeithir arnynt wybod pryd y mae’n rhaid cynnwys EGMA.

Darperir gwasanaethau EGMA gan sefydliadau sy’n annibynnol o’r GIG ac awdurdodau lleol.

Nod y canllaw hwn yw esbonio:

  • beth yw eiriolaeth
  • rôl EGMA
  • sut mae’r gwasanaeth EGMA yn gweithio’n ymarferol
  • pwy fydd yn elwa ar y gwasanaeth EGMA
  • sut i wneud atgyfeiriad i’r gwasanaeth EGMA

1.1 Eiriolaeth

1.2 Beth yw eiriolaeth?

Eiriolaeth yw cymryd camau i helpu pobl:

  • mynegi eu safbwyntiau a’u dymuniadau
  • sicrhau eu hawliau
  • cael eu buddiannau wedi’u cynrychioli
  • cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau
  • archwilio dewisiadau ac opsiynau

Mae eiriolaeth yn hybu cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a chynhwysiant cymdeithasol. Gall rymuso pobl i siarad drostynt eu hunain.

Gall eiriolaeth helpu pobl i fod yn fwy ymwybodol o’u hawliau eu hunain, arfer yr hawliau hynny a chymryd rhan mewn penderfyniadau a dylanwadu ar benderfyniadau a wneir ynglŷn â’u dyfodol.

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai y bydd angen i eiriolwr gynrychioli buddiannau person arall. Gelwir hyn yn eiriolaeth heb gyfarwyddyd a defnyddir hyn pan na fydd person yn gallu cyfathrebu eu safbwyntiau.

1.3 Pwy sydd angen eiriolaeth?

Unrhyw un sydd angen cymorth i:

  • gwneud newidiadau a chymryd rheolaeth dros eu bywyd
  • cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys yn eu cymuned
  • cael pobl i wrando arnynt a’u deal

Gallai person sy’n cael mynediad at eiriolaeth, er enghraifft, fod yn rhywun ag anhawster dysgu neu’n berson hŷn sydd â dementia.

1.4 Beth yw eiriolwr?

Mae eiriolwr yn rhywun sy’n cefnogi person er mwyn i’w safbwyntiau gael eu clywed a’u hawliau gael eu cynnal.

Gallant helpu person i gyfleu eu safbwyntiau a’u teimladau pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud ynglŷn â’u bywyd.

Gallant roi cymorth a fydd yn galluogi person i wneud dewisiadau ac maent yn hysbysu pobl ynghylch eu hawliau.

Bydd eiriolwr yn cynorthwyo person i siarad drostynt eu hunain neu, mewn rhai sefyllfaoedd, byddant yn siarad ar ran person.

Mae eiriolwyr yn annibynnol. Nid ydynt wedi’u cysylltu â’r gofalwyr neu’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â chefnogi’r person.

Mae eiriolwr yn gweithio ar sail un i un gyda pherson i ddatblygu eu hyder lle bynnag y bo’n bosibl a bydd yn ceisio sicrhau bod y person hwnnw’n teimlo cymaint o rym â phosibl i gymryd rheolaeth dros eu bywyd eu hunain.

1.5 Eiriolaeth heb gyfarwyddyd

Mae’r mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth sy’n cael mynediad at y gwasanaeth EGMA yn bobl ag anableddau dysgu, pobl hŷn â dementia, pobl sydd wedi cael niwed i’w hymennydd neu bobl â phroblemau iechyd meddwl. Ond mae EGMA hefyd yn gweithredu pan fydd gan bobl ddiffyg galluedd dros dro oherwydd eu bod yn anymwybodol neu prin yn ymwybodol, boed hynny oherwydd damwain, bod o dan anesthetig neu o ganlyniad i gyflyrau eraill.

Mae gan lawer rwystrau cyfathrebu sylweddol ac ni allant gyfarwyddo’r eiriolwr ei hun. Yn ogystal, ni fydd llawer o bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn gallu mynegi safbwynt am y penderfyniad arfaethedig.

Bydd eiriolwr heb gyfarwyddyd bob amser yn ceisio canfod beth yw dewis dull cyfathrebu’r person a threulio amser yn canfod a yw’r person yn gallu mynegi safbwynt a sut maent yn cyfathrebu. Mae gan EGMA brofiad o weithio gyda phobl sy’n cael anawsterau i gyfathrebu.

Os nad yw’r person yn gallu cyfathrebu eu safbwyntiau a’u dymuniadau mewn cysylltiad â’r penderfyniad sy’n cael ei wneud, mae eiriolwr yn defnyddio eiriolaeth heb gyfarwyddyd.

Eiriolaeth heb gyfarwyddyd yw cymryd camau cadarnhaol ar ran person nad ydynt yn gallu cyfleu eu barn neu eu dymuniadau yn glir mewn sefyllfa benodol. Mae’r eiriolwr heb gyfarwyddyd yn ceisio cynnal hawliau’r person, sicrhau triniaeth deg a chyfartal a chael mynediad at wasanaethau a gwneud yn siŵr bod penderfyniadau’n cael eu gwneud gyda’r ystyriaeth briodol i’w dewisiadau a’u safbwyntiau unigryw.

1.6 Gweithredu dros Eiriolaeth 2006

Egwyddorion allweddol eiriolaeth heb gyfarwyddyd yw

  • Nid yw’r cleient yn cyfarwyddo’r eiriolwr
  • Mae’r eiriolwr yn annibynnol a gwrthrychol
  • Mae gan bobl sy’n profi anawsterau cyfathrebu hawl i gael eu cynrychioli mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau
  • Mae’r eiriolwr yn diogelu’r egwyddorion sy’n sail i fyw bywyd cyffredin sy’n tybio bod gan bob person hawl i fywyd o ansawdd.

Mae yna nifer o ddulliau a ddefnyddir gan eiriolwr wrth ymgymryd ag eiriolaeth heb gyfarwyddyd. Dyfeisiwyd y dull ‘Briff Gwylio’ gan ASIST, sefydliad eirioli, a gellir ei ddefnyddio pan na all y person gyfathrebu barn ac felly ni all yr eiriolwr wybod beth allai fod ei eisiau ar y person.

Mae’n nodi proses lle gall yr eiriolwr holi sut y bydd agweddau penodol ar fywyd person yn cael eu gwella neu eu niweidio gan y penderfyniad arfaethedig. Mae’n diogelu neu’n dadlau dros egwyddorion bywyd cyffredin ac yn gweithio o’r sail bod gan bob bod dynol hawl i ansawdd bywyd. Mae’n nodi wyth parth ansawdd bywyd a ddefnyddir fel sail i’r eiriolwr holi cwestiynau i bwy bynnag sy’n cynnig gwneud penderfyniad. Nid yw’r eiriolwr yn cynnig barn nac yn mynegi safbwynt ar gam gweithredu penodol.

Cryfder y dull gweithredu hwn yw ei bod yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaeth feddwl pam eu bod yn gwneud y penderfyniad penodol ac i gyfiawnhau’r camau gweithredu a gynigir. Hynny yw, gall gofyn ‘pam’ fod yn bwerus iawn. Mae eiriolwr yn archwilio’n weithredol i’r broses a ddefnyddir gan ddarparwyr i wneud penderfyniad.

Mae eiriolwr yn mynychu cyfarfodydd ar ran y person ac yn edrych ar y penderfyniadau arfaethedig i wneud yn siŵr bod:

  • yr holl opsiynau’n cael eu hystyried
  • lle gellir nodi dewisiadau a chas bethau person, bod y rhain yn cael eu hystyried
  • nad oes unrhyw agendâu penodol yn cael eu dilyn
  • hawliau sifil, dynol a llesiant y person yn cael eu parchu

Nid yw eiriolaeth EGMA yn eiriolaeth er lles pennaf. Nid yw’r eiriolwr yn cynnig eu barn eu hunain nac yn gwneud y penderfyniad.

1.7 Enghraifft

Roedd Emma, menyw 40 oed sydd ag anghenion cymorth uchel, wedi byw gartref gyda’i thad hyd at ei farwolaeth annisgwyl. Roedd angen gwneud penderfyniad ynglŷn â lle byddai Emma yn byw yn y dyfodol a gwnaed atgyfeiriad i’r gwasanaeth EGMA. Cafodd yr EGMA gyfarfod gyda gweithiwr cymdeithasol Emma a dywedwyd nad oedd ganddi unrhyw iaith lafar, ni allai ddefnyddio iaith arwyddion a dim ond dulliau cyfathrebu cyfyngedig iawn sydd ganddi. Cyfarfu’r EGMA ag Emma a chanfod nad oedd yn bosibl cael ei barn am ei llety yn y dyfodol. Yna defnyddiodd yr EGMA eiriolaeth heb gyfarwyddyd.

1.8 Y gwasanaeth EGMA

1.9 Pam cael gwasanaeth EGMA?

Yn y gorffennol, mae’n bosibl na wrandawyd ar lawer o bobl heb alluedd i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Mae EGMA yn diogelu hawliau pobl nad oes ganddynt unrhyw un i siarad ar eu rhan.

1.10 Manteision gwasanaeth EGMA

Y prif fuddiannau i’r person heb alluedd yw:

  • cael rhywun annibynnol i adolygu penderfyniadau arwyddocaol sy’n cael eu gwneud
  • cael eiriolwr sy’n glir a gwybodus nid yn unig mewn perthynas â’r Ddeddf ond hefyd am hawliau person, systemau iechyd a gofal cymdeithasol a chyfraith gofal cymunedol.
  • derbyn cymorth gan berson sydd â’r gallu i helpu pobl sy’n cael anawsterau i gyfathrebu i gyfleu eu barn
  • cael person annibynnol sy’n gallu eu cefnogi a’u cynrychioli pan fydd penderfyniadau difrifol penodol yn cael eu gwneud ac nid oes ganddynt unrhyw un i ymgynghori â nhw.

Mae buddiannau i’r cyrff sy’n gwneud penderfyniadau hefyd, oherwydd gallai ymarferwyr sy’n gweithio yn y cyrff hynny ganfod:

  • bod y ffordd gydweithredol y mae EGMA yn gweithio yn golygu bod ymarferwyr yn cael eu cefnogi gyda’u prosesau gwneud penderfyniad gan berson â gwybodaeth dda o’r Ddeddf
  • y gallai’r wybodaeth a gyflwynir gan yr EGMA i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad fod yn ddefnyddiol iawn ac y gallai arbed swm sylweddol o amser i’r ymarferydd
  • y gellir gwneud penderfyniadau cymhleth gyda mwy o hyder ac yn fwy cyflym mewn llawer o achosion oherwydd cyfranogiad EGMA

(Yn seiliedig ar Werthusiad o gynlluniau peilot EGMA gan Brifysgol Caergrawnt.)

1.11 Beth yw galluedd meddyliol?

Galluedd meddyliol yw’r gallu i wneud penderfyniad.

Mae’r Ddeddf yn cwmpasu sefyllfaoedd pan na all rhywun wneud penderfyniad oherwydd bod y ffordd mae eu meddwl neu eu hymennydd yn gweithio wedi’i heffeithio gan, er enghraifft salwch neu anabledd. Gallai’r diffyg galluedd fod ar sail dros dro am eu bod yn anymwybodol neu prin yn ymwybodol boed oherwydd damwain, bod o dan anesthetig neu o ganlyniad i gyflyrau eraill fel effeithiau cyffuriau neu alcohol. Mae’n cynnwys penderfyniadau bob dydd fel beth i’w wisgo neu pryd i gael bath a phenderfyniadau mwy difrifol fel ble i fyw.

1.12 A oes gan berson ddiffyg galluedd meddyliol?

Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn galw am asesiadau ‘penderfyniadau penodol’ o alluedd.

Gall pob aelod o staff a gofalwr di-dâl wneud asesiadau o alluedd ar gyfer penderfyniadau syml, a dylent eu gwneud – er enghraifft a all rhywun benderfynu beth i’w wisgo neu ei fwyta. Wrth gwrs, po fwyaf difrifol yw’r penderfyniad, y mwyaf ffurfiol y dylai’r asesiad o alluedd fod.

Gall llawer o aelodau o staff wneud asesiadau ynglÅ·n ag a ddylid atgyfeirio at EGMA ai peidio, gan ddilyn y cwestiynau canlynol.

Asesir nad oes gan berson alluedd i wneud penderfyniad, a bod angen EGMA arnynt, os na allant wneud un neu fwy o’r canlynol:

  • deall gwybodaeth a roddir iddynt am y penderfyniad
  • cadw’r wybodaeth am ddigon o amser i wneud y penderfyniad
  • pwyso a mesur y wybodaeth fel rhan o’r broses o wneud penderfyniad
  • cyfathrebu eu penderfyniad (trwy unrhyw ddull, e.e. siarad, iaith arwyddion neu amrantu)

Rhaid i’r asesiad fod yn benodol i’r penderfyniad y mae angen ei wneud, er enghraifft, nid prawf generig o alluedd. Gallai’r penderfyniad i gofnodi asesiadau o’r fath ai peidio, a sut, amrywio yn ôl difrifoldeb y penderfyniad a wnaed. Dylid cyfarwyddo EGMA ar gyfer y penderfyniadau penodol isod.

1.13 Beth mae EGMA yn ei wneud?

Mae EGMA yn amddiffyn hawliau pobl:

  • sy’n wynebu penderfyniad ynghylch symud hirdymor neu ynghylch triniaeth feddygol ddifrifol
  • nad oes ganddynt y gallu i wneud penderfyniad penodedig ar yr adeg y mae angen ei wneud
  • heb unrhyw un arall sy’n barod ac yn gallu eu cynrychioli neu gael eu hymgynghori yn y broses o weithio allan eu buddiannau gorau, ac eithrio staff cyflogedig.

Mae rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol a chyrff y GIG i gynnwys EGMA mewn penderfyniadau eraill ynghylch:

  • adolygiad o ofal
  • gweithdrefnau diogelu oedolion (hyd yn oed mewn sefyllfaoedd lle gallai teulu neu ffrindiau fod ar gael i ymgynghori â nhw)

Mae EGMA yn annibynnol ac fel arfer maent yn gweithio i ddarparwyr eiriolaeth nad ydynt yn rhan o awdurdod lleol neu’r GIG.

1.14 Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth EGMA?

Mae’r gwasanaeth EGMA yn cael ei ddarparu ar gyfer unrhyw berson 16 oed neu’n hŷn heb unrhyw un i’w cynorthwyo a’u cynrychioli, ac nad oes ganddynt alluedd i wneud penderfyniad ynghylch:

  • symud gofal hirdymor
  • triniaeth feddygol ddifrifol
  • gweithdrefnau diogelu oedolion
  • adolygiad gofal

Bydd gan berson o’r fath gyflwr sy’n effeithio ar eu gallu i wneud penderfyniadau.

Gall llawer o ffactorau effeithio ar alluedd person, er enghraifft:

  • anaf caffaeledig i’r ymennydd
  • anabledd dysgu
  • salwch meddwl
  • dementia
  • effeithiau cam-drin alcohol neu gyffuriau

Gall mathau eraill o salwch, trawma neu ffactorau eraill effeithio hefyd ar alluedd.

Gall galluedd person amrywio dros amser neu gallai ddibynnu ar y math o benderfyniad y mae angen ei wneud.

Dylai EGMA fod ar gael i bobl sydd yn y carchar, mewn hosteli ac ar y strydoedd ac nad oes ganddynt alluedd i wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth feddygol ddifrifol neu lety hirdymor.

1.15 Enghraifft

Mae Alan, dyn 32 oed ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth, yn byw mewn cartref gofal a fydd yn cau. Bydd angen i Alan symud i lety newydd. Mae gweithiwr cymdeithasol Alan yn ymwybodol nad oes ganddo unrhyw deulu neu ffrindiau y gall ymgynghori â nhw ynghylch y penderfyniad. Mae’n credu nad oes gan Alan alluedd i ddeall y penderfyniad i’w wneud ac mae’n cysylltu â’r gwasanaeth EGMA lleol i wneud atgyfeiriad.

1.16 Pryd nad oes angen cyfarwyddo EGMA?

Nid oes angen cyfarwyddo EGMA os:

  • bydd person heb alluedd yn awr wedi enwebu rhywun y dylid ymgynghori â nhw’n benodol ar yr un mater
  • bydd gan berson Atwrnai lles personol sydd wedi’i awdurdodi’n benodol i wneud penderfyniadau ar yr un mater
  • bydd Dirprwy lles personol wedi’i benodi gan y Llys gyda phwerau i wneud penderfyniadau ar yr un mater

Pan na fydd gan berson unrhyw deulu neu ffrindiau i’w cynrychioli, ond mae ganddynt Atwrnai neu Ddirprwy sydd wedi’u penodi’n benodol i ddelio ag eiddo a materion, yna mae’n rhaid cyfarwyddo EGMA.

Yn yr un modd, os oes gan y person Atwrnai neu Ddirprwy lles personol nad ydynt wedi’u hawdurdodi i wneud y penderfyniad penodol dan sylw, rhaid penodi EGMA.

1.17 Beth yw ystyr ‘heb unrhyw un arall sy’n barod nac yn gallu bod ar gael i ymgynghori â nhw?’

Mae’r EGMA yn ddull o ddiogelu pobl heb alluedd, nad oes ganddynt unrhyw un arall, ar wahân i staff cyflogedig ‘y byddai’n briodol ymgynghori â nhw’ (ar wahân i achosion diogelu oedolion pan na fydd y maen prawf hwn yn berthnasol). Bwriedir i’r dull diogelu fod yn berthnasol i bobl heb rwydwaith cefnogaeth, er enghraifft aelodau agos o’u teulu neu ffrindiau, sydd â diddordeb yn eu llesiant.

Mae angen i benderfynwyr yn y GIG ac awdurdodau lleol benderfynu a oes aelodau teulu neu ffrindiau sy’n barod ac yn gallu bod ar gael i ymgynghori â nhw ynghylch y penderfyniad arfaethedig. Os nad yw’n bosibl, ymarferol a phriodol i ymgynghori ag unrhyw un, dylid cyfarwyddo EGMA.

Mae’n bosibl bod gan y person heb alluedd ffrindiau neu deulu ond efallai bod rhesymau pam nad yw’r penderfynwr yn teimlo ei bod yn ymarferol neu’n briodol ymgynghori â nhw.

1.18 Enghreifftiau o sefyllfaoedd lle gallai fod yn briodol cyfarwyddo EGMA

Nid yw’r aelod o’r teulu neu ffrind yn barod i fod ar gael i ymgynghori â nhw ynghylch y penderfyniad er lles pennaf.

Mae’r aelod o’r teulu neu’r ffrind yn rhy sâl neu fregus.

Mae rhesymau sy’n ei gwneud yn anymarferol i ymgynghori gyda’r aelod o’r teulu neu ffrind, er enghraifft maent yn byw rhy bell i ffwrdd.

Gallai aelod o’r teulu neu ffrind wrthod bod ar gael i ymgynghori â nhw.

Mae cam-drin gan yr aelod o’r teulu neu’r ffrind.

1.19 Enghraifft

Roedd angen gwneud penderfyniad ynglŷn â threfniadau llety yn y dyfodol i ddyn â phroblemau iechyd meddwl a oedd wedi parhau fel claf gwirfoddol mewn ysbyty am nifer o flynyddoedd. Aseswyd nad oedd ganddo alluedd i wneud y penderfyniad penodol hwnnw ac roedd y rheolwr gofal yn ansicr ynghylch ei gymhwyster ar gyfer y gwasanaeth EGMA oherwydd bod ei fam wedi’i henwi fel ei berthynas agosaf.

Yn dilyn ymchwiliad pellach, canfu fod mam y dyn yn oedrannus, bod ganddi broblemau iechyd meddwl ei hun, ei bod yn sâl ar hyn o bryd, ac nad oedd wedi cael unrhyw gyswllt gyda’i mab ers dwy flynedd. O ganlyniad, penderfynodd nad oedd unrhyw un ar gael a allai gefnogi a chynrychioli’r dyn a gwnaeth atgyfeiriad i’r gwasanaeth EGMA.

Os oes gan berson heb alluedd eiriolwr eisoes, efallai y bydd ganddynt hawl i gael EGMA o hyd a byddai’r EGMA yn ymgynghori â’u heiriolwr.

1.20 Pryd mae’r gwasanaeth EGMA ar gael?

Mae’r gwasanaeth ar gael 52 wythnos y flwyddyn, yn ystod oriau swyddfa, ac eithrio gwyliau cyhoeddus a phenwythnosau.

1.21 Pwy sydd â dyletswydd i gyfarwyddo EGMA?

Mae gan staff yn y GIG neu Awdurdod Lleol, er enghraifft meddygon, rheolwyr gofal a gweithwyr cymdeithasol, ddyletswydd o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol i gyfarwyddo EGMA pan fydd y meini prawf cymhwyster wedi’u cyflawni.

1.22 Pwy yw’r ‘penderfynwr’?

Y penderfynwr yw’r person sy’n cynnig cymryd camau ynghylch gofal neu driniaeth oedolyn heb alluedd neu sy’n ystyried gwneud penderfyniad ar ran y person hwnnw. Bydd pwy yw’r penderfynwr yn dibynnu ar amgylchiadau’r person a’r math o benderfyniad. Er enghraifft, gall y penderfynwr fod yn rheolwr gofal neu’n feddyg ymgynghorol mewn ysbyty.

Dylai staff sy’n gweithio mewn sefydliadau statudol, yn yr Awdurdod Lleol neu’r GIG, sy’n ymwneud â gwneud penderfyniadau er lles pennaf wybod pryd y bydd gan berson hawl i EGMA a phryd y mae ganddyn nhw ddyletswydd i gyfarwyddo EGMA.

1.23 Sut mae’r gwasanaeth yn gweithio

1.24 Pwy ddylai gael ei atgyfeirio at y gwasanaeth EGMA?

Rhaid i unrhyw berson sy’n cyflawni’r meini prawf canlynol gael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth EGMA.

  • A yw penderfyniad yn cael ei wneud am driniaeth feddygol ddifrifol neu newid llety; neu adolygiad gofal neu weithdrefnau diogelu oedolion? (bydd gan yr Awdurdod Lleol bolisi ar adolygiadau gofal a diogelu oedolion)
  • A oes gan y person ddiffyg galluedd i wneud y penderfyniad penodol hwn?
  • A yw’r person dros 16 oed?
  • A oes unrhyw un (ar wahân i staff cyflogedig sy’n darparu gofal neu weithwyr proffesiynol) y mae’r penderfynwr yn ystyried eu bod yn barod ac ar gael i ymgynghori â nhw ynghylch y penderfyniad? (Nid yw hyn yn berthnasol i achosion diogelu oedolion.)

1.25 Beth yw triniaeth feddygol ddifrifol?

Rhaid i gyrff y GIG gyfarwyddo ac yna ystyried gwybodaeth gan EGMA pan gynigir penderfyniadau ynghylch ‘triniaeth feddygol ddifrifol’ pan na fydd gan y person alluedd i wneud y penderfyniad ac nad oes unrhyw aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n barod ac yn gallu cefnogi’r person.

Triniaeth feddygol ddifrifol yw triniaeth sy’n cynnwys:

  • rhoi triniaeth newydd
  • rhoi’r gorau i roi triniaeth sydd eisoes wedi dechrau neu
  • dal triniaeth y gellid ei chynnig yn ôl. A phan fydd naill ai:
  • ffin denau rhwng manteision a beichiau a risgiau triniaeth unigol
  • dewis o driniaethau tebyg neu
  • byddai’r hyn sy’n cael ei gynnig yn debygol o gynrychioli canlyniadau difrifol

Mae gan berson hawl i EGMA os bydd triniaeth o’r fath yn cael ei hystyried ar eu rhan ac aseswyd nad oes gan y person alluedd i wneud y penderfyniad drostynt eu hunain ar yr adeg honno.

Ni ellir cynnwys EGMA os yw’r driniaeth arfaethedig ar gyfer anhwylder meddyliol a bod y driniaeth honno wedi’i hawdurdodi o dan Ran IV Deddf Iechyd Meddwl 1983. Fodd bynnag, os bydd person yn derbyn triniaeth o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a bod y driniaeth arfaethedig ar gyfer salwch corfforol, er enghraifft, canser, gellir cynnwys EGMA.

1.26 Enghraifft

Aeth William, a gafodd ei gadw o dan Adran 3 o’r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn sâl yn gorfforol a datgelodd profion diagnostig fod ganddo ganser. Aseswyd nad oedd ganddo alluedd i wneud penderfyniad am yr amrywiol opsiynau ar gyfer triniaeth ac nid oedd ganddo unrhyw un y gellid ymgynghori â nhw ynghylch y penderfyniad. O ganlyniad, gwnaed atgyfeiriad at EGMA.

1.27 Beth yw ystyr canlyniadau difrifol?

Mae canlyniadau difrifol yn cyfeirio at y rhai y gallent gael effaith ddifrifol ar y person. Mae’n cynnwys triniaethau:

  • sy’n achosi poen, gofid neu sgil-effeithiau difrifol ac estynedig
  • a allai achosi canlyniadau mawr i’r claf (er enghraifft, llawdriniaeth fawr neu roi’r gorau i driniaeth sy’n cynnal bywyd)
  • sy’n cael effaith ddifrifol ar ddewisiadau bywyd y claf yn y dyfodol (er enghraifft ymyriadau ar gyfer canser yr oferïau)

1.28 Enghraifft

Aed â Peter i’r ysbyty ar ôl iddo ddisgyn yn y cartref nyrsio. Roedd yng nghamau hwyr dementia ac er ei fod yn amlwg mewn poen, ni allai ddweud wrth staff yr ysbyty ble roedd y boen. Dangosodd ymchwiliadau ei fod wedi torri ei glun ac roedd angen gwneud penderfyniad ynghylch ei driniaeth, fodd bynnag nid oedd ganddo’r galluedd i gydsynio neu wrthod triniaeth. Penodwyd EGMA.

Yr unig sefyllfa pan na fydd angen dilyn y ddyletswydd o dan y Ddeddf i gyfarwyddo EGMA yw pan fydd angen penderfyniad brys, er enghraifft i achub bywyd rhywun. Fodd bynnag, os bydd triniaeth ddifrifol yn dilyn sefyllfa frys, bydd angen cyfarwyddo EGMA.

Ni ellir cynnwys triniaethau sy’n cael eu rheoleiddio gan Ran 4 Deddf Iechyd Meddwl 1983 (i gleifion sydd wedi’u cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983) yn y diffiniad o ‘driniaeth feddygol ddifrifol’.

Sut mae EGMA yn gwneud penderfyniadau triniaeth feddygol ddifrifol? Mae’r EGMA yn:

  • gwirio a yw’r egwyddor er lles pennaf wedi’u dilyn
  • sicrhau bod dymuniadau a theimladau’r person wedi’u hystyried
  • ceisio ail farn feddygol os oes angen

1.29 EGMA a newidiadau i lety

Rhaid i’r awdurdod lleol neu’r GIG gyfarwyddo EGMA pan gynigir penderfyniadau ynghylch symud neu newid i lety pan na fydd gan y person alluedd i wneud y penderfyniad ac nid oes unrhyw aelodau o’r teulu neu ffrindiau sy’n barod ac yn gallu bod ar gael i gefnogi’r person.

Mae’r hawl i EGMA yn berthnasol i benderfyniadau ynghylch symud llety hirdymor i neu o ysbyty neu gartref gofal neu symud rhwng llety o’r fath os:

  • bydd yn cael ei ddarparu neu ei drefnu gan y GIG
  • bydd yn cael ei ddarparu o dan adran 21 neu 29 y Ddeddf Cymorth Gwladol neu
  • os bydd yn rhan o’r gwasanaethau ôl-ofal sy’n cael eu darparu o dan adran 117 Deddf Iechyd Meddwl 1983 – yn dilyn penderfyniad a wnaed o dan adran 47 Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990

1.30 Enghraifft

Mae Bert, dyn yn ei 80au, wedi cael strôc yn ei gartref. Arweiniodd hyn at arhosiad yn yr ysbyty am wythnosau lawer ac yna roedd yn barod i gael ei ryddhau. Roedd Bert wedi byw bywyd annibynnol hyd at ei salwch ond roedd ei salwch yn golygu bod gan ei weithiwr cymdeithasol bryderon difrifol ynghylch a fyddai dychwelyd i’w gartref blaenorol er ei les pennaf. Ar ôl asesiad o’i allu i wneud y penderfyniad ac ymholiadau am unrhyw deulu neu ffrindiau y gellir ymgynghori â nhw ynglŷn â’r penderfyniad, mae’r gweithiwr cymdeithasol yn gwneud atgyfeiriad at EGMA.

Beth yw symudiadau ‘llety hirdymor’?

Mae hyn yn berthnasol os bydd sefydliad y GIG neu Awdurdod Lleol yn penderfynu lleoli person heb alluedd:

  • mewn ysbyty (neu eu symud i ysbyty arall) ar gyfer arhosiad sy’n debygol o barhau mwy na 28 diwrnod neu
  • mewn llety preswyl ar gyfer arhosiad sy’n debygol o barhau mwy nac wyth wythnos

Mae’n berthnasol i arhosiad hirdymor mewn ysbyty neu ofal cartref, neu symud rhwng llety o’r fath. Gallai hyn fod yn llety mewn cartref gofal, cartref nyrsio, tai cyffredin a thai gwarchod, tai cymdeithas dai neu dai cymdeithasol cofrestredig arall, neu mewn tai y sector preifat wedi’u darparu gan Awdurdod Lleol neu mewn llety hostel.

Os yw’r lleoliad neu’r symudiad yn un brys, nid oes angen cyfarwyddo EGMA, ond rhaid i’r penderfynwr gynnwys EGMA cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud penderfyniad brys os yw’r person yn debygol o aros yn yr ysbyty am fwy na 28 diwrnod neu am fwy nag wyth wythnos mewn llety arall.

Nid oes dyletswydd i gynnwys EGMA os oes angen i’r person aros yn y llety o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

1.31 Cynnwys EGMA mewn achosion diogelu oedolion ac adolygiadau gofal

Pan fydd pobl yn cyflawni’r meini prawf EGMA, mae gan Awdurdodau Lleol a’r GIG ddyletswydd i gyfarwyddo EGMA ar gyfer penderfyniadau newidiadau i lety a thriniaeth feddygol ddifrifol. Ar gyfer adolygiadau gofal a gweithdrefnau diogelu oedolion, mae gan Awdurdodau Lleol a’r GIG bwerau i benodi EGMA pan fyddant yn ystyried y byddai’r penodiad o fudd penodol i’r person dan sylw.

Dylai fod gan Awdurdodau Lleol yn Lloegr bolisi ar sut y bydd EGMA yn cymryd rhan mewn adolygiadau gofal a gweithdrefnau diogelu oedolion.

Yn yr un modd, bydd yn ofynnol i gyrff y GIG ac Awdurdodau Lleol yng Nghymru gael polisi tebyg ar waith.

1.32 EGMA a gweithdrefnau diogelu oedolion

Mae gan Awdurdodau Lleol a’r GIG bwerau i gyfarwyddo EGMA i gefnogi a chynrychioli person heb alluedd pan:

  • honnir bod y person yn neu wedi’u cam-drin neu eu hesgeuluso gan berson arall neu
  • honnir bod y person yn cam-drin neu wedi cam-drin person arall

Bydd ond yn bosibl i Awdurdodau Lleol a’r GIG gyfarwyddo EGMA os ydynt yn cynnig cymryd mesurau ataliol, neu eu bod eisoes wedi’u cymryd. Gwneir hyn yn unol â’r gweithdrefnau diogelu oedolion a sefydlwyd o dan ganllawiau statudol (Canllaw cyhoeddedig: ar gyfer Lloegr - No secrets: Guidance on developing and implementing multi-agency policies and procedures to protect vulnerable adults from abuse www.dh.gov.uk ar gyfer Cymru – .

Mewn achosion diogelu oedolion, nid yw mynediad at EGMA wedi’i gyfyngu i bobl heb unrhyw un arall i’w cefnogi neu eu cynrychioli. Mae gan bobl heb alluedd sydd â theulu a ffrindiau hawl i gael EGMA i’w cefnogi mewn gweithdrefnau diogelu oedolion. Rhaid i’r penderfynwr fod yn fodlon y bydd y person yn elwa o gael cymorth EGMA.

1.33 Enghraifft

Roedd menyw ifanc ag anabledd dysgu yn byw gartref gyda’i theulu. Roedd gan ei rheolwr gofal dystiolaeth ac o ganlyniad i hyn, pryderon difrifol nad oedd ei hanghenion yn cael eu diwallu a’i bod mewn perygl difrifol o niwed ac esgeulustod. Gwnaed atgyfeiriad gan y rheolwr gofal at y gwasanaeth EGMA a chafodd EGMA ei gyfarwyddo i gefnogi a chynrychioli’r person ar hyd y broses gweithrediadau diogelu oedolion.

1.34 EGMA ac adolygiadau gofal

Gall corff cyfrifol gyfarwyddo EGMA i gefnogi a chynrychioli person heb alluedd pan:

  • byddant wedi trefnu llety ar gyfer y person hwnnw
  • byddant yn anelu at adolygu’r trefniadau (fel rhan o gynllun gofal neu fel arall) neu
  • nad oes unrhyw deulu neu ffrindiau y byddai’n briodol ymgynghori â nhw

Dylai adolygiadau fod yn gysylltiedig â phenderfyniadau ynghylch llety:

  • ar gyfer rhywun heb alluedd i wneud penderfyniad am lety
  • a fydd yn cael ei ddarparu am gyfnod parhaus o fwy na 12 wythnos ac sydd wedi’u trefnu gan Awdurdod Lleol/GIG
  • nad ydynt yn ganlyniad rhwymedigaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • nad ydynt yn gysylltiedig ag amgylchiadau lle byddai adrannau 37 i 39 y Ddeddf yn berthnasol

1.35 Enghraifft

Cafodd dyn yn ei 70au sydd â dementia ei symud i gartref gofal yn dilyn arhosiad hir yn yr ysbyty. Roedd ei reolwr gofal wedi gwneud penderfyniad er lles pennaf nad oedd ei deulu’n cytuno ag ef ac roeddynt wedi gofyn iddo gael gadael y cartref gofal, gan awgrymu y byddent o bosibl yn ei symud.

Oherwydd pryderon difrifol ynglŷn â diogelwch y dyn, cynhaliwyd cyfarfod strategaeth diogelu oedolyn a rhoddwyd cyfarwyddyd i EGMA. Cyn mynychu’r adolygiad gofal, cafodd yr EGMA gyfarfod gyda’r dyn a ddywedodd yn glir ei fod yn hapus ac nad oedd eisiau gadael y cartref gofal. Gallai’r EGMA gyfleu safbwyntiau a dymuniadau’r dyn yn y cyfarfod adolygu gofal.

Pan fydd person i’w gadw neu pan fo’n ofynnol iddynt fyw mewn llety o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ni fydd angen EGMA oherwydd bydd y mesurau diogelu sydd ar gael o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn berthnasol.

1.36 Y broses atgyfeirio

Rhaid i staff sy’n gweithio mewn Awdurdodau Lleol neu’r GIG allu nodi pan fydd gan berson hawl i EGMA a gwybod sut i gyfarwyddo EGMA.

Y cam cyntaf yw gwybod pa sefydliad a gomisiynwyd i ddarparu gwasanaeth EGMA yn yr ardal Awdurdod Lleol, neu Fwrdd Iechyd Lleol lle mae’r person ar hyn o bryd. Bydd y wybodaeth hon ar gael gan yr Awdurdod Lleol neu gan ganolfannau gwybodaeth a chyngor fel y Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) yn yr ardal neu gan Gynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru. Mae gan yr Adran Iechyd wefan EGMA hefyd sy’n cynnwys manylion yr holl ddarparwyr EGMA.

Bydd trefniadau lleol ar waith gyda phob darparwr gwasanaeth EGMA ynghylch y ffyrdd y gellir gwneud atgyfeiriadau. Gellir gwneud atgyfeiriadau cychwynnol dros y ffôn neu drwy e-bost.

Ar yr adeg y gwneir yr atgyfeiriad, rhaid ei bod yn amlwg:

  • nad oes gan berson y galluedd i wneud y penderfyniad penodol
  • bod y penderfyniad naill ai’n driniaeth feddygol frys, newid llety, adolygiad gofal neu’n achos diogelu oedolyn
  • nad oes unrhyw un a fydd yn gallu cefnogi a chynrychioli’r person yn briodol (nid yw hyn yn berthnasol i ddiogelu oedolion)

Bydd yr EGMA yn:

  • sefydlu dewis dull cyfathrebu’r person sydd wedi’i atgyfeirio
  • cwrdd â’r person sydd wedi’i atgyfeirio a defnyddio dulliau amrywiol, fel y bo’n briodol, i ganfod eu safbwyntiau
  • ymgynghori gyda staff, gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un arall sy’n adnabod y person yn dda sy’n gysylltiedig â darparu gofal, cymorth a thriniaeth
  • casglu unrhyw ddogfennau ysgrifenedig perthnasol a gwybodaeth arall
  • mynychu cyfarfodydd i gynrychioli’r person gan godi materion a chwestiynau, fel y bo’n briodol
  • cyflwyno gwybodaeth i benderfynwr ar lafar a thrwy adroddiad ysgrifenedig
  • parhau i gyfranogi nes y gwneir penderfyniad a bod yn ymwybodol bod y cam arfaethedig wedi’i wneud
  • archwilio’r broses penderfyniadau er lles pennaf
  • herio’r penderfyniad os bydd angen

1.37 Cyfyngiadau’r gwasanaeth

Ni all EGMA gymryd rhan os:

  • oes gan berson alluedd
  • yw’r driniaeth feddygol ddifrifol wedi’i hawdurdodi o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac felly ar gyfer anhwylder meddyliol yn hytrach na chyflwr corfforol
  • yw’r newid hirdymor arfaethedig mewn llety yn ofyniad o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
  • nad oes penderfyniad adnabyddadwy ynghylch newid hirdymor i lety neu driniaeth feddygol ddifrifol neu benderfyniadau sy’n ymwneud ag adolygiad gofal neu weithdrefnau diogelu oedolion
  • oes unrhyw berson arall (nid mewn capasiti cyflogedig) sy’n barod ac yn gallu cefnogi a chynrychioli’r person heb alluedd yn briodol neu
  • yw penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn cysylltiad â sefyllfa ariannol person, oni fydd gweithdrefnau diogelu oedolyn y mae EGMA yn gysylltiedig â nhw

Bydd yr EGMA yn rhoi’r gorau i fod yn rhan o achos unwaith y bydd y penderfyniad wedi’i gwblhau a’u bod yn ymwybodol bod y camau gweithredu arfaethedig wedi’u cymryd. Ni fyddant yn gallu darparu cefnogaeth eiriolaeth barhaus i’r person. Os teimlir bod angen cefnogaeth eiriolaeth ar berson ar ôl i’r EGMA dynnu’n ôl, efallai y bydd angen gwneud atgyfeiriad at sefydliad eiriolaeth lleol.

Beth os yw person sydd angen EGMA yn derbyn cyllid o’r tu allan i’r ardal maen nhw’n byw ynddi ar hyn o bryd?

Bydd pob gwasanaeth EGMA yn cwmpasu ardal Awdurdod Lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol a rhaid atgyfeirio unrhyw bobl gymwys yn yr ardal honno, naill ai ar sail barhaol neu dros dro, i’r gwasanaeth EGMA lleol. Er enghraifft, os yw person yn byw mewn cartref gofal yn Swydd Gaergrawnt ond Cyngor Sir Essex sy’n darparu’r cyllid ar gyfer y lleoliad hwnnw a bod angen atgyfeirio’r person at EGMA, gwasanaeth EGMA Swydd Gaergrawnt fydd yn darparu’r gwasanaeth.

1.38 Enghraifft

Mae dyn sydd ag anabledd dysgu ac awtistiaeth yn derbyn cyllid o’r sir lle bu’n byw’n wreiddiol fel plentyn i fyw mewn cartref gofal mewn ardal wahanol. Mae’r cartref gofal yn cau ac mae angen nodi llety gwahanol. Mae rheolwr gofal o’r awdurdod cyllido yn gysylltiedig â hyn ac mae’n gwybod mai’r gwasanaeth EGMA sy’n cael ei ddarparu yn yr ardal y mae’r dyn yn byw ynddi ar hyn o bryd yw’r gwasanaeth cywir.

1.39 Sut mae EGMA yn gweithio

1.40 Pwy all fod yn EGMA?

Rhaid i EGMA unigol:

  • bod wedi cael profiad penodol (sy’n gysylltiedig â gweithio gyda phobl sydd angen cymorth i wneud penderfyniadau, profiad o eiriolaeth a phrofiad o systemau iechyd a gofal cymdeithasol)
  • bod wedi cael hyfforddiant EGMA
  • meddu ar integredd a chymeriad da
  • gallu gweithredu’n annibynnol

Rhaid i bob EGMA gwblhau’r hyfforddiant EGMA er mwyn gweithio yn y swyddogaeth honno a chael gwiriadau manylach gyda’r Swyddfa Cofnodion Troseddol (CRB) sy’n dangos unrhyw feysydd sy’n peri pryder.

Rhaid i EGMA fod yn annibynnol ac ni allant weithredu fel EGMA os ydynt yn gysylltiedig â gofal neu driniaeth y person hwnnw neu os oes ganddynt gysylltiadau gyda’r corff cyfrifol sy’n eu cyfarwyddo neu i unrhyw un arall sy’n gysylltiedig â gofal neu driniaeth y person, ac eithrio fel eu heiriolwr.

1.41 Sut mae EGMA yn gweithio?

Rôl yr EGMA yw cefnogi a chynrychioli’r person heb alluedd ac i archwilio’r ffordd y mae’r penderfyniad yn cael ei wneud. Nid yw EGMA yn gwneud y penderfyniad ar ran y person maen nhw’n eu cynrychioli a gwneir y penderfyniad terfynol bob amser gan y penderfynwr.

Bydd yr EGMA yn:

  • annibynnol ar y person sy’n gwneud y penderfyniad
  • darparu cymorth i’r person heb alluedd
  • cynrychioli’r person heb alluedd mewn unrhyw drafodaethau ar y penderfyniad arfaethedig
  • darparu gwybodaeth i helpu i benderfynu beth sydd er lles pennaf y person
  • codi cwestiynau neu herio penderfyniadau y mae’n ymddangos nad ydynt er lles pennaf y person

Mae’r gwasanaeth EGMA yn adeiladu ar arfer da yn y sector eiriolaeth annibynnol, fodd bynnag mae gan EGMA rôl wahanol i lawer o eiriolwyr eraill. Yn wahanol i eiriolwyr eraill, mae ganddynt hawliau a dyletswyddau o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol i:

  • darparu eiriolaeth statudol
  • cefnogi a chynrychioli pobl heb alluedd i wneud penderfyniadau ar faterion penodol
  • cyfarfod yn breifat â’r person maen nhw’n eu cefnogi
  • cael mynediad at gofnodion iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol
  • darparu cymorth a chynrychiolaeth yn benodol wrth i’r penderfyniad gael ei wneud
  • gweithredu’n gyflym er mwyn i’w hadroddiad terfynol ffurfio rhan o’r broses o wneud penderfyniad

1.42 Prif elfennau gwaith EGMA

Mae pedair elfen i waith EGMA y gellir eu crynhoi’n gyffredinol fel a ganlyn.

  • Canfod barn, teimladau, dymuniadau, credoau a gwerthoedd y person, gan ddefnyddio pa bynnag ddull cyfathrebu sy’n well gan y cleient a sicrhau bod y safbwyntiau hynny’n cael eu cyfleu i’r penderfynwr, a’u hystyried ganddynt.
  • Eiriolaeth heb gyfarwyddyd. Holi cwestiynau ar ran y person a’u cynrychioli. Gwneud yn siŵr bod hawliau’r person yn cael eu cynnal a’u bod yn elfen ganolog o’r broses o wneud penderfyniadau.
  • Ymchwilio i’r amgylchiadau. Casglu a gwerthuso gwybodaeth gan weithwyr proffesiynol perthnasol a phobl sy’n adnabod y person yn dda. Cynnal unrhyw waith ymchwil angenrheidiol sy’n ymwneud â’r penderfyniad.
  • Archwilio’r broses o wneud penderfyniadau. Gwirio fod y penderfynwr yn gweithredu yn unol â’r Ddeddf a bod y penderfyniad er lles pennaf y person. Herio’r penderfyniad os bydd angen.

1.43 Darganfod dymuniadau, teimladau, gwerthoedd a chredoau’r person

Bydd EGMA yn ceisio darganfod beth yw dymuniadau, teimladau, gwerthoedd a chredoau’r person. Byddant yn darganfod pa ddull cyfathrebu y mae’r person yn ei ffafrio a bydd ganddynt brofiad o gyfathrebu â phobl sydd ag anawsterau cyfathrebu. Gall y person ddefnyddio iaith arwyddion, fel Makaton neu Iaith Arwyddion Prydain, neu efallai y bydd angen cyflwyno gwybodaeth gan ddefnyddio lluniau neu ffotograffau. Bydd EGMA hefyd yn siarad â staff neu unrhyw un sy’n adnabod y person yn dda a byddant yn archwilio copïau o gofnodion iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol neu ddatganiadau ysgrifenedig a wnaed gan y person pan oedd ganddynt alluedd ar y pryd i wneud hynny.

Lle bo’n bosibl, dylai’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau wneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddealltwriaeth lawn o ddymuniadau blaenorol a phresennol person. Dylai EGMA ddarparu cymaint o’r wybodaeth hon â phosibl i’r gwneuthurwr penderfyniadau - ac unrhyw beth arall y maent yn ei ystyried yn berthnasol.

1.44 Enghraifft

Roedd menyw ifanc sydd ag anawsterau dysgu yn byw mewn llety seibiant byr ar ôl gadael cartref y teulu ac mae angen dod o hyd i lety parhaol yn awr. Gallai gyfathrebu’n glir iawn i’r EGMA pa fath o lety y byddent yn ei ffafrio, gan fynegi amgylchedd tawel a gardd. Gallai’r EGMA gefnogi’r person i gyflwyno eu safbwyntiau i’r bobl a fyddai’n gwneud y penderfyniad.

1.45 Dod o hyd i wybodaeth a’i gwerthuso

Mae gan EGMA hawl i:

  • cyfarfod yn breifat â’r person heb alluedd
  • archwilio a chymryd copïau o unrhyw gofnodion y mae’r person sy’n cynnal y cofnod yn credu sy’n berthnasol er mwyn gwneud y penderfyniad er lles pennaf

Gall yr EGMA siarad hefyd gyda phobl eraill sy’n adnabod y person heb alluedd yn dda neu sy’n ymwneud â’u gofal neu driniaeth a allai fod â gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad. Wrth ymchwilio i amgylchiadau’r person, bydd yr EGMA yn gallu casglu gwybodaeth i’w rhoi i’r penderfynwr.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y penderfynwr yn gwneud penderfyniad er lles pennaf y person drwy drafodaeth a fydd yn cynnwys yr holl bobl berthnasol sy’n darparu gofal neu driniaeth, yn ogystal â chynnwys yr EGMA.

1.46 Ystyried camau gweithredu amgen

Mae angen i’r EGMA wirio a yw’r penderfynwr wedi ystyried yr holl opsiynau posibl a bod yr opsiwn arfaethedig, yn ôl y Ddeddf Galluedd Meddyliol, yr un lleiaf cyfyngol o ran dewisiadau’r person yn y dyfodol neu a fyddai’n caniatáu’r rhyddid mwyaf iddo ef neu hi. Gall yr EGMA awgrymu dewisiadau eraill lle mae tystiolaeth bod y rhain yn fwy cyson â dymuniadau a theimladau’r person.

1.47 Cynrychioli a chefnogi’r person heb alluedd

Dylai’r EGMA ganfod a yw’r person wedi derbyn y cymorth priodol i’w galluogi i gyfranogi cymaint â phosibl yn y broses o wneud penderfyniad.

Byddant yn mynychu cyfarfodydd i gynrychioli’r person ac yn defnyddio dulliau eirioli heb gyfarwyddyd i holi cwestiynau am y penderfyniad arfaethedig. Bydd yr EGMA yn gwneud yn siŵr y bydd safbwyntiau, teimladau, gwerthoedd a dymuniadau’r person ac unrhyw wybodaeth arall berthnasol fel ffactorau crefyddol a diwylliannol yn hysbys i’r penderfynwr.

1.48 Enghraifft

Penodwyd EGMA ar gyfer penderfyniad triniaeth feddygol ddifrifol. Wrth gynnal eu hymchwiliadau, mae’r EGMA yn darganfod bod y person yn Dyst Jehova ac mae’n sylweddoli bod hyn yn ffactor arwyddocaol y mae angen hysbysu’r person sy’n cynnig y driniaeth yn ei gylch.

Weithiau mae’n bosibl na fydd EGMA yn gallu cael darlun da o’r hyn y gallai’r person fod ei angen. Dylent barhau i geisio gwneud yn siŵr bod y penderfynwr yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol drwy:

  • codi materion a chwestiynau perthnasol
  • darparu gwybodaeth berthnasol, ychwanegol i hysbysu’r penderfyniad terfynol

1.49 Cael ail farn feddygol

Mae gan yr EGMA hawl i geisio ail farn feddygol ar ran person heb alluedd pan fydd penderfyniad yn cael ei wneud am driniaeth feddygol ddifrifol. Mae hyn yn rhoi’r person heb alluedd yn yr un sefyllfa â pherson â galluedd sydd â hawl i ofyn am ail farn feddygol.

1.50 Archwilio’r broses o wneud penderfyniad

Drwy’r broses o wneud penderfyniad, bydd yr EGMA yn sicrhau bod:

  • egwyddorion y Ddeddf yn cael eu dilyn
  • y person yn cael cefnogaeth i gyfranogi cymaint â phosibl yn y broses o wneud penderfyniad
  • y person yn ganolog yn y broses
  • y rhestr wirio lles pennaf, fel y’i nodir yn adran 4 y Ddeddf, yn cael ei dilyn
  • y penderfynwr yn rhoi rhesymau gwrthrychol a chlir dros wneud penderfyniad penodol ynglÅ·n â beth sydd er lles pennaf y person
  • nid yw unrhyw un sy’n gwneud penderfyniad er lles pennaf person heb alluedd yn gwneud y penderfyniad yn seiliedig ar ragdybiaethau na ellir eu cyfiawnhau

1.51 Cyfathrebu canfyddiadau’r EGMA

Rhan bwysig o rôl yr EGMA yw cyfathrebu eu canfyddiadau ac yn aml bydd angen dialog parhaus rhwng yr EGMA a’r penderfynwr.

Bydd yr EGMA yn cyflwyno adroddiad i’r penderfynwr sy’n rhoi manylion eu hymchwiliadau, gan ddarparu cymaint â phosibl o wybodaeth berthnasol. Gallai’r adroddiad gynnwys cwestiynau am y cam gweithredu arfaethedig neu gallai gynnwys dewisiadau amgen posibl os bydd tystiolaeth y gallai’r rhain weddu’n well i ddymuniadau a theimladau’r person.

Rhaid i’r penderfynwr ystyried y wybodaeth gan yr EGMA wrth geisio penderfynu beth yw’r penderfyniad gorau er lles pennaf y person heb alluedd.

Weithiau gall fod sefyllfaoedd lle mae EGMA yn credu nad yw’r penderfynwr wedi rhoi digon o sylw i’w hadroddiad ac i wybodaeth berthnasol ac mae ganddynt bryderon ynghylch y penderfyniad a wnaed. Yna efallai y bydd angen iddynt herio’r penderfyniad.

1.52 Sut mae EGMA yn herio penderfyniadau?

Gallai’r EGMA ddefnyddio dulliau anffurfiol i ddechrau a gofyn am gyfarfod gyda’r penderfynwr i esbonio unrhyw bryderon a gofyn am adolygiad o’r penderfyniad.

Pan fydd pryderon difrifol am y penderfyniad a wnaed, gallai EGMA benderfynu defnyddio dulliau ffurfiol i herio’r penderfyniad.

Enghreifftiau o ddulliau ffurfiol yw:

  • defnyddio’r weithdrefn gwyno berthnasol
  • atgyfeirio i’r Gwasanaeth Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer Cwynion (ICAS)
  • ymgynghori â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALS) yn Lloegr neu Gynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru
  • atgyfeirio’r achos at Y Llys Gwarchod
  • cysylltu â’r Cyfreithiwr Swyddogol

Mewn achosion difrifol neu frys arbennig, gall yr EGMA gysylltu â’r Cyfreithiwr Swyddogol neu ofyn am ganiatâd i gyfeirio achos i’r Llys Gwarchod am benderfyniad. Os yw EGMA am herio’r ffordd y gwnaed penderfyniad difrifol arbennig, gallant geisio cyngor cyfreithiol ac ystyried gwneud cais am adolygiad barnwrol.

1.53 Cwynion

1.54 Beth i’w wneud os nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth EGMA

Yn y lle cyntaf, dylai’r person sy’n anfodlon â’r gwasanaeth gysylltu â’r EGMA sy’n darparu’r gwasanaeth neu â’i reolwr. Os na chaiff materion eu datrys, dylid defnyddio polisi cwynion y darparwr EGMA. Os oes pryderon o hyd ar ôl hyn, efallai y bydd y person am gysylltu â’r Awdurdod Lleol (neu’r Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru) sy’n gyfrifol am gomisiynu’r gwasanaeth penodol.

1.55 Beth os wyf eisiau gwybod mwy?

Gallwch archebu copi o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol o Siop Y Llyfrfa (TSO) drwy ffonio 0333 202 5070 neu e-bostio customerservices@tso.co.uk

1.56 Y Cod Ymarfer ar gyfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol

Gallwch lawrlwytho hyn am ddim drwy fynd i:

www.gov.uk/government/publications/mental-capacity-act-code-of-practice

Gallwch archebu copi o’r Cod Ymarfer o Siop y Llyfrfa drwy ffonio 0333 202 5070 neu e-bostio customerservices@tso.co.uk

1.57 Rhai cysylltiadau defnyddiol

Mae adrannau canlynol y llywodraeth yn cydweithio i weithredu’r Ddeddf Galluedd Meddyliol

1.58 Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cefnogi a hyrwyddo’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer pobl heb alluedd neu a hoffai gynllunio ar gyfer eu dyfodol, o fewn fframwaith Deddf Galluedd Meddyliol 2005.

www.publicguardian.gov.uk

Ffôn 0300 456 0300

Ffonio o’r tu allan i’r DU: +44 (0)203 518 9639

Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 0300 123 1300

E-bost customerservices@publicguardian.gov.uk

Yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r adran yn gyfrifol am bolisi’r llywodraeth ar faterion iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr. Mae’r adran yn datblygu polisïau a chanllawiau i wella ansawdd gofal ac i fodloni disgwyliadau cleifion.

www.dh.gov.uk

1.59 Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae’n datblygu polisïau ac yn cymeradwyo deddfwriaeth sy’n adlewyrchu anghenion pobl Cymru

Mae’r sefydliadau canlynol yn darparu gwybodaeth am eiriolaeth a/neu’n darparu gwasanaethau eiriolaeth.

1.60 Action for Advocacy

Asiantaeth adnoddau a chymorth ar gyfer y sector eiriolaeth, gwybodaeth, hyfforddiant a chyngor.

1.61 BILD (British institute of Learning Difficulties)

Mae’n gweithio gyda’r llywodraeth a sefydliadau eraill i wella bywydau pobl yn y DU sydd ag anabledd dysgu. Maent yn hyfforddi staff, gofalwyr yn y teulu a phobl ag anabledd dysgu. Mae hefyd yn ariannu Speak Out, prosiect sy’n darparu eiriolaeth i oedolion ag anawsterau dysgu.

1.62 Speak Up

Mae’n darparu gwasanaethau eiriolaeth i bobl sy’n profi anawsterau dysgu, salwch meddwl ac anableddau eraill. Maent hefyd yn rhedeg cyrsiau hyfforddiant a digwyddiadau gyda sefydliadau eraill sydd eisiau deall, ymgynghori a chynnwys pobl anabl.