Cyfarwyddyd ymarfer 13: chwiliadau swyddogol o'r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau
Diweddarwyd 3 Ebrill 2023
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw mynegai o ddisgrifiadau geiriol o ryddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig ac o faenorau cofrestredig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
I wneud cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai, gwnewch gais ar-lein trwy e-wasanaethau busnes neu defnyddiwch ffurflen SIF. Bydd tystysgrif y canlyniad yn dangos a oes unrhyw ryddfraint gysylltiedig neu faenor gofrestredig yn berthnasol i’r ardal(oedd) gweinyddol a chwiliwyd ynghyd â’r rhifau teitl sy’n effeithio a’r math o gofrestriad.Mae Mynegai disgrifiadau geiriol yn rhestru’r gwahanol fathau o gofrestriad y bydd modd eu datgelu trwy chwiliad swyddogol o’r mynegai.
2. Rhyddfraint
Hawl neu fraint a roddwyd gan y Goron yw rhyddfraint. Mae enghreifftiau’n cynnwys hawl i godi toll neu hawl i gynnal ffair neu farchnad. Mae’n hawl anniriaethol. Nid yw’n cynnwys perchnogaeth y tir diriaethol ac mae ar wahân i unrhyw rydd-ddaliad neu fuddion prydlesol yn y tir ei hun. Yn iaith y gyfraith, mae’n hereditament anghorfforol. Mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn caniatáu cofrestru rhyddfraint gyda’i theitl ei hun. Yn y cyd-destun hwn nid yw rhyddfraint yn cynnwys unrhyw hawliau masnachol/masnachu na chreu corfforaeth siartredig nad oes ganddynt unrhyw effaith uniongyrchol ar eiddo.
Yn 2003 byddai’n anodd diffinio rhyddfraint a roddwyd gan gyfeirio at ‘City of Sunlight’ yn 1189 oherwydd y bydd terfynau’r ddinas wedi newid yn sylweddol. Caiff y fath hon o ryddfraint ei galw’n ‘rhyddfraint gysylltiedig’ gan ei bod yn berthnasol dim ond yn gyffredinol i ardal. Nid ydym yn paratoi cynllun teitl ar gyfer cofrestru rhyddfraint gysylltiedig a bydd yn cael ei chofnodi yn y mynegai geiriol. Ar y llaw arall, caiff ‘rhyddfraint sy’n effeithio’, y gellir ei diffinio fel un sy’n effeithio ar ardal, ei mynegeio ar y map mynegai.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 18: rhyddfreintiau: cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ryddfreintiau. Mae cyfarwyddyd ymarfer 10: y map mynegai: chwiliad swyddogol yn egluro sut i chwilio’r map mynegai er mwyn gweld a yw rhyddfraint sy’n effeithio wedi ei chofrestru.
3. Maenor
Mae’r maenorau cofrestredig sy’n ymddangos yn y mynegai yn rhai ar gyfer teitlau arglwyddiaeth. Enw ar arglwydd y faenor yn unig yw arglwyddiaeth y faenor. Mewn llawer achos ni fydd unrhyw dir na hawliau ynghlwm wrth y teitl mwyach. Oherwydd ei darddiad a diffyg sylwedd diriaethol mae hefyd yn cael ei alw’n hereditament anghorfforol. Nid oes cynlluniau teitl ar gyfer y cofrestriadau hyn ac nid ydym yn dal unrhyw gofnod swyddogol o faint y faenor wreiddiol.
Mae cyfarwyddyd ymarfer 22: maenorau: teitlau a hawliau maenoraidd yn cynnwys rhagor o wybodaeth am dir maenoraidd.
4. Mynegai disgrifiadau geiriol
Rhaid i Gofrestrfa Tir EF gadw mynegai sy’n fodd i gael gwybod a oes unrhyw ystadau cofrestredig neu rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf yn berthnasol i ddarn o dir (adran 68 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Am nad oes modd penderfynu maint rhyddfraint gysylltiedig neu faenor yn fanwl gywir, daliwn y wybodaeth mewn mynegai disgrifiadau geiriol yn dwyn yr enw mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig (rheol 10(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003).
Trefnwyd y mynegai yn ôl ardal weinyddol ac mae’n cynnwys rhifau teitl a manylion y mathau canlynol o gofrestriad.
- ceisiadau am gofrestriad cyntaf teitl i ryddfreintiau cysylltiedig sy’n aros i’w prosesu
- ceisiadau sy’n aros i’w prosesu am rybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
- rhyddfreintiau cofrestredig sy’n rhyddfreintiau cysylltiedig
- maenorau cofrestredig
- rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf lle bo rhyddfraint gysylltiedig yn destun y rhybuddiad
5. Sut i gael gwybodaeth sy’n cael ei dal yn y mynegai
5.1 Sut i wneud cais
I wneud cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai, gwnewch gais ar-lein trwy e-wasanaethau busnes neu fel arall, rhaid ichi ddefnyddio’r ffurflen SIF benodedig.
Gallwch wneud cais i chwilio’r mynegai yn erbyn ardaloedd gweinyddol. Bydd cofnodion yn y mynegai yn cael eu cofnodi ar gyfer yr ardal(oedd) weinyddol sy’n berthnasol iddynt.
Ar unrhyw chwiliad rhaid ichi ddyfynnu’r holl ardaloedd gweinyddol presennol sy’n berthnasol i’r tir o dan sylw. At ddibenion ceisiadau ar ffurflen SIF, ardal weinyddol yw sir neu awdurdod unedol.
Mae rhestr o’r ardaloedd gweinyddol i’w cael yn Atodiad A i’r cyfarwyddyd hwn. Byddwn yn gwrthod unrhyw gais nad yw’n cyfeirio at ardal weinyddol ar y rhestr.
Byddwn yn anwybyddu unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd fel disgrifiad eiddo manwl neu gynllun. Byddwn yn prosesu’r cais trwy gyfeirio at yr ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd yn unig.
Ar gyfer ceisiadau electronig, o dan Chwilio’r Mynegai Rhyddfreintiau Cysylltiedig a Maenorau, dylech ddewis y math o gofrestriad i nodi a ydych yn chwilio am ryddfreintiau, maenorau neu’r ddau.
Ar gyfer ceisiadau ar ffurflen SIF, os nad yw’r naill flwch neu’r llall ym mhanel 1 ffurflen SIF wedi ei dicio, byddwn yn cwblhau’r cais ar gyfer rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau. Sylwer: byddwn yn gwrthod unrhyw gais trwy’r post am chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau nad yw wedi ei wneud ar y ffurflen benodedig. I weld ble i anfon cais post wedi ei gwblhau, gweler Cyfeiriad Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ceisiadau.
5.2 ¹ó´Úï´Ç±ð»å»å
Gweler Cofrestrfa Tir EF: ¹ó´Úï´Ç±ð»å»å Gwasanaethau Cofrestru i gael gwybodaeth am yr hyn sydd i’w dalu am y gwasanaeth hwn.
5.3 Tystysgrif canlyniad
Lle bo modd, bydd tystysgrif y canlyniad yn cael ei hanfon gyda throad y post. Lle bo’r chwiliad yn dangos bod cofnodion yn y mynegai’n ymwneud â’r ardal(oedd) weinyddol a ddyfynnwyd, bydd y dystysgrif yn cynnwys detholiad o’r mynegai. Lle nad oes unrhyw gofnodion i’w dadlennu, bydd y dystysgrif yn cynnwys datganiad i’r perwyl hwnnw.
6. Ymholiadau
Os oes gennych bryder arbennig sydd heb gael sylw yn y cyfarwyddyd hwn, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF cyn unrhyw chwiliad. Os yw’r broblem yn arbennig o gymhleth, gall fod yn well ichi wneud eich ymholiad yn ysgrifenedig.
7. Atodiad A
Trefnwyd y mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau yn ôl ardal weinyddol. Mae’r tabl isod yn dangos yr holl ardaloedd gweinyddol sy’n addas at ddibenion cais am chwiliad swyddogol o’r mynegai rhyddfreintiau cysylltiedig a maenorau.
Ardal weinyddol | |
---|---|
Lloegr | Ìý |
Barnsley | Ìý |
Bedford | Ìý |
Birmingham | Ìý |
Blackburn gyda Darwen | Ìý |
Blackpool | Ìý |
Bolton | Ìý |
Bournemouth, Christchurch a Poole | Ìý |
Bracknell Forest | Ìý |
Bradford | Ìý |
Brighton a Hove (Dinas) | Ìý |
Bryste (Dinas) | Ìý |
Bury | Ìý |
Caerefrog | Ìý |
Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf | Ìý |
°ä²¹±ð°ù±ôÅ·°ù | Ìý |
Caint | Ìý |
Calderdale | Ìý |
Cernyw | Ìý |
Cilgwri | Ìý |
Coventry | Ìý |
Cumberland | Ìý |
Darlington | Ìý |
De Swydd Gaerloyw | Ìý |
De Tyneside | Ìý |
Derby (Dinas) | Ìý |
Doncaster | Ìý |
Dorset | Ìý |
Dudley | Ìý |
Dwyrain Essex | Ìý |
Dwyrain Sussex | Ìý |
Dwyrain Swydd Gaer | Ìý |
Dyfnaint | Ìý |
Essex | Ìý |
Gateshead | Ìý |
Glannau Mersi | Ìý |
Gogledd-ddwyrain Swydd Lincoln | Ìý |
Gogledd Swydd Gaerefrog | Ìý |
Gogledd Swydd Lincoln | Ìý |
Gogledd Swydd Northampton | Ìý |
Gogledd Tyneside | Ìý |
Gorllewin Berkshire | Ìý |
Gorllewin Sussex | Ìý |
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer | Ìý |
Gorllewin Swydd Northampton | Ìý |
Gwlad yr Haf | Ìý |
Halton | Ìý |
Hartlepool | Ìý |
Hampshire | Ìý |
Kingston upon Hull (Dinas) | Ìý |
Kirklees | Ìý |
Knowsley | Ìý |
Leeds | Ìý |
Lerpwl | Ìý |
Luton | Ìý |
Manceinion | Ìý |
Medway | Ìý |
Middlesbrough | Ìý |
Milton Keynes | Ìý |
Newcastle upon Tyne | Ìý |
Norfolk | Ìý |
Northumberland | Ìý |
Nottingham (Dinas) | Ìý |
Oldham | Ìý |
Peterborough (Dinas) | Ìý |
Plymouth (Dinas) | Ìý |
Portsmouth | Ìý |
Reading | Ìý |
Redcar a Cleveland | Ìý |
Rochdale | Ìý |
Rotherham | Ìý |
Rutland | Ìý |
St Helens | Ìý |
Salford | Ìý |
Sandwell | Ìý |
Sefton | Ìý |
Sheffield | Ìý |
Slough | Ìý |
Solihull | Ìý |
Southampton | Ìý |
Southend-on-Sea | Ìý |
Stockport | Ìý |
Stockton-on-Tees | Ìý |
Stoke-on-Trent (Dinas) | Ìý |
Suffolk | Ìý |
Sunderland | Ìý |
Surrey | Ìý |
Swindon | Ìý |
Swydd Amwythig | Ìý |
Swydd Bedford Ganolog | Ìý |
Swydd Buckingham | Ìý |
Swydd Derby | Ìý |
Swydd Durham | Ìý |
Swydd Gaer | Ìý |
Swydd Gaergrawnt | Ìý |
Swydd Gaerhirfryn | Ìý |
Swydd Gaerloyw | Ìý |
Swydd GaerlÅ·r | Ìý |
Swydd Gaerwrangon | Ìý |
Swydd Henffordd (Sir) | Ìý |
Swydd Hertford | Ìý |
Swydd Lincoln | Ìý |
Swydd Nottingham | Ìý |
Swydd Rydychen | Ìý |
Swydd Stafford | Ìý |
Swydd Warwig | Ìý |
Tameside | Ìý |
Thurrock | Ìý |
Torbay | Ìý |
Traean Dwyreiniol Swydd Gaerefrog | Ìý |
Trafford | Ìý |
Wakefield | Ìý |
Walsall | Ìý |
Warrington | Ìý |
Westmorland and Furness | Ìý |
Wigan | Ìý |
Wiltshire | Ìý |
Windsor a Maidenhead | Ìý |
Wokingham | Ìý |
Wolverhampton (Dinas) | Ìý |
Wrekin (Sir) (a elwir hefyd The Wrekin) | Ìý |
Ynysoedd Sili | Ìý |
Ynys Wyth | Ìý |
Awdurdodau Llundain | Ìý |
Barking a Dagenham | Ìý |
Barnet | Ìý |
Bexley | Ìý |
Brent | Ìý |
Bromley | Ìý |
Camden | Ìý |
Croydon | Ìý |
Dinas a Sir Dinas Llundain | Ìý |
Dinas Westminster | Ìý |
Ealing | Ìý |
Enfield | Ìý |
Greenwich | Ìý |
Hackney | Ìý |
Hammersmith a Fullham | Ìý |
Haringey | Ìý |
Harrow | Ìý |
Havering | Ìý |
Hillingdon | Ìý |
Hounslow | Ìý |
Islington | Ìý |
Kensington a Chelsea | Ìý |
Kingston upon Thames | Ìý |
Lambeth | Ìý |
Lewisham | Ìý |
Merton | Ìý |
Newham | Ìý |
Redbridge | Ìý |
Richmond upon Thames | Ìý |
Southwark | Ìý |
Sutton | Ìý |
Tower Hamlets | Ìý |
Waltham Forest | Ìý |
Wandsworth | Ìý |
Y Deml Fewnol a’r Deml Ganol | Ìý |
Cymru | Ìý |
Abertawe | Ìý |
Blaenau Gwent | Ìý |
Bro Morgannwg | Ìý |
Caerdydd | Ìý |
Caerffili | Ìý |
Casnewydd | Ìý |
Castell-nedd Port Talbot | Ìý |
Ceredigion | Ìý |
Conwy | Ìý |
Gwynedd | Ìý |
Merthyr Tudful | Ìý |
Pen-y-bont ar Ogwr | Ìý |
Powys | Ìý |
Rhondda Cynon Taf | Ìý |
Sir Benfro | Ìý |
Sir Ddinbych | Ìý |
Sir Fynwy | Ìý |
Sir y Fflint | Ìý |
Sir Gaerfyrddin | Ìý |
Sir Geredigion | Ìý |
Tor-faen | Ìý |
Wrecsam | Ìý |
Ynys Môn | Ìý |
8. Pethau i’w cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.