Canllawiau

Cosbau ffeilio hwyr

Diweddarwyd 24 Hydref 2024

1. Esboniad o gosbau ffeilio hwyr

Cafodd cosbau ffeilio hwyr eu cyflwyno ym 1992 i annog cyfarwyddwyr cwmn茂au i ffeilio鈥檜 cyfrifon a鈥檜 hadroddiadau鈥檔 brydlon, a hynny am fod angen yr wybodaeth ar gyfer y cofnod cyhoeddus. Rhaid i bob cwmni - preifat neu gyhoeddus, mawr neu f芒n, yn masnachu neu beidio - anfon ei gyfrifon a鈥檌 adroddiadau i D欧鈥檙 Cwmn茂au bob blwyddyn. Os byddwch yn cyflwyno cyfrifon ac adroddiadau cwmni鈥檔 hwyr, mae鈥檙 gyfraith yn gosod cosb awtomatig.

Mae鈥檙 cyfnod sy鈥檔 cael ei ganiat谩u ar gyfer ffeilio cyfrifon eich cwmni yn dibynnu ar hyn: ai鈥檙 cyfrifon cyntaf ers corffori鈥檙 cwmni sy鈥檔 cael eu cyflwyno, ynteu cyfrifon dilynol:

2. 聽Eich cyfrifon cyntaf

Os yw cyfrifon cyntaf eich cwmni鈥檔 cyfeirio at gyfnod o fwy na 12 mis, rhaid ichi eu cyflwyno i D欧鈥檙 Cwmn茂au o fewn 21 mis ar 么l y dyddiad corffori yn achos cwmn茂au preifat ac o fewn 18 mis yn achos cwmn茂au cyhoeddus, neu 3 mis ar 么l y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, p鈥檜n bynnag yw鈥檙 hiraf.

Trowch at ein harweiniad ar gyfrifon i gael mwy o wybodaeth.

3. 聽Cyfrifon dilynol

Yn y blynyddoedd dilynol, mae gan gwmni preifat 9 mis i gyflwyno鈥檌 gyfrifon ar 么l diwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg. Mae gan gwmni cyhoeddus 6 mis. Er hynny, os newidiwch chi鈥檙 cyfnod cyfeirnod cyfrifeg fe allai鈥檙 amser ffeilio gael ei leihau.

Mae rhagor o wybodaeth am ddyddiadau cyfeirnod cyfrifeg a鈥檙 amserau terfyn ar gyfer ffeilio ar gael yn ein arweiniad ar gyfrifon.

Os ydych yn gyfarwyddwr y cwmni, rydych yn gyfrifol yn bersonol am sicrhau eich bod yn cyflwyno鈥檆h cyfrifon cyn i鈥檙 amser ddod i ben. Ystyr cyflwyno yw dod i law yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au yn y fformat cywir. Os yw鈥檙 cyfrifon yn hwyr caiff cosb ei gosod yn awtomatig.

4. 贵蹿茂辞别诲诲 cosbau ffeilio hwyr

Dim ond i gyfrifon cwmni y mae鈥檙 gosb yn gymwys. Mae lefel y gosb yn dibynnu pa mor hwyr y bydd y cyfrifon yn cyrraedd T欧鈥檙 Cwmn茂au ac mae鈥檔 cael ei dangos yn y tabl canlynol.

Hyd y cyfnod (wedi鈥檌 fesur o鈥檙 dyddiad y mae鈥檔 rhaid cyflwyno鈥檙 cyfrifon) Cosb cwmni preifat Cosb cwmni cyhoeddus
Heb fod yn fwy nag 1 mis 拢150 拢750
Mwy nag 1 mis ond heb fod yn fwy na 3 mis 拢375 拢1,500
Mwy na 3 mis ond heb fod yn fwy na 6 mis 拢750 拢3,000
Mwy na 6 mis 拢1,500 拢7,500

5. Canlyniadau peidio 芒 ffeilio

Mae peidio 芒 ffeilio eich cyfrifon neu ddatganiadau cadarnhau yn drosedd. Gallai cyfarwyddwyr neu aelodau dynodedig PAC gael dirwy bersonol am hyn yn y llysoedd troseddol.

Gall methu 芒 thalu eich cosb ffeilio hwyr arwain at achos gorfodi. Mae unrhyw achos troseddol am beidio 芒 ffeilio datganiadau cadarnhau neu gyfrifon ar wah芒n i (ac yn ychwanegol at) unrhyw gosbau ffeilio hwyr a gyhoeddwyd gan D欧鈥檙 Cwmn茂au yn erbyn y cwmni.

Gallech gael cosb ariannol os na fyddwch yn cyflwyno鈥檆h datganiad cadarnhau ar amser. Gallai鈥檙 cofrestrydd hefyd gymryd camau i ddileu eich cwmni oddi ar y gofrestr.

6. Osgoi cosb

Caniatewch ddigon o amser i sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd T欧鈥檙 Cwmn茂au o fewn y cyfnod a ganiateir. Os yw鈥檙 terfyn amser ar gyfer ffeilio鈥檔 dod i ben ar ddydd Sul neu ar 糯yl Banc, mae鈥檙 gyfraith yn dal yn ei gwneud yn ofynnol i鈥檙 cyfrifon gael ei ffeilio erbyn y terfyn amser.

Dydy鈥檙 post dosbarth cyntaf dim yn gwarantu cyrraedd drannoeth, felly ystyriwch ddefnyddio dulliau dosbarthu gwarantedig er mwyn sicrhau bod eich cyfrifon yn cyrraedd mewn pryd, yn enwedig os yw鈥檙 terfyn amser ar gyfer eu ffeilio yn nes谩u.

I鈥檆h helpu i ffeilio鈥檔 brydlon:

  • marciwch eich dyddiadur neu鈥檆h calendr i鈥檆h atgoffa mewn da bryd am y terfyn(au) amser ar gyfer ffeilio
  • darllenwch y llythyrau atgoffa a anfonwn i鈥檆h swyddfa gofrestredig
  • os yw鈥檔 briodol, cyfarwyddwch eich cyfrifwyr mewn da bryd a鈥檜 hatgoffa bod angen paratoi a chyflwyno鈥檆h cyfrifon yn brydlon

Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynghylch y terfyn amser, gallwch wirio pa bryd y mae鈥檔 rhaid cyflwyno鈥檆h cyfrifon drwy ddefnyddio鈥檔 gwasanaeth Saesneg .

7. 聽Cyflwyno cyfrifon i D欧鈥檙 Cwmn茂au

Gallwch anfon eich cyfrifon gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein diogel (Saesneg yn unig).

8. 聽Estyn yr amser i gyflwyno鈥檙 cyfrifon

Dylech gymryd mesurau priodol i sicrhau bod eich cyfrifon yn cael eu ffeilio鈥檔 brydlon. Ond os bydd rheswm arbennig, cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio, pam y gallai鈥檙 cyfrifon gael eu ffeilio鈥檔 hwyr, megis digwyddiad annisgwyl, cewch wneud cais i D欧鈥檙 Cwmn茂au am estyn y cyfnod a ganiateir ar gyfer ffeilio. Sylwch, dim ond os yw鈥檙 rhesymau鈥檔 eithriadol y caiff estyniad ei ganiat谩u. Cewch fwy o wybodaeth am hyn yn ein harweiniad ar gyfrifon.

9. 聽Pan fo cyfrifon yn anghywir

Allwn ni ddim derbyn cyfrifon nes eu bod yn bodloni gofynion y Ddeddf Cwmn茂au. Er enghraifft, os na fydd y fantolen wedi鈥檌 llofnodi, byddwn yn eu dychwelyd i gael eu diwygio. Os byddwch yn cyflwyno鈥檙 cyfrifon diwygiedig yn hwyr, caiff y cwmni gosb ffeilio hwyr. I osgoi hwn, rydyn ni鈥檔 argymell y dylech gyflwyno cyfrifon cyn gynted ag y byddant wedi鈥檜 cwblhau ac mor hir 芒 phosibl cyn y dyddiad olaf a ganiateir ar gyfer cyflwyno.

10. 聽Gwybod pryd mae cosb wedi cael ei gosod

Os cyflwynwch chi鈥檆h cyfrifon yn hwyr, byddwn yn awtomatig yn anfon hysbysiad cosb i gyfeiriad y swyddfa gofrestredig.

Mae鈥檙 hysbysiad cosb yn rhoi manylion y gosb neu鈥檙 cosbau a osodir yn erbyn y cwmni. Mae鈥檔 dangos y dyddiad olaf ar gyfer ffeilio, y dyddiad y cafodd y cyfrifon eu ffeilio a lefel y gosb sydd wedi鈥檌 gosod.

11. 聽Talu鈥檙 cosb

Mae gwybodaeth am sut i dalu鈥檙 gosb yn cael ei hamg谩u gyda鈥檙 hysbysiad cosb.

Os na thalwch chi鈥檙 gosb, byddwn yn gofyn i鈥檔 casglwyr dyledion gymryd camau. Yn y pen draw, caiff y mater ei benderfynu yn y Llys Sirol neu鈥檙 Llys Siryf lle cewch gyfle i gynnig amddiffyniad. Mae鈥檔 bosibl yr hoffech ofyn am gyngor proffesiynol oherwydd fe allwn geisio adennill ein costau cyfreithiol os bydd y llys yn dyfarnu o blaid y cofrestrydd.

11.1 聽Gofyn am gael talu mewn rhandaliadau

Os cewch chi anhawster i dalu鈥檙 gosb yn llwyr yna byddwn fel rheol yn derbyn taliad dros gyfnod byr gan fesul rhandaliadau misol. Rhaid ichi gysylltu 芒 ni i ofyn am gael talu mewn rhandaliadau, gan esbonio pam na allwch dalu鈥檙 gosb ar unwaith.

Yn y rhan fwyaf o achosion, dylech gyflwyno鈥檆h ap锚l neu鈥檆h cais i dalu mewn rhandaliadau yn ysgrifenedig. Y ffordd gyflymaf a mwyaf diogel i ap锚l neu gais i dalu mewn rhandaliadau gael ei ystyried yw trwy ei anfon trwy e-bost at enquiries@companieshouse.gov.uk.

Os na allwch anfon ap锚l neu gais i dalu mewn rhandaliadau yn ysgrifenedig, cysylltwch 芒鈥檔 hadran ymholiadau ar 0303 1234 500.

12. Adfer cwmni i鈥檙 gofrestr

Os byddwch yn adfer cwmni i鈥檙 gofrestr ar 么l iddo gael ei ddileu a鈥檌 ddiddymu, fydd dim gofyn i鈥檙 cwmni dalu cosbau a ddaeth yn ddyledus yn ystod y cyfnod yr oedd wedi鈥檌 ddiddymu.

Fe fydd angen i鈥檙 cwmni dalu:

  • cosbau sydd heb eu talu o鈥檙 blaen mewn cysylltiad 芒 chyfrifon a gyflwynwyd yn hwyr cyn i鈥檙 cwmni gael ei ddiddymu
  • cosbau sy鈥檔 ddyledus mewn cysylltiad 芒 chyfrifon a gyflwynwyd adeg adfer y cwmni, os oedd y cyfrifon eisoes yn hwyr ar ddyddiad diddymu鈥檙 cwmni

13. Apelio cosb

Gallwch apelio yn erbyn cosb, ond dim ond os gallwch ddangos bod yr amgylchiadau yn eithriadol y bydd yn llwyddiannus.

Mae gan y cofrestrydd ddisgresiwn cyfyngedig iawn i beidio 芒 chasglu cosb. Gellir ei gymhwyso pan fydd digwyddiad annisgwyl yn digwydd ar adeg dyngedfennol - er enghraifft, t芒n sy鈥檔 dinistrio cofnodion ychydig ddyddiau cyn y dyddiad cau ar gyfer ffeilio.

Mae鈥檔 annhebygol y bydd eich ap锚l yn llwyddiannus os yw wedi鈥檌 seilio鈥檔 llwyr ar yr enghreifftiau isod:

  • mae eich cwmni yn segur
  • ni allwch fforddio talu
  • roedd eich cyfrifydd yn s芒l
  • roeddech chi鈥檔 dibynnu ar eich cyfrifydd
  • dyma鈥檆h cyfrifon cyntaf
  • nid ydych yn gyfarwydd 芒鈥檙 gofynion ffeilio
  • mae gan eich cwmni neu ei gyfarwyddwyr anawsterau ariannol (gan gynnwys methdaliad)
  • gohiriwyd neu collwyd eich cyfrifon yn y post
  • mae鈥檙 cyfarwyddwyr neu aelodau PAC yn byw (neu鈥檔 teithio) dramor
  • mae cyfarwyddwr arall neu aelod PAC yn gyfrifol am baratoi鈥檙 cyfrifon

Os oes angen cymorth hygyrchedd arnoch ac na allwch apelio ar-lein nac yn ysgrifenedig, cysylltwch 芒 ni ar 0303 1234 500.

14. 聽Apeliadau a wrthodwyd

Os caiff eich ap锚l ei gwrthod, gallwch cysylltu 芒鈥檙 Uwch Uned Gwaith Achos yn yr Adran Cosbau Ffeilio Hwyr yn y swyddfa briodol yng Nghaerdydd, Caeredin neu Belfast.

Os bydd yr uwch uned gwaith achos yn cadarnhau鈥檙 gosb, cewch ofyn i鈥檙 Dyfarnwr Annibynnol adolygu鈥檆h achos. Peidiwch 芒 chysylltu鈥檙 dyfarnwr nes eich bod wedi clywed gan yr uwch uned gwaith achos. Mae rhagor o wybodaeth am y dyfarnwyr ar gael ar ein gwefan.

Mae鈥檙 Senedd wedi penderfynu mai鈥檙 cofrestrydd yn unig sydd 芒 disgresiwn yn hyn o beth. Cyfyngedig yw disgresiwn y cofrestrydd ac all y dyfarnwyr mo鈥檌 orfodi i wrth-droi ei phenderfyniad i gasglu cosb.

15. 聽Dogfennau a anfonir i D欧鈥檙 Cwmn茂au

Byddwn yn sganio鈥檙 dogfennau a鈥檙 ffurflenni y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig. Byddwn yn storio鈥檙 dogfennau papur gwreiddiol, ac yn defnyddio鈥檙 ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. Pan fo cwsmer yn archwilio cofnod y cwmni, bydd yn gweld y ddelwedd electronig wedi鈥檌 hatgynhyrchu ar-lein. Mae hi鈥檔 bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a bod modd cynhyrchu copi clir ohoni. Pan fyddwch yn ffeilio dogfen yn electronig, byddwn yn creu鈥檙 ddelwedd electronig o鈥檙 data a ddarperir yn awtomatig. Mae鈥檙 bennod hon yn cynnig canllawiau i chi eu dilyn wrth baratoi dogfennau i鈥檞 ffeilio yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au.

Rhaid i ddogfennau sy鈥檔 cael eu ffeilio鈥檔 electronig gydymffurfio 芒鈥檙 manylebau a bennir gan y cofrestrydd yn ei reolau ar gyfer ffeilio electronig. Ceir y fformatau ar gyfer ffeilio trwy feddalwedd yn y rheolau sydd wedi鈥檜 cyhoeddi ar y wefan.

Ar y cyfan, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i D欧鈥檙 Cwmn茂au ddatgan mewn lle amlwg enw a rhif cofrestredig y cwmni. Ceir rhai eithriadau i鈥檙 rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd sydd i鈥檞 gweld ar ein gwefan.

Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen maint A4 芒 gorffeniad mat. Dylai鈥檙 testun fod yn ddu, yn glir, yn ddarllenadwy ac 芒鈥檙 un dwyster drwyddi draw. Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn glir ac yn ddarllenadwy fel y gallwn greu copi derbyniol o鈥檙 ddogfen.

Wrth lenwi ffurflen:

  • ddefnyddio inc du neu deip du
  • defnyddiwch lythrennau bras (mae rhai ffurfdeipiau ac ysgrifbinnau cain a thenau yn creu cop茂au o safon wael)
  • peidiwch ag anfon copi carbon
  • gall llungop茂au fod 芒 lliw llwyd na fydd yn sganio鈥檔 dda

Wrth gwblhau dogfennau eraill, cofiwch:

  • y pwyntiau a godwyd eisoes sy鈥檔 ymwneud 芒 llenwi ffurflenni
  • defnyddio papur maint A4 ag ymyl da
  • cyflwynwch hwy mewn fformat portread
  • cynnwys rhif ac enw鈥檙 cwmni

16. 聽Cyflwyno gwybodaeth i D欧鈥檙 Cwmn茂au

Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol yw trwy ddefnyddio ein .

Os ydych chi鈥檔 cyflwyno dogfennau trwy鈥檙 post, trwy law cwmni cludo, Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu鈥檙 Post Cyfreithiol (yn yr Alban) a鈥檆h bod am gael derbynneb, bydd T欧鈥檙 Cwmn茂au yn darparu nodyn cydnabod os byddwch chi鈥檔 amg谩u copi o鈥檆h llythyr esboniadol gydag amlen bwrpasol ag arni鈥檆h cyfeiriad 芒 th芒l i鈥檞 dychwelyd. Byddwn ni鈥檔 rhoi cod bar a鈥檙 dyddiad derbyn ar eich copi o鈥檙 llythyr ac yn ei ddychwelyd i chi yn yr amlen bwrpasol. Nid yw cydnabyddiaeth bod dogfen wedi dod i law yn golygu bod y ddogfen wedi cael ei derbyn i鈥檞 chofrestru yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au. Ni fydd T欧鈥檙 Cwmn茂au yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol a anfonir drwy ffacs, PDF (ac eithrio cop茂au ardystiedig o offerynnau arwystl sy鈥檔 cael eu ffeilio鈥檔 electronig) neu e-bost.

17. 聽贵蹿茂辞别诲诲

Nid oes angen talu ffi ar gyfer llawer o鈥檙 dogfennau y mae angen eu hanfon i D欧鈥檙 Cwmn茂au, ond mae angen ffi ar gyfer ambell un, ac ni fyddwn yn eu derbyn i鈥檞 cofrestru heb y ffi.

18. 聽Ffeilio cyfrifon mewn ieithoedd eraill

Mae鈥檙 gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio cyfrifon a anfonir i D欧鈥檙 Cwmn茂au yn Saesneg. Rhaid bod cyfieithiad Saesneg ardystiedig gyda chyfrifon a gyflwynir mewn ieithoedd eraill. Gallwch lunio a chyflwyno dogfennau yn Gymraeg os ydych yn gwmni y mae ei swyddfa gofrestredig yng Nghymru.