Cynllun busnes Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus: 2020 i 2021 (fersiwn y we)
Diweddarwyd 27 Ebrill 2021
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Ein gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw bod Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn cryfhau鈥檙 broses o helpu pobl i wneud penderfyniadau.
Byddwn yn annog rhoi鈥檙 rhyddid i wneud penderfyniadau i bawb sy鈥檔 gallu gwneud penderfyniadau, yn helpu pawb a allai wneud penderfyniadau, ac yn amddiffyn unrhyw bobl sy鈥檔 methu gwneud penderfyniadau.
Ein nod
Cynnal egwyddorion y Ddeddf Galluedd Meddyliol yng Nghymru a Lloegr.
Ein pwrpas
Credwn fod gan bawb yr hawl i ddewis.
Lle nad oes gan bobl alluedd meddyliol, rydym yn cefnogi penderfyniadau sydd er eu budd pennaf.
Rydym yn darparu gwasanaethau rhagorol sy鈥檔 bodloni ac yn adlewyrchu anghenion ein cwsmeriaid.
Pump egwyddor Deddf Galluedd Meddyliol 2005
-
Mae gan bawb yr hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain ac mae ganddynt alluedd meddyliol oni phrofir fel arall.
-
Rhaid rhoi pob cymorth ymarferol cyn bod rhywun yn cael ei drin fel rhywun nad yw鈥檔 gallu gwneud ei benderfyniadau ei hun.
-
Mae gan bobl hawl i wneud penderfyniadau y gallai eraill eu hystyried yn ecsentrig neu annoeth. Nid yw hyn yn rheswm dros ddiffyg gallu.
-
Rhaid i unrhyw beth a wneir ar ran rhywun sydd heb alluedd meddyliol gael ei wneud er ei les gorau.
-
Ni ddylai penderfyniadau gyfyngu ar ryddid rhywun sydd 芒 diffyg galluedd meddyliol yn fwy nag sy鈥檔 angenrheidiol.
Ein gwerthoedd
Mae gennym 4 gwerth sy鈥檔 ein huno ac yn ein harwain. Mae gennym bwrpas i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol. Rydym yn trin eraill 芒 dyngarwch fel yr hoffem gael ein trin ein hunain. Drwy fod yn agored rydym yn arloesi, yn rhannu ac yn dysgu, a gyda鈥檔 gilydd rydym yn gwrando, yn cydweithio ac yn cyfrannu. Mae ein gwerthoedd wrth wraidd popeth a wnawn.
Pwrpas
Mae cyfiawnder yn bwysig. Rydym yn falch o wneud gwahaniaeth i鈥檙 cyhoedd a wasanaethwn.
Bod Yn Agored
Rydym yn arloesi, yn rhannu ac yn dysgu. Rydym yn ddewr ac yn chwilfrydig, yn mynd ar drywydd syniadau鈥檔 ddygn i wella鈥檙 gwasanaethau a ddarparwn.
Dyngarwch
Rydym yn trin eraill 芒 dyngarwch fel yr hoffem gael ein trin ein hunain. Rydym yn gwerthfawrogi pawb, gan eu cefnogi a鈥檜 hannog i fod y gorau y gallant fod.
Gyda鈥檔 Gilydd
Rydym yn gwrando, yn cydweithio ac yn cyfrannu, gan weithredu gyda鈥檔 gilydd at ein diben cyffredin.
Ein huchelgais
Rydym am i鈥檔 gwasanaethau atwrneiaeth arhosol fod yr un mor adnabyddus 芒 thrwyddedau gyrru 鈥 yn fforddiadwy, yn symudol, yn hyblyg ac yn cael eu derbyn lle bynnag y c芒nt eu defnyddio.
Fel rhan o鈥檌 waith trawsnewid parhaus - 鈥極PG 2025鈥- mae Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn edrych eto ar ei datganiadau o fwriad, gweledigaeth ac uchelgais 鈥 i sicrhau eu bod yn ddealladwy i鈥檙 staff ac i鈥檙 cyhoedd, gan amlinellu鈥檔 glir yr hyn y mae OPG yma i鈥檞 gyflawni a darparu gweledigaeth gref ar gyfer cyfeiriad y sefydliad yn y dyfodol.
Rhagair gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, Alex Chalk AS
Ein hawl i ddewis
Ein hawl i lais.
Mae鈥檙 rhain yn bethau rydyn ni鈥檔 eu cymryd yn ganiataol 鈥 hyd nes i ni eu colli.
P鈥檜n ai a gaiff ei gymryd oddi wrthym drwy ddamwain neu drwy afiechyd, mae Deddf Galluedd Meddyliol (2005) yn rhoi cyfle i鈥檙 rhai na allant siarad drostynt eu hunain ddewis y rhai y maent yn ymddiried ynddynt i wneud penderfyniadau ar eu rhan.
Mae gan Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) y p诺er i amddiffyn y rheini sydd fwyaf mewn perygl mewn cymdeithas, ac rwy鈥檔 ddiolchgar am y gwaith maen nhw鈥檔 ei wneud i gefnogi鈥檙 broses o wneud penderfyniadau er budd gorau pobl.
Mae OPG wedi parhau i ddarparu鈥檙 gwasanaeth hwn yn ystod y pandemig COVID-19 ac rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i鈥檙 holl staff 鈥 p鈥檜n ai a ydynt wedi bod yn y swyddfa neu鈥檔 gweithio gartref 鈥 am eu hymdrechion yn ystod y cyfnod hwn.
Adeg ysgrifennu hwn, mae effaith barhaus COVID-19 ar bob un ohonom yn ansicr.
Ni allwn ddarparu gwasanaeth o鈥檙 20fed ganrif ym myd yr unfed ganrif ar hugain. Felly, rwy鈥檔 falch o weld y cynnydd y mae鈥檙 OPG eisoes wedi鈥檌 wneud tuag at eu rhaglen trawsnewid 鈥 OPG 2025.
Bydd y gwaith hollbwysig hwn yn sicrhau bod yr asiantaeth yn addas ar gyfer y dyfodol 鈥 yn hygyrch ac yn fforddiadwy i bawb.
Cyflwyniad gan y Gwarcheidwad Cyhoeddus dros Gymru a Lloegr, Nick Goodwin
Pan gefais fy mhenodi鈥檔 Warcheidwad Cyhoeddus ym mis Gorffennaf 2019, roedd Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn wynebu dyfodol cyffrous. Mae鈥檔 fraint cael helpu i lywio鈥檙 sefydliad ar hyd ei daith drawsnewid 鈥 OPG 2025.
Mae llawer o waith da wedi鈥檌 wneud eisoes 鈥 fis Gorffennaf diwethaf fe wnaethom lansio gwasanaeth newydd i gefnogi Deddf Gwarcheidiaeth (Unigolion Coll) 2017. Roedd angen cydweithio鈥檔 agos ac yn ddwys 芒 chydweithwyr a rhanddeiliaid yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i allu darparu gwasanaeth yn llwyddiannus i bobl yn wynebu helbulon mawr.
Yn fwy diweddar, mae ymateb yn gadarnhaol i bandemig COVID-19 wedi golygu heriau sylweddol ac rwy鈥檔 edmygu鈥檔 fawr yr holl staff sydd wedi gweithio fel t卯m, yn Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus, ac yn ehangach, a chyda phwrpas, angerdd a brwdfrydedd i gynnal ein gwasanaethau.
Fodd bynnag, mae COVID-19 wedi lleihau incwm ffioedd OPG yn sylweddol ac wedi bod yn dreth ar ein hadnoddau, o ganlyniad, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 cynllun busnes hwn ein galluogi i addasu i ddelio 芒鈥檙 ansicrwydd yn y flwyddyn sydd i ddod.
Ein nod yw darparu ein gwasanaethau craidd yn dda 鈥 gan drawsnewid yr hyn a allwn ni pan allwn ni.
Mae pob unigolyn yn Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yn rhoi pobl wrth wraidd popeth maen nhw鈥檔 ei wneud 鈥 maen nhw鈥檔 deall y r么l maen nhw鈥檔 ei chwarae, ac mae hyn yn ein helpu ni i ddarparu gwasanaethau rhagorol i鈥檙 cyhoedd. Dywedodd dros 85% o鈥檔 cwsmeriaid a holwyd yn 2019 eu bod yn fodlon 芒鈥檔 gwasanaethau atwrneiaeth, ac roedd dros 75% yn fodlon 芒鈥檔 gwasanaethau dirprwyaeth.
Ond mae gennym hefyd lawer o heriau i鈥檞 hystyried 鈥 mae anghenion newidiol cymdeithas a phoblogaeth sy鈥檔 heneiddio yn golygu y bydd galw o hyd am y gwasanaethau craidd y mae OPG yn eu cynnig.
Ond mae angen i ni sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol a鈥檔 bod yn parhau i鈥檞 haddasu i ddiwallu anghenion ein defnyddwyr presennol a鈥檔 defnyddwyr yn y dyfodol a sicrhau bod eu darpariaeth mor gadarn 芒 phosibl 鈥 er mwyn delio 芒鈥檙 holl bethau a ddaw yn sgil y dyfodol.
I gyflawni鈥檙 uchelgais hwn, mae鈥檔 golygu bod yn rhaid i ni ddarparu mwy o wasanaethau ar-lein yn ogystal ag Atwrneiaethau Arhosol ar bapur.
Bydd Atwrneiaeth Arhosol wedi鈥檌 moderneiddio yn diwygio鈥檙 gwasanaeth a鈥檙 gefnogaeth y gallwn ei chynnig i gwsmeriaid i ddiwallu eu hanghenion heddiw ac yn y dyfodol 鈥 ac rwyf wedi ymrwymo i fwrw ymlaen 芒 hyn gan fod pwysigrwydd hyn wedi dod fwyfwy i鈥檙 amlwg yn yr amgylchiadau presennol.
Bydd OPG 2025 yn trawsnewid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau yn ogystal 芒鈥檙 ffordd mae ein pobl yn gweithio 鈥 gan greu gweithlu mwy ystwyth sy鈥檔 gweithio鈥檔 fwy clyfar, sy鈥檔 effeithiol ac yn symudol a fydd yn ein helpu ar ein taith 鈥 mae COVID-19 wedi dangos yr hyn sy鈥檔 bosibl.
Ni fydd yn hawdd, ond credaf gyda gweithlu cryf ac amrywiol a鈥檔 cwsmeriaid yn ganolog i鈥檔 gwaith, gallwn barhau i wella鈥檙 gwasanaethau a ddarparwn.
Mae angen i ni ddarparu ein gwasanaethau a gweithio mewn ffordd sy鈥檔 hybu cynhwysiant i bawb 鈥 ein staff a鈥檔 defnyddwyr.
Tystlythyr cwsmer
Dylai atwrneiaeth fod yn ystyriaeth safonol, ynghyd 芒 phensiwn, cerdyn bws a gwneud ewyllys.
Johanna Roberts, Peterborough
#YourVoiceYourDecision
Ein blwyddyn mewn niferoedd
2.3%
Ar 31 Mawrth 2020, roeddem yn goruchwylio 60,793 o orchmynion dirprwyaeth, cynnydd o 1,385 o ddiwedd 2018 at 2019 (59,408).
917,550 ceisiadau
Nifer y ceisiadau i gofrestru Atwrneiaethau Arhosol ac Atwrneiaethau Parhaus a dderbyniwyd yn 2019 at 2020 oedd 917,550, cynnydd o 81,600 ar 2018 at 2019 (835,950).
4.7 miliwn PoAs
Ar ddiwedd y flwyddyn roedd dros 4.7 miliwn o atwrneiaethau ar y gofrestr.
Llwyddiannau yn erbyn ein targedau dros y flwyddyn ddiwethaf
Disgrifiad | Perfformiad | Nod |
---|---|---|
Amser clirio gwirioneddol ar gyfartaledd ar gyfer ceisiadau am atwrneiaethau | 40 diwrnod | 40 diwrnod |
Amser cyfartalog i gael adroddiadau blynyddol | 38 diwrnod | 40 diwrnod |
Amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol | 11 diwrnod | 15 diwrnod |
Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau atwrneiaeth (bodlon iawn neu gweddol fodlon) | 89% | 80% |
Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau dirprwyaeth (bodlon iawn neu gweddol fodlon) | 77% | 80% |
Arolwg boddhad cwsmeriaid % gyda gwasanaethau digidol (bodlon iawn neu gweddol fodlon) | 95% | 80% |
% yr asesiadau risg diogelu a gynhaliwyd o fewn 2 ddiwrnod | 98% | 95% |
Amser cyfartalog i gwblhau ymchwiliadau | 74 diwrnod | 70 diwrnod |
% y galwadau a atebwyd o fewn 5 munud | 92% | 95% |
% y cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn y terfyn amser | 88% | 90% |
OPG2025 - trawsnewid ein gwasanaethau
Mae OPG 2025 yn paratoi鈥檙 llwybr ar gyfer y dyfodol 鈥 rydyn ni鈥檔 gwybod bod ein Cymdeithas yn newid, rydyn ni鈥檔 heneiddio, yn fwy digidol, ac eisiau gwneud penderfyniadau am ein dyfodol. Felly, dylai Atwrneiaethau Arhosol ffitio鈥檔 haws i fywydau bob dydd ein cwsmeriaid er mwyn i fwy o bobl allu cael budd ohonynt a chynllunio ymlaen llaw. Bydd hyn hefyd yn rhoi gwytnwch i ni ar gyfer y dyfodol.
Nick Goodwin, Gwarcheidwad Cyhoeddus
Newid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau - gwella bywydau gyda鈥檔 gilydd
Wrth i anghenion cymdeithas barhau i newid, rhaid i鈥檔 busnes ninnau newid hefyd. Yn 2018, fe wnaethom gyhoeddi ein rhaglen trawsnewid - OPG 2025.
Bydd OPG 2025 yn ein helpu i rymuso pobl yn well i gynllunio ymlaen llaw a chreu gwasanaethau o ansawdd uchel sy鈥檔 hygyrch ac yn fforddiadwy. Mae digideiddio ein gwasanaethau yn ganolog i鈥檔 gweledigaeth. Bydd gwneud gwell defnydd o offer digidol, a ffyrdd mwy clyfar o weithio, yn rhyddhau ein hamser i gynnig gwell cefnogaeth a chyngor i bawb.
Bydd yn darparu gwytnwch i OPG a鈥檔 defnyddwyr i ddelio 芒 materion fel COVID-19.
Ein gwasanaethau
Hyrwyddo atwrneiaethau arhosol ym mhob rhan o gymdeithas 鈥 gyda chynllun peilot yr ymgyrch ar gyfer y cyhoedd yng Nghymru 鈥榊our Voice, Your Decision鈥 鈥 gan weithio鈥檔 agos gydag awdurdodau lleol i gefnogi鈥檙 gwaith hwn.
Lansio beta cyhoeddus 鈥楧efnyddio Atwrneiaeth Arhosol鈥 鈥 gwasanaeth ar-lein i ganiat谩u i atwrneiod a thrydydd part茂on ddefnyddio atwrneiaeth arhosol yn gyflym ac yn gyfleus.
Datblygu cynnig i foderneiddio鈥檙 Atwrneiaeth Arhosol i gwrdd ag anghenion cymdeithas ac edrych ar ffyrdd o leihau鈥檙 swmp mawr o bapur a dderbyniwn yn y sefydliad.
Parhau 芒鈥檔 hymchwil i ganfod pam nad yw mwy o bobl yn trefnu Atwrneiaethau Arhosol, pa gymorth sydd ei angen ar ein cwsmeriaid a sut gallwn ni eu cefnogi.
Sefydlu pa effaith y mae Atwrneiaeth Arhosol wedi鈥檌 chael ar gymdeithas a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol.
Ein partneriaid
Darparu mwy o gefnogaeth i鈥檔 cwsmeriaid wrth ddefnyddio eu Hatwrneiaeth Arhosol drwy weithio ar draws sectorau fel y sector cyllid, y sector cyfreithiol a鈥檙 sector iechyd i wneud y broses yn haws a sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol o Atwrneiaethau Arhosol.
Ein pobl
Adolygu effeithiolrwydd ein sefydliad a鈥檙 hyn rydym yn ei wneud heddiw, i鈥檔 helpu i wneud yn si诺r bod gennym fodel sy鈥檔 caniat谩u i ni gyflawni ein huchelgeisiau.
Defnyddio syniadau ein pobl i sbarduno arloesed yn y ffordd rydym yn datblygu ein gwasanaethau a鈥檔 sefydliad er budd ein cwsmeriaid.
Adeiladu ar y gweithio clyfar rydym wedi鈥檌 wreiddio i ddelio 芒 COVID-19 ar draws ein meysydd busnes a chefnogi ein pobl i fabwysiadu hyn yn y 鈥渘ormal鈥 newydd.
Parhau 芒鈥檙 gwaith o symud ein staff yn Birmingham i swyddfeydd newydd yn 2021 at 2022.
Tystlythyr cwsmer
Pan wnes i atwrneiaeth arhosol i mi fy hun, roeddwn i鈥檔 gallu ei gwneud ar-lein, ac i gyd ar fore Sul.
Roger Payne, Huddersfield
#YourVoiceYourDecision
Darparu gwasanaethau rhagorol
Er ein bod yn edrych tua鈥檙 dyfodol, rhaid i ni barhau i ddarparu gwasanaeth rhagorol heddiw. Mae ein gwasanaethau 鈥 cofrestru Atwrneiaethau Arhosol, goruchwylio dirprwyon ac ymchwilio i bryderon Diogelu, yn bwysicach nag erioed. Rydym yn falch bod gan ein pobl ymdeimlad mawr o bwrpas o ran darparu gwasanaeth hanfodol y mae galw cynyddol amdano.
Julie Lindsay, Prif Swyddog Gweithredu
Darparu gwasanaeth hanfodol heddiw - paratoi ar gyfer y dyfodol
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth rhagorol i鈥檔 holl gwsmeriaid nawr ac yn y dyfodol. Ein r么l ni o ran cofrestru atwrneiaethau, goruchwylio dirprwyon a gwarcheidwaid a benodwyd gan y llys ac ymchwilio i bryderon yw ein ffocws o hyd.
Byddwn yn darparu gwasanaethau rhagorol i鈥檔 cwsmeriaid gan sicrhau eu bod yn cael gwasanaeth o鈥檙 radd flaenaf ar yr un pryd ag yr ydym yn bwriadu trawsnewid y gwasanaeth a hefyd delio 芒鈥檙 holl faterion ychwanegol o ganlyniad i COVID-19.
Ein cwsmeriaid
Cyflawni ein targedau perfformiad a gwasanaeth i gwsmeriaid er mwyn darparu鈥檙 gwasanaeth gorau posibl i鈥檔 cwsmeriaid (o fewn terfynau effaith COVID-19) 鈥 ac yn ystod y pandemig presennol, sicrhau bod ein defnyddwyr yn parhau i allu cael mynediad at ein gwasanaethau.
Gweithio gydag eraill i roi mwy o eglurder ynghylch r么l OPG o fewn y cyd-destun diogelu er mwyn sicrhau ein bod ni, ac eraill, yn glir ynghylch ein rolau a鈥檔 cyfrifoldebau.
Annog defnyddio gwahanol ffyrdd o dalu am ein gwasanaethau gyda llai o ddefnydd o sieciau.
Ein pobl
Hyrwyddo gweithgareddau llesiant meddyliol ar gyfer yr holl staff a chefnogi ein holl staff i ddelio 芒 COVID-19 a鈥檙 ffyrdd niferus y mae hyn wedi effeithio ar unigolion.
Dysgu o weithio gartref oherwydd COVID-19 i wella鈥檙 cynnig i鈥檔 staff yn y 鈥渘ormal鈥 newydd 鈥 gan gynnwys defnydd mwy hyblyg o TG a鈥檙 gallu parhaus i weithio gartref (lle mae鈥檙 gweithgareddau鈥檔 caniat谩u hynny).
Annog ein gweithlu amrywiol i rannu a datblygu eu sgiliau drwy fentora, cysgodi a rhannu arferion gorau.
Bwrw ymlaen 芒 rhaglen waith yn Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus i sicrhau mwy o gynwysoldeb a symudedd cymdeithasol 鈥 gan ddefnyddio cynlluniau fel academ茂au gwaith sy鈥檔 seiliedig ar sector. Gwneud OPG yn lle gwych i weithio.
Ac fe wnawn ni gyhoeddi data ac ymchwil i helpu i lywio ystyriaethau ehangach, ar draws y llywodraeth a chymdeithas, o boblogaeth sy鈥檔 heneiddio a鈥檙 risg o golli galluedd meddyliol.
Dangosyddion Perfformiad
Fel gydag unrhyw beth, mae eich allbwn yn dibynnu ar eich mewnbwn cychwynnol. Mae bod ar y rhaglen Bridges yn rhoi nod a gweledigaeth i mi lwyddo yn Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae鈥檔 fy ngalluogi i fod yn greadigol, a theimlo fy mod yn cael fy nghynnwys 鈥 yn enwedig gan fy mod gen i gefndir BAME.
Palminder Ghai
Swyddog Diogelu
Er mai bwriad Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus yw bodloni ei holl ddangosyddion perfformiad yn ystod y flwyddyn 2020 ar 2021, mae鈥檙 sefyllfa bresennol o ran COVID-19 a鈥檌 heffaith ar bethau fel nifer y staff sy鈥檔 bresennol yn y swyddfa yn debygol o gael effaith sylweddol ar ein gallu i wneud hynny.
Ein cwsmeriaid
Ein targedau
90%
galwadau a atebwyd o fewn 5 munud
35%
adroddiadau blynyddol a dderbyniwyd yn ddigidoly
90%
cwynion yr ymatebwyd yn llawn iddynt o fewn y terfyn amser
Ein darpariaeth weithredol
Ein targedau
95%
Atwrneiaethau Arhosol wedi鈥檜 cofrestru heb gamgymeriad
40 diwrnod
amser cyfartalog i gael adroddiad blynyddol
4.5%
adroddiadau dirprwyon heb eu cwblhau am dros 98 diwrnod calendr
15 diwrnod
amser cyfartalog i adolygu adroddiadau blynyddol
Ein pobl
Ein targedau
60%
ysmgysylltu 芒 staff
< 11%
staff sydd wedi cael eu bwlio neu eu harasio鈥檔 bersonol yn ystod y 3 mis diwethaf
< 11%
staff sydd wedi dioddef gwahaniaethu yn bersonol yn ystod y 3 mis diwethaf
90%
staff sydd wedi cymryd rhan mewn cyfle dysgu neu ddatblygu yn ystod y 3 mis diwethaf
10%
trosiant staff
7.5 diwrnod
cyfartaledd y diwrnodau gwaith a gollwyd oherwydd salwch
Ar hyn o bryd mae 1,689 o bobl yn gweithio yn Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Amdanom ni
Mae Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn helpu pobl yng Nghymru a Lloegr i gadw rheolaeth dros benderfyniadau am eu hiechyd a鈥檜 cyllid a gwneud penderfyniadau pwysig i eraill na allant benderfynu drostynt eu hunain.
Rydym yn un o gyrff y llywodraeth ac yn un o asiantaethau gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ). Rydym yn cefnogi鈥檙 Weinyddiaeth Gyfiawnder i sicrhau mynediad at gyfiawnder mewn ffordd sy鈥檔 diwallu anghenion pobl orau.
Rydym yn cyflawni swyddogaethau cyfreithiol Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a Deddf Gwarcheidiaeth (Personau Coll) 2017.
Rydym yn gyfrifol am y canlynol:
-
cofrestru atwrneiaethau arhosol a pharhaus, er mwyn i bobl allu dewis pwy maen nhw am eu dewis i wneud penderfyniadau ar eu rhan
-
ymchwilio i adroddiadau a phryderon ynghylch cam-drin gan atwrneiod, dirprwyon neu warcheidwaid cofrestredig
-
cynnal cofrestri atwrneiod, dirprwyon a gwarcheidwaid
-
goruchwylio dirprwyon a gwarcheidwaid a benodir gan y llysoedd, a sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol
Geirfa
Atwrnai
Atwrnai yw鈥檙 person a ddewisir i weithredu dros rywun arall ar atwrneiaeth arhosol.
Atwrneiaeth arhosol (LPA)
Mae LPA yn ddogfen gyfreithiol a ddefnyddir i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli鈥檙 gallu i wneud penderfyniadau penodol eich hun.
Mae 2 fath o LPA:
- iechyd a lles
- eiddo a materion ariannol
Rhaid cofrestru鈥檙 ddau fath o LPA gyda鈥檙 OPG cyn gellir eu defnyddio.
Atwrneiaeth barhaus (EPA)
Disodlwyd atwrneiaeth barhaus gan atwrneiaeth arhosol (LPA) ym mis Hydref 2007.
Yn yr un modd ag LPA, dogfen gyfreithiol ydyw sy鈥檔 cael ei defnyddio i benodi rhywun i wneud penderfyniadau ar eich rhan pe byddech yn colli galluedd.
Mae atwrneiaeth barhaus a lofnodwyd a鈥檜 dyddio cyn 1 Hydref 2007 yn dal yn ddilys a gellir eu cofrestru gyda鈥檙 OPG pan mae鈥檙 rhoddwr yn dechrau colli galluedd meddyliol, neu pan mae wedi ei golli.
Buddion pennaf
Rhaid i unrhyw benderfyniadau a wneir, neu weithrediadau a gymerir, ar ran rhywun arall sydd wedi colli galluedd gael eu gwneud er eu budd pennaf. Mae yna gamau safonol isafswm i鈥檞 dilyn wrth benderfynu ar fuddion pennaf unigolyn.
Mae鈥檙 rhain wedi鈥檜 hamlinellu yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005 neu yng nghod ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Cleient
Dyma鈥檙 gair a ddefnyddir gan yr OPG i gyfeirio at y person rydych wedi cael eich penodi i weithredu ar ei ran.
Defnyddiwr
Mae defnyddiwr yn cyfeirio at unrhyw un sy鈥檔 gwneud defnyddio o wasanaethau鈥檙 OPG.Gallai hyn fod yn uniongyrchol (rhoddwyr LPA/EPA, atwrneiod, dirprwyon, cleientiaid) neu鈥檔 anuniongyrchol (partneriaid, cyfryngwyr).
Mae hefyd yn cynnwys staff mewnol yn defnyddio systemau鈥檙 OPG.
Dirprwy
Dyma rhywun a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd wedi colli galluedd i wneud penderfyniadau penodol eu hunain.
Penodir dirprwy os oes rhywun yn colli galluedd a bod dim atwrneiaeth arhosol yn ei le.
Galluedd
Galluedd yw鈥檙 gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg honno pan fod rhaid gwneud y penderfyniad.
Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad o alluedd yn adran 2 Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Rhoddwr
Rhywun sydd wedi creu atwrneiaeth arhosol neu atwrneiaeth barhaus. Maent yn cael eu galw鈥檔 rhoddwyr oherwydd eu bod wedi rhoi rhai pwerau gwneud penderfyniadau i rywun arall.
Manylion cyswllt
Cyfeiriad
Swyddfa鈥檙 Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH
Cyswllt OPG
Ff么n: 0300 456 0300
(y tu allan i鈥檙 DU +44 300 456 0300)
Textff么n: 0115 934 2778
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm
Dydd Mercher 10am tan 5pm