Gwiriad treth ar gyfer cais am drwydded: adnoddau cyfathrebu
Taflenni gwybodaeth, delweddau ac adnoddau eraill i helpu rhanddeiliaid i roi gwybod i鈥檞 trwyddedigion am y gwiriad treth.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEM yn cyflwyno gwiriad treth syml a fydd yn digwydd pan fydd pobl yn adnewyddu eu trwyddedau i yrru tacsis, gyrru a gweithredu cerbydau hurio preifat, neu ddelio mewn metel sgrap.
Ychwanegiad bach yw hwn at y gofynion y mae awdurdodau trwyddedu eisoes wedi鈥檜 rhoi ar waith. Dylai鈥檙 gwiriad ar-lein syml dim ond cymryd ychydig o funudau, fel arfer unwaith bob 3 blynedd.
Pwrpas y gwiriad treth yw cadarnhau bod yr ymgeisydd wedi鈥檌 gofrestru鈥檔 briodol ar gyfer treth.
Bydd y gwiriad treth yn cael ei gyflwyno ar gyfer trwyddedigion yng Nghymru a Lloegr o fis Ebrill 2022 ymlaen.
Rydym am wneud yn siwr bod trwyddedigion:
- yn deall beth yw鈥檙 cod gwirio treth
- yn barod ar gyfer mis Ebrill 2022 ac wedi cofrestru ar gyfer treth lle bo angen
Sut gallwch helpu
Rydym wedi darparu鈥檙 adnoddau cyfathrebu hyn i randdeiliaid a phartneriaid eu defnyddio ar draws eich sianeli eich hunain i helpu i rannu gwybodaeth bwysig a negeseuon defnyddiol gyda thrwyddedigion. Maent yn cynnwys:
- erthygl enghreifftiol/blogiau
- taflen ffeithiau gwirio treth
- enghreifftiau o negeseuon cyfryngau cymdeithasol a delweddau
Rhannwch y deunyddiau hyn gyda thrwyddedigion, gan gynnwys trwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Gellir teilwra鈥檙 negeseuon yn 么l yr angen a dylid eu defnyddio ar y cyd ag arweiniad pwrpasol ar y gwiriad treth.
Rhowch wybod i ni beth yw eich barn
Hoffem ddarganfod pa mor ddefnyddiol yw鈥檙 deunyddiau cyfathrebu a ddarperir ar y dudalen hon. [Rydym wedi creu arolwg byr i gasglu鈥檆h adborth]https://forms.office.com/r/TgkTzqh3fk). Byddem yn ddiolchgar pe gallech ei gwblhau - dylai gymryd tua 10 munud.