Sut i gwblhau’r ffurflen IHT100b
Diweddarwyd 11 Mehefin 2025
Pryd y dylech lenwi’r ffurflen honÂ
Dylech ddefnyddio’r ffurflen hon er mwyn rhoi gwybod i CThEF pan ddaw buddiant cymhwysol mewn meddiant sydd gan fuddiolwr mewn ymddiriedolaeth i ben yn ystod ei oes.Ìý
Peidiwch â defnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i ni os oedd diwedd y buddiant cymhwysol mewn meddiant o ganlyniad i farwolaeth y person. Mae angen adroddiad am y digwyddiadau hyn gan ymddiriedolwyr yr ymddiriedolaeth ar y ffurflen IHT418 (yn agor tudalen Saesneg) yn lle hynny.
Cyn i chi ddechrauÂ
Dylech gwblhau pob maes. Os oes gwybodaeth ar goll, efallai na fyddwn yn gallu delio â’ch ffurflen. 
Sicrhewch eich bod wedi darllen yr holl nodiadau perthnasol cyn i chi ddechrau i lenwi’r ffurflen.Ìý
Gellid cynnwys rhai mathau o asedion mewn mwy nag un adran o’r ffurflen, fel stociau a chyfranddaliadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn eu rhoi yn yr adran gywir Peidiwch â chynnwys yr un ased mewn mwy nag un adran. Â
Nid oes angen i chi anfon copïau o ddogfennau atom (er enghraifft, llythyr gan fanc sy’n dangos y balans mewn cyfrif, neu dystiolaeth o rwymedigaethau) oni bai ein bod yn gofyn yn benodol i chi wneud hynny.Ìý
Mae’n rhaid i chi gadw’r holl ddogfennau rydych chi wedi’u defnyddio i lenwi’r ffurflen – efallai y byddwn yn gofyn i chi am rai neu bob un ohonynt yn nes ymlaen.
Adran A: ynglÅ·n â’r person y mae ei fuddiant wedi dod i benÂ
Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion personol y person y mae ei fuddiant wedi dod i ben.Ìý
Oni bai bod y digwyddiad cyn 6 Ebrill 2025, a/neu bod setlwr yr ymddiriedolaeth wedi marw cyn 6 Ebrill 2025, cadarnhewch a oedd y person y mae ei fuddiant wedi dod i ben yn breswylydd tymor hir yn y DU.
Gwiriwch y rheolau i breswylydd tymor hir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd y trosglwyddwr yn breswylydd tymor hir yn y DU.
Adran B: manylion y person sy’n delio â’r digwyddiad hwnÂ
Dylech gynnwys enw a manylion personol y person sy’n delio â’r digwyddiad trethadwy.ÌýÂ
Os ydych chi’n llenwi’r ffurflen heb gymorth cyfreithiwr neu gyfrifydd ac am i CThEF ysgrifennu atoch chi, ond am i rywun arall ddelio â galwadau ffôn, dylech gynnwys awdurdod ysgrifenedig ar wahân pan fyddwch yn anfon y ffurflen atom.
Adran C: ynglÅ·n â’r ymddiriedolaeth a’r digwyddiadÂ
Mae’n rhaid i chi gynnwys yr enw ynghyd a manylion eraill ynglÅ·n â’r ymddiriedolaeth.Ìý
Y dyddiad y dechreuodd yr ymddiriedolaethÂ
Dyma’r dyddiad pan gafodd yr asedion eu rhoi yn yr ymddiriedolaeth am y tro cyntaf.
Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)Ìý
Rhif 10 digid yw hwn. Byddwch yn cael UTR pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer Treth Incwm neu’n sefydlu cwmni cyfyngedig.
Dysgwch sut i ddod o hyd i’ch rhif UTR.Ìý
Os nad oes gan yr ymddiriedolaeth Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), gadewch flwch C4 yn wag.
Ynglŷn â’r digwyddiad
Mae angen i chi roi gwybod i ni pryd y gwnaeth buddiant cymhwysol mewn meddiant y buddiolwr ddechrau, a phryd y daeth i ben.Ìý
Yn ogystal, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni sut y daeth i ben, ac i bwy y trosglwyddwyd yr asedion iddo. Nid oes Treth Etifeddiant yn ddyledus ar asedion sydd wedi’u trosglwyddo i’r canlynol:Â
-
buddiolwr absoliwt — golyga hyn bod y buddiolwr â pherchnogaeth gyfan gwbl o’i gyfran o asedion yr ymddiriedolaethÂ
-
ymddiriedolaeth person anablÂ
-
ymddiriedolaeth ar gyfer ‘plentyn dan oed sydd mewn profedigaeth’Â
Dylech ond cynnwys crynodeb o’r asedion a’u gwerth ym mlwch C8. Dylech gynnwys dadansoddiad manwl o’r asedion yn adran F, ac unrhyw dudalennau atodol sydd wedi’u rhestri yn adran E.
Os cafodd y buddiolwr unrhyw beth yn gyfnewid
Os cafodd y buddiolwr unrhyw beth yn gyfnewid am drosglwyddo’r asedion, bydd gwerth y trosglwyddiad yn cael ei leihau o werth unrhyw beth a gafodd yn gyfnewid.Ìý
Dylech roi gwybod i ni beth yw gwerth unrhyw beth a gafwyd yn gyfnewid ym mlwch C9, gan gario’r gwerth hwn ymlaen i flychau G3 a G4.
Adran D: ynglÅ·n â’r setlwrÂ
Mae’n rhaid i chi gynnwys enw a manylion personol y setlwr.Ìý
Os digwyddodd y trosglwyddiad cyn 6 Ebrill 2025, a/neu bod y setlwr wedi marw cyn 6 Ebrill 2025, gwiriwch y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd domisil y setlwr yn y DU, neu a oedd ei ddomisil yn cael ei drin fel petai yn y DU.Ìý
Ym mhob achos arall, gwiriwch y rheolau i breswylydd tymor hir yn y DU (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych yn siŵr a oedd y trosglwyddwr yn breswylydd tymor hir yn y DU.
Adran E: manylion tudalennau’r atodlenÂ
Mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi adrannau ychwanegol, a elwir yn ‘atodlenni’, os ydych yn rhoi gwybod i CThEF ynghylch y mathau canlynol o incwm.
Nid yw’r trosglwyddwr neu’r setlwr yn breswylydd tymor hir yn y DU, neu mae ei ddomisil y tu allan i’r DU
Os oedd y digwyddiad cyn 6 Ebrill 2025, a/neu bod y setlwr wedi marw cyn 6 Ebrill 2025, dylech lenwi atodlen D31 os ydych wedi rhoi gwybod bod un o’r canlynol yn berthnasol i’r trosglwyddwr neu’r setlwr:Â
-
mae ei ddomisil mewn gwlad dramorÂ
-
mae ei ddomisil yn cael ei drin fel petai yn y DU
Dysgwch ragor o wybodaeth am y rheolau domisil tybiedig ar gyfer Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg). 
Dylech lenwi atodlen D31a os nad oedd y trosglwyddwr neu’r setlwr yn breswylydd tymor hir yn y DU.
Dylech lenwiu atodlen D31b os mai ‘Iawn’ oedd eich ateb ar gyfer cwestiwn D8c.
Am ragor o wybodaeth ynghylch preswylio tymor hir yn y DU a’r darpariaethau trosiannol, darllenwch y Llawlyfr Treth Etifeddiant (yn agor tudalen Saesneg).
Os yw stociau a chyfranddaliadau wedi’u cynnwysÂ
Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw stociau a chyfranddaliadau.
Os oes unrhyw ddyledion yn ddyledus i’r ymddiriedolaethÂ
Dylech lenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg) os oedd unrhyw arian ar fenthyg gan yr ymddiriedolaeth. Er enghraifft, morgais neu fenthyciad personol nad yw wedi’i ad-dalu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy.
Os oedd unrhyw bolisïau yswiriant yn gysylltiedig Â
Dylech lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) os oes unrhyw bolisïau yswiriant wedi’u cynnwys yn y digwyddiad.Ìý
Os yw nwyddau i’r tÅ· a nwyddau personol wedi’u cynnwysÂ
Dylech lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys unrhyw nwyddau i’r tŷ a nwyddau personol.
Os yw tir ac adeiladau wedi’u cynnwys
Dylech lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) os yw’r asedion yn cynnwys tir, adeiladau, coed, neu dangoed yn y DU.
Os ydych yn hawlio Rhyddhad AmaethyddolÂ
Dylech lenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu Rhyddhad Amaethyddol.
Os ydych yn hawlio Rhyddhad BusnesÂ
Dylech lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn didynnu Rhyddhad Busnes.
Os yw asedion tramor wedi’u cynnwysÂ
Dylech lenwi atodlen D39 (yn agor tudalen Saesneg) os yw unrhyw un o’r asedion y tu allan i’r DU.
Adran F: asedion yn y DU sy’n agored i dreth fel rhan o’r trosglwyddiad hwnÂ
Mae’n rhaid i chi lenwi adran F gyda manylion yr holl asedion sy’n rhan o’r trosglwyddiad hwn.Ìý
Mae’n rhaid i chi brisio’r holl asedion fel pe bai pob eitem wedi’i gwerthu ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. Gelwir hyn y ’gwerth marchnad agored’.
Talgrynnwch werth yr asedion a’r rhwymedigaethau i lawr i’r £1 agosaf. Dylid dangos treth i’r geiniog agosaf. Â
Mae’n rhaid i bob blwch ddangos cyfanswm pob math o ased. Er enghraifft, dylai blwch F2 ddangos cyfanswm yr holl gyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu.
Asedion lle gellir talu treth mewn rhandaliadauÂ
Gellir talu asedion a gynhwysir yng ngholofn B mewn rhandaliadau blynyddol dros 10 mlynedd.Ìý
Dysgwch ragor am asedion y gellir eu talu mewn rhandaliadau.Ìý
Fel arfer mae’n rhaid i chi dalu llog ar randaliadau, ond mae rhai asedion sy’n gymwys i gael rhyddhad rhag llog (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r rhandaliadau hyn yn ddi-log dim ond os yw’r rhandaliad yn cael ei dalu ar neu cyn y dyddiad dyledus.
F1 Tai, adeiladau a thirÂ
Mae’n rhaid i chi gynnwys gwerth holl eiddo rhydd-ddaliol, prydlesol, etifeddol ac eiddo ansymudol arall yn y DU sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad hwn. Peidiwch â chynnwys ffermdai na thir fferm.
Os oes gennych brisiad proffesiynol, atodwch gopi gyda’r ffurflen hon.Ìý
Mae angen i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhoi manylion pob eitem o dir.
F2 Banc, cymdeithas adeiladu a chyfrifon ariannol eraill 
Mae’n rhaid i chi gynnwys pob cyfrif gyda’r canlynol: 
-
²ú²¹²Ô³¦â€¯
-
cymdeithas adeiladu 
-
cymdeithas gilyddol, cyfeillgar neu gydweithredol 
-
²¹°ù³¦³ó´Ú²¹°ù³¦³ó²Ô²¹»å 
-
cwmni yswiriant
Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân.
F3 Arian parodÂ
Mae hyn yn cynnwys unrhyw sieciau a wneir i’r trosglwyddai.
F4 Bondiau Premiwm a chynhyrchion Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) 
Rhestrwch bob cyfrif neu fuddsoddiad ar wahân yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’. Os oes gennych ffigurau ar wahân ar gyfer cyfalaf a llog, dangoswch y rhain ar wahân. 
os nad ydych yn gwybod y gwerth ar ddyddiad y trosglwyddiad.
F5 Nwyddau i’r tÅ· a nwyddau personolÂ
Dylech gynnwys yr holl nwyddau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad. Er enghraifft, tsieni, dillad, gemwaith a cheir.Ìý
Bydd angen i chi hefyd lenwi atodlen D35 (yn agor tudalen Saesneg).
F6 Polisïau aswiriant bywyd, pensiynau a diogelu morgeisiÂ
Rhowch wybod i ni am unrhyw bensiynau a pholisïau sydd wedi’u cynnwys yn y trosglwyddiad.Ìý
Os oedd y trafodyn yn cynnwys polisi aswiriant bywyd, ond nad oeddent mewn gwirionedd ymhlith yr asedion a gynhwysir yn y digwyddiad trethadwy rydych yn rhoi gwybod i ni amdano, mae angen i ni wybod am y trefniadau.
Mae’n rhaid i chi lenwi atodlen D34 (yn agor tudalen Saesneg) a chynnwys copi o bob polisi pan fyddwch yn anfon y ffurflen.
F7 Gwarantau Llywodraeth y DU a gwarantau bwrdeisiol 
Dylech gynnwys: 
-
Stoc y TrysorlysÂ
-
Stoc y SiecrÂ
-
Stoc DrosadwyÂ
-
stoc a benthyciadau cyfunolÂ
-
Stoc AriannuÂ
-
Bondiau CyniloÂ
-
Bondiau BuddugoliaethÂ
-
Benthyciadau RhyfelÂ
-
stoc y Llywodraeth a gedwir ar Gofrestr Banc LloegrÂ
-
bondiau a gyhoeddwyd gan endidau trefol (awdurdodau llywodraeth leol)
Dylech lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn roi gwybod i ni amdanynt. 
F8 Stociau, cyfranddaliadau a buddsoddiadau a restrwyd Â
 Dylech gynnwys:
-
pob stoc, cyfranddaliad, dyledeb a gwarantau a restrwyd ar Restr Ddyddiol Swyddogol y Gyfnewidfa Stoc Â
-
ymddiriedolaethau unedol 
-
ymddiriedolaethau buddsoddi 
-
cwmnïau buddsoddi pen agored 
-
cyfranddaliadau a restrwyd ar gyfnewidfa stoc gydnabyddedig sy’n rhan o Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) 
-
cyfranddaliadau tramor a restrir ar Gyfnewidfa Stoc Llundain.
Peidiwch â chynnwys cyfranddaliadau a restrwyd a oedd yn rhoi rheolaeth dros gwmni i’r ymadawedig. Dylech gynnwys y rhain ym mlwch F12. 
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).
F9 Difidendau neu log ar stociau, cyfranddaliadau a gwarantau 
Defnyddiwch atodlen D32 i lenwi’r blwch hwn. Dylech gynnwys cyfanswm gwerth y difidendau a’r llog ar asedion ym mlychau F7, F8, F10, F11 ac F12 sy’n ddyledus ar ddyddiad y trosglwyddiad ond nad oeddent wedi’u talu eto. 
F10 Cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd, a chyfranddaliadau anrhestredig, ac eithrio daliannau sy’n rhoi rheolaeth
Os nad yw cwmni wedi’i restru ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, unrhyw gyfnewidfa stoc a gydnabyddir tramor neu farchnad amgen, mae ei gyfranddaliadau a’i warantau yn cael eu dosbarthu fel heb eu rhestru.
Dylech nodi cyfanswm gwerth y stociau a’r cyfranddaliadau canlynol os nad oedd gan y setlwr reolaeth dros y cwmni. 
-
stociau a chyfranddaliadau anrhestredig mewn cwmnïau cyfyngedig preifat Â
-
cyfranddaliadau a fasnachwyd ar y Farchnad Fuddsoddi Amgen (AIM), gan gynnwys cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA
-
cyfranddaliadau a ddelir mewn Cynllun Buddsoddiad Menter (EIS) neu mewn Cynllun Dechrau Busnes (BSS) 
 Mae’n rhaid i chi hefyd gynnwys y rhain pan fyddwch yn llenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg).
F11 Rhandaliadau ar gyfranddaliadau 
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu treth mewn rhandaliadau ar gyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn gymwys i gael rhyddhad busnes, os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- gallwch ddangos y bydd talu mewn un swm yn achosi caledi ariannol 
- mae o leiaf 20% o’r dreth sy’n ddyledus ar asedion sy’n gymwys i gael eu talu mewn rhandaliadau 
- mae’r cyfranddaliadau’n werth mwy nag £20,000 ac yn ffurfio:
- o leiaf 10% o werth cyfanswm y cyfranddaliadau a gyhoeddwyd gan y cwmni
- o leiaf 10% o werth cyfranddaliadau cyffredin a ddelir yn y cwmni
Os oes gennych dreth i’w thalu ar ddaliannau cyfranddaliadau anrhestredig, nad ydynt yn rhoi rheolaeth, ac mae’r rhain yn gymwys i’w talu mewn rhandaliadau, nodwch werth y cyfranddaliadau ym mlwch E11. Gallwch ddod o hyd i’r gwerth hwn ym mlychau 3 a 4 yn atodlen D32.
F12 Daliannau sy’n rhoi rheolaeth ar gyfer cyfranddaliadau anrhestredig, cyfranddaliadau anrhestredig a fasnachwyd a chyfranddaliadau rhestredig 
Os oedd gan y person a wnaeth y trosglwyddiad reolaeth dros y cwmni, dylech gynnwys: 
-
cyfranddaliadau a fasnachwyd ar AIM, gan gynnwys cyfranddaliadau sy’n rhan o ISA 
-
cyfranddaliadau a fasnachwyd ar OFEX
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D32 (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys y stociau a’r cyfranddaliadau.
F13 Ffermydd, ffermdai a thir ffermio 
Dylech gynnwys cyfanswm gwerth yr asedion rydych yn didynnu rhyddhad amaethyddol arnynt. 
Bydd yn rhaid i chi hefyd wneud y canlynol:
-
llenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg), gan roi manylion llawn yr asedion rydych am hawlio rhyddhad ar eu cyfer
-
llenwi atodlen D37 (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn hawlio Rhyddhad Amaethyddol
F14 Busnesau gan gynnwys busnesau ffermio, asedion busnes a choed 
Dylech gynnwys gwerth net buddiant mewn busnes ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy. 
Os yw’r setlwr wedi cymryd rhan mewn mwy nag un busnes, mae’n bosibl y bydd angen i chi lenwi atodlen D38 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer pob busnes neu bartneriaeth. Nodwch gyfanswm gwerth yr holl fusnesau ym mlwch F14.
F15 Tir, adeiladau a hawliau eraill dros dir 
Dylech gynnwys gwerth unrhyw dir, adeiladau neu hawliau eraill dros dir nad ydynt wedi’u cynnwys mewn unrhyw flychau eraill ar y ffurflen hon.
Gallai hyn gynnwys: 
-
eiddo sydd wedi eu gosod 
-
garejys cloi 
-
tir segur 
-
eiddo diffaith 
-
³¦³ó·É²¹°ù±ð±ô¾±â€¯
-
meysydd awyr 
-
hawliau pysgota neu hawliau eraill sydd ynghlwm wrth dir
Mae’n rhaid i chi hefyd lenwi atodlen D36 (yn agor tudalen Saesneg) gyda manylion y tir neu’r eiddo.
F16 Dyledion sy’n ddyledus i’r Ymddiriedolaeth 
Dylech nodi’r ffigur o flwch 3 pan fyddwch yn llenwi atodlen D33 (yn agor tudalen Saesneg).
F17 Ad-daliad Treth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf Â
Dylech nodi cyfanswm unrhyw dreth a ad-dalwyd i’r ymddiriedolaeth. Os nad ydych yn gwybod yr union swm, dylech roi amcangyfrif rhesymol. 
F18 Asedion eraill 
Dylech nodi cyfanswm gwerth unrhyw asedion eraill nad ydynt eisoes wedi’u cynnwys. Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion yr asedion hyn yn yr adran ‘Gwybodaeth ychwanegol’.
Adran G: rhwymedigaethau, eithriadau a rhyddhadauÂ
Dylech gynnwys dyledion a oedd yn ddyledus gan yr ymddiriedolaeth ar ddyddiad y digwyddiad trethadwy yn unig. Â
Peidiwch â chynnwys y canlynol:
-
ffioedd am wasanaethau proffesiynol a gynhelir ar ôl dyddiad y digwyddiad Â
-
unrhyw ffioedd cyfreithiwr, ffioedd asiant eiddo neu ffioedd prisio a ysgwyddwyd wrth ddelio â’r digwyddiadÂ
Os gwnaeth y buddiolwr gael ystyriaeth ar gyfer y trosglwyddiad hwn, dylech ddosrannu’r swm a nodwyd yn C9, a’i nodi ym mlwch:
-
G1 gan ddilyn y fformiwla (F19 ÷ (F19 + F20) × C9)Ìý
-
G2 gan ddilyn y fformiwla (F20 ÷ (F19 + F20) × C9)
¸é³ó·É²â³¾±ð»å¾±²µ²¹±ð³Ù³ó²¹³Ü 
Ar gyfer blwch G1, dylech restru’r holl ddyledion sy’n ddyledus gan y trosglwyddwr y gellir eu didynnu o’r asedion a gynhwysir yn adran F, colofn A. 
Dylech lenwi enw’r person neu’r sefydliad y mae’r arian yn ddyledus iddo ac esbonio’n fras pam mae’r arian yn ddyledus. Os ydych yn cynnwys didyniad ar gyfer ffioedd cyfreithwyr neu gyfrifyddion, rhowch y dyddiadau ar gyfer y cyfnod pan gafodd y gwaith ei wneud. 
Ar gyfer blwch G2, dylech gynnwys rhyddhad ac eiddo sydd wedi’i eithrio yn erbyn asedion a restrir yn adran F, colofn B yn unig.
Esemptiadau a rhyddhadau 
Mae nifer o ryddhadau sy’n lleihau gwerth y trosglwyddiad y mae angen i chi dalu treth arno.
Dysgwch am y canlynol:
I ddidynnu rhyddhad yn erbyn yr asedion a restrir ym mlychau F1 i F18, dylech ysgrifennu teitl y rhyddhad a’r swm yr hoffech ei ddidynnu yn y lle a ddarperir. 
Ar gyfer blwch G3, dylech dim ond cynnwys rhyddhad yn erbyn asedion a restrir yn adran F, colofn A. Ychwanegwch y rhyddhadau at ei gilydd ac ysgrifennwch yn y blwch cyfanswm. 
Ar gyfer blwch G4, dylech dim ond cynnwys rhyddhad ac eiddo eithriedig yn erbyn asedion a restrir yn adran F, colofn B.
Adran H: cyfrifo’r drethÂ
Trosglwyddiadau cynharach a wnaed gan y trosglwyddwr
Mae angen i ni wybod am unrhyw roddion cynharach a wnaed gan y person y mae ei fuddiant yn dod i ben.
Dylech roi gwybod i ni am unrhyw rodd trethadwy nad oedd yn gymwys ar gyfer esemptiadau, a chafodd ei rhoi:
-
cyn 18 Mawrth 1986
-
ar neu ar ôl 18 Mawrth 1986, ac yn cael ei rhoi i gwmni neu ymddiriedolwr o ymddiriedolaeth amodolÂ
Peidiwch â chynnwys y rhoddion canlynol:Â
-
o un person i un arall Â
-
i ymddiriedolaeth cronni a chynhaliaeth Â
-
i ymddiriedolaeth sydd ar gyfer pobl anabl
Rhyddhad olyniaeth cyflymÂ
Bydd hyn yn berthnasol pan fydd 2 dâl Treth Etifeddiaeth ar wahân ar yr un asedion o fewn cyfnod o 5 mlynedd.ÌýÂ
Mae faint o ryddhad y gallwch ei hawlio yn dibynnu ar faint o amser sydd wedi mynd heibio ers y tâl diwethaf. Gellir ond ei ddefnyddio i leihau’r dreth i sero. Ni ellir ei ddefnyddio er mwyn hawlio ad-daliad.
Defnyddiwch y tabl isod i’ch helpu i gyfrifo faint o ryddhad y gallwch ei hawlio. Dylech nodi’r swm ym mlwch H10.
Faint o ryddhad y gallwch ei hawlioÂ
Cyfnod rhwng taliadau Treth Etifeddiant | Faint o ryddhad (%) | Faint o dreth sy’n daladwy (%) |
---|---|---|
O fewn 1 flwyddyn | 100 | 0 |
Rhwng 1 a 2 flynedd | 80 | 20 |
Rhwng 2 a 3 blynedd | 60 | 40 |
Rhwng 3 a 4 blynedd | 40 | 60 |
Rhwng 4 a 5 mlynedd | 20 | 80 |
5 neu fwy o flynyddoedd | 0 | 100 |
Enghraifft
Bu farw Adam ym mis Hydref 2015. Gwerth ei ystâd oedd £500,000, ac fe adawodd yr ystâd mewn ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant i’w fab Pedr. Talwyd swm o £70,000 o Dreth Etifeddiaeth ar ei farwolaeth.ÌýÂ
4 blynedd a hanner yn ddiweddarach, mae Pedr yn ildio’i fuddiant bywyd o blaid ei fab, sydd hefyd yn fuddiolwr yn yr ymddiriedolaeth.ÌýMae Treth Etifeddiant yn ddyledus ar y digwyddiad hwn, ac mae’n rhaid i’r ymddiriedolaeth dalu £35,000 i CThEF.
Gan fod hyn wedi digwydd o fewn 5 mlynedd i’r tâl diwethaf, mae Adam a Pedr yn gymwys i gael rhyddhad. Gall yr ymddiriedolaeth hawlio 20% o ryddhad, sy’n golygu bod y swm yn lleihau i £28,000.
Os oes angen i chi gyfrifo’r llog sy’n ddyledusÂ
Os gwnaethpwyd y trosglwyddiad yr adroddir amdano ar ôl 5 Ebrill a chyn 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn, mae’n rhaid i’r dreth gael ei thalu cyn pen 30 Ebrill y flwyddyn ganlynol. Os gwnaethpwyd y trosglwyddiad ar ôl 30 Medi a chyn 6 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, mae’n rhaid i’r dreth gael ei thalu cyn pen chwe mis wedi diwedd y mis ble gwnaethpwyd y trosglwyddiad.
Os ydych yn talu ar ôl y dyddiad dyledus, ychwanegir llog at unrhyw dreth heb ei thalu ac fe’i codir ar gyfradd ddyddiol.Ìý
i gyfrifo unrhyw log sy’n ddyledus, a nodwch y swm hwnnw yn y tabl cryno ym mlwch H15.
Adran I: awdurdod ar gyfer ad-dalu Treth EtifeddiantÂ
Os bydd angen i ni ad-dalu Treth Etifeddiant, byddwn yn ei had-dalu’n uniongyrchol drwy Daliadau Cyflymach i’r cyfrif banc yn enwau pawb a lofnododd y ffurflen.ÌýÂ
Os nad oes gennych gyfrif banc yn yr enwau hynny, gallai fod yn anodd i chi gael yr ad-daliad.ÌýÂ
Er mwyn osgoi unrhyw anawsterau, rhowch fanylion y cyfrif yr ydych eisiau i’r ad-daliad gael ei dalu iddo.
Adran J: datgelu cynlluniau arbed trethÂ
Dylech gynnwys y ddau beth canlynol: Â
-
cyfeirnod yr hyrwyddwr neu’r cynllun, os ydych wedi cael un
-
y flwyddyn dreth neu’r dyddiad pan ddisgwylir y fantais dreth Â
 Dysgwch am y rheolau ar gyfer datgelu cynlluniau arbed treth (yn agor tudalen Saesneg).
¶Ù²¹³Ù²µ²¹²Ô¾±²¹»å 
Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr holl ymddiriedolwyr wedi darllen y datganiad ac yn cytuno bod yr wybodaeth a roddir ar y ffurflen, unrhyw atodlenni a dogfennau ategol eraill yn gywir. Â
Bydd CThEF yn derbyn ffurflenni IHT100 heb lofnod gwlyb cyn belled â bod enwau a manylion personol yr ymddiriedolwyr yn cael eu dangos ar y dudalen datganiad.
Os ydych yn asiantÂ
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad hwn yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 12: 
‘Fel yr asiant sy’n gweithredu ar eu rhan, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100 hon, wedi gweld yr IHT100 ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100.’
Os ydych yn ymddiriedolwr
Mae’n rhaid i chi gynnwys y datganiad hwn yn yr wybodaeth ychwanegol ar dudalen 12: 
‘Fel yr ymddiriedolwr sy’n gweithredu yn y mater hwn, rwy’n cadarnhau bod yr holl bobl, y mae eu henwau’n ymddangos ar dudalen datganiad y ffurflen IHT100b hon, yn ymddiriedolwyr ac wedi gweld yr IHT100b ac wedi cytuno i gael eu rhwymo gan y datganiad ar dudalen 10 yr IHT100b.’
Anfon eich ffurflen wedi’i llenwi atom
Dylech anfon y ffurflen i’r cyfeiriad a ddangosir ar waelod y ffurflen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:
-
copïau o unrhyw ddogfen yr ydym wedi gofyn amdani
-
unrhyw atodlenni wedi’u llenwi (darllenwch adran E)
Help
Cysylltwch â’r llinell gymorth Treth Etifeddiant os oes angen help arnoch i lenwi’r ffurflen.