Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr dros Becynwaith (pEPR): apêl yn erbyn penderfyniad a ddyroddwyd gan PecynUK
Diweddarwyd 14 Gorffennaf 2025
Gellir cyflwyno apêl i Dribiwnlys Haen Gyntaf (Cymru a Lloegr), y Comisiwn Apelau Cynllunio (Gogledd Iwerddon), Gweinidogion yr Alban neu’r siryf (yr Alban) os oes anghytundeb ynghylch penderfyniadau neu hysbysiadau penodol a wnaed gan PecynUK.Ìý
Yr hyn y cewch apelio yn ei erbynÌý
ÌýApêl cynhyrchydd: Penderfyniadau ynglÅ·n â ffioeddÌý
Mae cynhyrchydd neu gwmni daliannoli [footnote 1] yn cael apelio yn erbyn y penderfyniadau a ganlyn o dan a :
- penderfyniad gan PecynUK i gyflwyno hysbysiad o atebolrwydd i dalu ffi waredu neu ffi weinyddol i’r cynhyrchydd neu’r cwmni daliannol (mewn perthynas ag aelodau perthnasol o’r grŵp o fewn cofrestriad grŵp) o dan
- penderfyniad gan PecynUK i gyflwyno hysbysiad o ffi ddiwygiedig i’r cynhyrchydd neu’r cwmni daliannol (mewn perthynas ag aelodau perthnasol o grŵp o’r fath) o dan
ÌýMae seiliau apêl mewn perthynas â’r penderfyniadau uchod fel a ganlyn:
- nad yw’r cynhyrchydd neu’r cwmni daliannol yn atebol mewn gwirionedd i dalu ffi waredu neu ffi weinyddol
- bod y swm yr aseswyd bod y cynhyrchydd neu’r cwmni daliannol yn atebol i’w dalu wedi’i gamgyfrifo
Apêl cynhyrchydd: Cosb ariannol newidiolÌý
Mae cynhyrchydd neu gwmni daliannol yn cael apelio yn erbyn hysbysiad cosb ariannol newidiol terfynol o dan , sef sancsiwn sifil a ddyroddwyd o dan .
ÌýMae seiliau’r apêl fel a ganlyn: Ìý
- bod y penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad wedi’i seilio ar gamgymeriad ffeithiol
- bod y penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad yn anghywir yn y gyfraith
- bod swm y gosb a osodir yn afresymol
- bod y penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad yn afresymol am unrhyw reswm arall
ÌýApêl cynhyrchydd: Hysbysiad adennill costau gorfodiÌý
Mae cynhyrchydd neu gwmni daliannol yn cael apelio o dan yn erbyn hysbysiad adennill costau gorfodi a ddyroddwyd o dan . Mae’r penderfyniad hwn i adennill costau yn gysylltiedig â hysbysiad cosb ariannol newidiol sydd wedi’i gyflwyno ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i gostau a ysgwyddwyd gan PecynUK gael eu talu. Mae’r costau’n cynnwys y canlynol:Ìý
- costau ymchwilio
- costau gweinyddu
- costau sicrhau cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol)
ÌýMae seiliau’r apêl wedi’u seilio ar anghytundeb â’r penderfyniad i wneud y canlynol:Ìý
- gosod y gofyniad i dalu costau
- swm y costau hynny
ÌýApêl awdurdod lleol: Penderfyniadau ynglÅ·n â chostau gwareduÌý
Mae awdurdod lleol yn cael apelio yn erbyn penderfyniad gan PecynUK ynglŷn â’r canlynol o dan :
- Rheoliad 105(4)(a)(i): penderfyniad sy’n asesu ei gostau gwaredu taladwy o dan
- Rheoliad 105(4)(a)(ii): penderfyniad ynghylch y swm sydd i’w ddosbarthu i’r awdurdod perthnasol o dan
- Rheoliad 105(4)(a)(iii): penderfyniad yn ailgyfrifo’i gostau gwaredu taladwy o dan
- Rheoliad 105(4)(b): hysbysiad gan PecynUK o dan ei fod yn bwriadu lleihau taliad i’r awdurdod perthnasol
- Rheoliad 105(4)(c): penderfyniad gan PecynUK o dan lle mae wedi penderfynu ar gŵyn gan yr awdurdod perthnasol a bod y paragraff hwnnw’n gymwys, nad oedd yr wybodaeth a ddarparwyd gan yr awdurdod perthnasol i ategu’r gŵyn yn berthnasol i’w benderfyniad
Mae seiliau’r apêl mewn perthynas â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 105(4)(a) fel a ganlyn: Ìý
- bod costau gwaredu taladwy yr awdurdod perthnasol wedi’u camgyfrifo
- bod PecynUK wedi lleihau costau gwaredu’r awdurdod perthnasol pan nad oedd ganddo hawl i wneud hynny o dan neu
- bod PecynUK wedi methu â chydymffurfio â gofyniad gweithdrefnol ym neu sy’n gymwys mewn perthynas â’r penderfyniad dan sylw
- bod PecynUK wedi methu â thalu’r swm cywir i’r awdurdod perthnasol o dan
Mae sail yr apêl mewn perthynas â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 105(4)(b) fel a ganlyn:Ìý
- bod penderfyniad PecynUK ar sut i ddosbarthu’r cyfanswm sydd ar gael i’w rannu rhwng awdurdodau perthnasol yn anghywir.
Mae sail yr apêl mewn perthynas â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn rheoliad 105(4)(c) fel a ganlyn
- bod yr wybodaeth a ddarparwyd gan yr awdurdod perthnasol i ategu’r gŵyn yn berthnasol i’r penderfyniad i gadarnhau’r gŵyn
Hawliau Apelio Ìý
ÌýDim ond ar ôl i weithdrefn cwyno PecynUK mewn perthynas â’r penderfyniad neu’r hysbysiad perthnasol yr apeliwyd yn eu herbyn gael ei dilyn ac ar ôl cael penderfyniad gan PecynUK ynghylch y gŵyn a wnaed y caniateir apelio yn erbyn penderfyniad neu hysbysiad a wnaed gan PecynUK [footnote 2].Os daw gwybodaeth neu ddata newydd ar gael sy’n berthnasol i’r gŵyn wreiddiol a wnaed, gellir gofyn i’r gŵyn honno gael ei hailystyried.
Dim ond ar ôl i’r hysbysiad o’r penderfyniad y mae’r apêl yn ymwneud ag ef wedi’i anfon gan PecynUK y caniateir cyflwyno apêl o dan reoliad 104.Ìý
Pryd i apelioÌý
Rhaid i apêl gael ei chyflwyno o fewn yr amserlenni a ganlyn: ÌýÌý
- os yw’r apêl yn cael ei gwneud o dan reoliad 104, rhaid ei gwneud o fewn 2 fis ar ôl y dyddiad y cafodd hysbysiad o’r penderfyniad ei anfon gan PecynUK (oni bai bod apêl yn cael ei wneud i Weinidogion yr Alban sydd ar unrhyw bryd yn cael caniatáu i hysbysiad o apêl gael ei roi ar ôl y dyddiad dod i ben o 2 fis)
- os yw’r apêl yn cael ei gwneud o dan reoliad 105, rhaid ei gwneud o fewn 2 fis ar ôl y dyddiad y mae unrhyw benderfyniad o dan weithdrefn gwyno PecynUK wedi’i ddisbyddu
Ble i gyflwyno’ch apêl Ìý
Gan ddibynnu ar leoliad apelydd yn y Deyrnas Unedig, dylai’r apêl gael ei chyflwyno i’r corff apelio priodol fel a ganlyn (gweler rheoliad 103):
- yng Nghymru a Lloegr, tribiwnlys yn y Siambr Reoleiddio Gyffredinol fydd yn delio ag apelau. Ewch i Chwilio am lys neu dribiwnlys ac edrychwch ar y
- yn yr Alban, Gweinidogion yr Alban fydd yn delio ag apêl o dan reoliad 104. fydd yn delio ag apêl o dan reoliad 105
- yng Ngogledd Iwerddon, y fydd yn delio ag apelau
ÌýBeth sy’n digwydd nesafÌý
Bydd y corff apelio priodol uchod yn cysylltu ynglÅ·n â’r camau nesaf ar ôl i’r apêl gael ei chyflwyno.Ìý
I gael rhagor o wybodaeth am y broses apelio, gweler y rheoliadau a ganlyn:Ìý
- Ìý
- Ìý
Y ddeddfwriaeth a’r rheolauÌý
Gallwch weld y rheoliadau yn .Ìý
Gallwch ddarllen y rheolau ar sut y bydd eich achos yn cael ei drafod yn y Deyrnas Unedig:Ìý
- Tribiwnlys Haen Gyntaf: Rheolau gweithdrefn y Siambr Reoleiddio Gyffredinol 2009
- Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys yr Alban:
- Rheolau Gogledd Iwerddon: cysylltwch â’r