Cynlluniau Cofrestrfa Tir EF: terfynau (cyfarwyddyd ymarfer 40, atodiad 3)
Diweddarwyd 9 Mawrth 2020
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae pob un ohonom yn gyfarwydd 芒 therfynau gan ein bod yn eu gweld bob dydd. Bydd gan ein heiddo ein hunain ryw fath o strwythur terfyn fwy na thebyg sy鈥檔 ei wahanu oddi wrth eiddo cyfagos. Mae rhai yn ymddangos yn naturiol, er enghraifft pethau byw fel perthi a llinellau coed. Mae rhai yn amlwg wedi eu creu gan ddynion, megis muriau, ffensys pren a ffosydd.
2. Diffiniad terfyn
Nid oes gan y gair 鈥榯erfyn鈥 ystyr arbennig yn y gyfraith. Mae鈥檔 cael ei ystyried mewn 2 ffordd.
2.1 Y terfyn cyfreithiol
Llinell ddychmygol neu anweledig sy鈥檔 rhannu eiddo rhywun oddi wrth eiddo rhywun arall. Mae鈥檔 llinell union heb unrhyw drwch neu led ac anaml y bydd wedi ei ddynodi gydag unrhyw fanylder naill ai ar y ddaear neu mewn trawsgludiadau neu drosglwyddiadau ac nid yw i鈥檞 weld ar fapiau鈥檙 Arolwg Ordnans. Yn y pendraw, dim ond y llys neu is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf all benderfynu ar union leoliad terfyn os ceir anghydfod.
2.2 Y terfyn diriaethol
Gall y terfyn cyfreithiol redeg o fewn y terfyn diriaethol ond gall hefyd, yn ddigon rhwydd, redeg ar hyd un ochr arbennig, neu gynnwys pob rhan, neu unrhyw ran o heol neu nant gyffiniol. Mae terfynau byw, fel perthi, yn dueddol o symud: er enghraifft, os yw perth yn cael ei gadael heb ei thrin, gall y gwreiddiau fynd yn llydan iawn wrth gyffwrdd 芒鈥檙 ddaear, gan wneud y llinell wreiddiol yn anodd i鈥檞 chanfod. Felly, hyd yn oed os yw鈥檔 glir i鈥檙 terfyn cyfreithiol redeg ar hyd y berth, gall adnabod y terfyn ar y ddaear fod yn anodd iawn.
3. Anawsterau wrth ddangos union leoliad terfynau diriaethol ar gynlluniau
Mae鈥檙 Arolwg Ordnans yn trosi鈥檙 tirweddau i鈥檙 mapiadau a ddefnyddiwn heddiw ac a ddefnyddiwyd gennym am nifer o ddegawdau. Mae llinell a welir ar fap yr Arolwg Ordnans yn nodi bod nodwedd wedi bodoli yn y safle hwnnw, yn amodol ar gyfyngiadau arbennig (gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: atodiad 1 鈥 sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF ar adeg yr arolwg, dim mwy na hynny.
Tra gall union leoliad y nodweddion diriaethol, a all roi syniad o hyd a lled y tir a feddir neu safle cyffredinol y terfyn cyfreithiol, gael ei bennu trwy archwiliad ar y ddaear, bydd y graddau y caiff eu hunion safle eu cofnodi ar gynllun yn dibynnu i raddau helaeth ar gywirdeb yr arolwg y seilir cynllun o鈥檙 fath arno. Mae hyd yn oed yr arolygon mwyaf manwl, sy鈥檔 defnyddio鈥檙 offerynnau arolwg mwyaf modern a chywir yn digwydd o fewn goddefiannau wedi eu diffinio neilltuol ac nid yw mapiadau鈥檙 Arolwg Ordnans yn eithriad.
4. Dynodi lleoliad y terfyn cyfreithiol
Mae cyfraith achos yn cadarnhau y bydd lleoliad terfyn cyfreithiol yn dibynnu ar delerau鈥檙 trawsgludiad neu drosglwyddiad cyn-gofrestru cyfan, gan gynnwys, wrth gwrs, y cynllun. Os nad yw鈥檙 cynllun yn ddigon eglur i berson lleyg rhesymol bennu lleoliad y terfyn, gall y llys gyfeirio at dystiolaeth nad yw鈥檔 gynhenid ac yn enwedig at y nodweddion diriaethol ar y ddaear ar y pryd.
Mae hyn yn wir os yw鈥檙 cynllun 鈥榓t ddiben adnabod yn unig鈥 neu beidio. Y cwestiwn i鈥檙 llys yw: Beth fyddai鈥檙 person lleyg rhesymol yn credu ei fod yn prynu? Mae tystiolaeth o fwriadau goddrychol y part茂on, eu credoau a鈥檜 tybiadau yn amherthnasol. Gweler, er enghraifft, Cameron v Boggiano [2012] EWCA Civ 157.
5. Terfynau cyffredinol
O ystyried yr anawsterau y cyfeirir atynt uchod o ran sefydlu lleoliad y terfyn cyfreithiol, mae鈥檙 rhan helaeth o deitlau cofrestredig yn dangos y 鈥榯erfynau cyffredinol鈥 yn unig o dan reol 601(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
Felly, byddwn yn cwblhau cofrestriad cyntaf heb wneud ymholiadau manwl o ran union leoliad y terfynau cyfreithiol. Bydd cynlluniau teitl (gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: atodiad 5 鈥 cynlluniau teitl am ddiffiniad) yn adlewyrchu鈥檙 hyn a gasglwn i fod yn ddehongliad rhesymol o鈥檙 tir yn y gweithredoedd cyn-gofrestru mewn perthynas 芒鈥檙 manylion ar fapiadau鈥檙 Arolwg Ordnans, gan ystyried unrhyw ardaloedd o dir a ddangosir yn y gweithredoedd cyn-gofrestru eu bod wedi eu gwerthu ac unrhyw gofrestriadau cyffiniol sy鈥檔 bodoli.
Yn wahanol i oddefiadau mapio鈥檙 Arolwg Ordnans (gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: atodiad 1 鈥 sail cynlluniau Cofrestrfa Tir EF nid oes goddefiad, mesuriad neu gymhareb safonol y gellir ei briodoli i鈥檙 berthynas rhwng lleoliad y terfyn cyffredinol a fapiwyd ar gynllun teitl Cofrestrfa Tir EF a lleoliad y terfyn cyfreithiol.
Mae cyfraith achos yn nodi鈥檔 eglur nad oes terfyn i faint y tir a all syrthio o fewn cwmpas rheol y terfynau cyffredinol: gweler, er enghraifft, Drake v Fripp [2011] EWCA Civ 1279.
6. Terfynau sefydlog
Disodlwyd y drefn hon gan y darpariaethau terfynau pendant y cyfeirir atynt yng nghyfarwyddyd ymarfer 40: atodiad 4 鈥 cytundebau terfynau a therfynau pendant. Roedd y drefn yn galluogi adnabyddiaeth fanwl a chofrestriad lleoliad rhan neu鈥檙 cyfan o鈥檙 terfynau teitl. Roedd hon yn broses ddrud iawn a dim ond llond dwrn o deitlau terfyn sefydlog a gofrestrwyd yn llwyddiannus.
7. Cytundebau terfyn a therfynau wedi eu pennu
Waeth pa mor effeithiol y mae cofrestru gyda therfynau cyffredinol ar gyfer y rhan fwyaf o deitlau, ceir achosion lle y bydd angen rhywbeth mwy manwl ar berchennog. Gellir gwneud hyn mewn 2 ffordd:
- defnyddio cytundeb terfyn
- cyflwyno cais terfyn wedi ei bennu
Mae鈥檙 dewis cyntaf bob amser yn gofyn am gytundeb perchnogion cyffiniol a鈥檙 ail bron yn ddieithriad hefyd yn gofyn am hyn. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 40: atodiad 4 鈥 cytundebau terfyn a therfynau wedi eu pennu am wybodaeth bellach.
8. Perchnogaeth a/neu gynnal a chadw terfynau
Ceir sawl syniad bod y ffordd yr adeiladwyd mur neu ffens yn dynodi perchnogaeth, er enghraifft, os yw鈥檙 pyst a rheiliau rhimyn ffens ar ochr y perchennog. Nid oes, serch hynny, unrhyw sail gyfreithiol i鈥檙 fath gredoau. Gall gweithredoedd gynnwys cyfamodau i gynnal a chadw mur neu ffens ond, ar eu pen eu hunain, nid yw鈥檙 cyfamodau hyn yn rhoi perchnogaeth. Lle na ellir pennu perchnogaeth neu gyfrifoldeb ar gyfer cynnal a chadw terfyn, fel rheol mae鈥檔 well ystyried y nodwedd terfyn fel terfyn ar y cyd. Dim ond gyda chytundeb y perchnogion cyffiniol y dylid cywiro neu newid y terfyn.
Bydd y gofrestr yn dangos gwybodaeth yn ymwneud 芒 pherchnogaeth a/neu gynnal a chadw nodweddion terfyn dim ond pan gyfeirir yn benodol at y wybodaeth yn y gweithredoedd a gyflwynwyd ar gyfer cofrestriad. Y nod mwyaf cyffredin ar gynlluniau gweithredoedd sy鈥檔 dangos perchnogaeth terfyn yw nod 鈥楾鈥. Fel arfer, datganiad ynghylch perchnogaeth adeiledd terfyn neu鈥檙 ymrwymiad i鈥檞 gynnal a鈥檌 atgyweirio yw cofnod sy鈥檔 cyfeirio at nod 鈥楾鈥.
Os cyfeirir yn benodol at y nodau 鈥楾鈥 yn y weithred a gyflwynwyd ar gyfer cofrestriad a bod testun y ddarpariaeth(darpariaethau) wedi ei nodi air am air yn y gofrestr, byddwn yn:
- eu hatgynhyrchu ar y cynllun teitl ac yn cyfeirio atynt yn y gofrestr, neu
- disgrifio鈥檙 terfynau yr effeithir arnynt gan y nodau 鈥楾鈥 mewn geiriau yn y gofrestr, er enghraifft 鈥淢ae鈥檙 nod 鈥楾鈥 y cyfeirir ato yn [paragraff/cymal鈥 yn effeithio ar derfyn [gogledd orllewin] y tir yn y teitl hwn鈥, neu
- gwneud nodyn i鈥檙 cofnod dywededig ar y gofrestr bod copi o鈥檙 cynllun i鈥檙 weithred wedi ei ffeilio.
Nid oes grym neu ystyr arbennig yn y gyfraith i nodau 鈥楾鈥 ar gynllun gweithredoedd nad oes cyfeiriad atynt yn y weithred ac, oni bai bod ceisydd yn gofyn yn benodol bod nodau 鈥楾鈥 o鈥檙 fath yn cael eu dangos ar y cynllun teitl, byddwn fel arfer yn eu hanwybyddu.
9. Deddf Muriau Cyd ayb 1996
Diben y Ddeddf hon yw rheoli sut mae gwaith ar furiau cyd a gwaith arall gerllaw terfynau yn cael ei wneud. Yn fras nid yw鈥檙 Ddeddf yn effeithio ar berchnogaeth tir er ei bod yn darparu bod y perchennog sydd wedi gwneud y gwaith yn parhau鈥檔 berchennog y gwaith hwnnw nes bydd y cymydog yn talu cyfran o鈥檙 costau. Ni allwn gynnig cyngor ar y Ddeddf; dylid ceisio hyn oddi wrth gynghorwr proffesiynol priodol er enghraifft cyfreithiwr, trawsgludwr trwyddedig neu arolygwyr tir.
10. Ychwanegiadau a cholledion trwy dd诺r: afonydd a nentydd uwchlaw鈥檙 llanw
Mae athrawiaeth ychwanegiadau a cholledion trwy dd诺r yn cydnabod y ffaith pan fo tir o fewn terfynau d诺r, mae grymoedd natur yn debygol o beri newidiadau yn y terfynau rhwng y tir a鈥檙 d诺r. Byddem yn disgwyl y newidiadau hyn i fod yn raddol ac yn ddiarwybod. Wrth i lwybr y d诺r newid yn naturiol ac yn gynyddol gydag amser, felly y mae terfyn y tir yn ei ddilyn. Efallai y bydd enillion neu golledion. Mae鈥檙 gyfraith yn derbyn hyn ac yn ystyried ei fod yn deg.
Os yw llif ffyrnig yn troi llwybr y d诺r yn sydyn ond yn barhaol i gyfeiriad gwahanol fel bod newid sylweddol a gweladwy yn y terfyn wedi digwydd, nid yw athrawiaeth ychwanegiadau鈥檔 gymwys. Nid yw鈥檔 gymwys chwaith os yw鈥檙 newidiadau wedi eu creu gan ddyn. Caiff tir ei drawsgludo鈥檔 ddarostyngedig i, a chyda budd unrhyw ychwanegiadau neu dyniadau (o fewn cyfyngiadau鈥檙 athrawiaeth) a allai fod wedi digwydd dros y blynyddoedd.
Bydd y terfyn rhwng teitlau cofrestredig sy鈥檔 ffinio ag afon neu nant naturiol uwchlaw鈥檙 llanw yn newid os bydd llwybr y nant yn newid yn naturiol dros gyfnod. Nid yw鈥檙 ffaith bod cynllun teitl yn dangos y terfyn mewn sefyllfa arbennig yn effeithio ar golli ac ennill tir yn deillio o ychwanegiadau a cholledion trwy dd诺r (adran 61(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
Rhaid cofrestru cytundeb rhwng perchnogion cyffiniol ynghylch ychwanegiadau a cholledion trwy dd诺r i gael unrhyw effaith (adran 61(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Rhaid cynnwys cydsyniad perchnogion y 2 deitl ac unrhyw arwystlon cofrestredig gyda鈥檙 cais (oni bai eu bod yn rhan o鈥檙 cytundeb) (rheol 123 o Reolau Cofrestru Tir 2003).
11. Rhagdybiaethau cyfreithiol
Anaml y bydd dogfennau teitl yn cynnwys disgrifiadau digonol i alluogi rhywun i sefydlu union leoliad terfyn. Mewn achosion o鈥檙 fath, gall rhagdybiaethau cyfreithiol yn ymwneud 芒 mathau arbennig o nodweddion terfyn fod o gymorth.
Gan fod cofrestru gyda therfynau cyffredinol yn gadael union linell y terfyn heb ei phennu, gellir cario effaith rhagdybiaeth gyfreithiol ymlaen i deitl cofrestredig. Mae鈥檔 bosibl y gall tystiolaeth arall sydd ar gael, megis datganiad o ran lleoliad neu berchnogaeth terfyn, wrthbrofi rhagdybiaeth o鈥檙 fath.
Lle y mae鈥檙 terfyn yn derfyn cyffredinol, rydym yn ceisio dangos y tir a鈥檌 derfynau mor gywir 芒 phosib o hyd. Felly, os oes gan rywun reswm dros gredu bod rhagdybiaeth gyfreithiol mewn grym ac y dylai鈥檙 amlinelliad coch ar gynllun teitl gynnwys tir ychwanegol o ganlyniad, gall wneud cais i鈥檙 gofrestr gael ei newid i ddangos yr amlinelliad coch ar y cynllun mewn safle mwy cywir. Bydd y terfyn yn parhau i fod yn derfyn cyffredinol fodd bynnag. Dylid gwneud y cais ar ffurflen AP1. Os yw鈥檙 tir sydd i鈥檞 gynnwys o fewn amlinelliad coch y cynllun teitl eisoes yn dod o fewn amlinelliad coch y cynllun teitl i deitl cofrestredig arall, gweler adran 3 o gyfarwyddyd ymarfer 77: newid y gofrestr trwy dynnu tir o gynllun teitl, ar gyfer sut i wneud cais am newidiad. Sylwer bod yn rhaid i鈥檙 dystiolaeth y mae angen ei hanfon gyda鈥檙 cais:
- nodi鈥檙 rhagdybiaeth gyfreithiol y dibynnir arni
- cynnwys cynllun sy鈥檔 dangos maint y tir sy鈥檔 destun y cais
- cynnwys unrhyw weithredoedd neu ddogfennau cyn-gofrestru a allai fod yn berthnasol
Dylid datgelu unrhyw anghydfod. Dylid defnyddio ffurflen AP1 hefyd os nad yw鈥檙 tir yn dod o fewn amlinelliad coch y cynllun teitl i deitl cofrestredig arall, ac felly鈥檔 ymddangos yn ddigofrestredig; bydd angen darparu鈥檙 un dystiolaeth a gwybodaeth.
Ni all rhagdybiaethau cyfreithiol fod yn gymwys pan fo鈥檙 terfyn wedi ei bennu o dan adran 60 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Gan fod hyn yn sefydlu union linell y terfyn cyfreithiol, nid oes lle i ddadlau bod y terfyn mewn unrhyw leoliad arall neu fod y teitl yn cynnwys unrhyw dir arall.
11.1 Ffyrdd
Ceir 2 ragdybiaeth ynghylch perchnogaeth pridd heol (lle y mae ffordd neu lwybr yn cael eu cynnal gan awdurdod priffordd ar gost y cyhoedd, mae鈥檙 wyneb yn breinio yn yr awdurdod priffordd: rheol 263 o Ddeddf Priffyrdd 1980).
Y gyntaf yw bod perchennog tir sy鈥檔 ffinio 芒 ffordd hefyd yn berchen ar adran gyffiniol y ffordd hyd at y llinell ganol (ad medium filum).
Yr ail yw lle bo trawsgludiad neu drosglwyddiad tir sy鈥檔 ffinio 芒 ffordd wedi ei wneud gan rywun yn berchen ar dir ar un ochr yn unig ohoni, yna os gellir profi neu os rhagdybir ei fod yn berchen hefyd ar y ffordd hyd at y llinell ganol, caiff yr hanner hwn o鈥檙 ffordd ei gynnwys yn y trawsgludiad neu drosglwyddiad.
Gellir gwrthbrofi鈥檙 2 ragdybiaeth hon yn hawdd.
11.2 Perth a ffos
Lle bo perth neu glawdd a ffos ffug yn gwahanu 2 eiddo, rhagdybir bod y terfyn yn rhedeg ar hyd ymyl y ffos gyferbyn 芒鈥檙 berth neu glawdd. Caiff hyn ei seilio ar yr egwyddor bod perchennog, yn sefyll ar ei derfyn yn edrych at i mewn, wedi cloddio ei ffos ddraenio o fewn ei derfyn, wedi taflu鈥檙 pridd ar ei ochr fewnol ac yna wedi plannu perth ar y twmpath. Mae鈥檙 rhagdybiaeth hon yn gymwys i ffosydd gwneud yn unig ac nid yw鈥檔 gymwys os oes modd dangos bod y ffos yn naturiol neu os gellir dangos y gwnaed y nodwedd terfyn tra鈥檙 oedd y tiroedd ar y 2 ochr mewn perchnogaeth gyffredin.
11.3 Afonydd a nentydd uwchlaw鈥檙 llanw
Lle y mae eiddo鈥檔 cael eu gwahanu gan afon neu nant uwchlaw鈥檙 llanw naturiol, rhagdybir bod y terfyn yn dilyn llinell ganol y d诺r (ad medium filum aquae) fel bod gan bob perchennog hanner y gwely d诺r.
Os yw llwybr y nant yn newid yn raddol dros gyfnod o amser, bydd lleoliad y terfyn yn newid felly (gweler Ychwanegiadau a cholledion trwy dd诺r: afonydd a nentydd uwchlaw鈥檙 llanw). Nid yw newidiadau o ganlyniad i weithrediadau dyn, fodd bynnag, yn arwain at newid lleoliad y terfyn. Lle ceir newid sydyn ond parhaol i lwybr y nant, boed o ganlyniad i achosion naturiol ai peidio, bydd y terfyn yn parhau ar hyd llinell ganol y gwely blaenorol.
11.4 Llynnoedd
Mae gwely llyn yn perthyn i berchennog y tir oddi amgylch os yw鈥檙 llyn yn gyfan gwbl o fewn terfynau perchnogaeth unigol. Fel arall ymddengys nad oes unrhyw ragdybiaeth.
11.5 Blaenau traethau ac afonydd llanw
Yn absenoldeb tystiolaeth i鈥檙 gwrthwyneb, mae terfyn tir sy鈥檔 cyffinio 芒鈥檙 m么r yn gorwedd ar ben uchaf y blaen traeth (y tir sy鈥檔 gorwedd rhwng dyfrnodau uchel ac isel llanw cyfartaledd cymedrig rhwng llanwau mawr ac isel.
Yn absenoldeb tystiolaeth i鈥檙 gwrthwyneb, y Goron sy鈥檔 berchen ar y blaen traeth. Mae鈥檙 rhagdybiaeth hon hefyd yn gymwys i dir sy鈥檔 ffinio ag afonydd llanw a chilfachau. Gall y terfyn symud yn raddol, wrth i linell dyfrnodau uchel symud yn naturiol dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, yn achos ychwanegiad o dir sylweddol sydyn neu i鈥檙 gwrthwyneb, llechfeddiant gan y m么r, ni fydd perchnogaeth yr ardal o dir dan sylw yn newid.
Fel yn achos afonydd a nentydd uwchlaw鈥檙 llanw (gweler Ychwanegiadau a cholledion trwy dd诺r: afonydd a nentydd uwchlaw鈥檙 llanw), ni fydd newid o ganlyniad i weithrediadau dyn yn newid lleoliad y terfyn.
11.6 Ymestyniadau (bondo, sylfeini ayb)
Fel rheol, mae cynlluniau sydd ynghlwm wrth weithredoedd cyn-gofrestru鈥檔 dangos terfynau eiddo ar y llawr gwaelod yn unig ond gall y sylfeini a鈥檙 bondo ymestyn y tu hwnt i鈥檙 llinell terfyn a ddiffiniwyd. Mewn achos o鈥檙 fath, mae鈥檙 eiddo鈥檔 cynnwys yr ymestyniadau hyn (ond nid yr awyrle rhyngddynt) oni bai y ceir tystiolaeth i鈥檙 gwrthwyneb.
11.7 Awyrle ac isbridd
Os nad yw telerau鈥檙 gweithredoedd cyn-gofrestru鈥檔 gwneud hynny, yn absenoldeb cytundeb, dim ond llys all bennu鈥檙 union derfyn llorweddol rhwng fflat neu fflat deulawr ar un lefel a鈥檙 fflat neu fflat deulawr uwchben neu o dan. Ceir rhagdybiaethau y bydd y llys, o bosibl, yn ystyried ac yn edrych ar y darpariaethau yn y weithred berthnasol, megis atgyweirio cyfamodau mewn prydles.
Lle y mae鈥檙 rhaniad yn fertigol, ceir rhagdybiaeth bod y tir yn cynnwys yr awyrle uwchben (at uchder sy鈥檔 angenrheidiol ar gyfer defnydd a mwynhad arferol o鈥檙 tir) a phopeth o dan y pridd, yn ddarostyngedig i waharddiadau megis glo.
12. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.