Cyfarwyddyd ymarfer 7: cofnodi data'r pris a dalwyd neu'r gwerth a ddatganwyd yn y gofrestr
Diweddarwyd 22 Gorffennaf 2024
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae鈥檙 cyfarwyddyd hwn yn cynnwys gwybodaeth am ymarfer Cofrestrfa Tir EF ar gofnodi gwybodaeth pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth yn y gofrestr.
2. Pam y mae Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi鈥檙 pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth yn y gofrestr
Mae Cofrestrfa Tir EF o dan rwymedigaeth statudol o dan reol 8(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 i gofnodi鈥檙 pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth, pryd bynnag y bo鈥檔 ymarferol, mewn tair sefyllfa.
- Cofrestriad cyntaf ystad gofrestredig, hynny yw, pan fydd eiddo yn cael ei gofrestru am y tro cyntaf.
- Cofrestru prydles am fwy na 7 mlynedd.
- Pan fydd newid perchennog ar gyfer eiddo cofrestredig presennol, boed a yw鈥檙 perchennog presennol hefyd yn aros yn y gofrestr neu beidio.
Ceir rhai eithriadau i hyn, megis pan fydd cyfnod prydles gofrestredig yn cael ei estyn.
Ni fydd telerau cymal cyfrinachedd yn drech na rhwymedigaeth y cofrestrydd i gofnodi鈥檙 pris a dalwyd yn y gofrestr. Ni fydd y cofrestrydd yn cofrestru鈥檙 pris a dalwyd os bydd y cofrestrydd yn ei ystyried yn gamarweiniol, megis pan fydd y gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo. Gweler Absenoldeb cofnod i gael rhagor o wybodaeth am hyn.
3. Pryd y bydd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi鈥檙 pris neu鈥檙 gwerth
Byddwn yn gwneud cofnod yn y gofrestr perchnogaeth pan fydd yn glir bod swm o arian (heblaw rhent o dan brydles) wedi cael ei dalu. Y swm a gofnodir fydd y gwir swm o arian y mae鈥檙 prynwr wedi ei dalu i鈥檙 gwerthwr. Mae鈥檔 bosibl na fydd y swm hwn yr un fath 芒 gwerth marchnadol yr eiddo.
Caiff cofnod ei wneud pan fydd y pris yn cynnwys eiddo arall yn ogystal ag arian.
Os yw鈥檙 gydnabyddiaeth neu鈥檙 premiwm yn cynnwys elfen TAW, byddwn yn cyfeirio at hyn yn y cofnod pris a dalwyd.
Byddwn yn cofnodi鈥檙 pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth a ddatganwyd lle y gellir disgwyl yn rhesymol i鈥檙 ceisydd gael y wybodaeth hon. Byddwn yn disgwyl i鈥檙 wybodaeth fod ar gael yn hawdd i鈥檙 ceisydd lle, er enghraifft:
- y talwyd treth dir y dreth stamp neu dreth trafodiadau tir
- nad yw鈥檙 pris wedi ei ddatgan yn y trosglwyddiad/prydles ond wedi ei gynnwys mewn dogfen ar wah芒n
- cafwyd prisiad profiant
Os ydym yn derbyn cais heb y wybodaeth hon ond byddwn yn disgwyl iddi fod ar gael, byddwn yn gofyn i鈥檙 ceisydd ddarparu鈥檙 pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth. Gallwn ddileu鈥檙 cais os ydym yn credu bod y wybodaeth ar gael yn hawdd ac nid yw wedi ei darparu. Mae hyn oherwydd y rhwymedigaeth statudol sydd ar y cofrestrydd i wneud cofnod.
Ni fyddwn yn gwneud ymholiad am y pris a dalwyd, lle y cyfeirir ato mewn dogfen nad yw wedi ei chyflwyno gyda ni, os yw鈥檙 trosglwyddiad neu brydles wedi eu dyddio cyn 1 Mai 2013, neu ar ffurf y gofynnir amdani鈥檔 benodol mewn cytundeb a luniwyd cyn 1 Mai 2013.
Byddwn yn cofnodi鈥檙 pris a dalwyd hyd yn oes os yw mewn arian cyfred heblaw punt sterling, ond nid ydym yn trosi鈥檙 pris.
4. Os na wneir unrhyw daliad neu os nad oes modd cyfrifo鈥檙 pris
Mewn achosion lle na wneir taliad neu lle na ellir cyfrifo鈥檙 pris, byddwn yn gwneud cofnod gwerth a ddatganwyd. Os nad yw鈥檙 union werth yn hysbys, mae鈥檔 bosibl y gwneir cofnod yn seiliedig ar y wybodaeth a roddwyd i Gofrestrfa Tir EF ar gyfer asesu鈥檙 ff茂oedd.
Felly, gall y cofnod gyfeirio at fand gwerthoedd sy鈥檔 cynnwys gwerth yr eiddo, megis:
鈥淒atgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng 拢xxx a 拢yyy.鈥
Neu鈥檙 gwerth isaf neu鈥檙 uchaf o鈥檙 bandiau isaf neu uchaf, megis:
鈥淒atgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] dros 拢xxx.鈥
Fodd bynnag, byddwn yn hepgor y cofnod pe byddai鈥檔 gamarweiniol, er enghraifft, pan fydd y gwerth a ddatganwyd yn cynrychioli dim ond hanner gwerth yr eiddo.
5. Gostyngiadau a chymhelliannau
Yn aml bydd gwerthwyr yn cynnig gostyngiadau a chymhelliannau i ddarpar brynwyr.
Ystyriwn fod gostyngiad yn swm arian parod a ddiddymwyd o鈥檙 pris prynu. Gall gostyngiad hefyd gael ei gyfeirio ato fel gostyngiad ecwiti, rhodd o flaendal, rhodd o ecwiti neu daliad arian-yn-么l.Pan fydd trafodiad eiddo yn cynnwys gostyngiad, byddwn yn didynnu gwerth y gostyngiad o鈥檙 pris gros ac yn cofnodi鈥檙 pris a dalwyd net (is) yn y gofrestr. Os nad ydym yn gwybod y pris net, byddwn yn gofyn amdano. Er enghraifft, os nodir bod gwerthiant ar gyfer 拢300,000 a bod hyn yn cynnwys blaendal o 拢30,000 a dalwyd gan y gwerthwr, byddem yn cofnodi鈥檙 pris a dalwyd fel 拢270,000.
Os yw cydnabyddiaeth yn cynnwys cymhelliant, ein harfer yw cofnodi鈥檙 pris gros. Ystyriwn fod cymhelliant yn rhywbeth megis cymorth gyda chostau symud, y gwerthwr yn talu costau cyfreithiol neu dreth dir y dreth stamp neu dreth trafodiadau tir, darparu carpedi neu nwyddau gwynion, neu uwchraddio ffitiadau cegin ac ystafell ymolchi oherwydd nid yw鈥檙 rhain yn golygu bod swm yn cael ei ddidynnu o鈥檙 pris gwerthu. Ystyriwn hefyd fod cymorth o dan gynllun Cymorth Prynu (arian a roddir ar fenthyg i brynwr trwy gynlluniau Cymorth Prynu neu Gymorth i Brynu) yn gymhelliant ac nid yn ostyngiad oherwydd mae鈥檔 rhaid iddo gael ei ad-dalu rywbryd yn y dyfodol. Rhaid ichi gofnodi鈥檙 pris a dalwyd yn glir o unrhyw ostyngiad (y gwir swm y mae鈥檙 prynwr wedi ei dalu i鈥檙 gwerthwr) yn y panel cydnabyddiaeth neu gymal penodedig LR7 o brydles cymalau penodedig wrth baratoi trosglwyddiad neu brydles cymalau penodedig. Gallwch gyfeirio at ostyngiad neu gymhelliant ym mhanel darpariaethau ychwanegol trosglwyddiad neu yng nghorff prydles os oes angen. Yn y cyswllt hwn, sylwch fod Ffurflen Datblygu Cyllid y DU yn 鈥榦fferyn鈥 i helpu rhoddwyr benthyg i asesu faint y maent yn barod i鈥檞 roi ar fenthyg, ac ni fydd Cofrestrfa Tir EF yn edrych ar hyn i benderfynu鈥檙 cofnod a wneir.
Gweler Atodiad: enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau i gael enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau.
6. Ffurf y cofnod pan fydd yr union bris neu鈥檙 gwerth yn hysbys
Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.
鈥淒atgenir mai鈥檙 pris a dalwyd ar [dyddiad gwarediad] oedd 拢xxx.鈥
鈥淒atgenir mai鈥檙 pris, ac eithrio鈥檙 rhenti, a dalwyd wrth roi鈥檙 brydles oedd 拢xxx.鈥
鈥淒atgenir mai鈥檙 gwerth ar [dyddiad y cais] oedd 拢xxx.鈥
7. Ffurf y cofnod os asesir y gwerth o lefel y ff茂oedd a dalwyd
Bydd y ffurfiau cofnod canlynol yn ymddangos mewn cofrestri perchnogaeth.
鈥淒atgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] o dan/dros 拢xxx.鈥
鈥淒atgenir bod y gwerth ar [dyddiad y cais] rhwng 拢xxx a 拢yyy.鈥
8. Am faint caiff y wybodaeth ei chadw yn y gofrestr
Bydd y wybodaeth yn aros yn y gofrestr hyd nes bydd newid perchnogaeth eto sy鈥檔 arwain at gofnodi pris neu鈥檙 gwerth newydd. Nid yw鈥檙 cofnod pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth a ddatganwyd yn gamarweiniol dim ond am ei fod yn hanesyddol gan fod dyddiad yn cael ei gofnodi hefyd fel rhan o鈥檙 cofnod yn y gofrestr. Ni fydd y cofnod yn gamarweiniol ychwaith dim ond oherwydd bod gwaith adnewyddu, er enghraifft, wedi cynyddu gwerth yr eiddo ers ei werthu.
9. Dibynadwyedd y wybodaeth
Mae鈥檙 cofnod yn seiliedig ar y wybodaeth a roddir inni. Mae鈥檔 bosibl na fydd yn cynrychioli gwerth marchnadol llawn yr eiddo. Mae鈥檙 cofnod yn egluro bod y ffigur a nodir yn seiliedig ar yr hyn a ddywedwyd wrthym. Ni fyddwn yn ei wirio. Mewn rhai achosion, mae鈥檔 bosibl na fydd yn cynrychioli鈥檙 darlun cyflawn. Er enghraifft, pan fydd y part茂on yn gysylltiedig 芒鈥檌 gilydd gallai fod llawer o resymau pam nad gwerth llawn yr eiddo yw鈥檙 pris a dalwyd neu pan fydd trosglwyddiad neu brydles yn cyfeirio at ddisgownt neu daliad arian-yn-么l, byddwn yn cofnodi鈥檙 gwerth isaf neu鈥檙 gwerth net.
10. Absenoldeb cofnod
Os cewch gais wedi ei gwblhau yn 么l, a sylwi ar gamgymeriad yn y pris a dalwyd, rhowch wybod inni, gan ddefnyddio鈥檙 ffurflen gysylltu ar-lein yn ddelfrydol, i roi gwybod am gamgymeriad mewn cais wedi ei gwblhau. Os oedd y pris a dalwyd yn anghywir yn y weithred a gyflwynwyd i鈥檞 chofrestru fodd bynnag, bydd angen ichi wneud cais i newid y gofrestr o dan Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a thalu鈥檙 ffi briodol. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy鈥檔 peri gwarediadau tir cofrestredig am ragor o wybodaeth.
Nid yw鈥檙 ffaith nad yw鈥檙 cofnod pris a dalwyd i鈥檞 weld yn y gofrestr o reidrwydd yn golygu y gwnaethpwyd rhodd o鈥檙 eiddo. Gallai鈥檙 wybodaeth pris a dalwyd a ddarparwyd fod yn gamarweiniol (am ryw rheswm yn gysylltiedig 芒 natur y trafodiad o dan sylw), neu efallai nad oedd y pris yn hawdd ei ganfod. Mae hefyd yn bosibl bod Cofrestrfa Tir EF wedi derbyn y cais i gofrestru鈥檙 newid perchnogaeth cyn 1 Ebrill 2000 (sef pryd y dechreuom gofnodi鈥檙 pris a dalwyd yn y gofrestr) neu y byddai rhyw agwedd ar y trafodiad yn gwneud cofnod y gwerth a ddatganwyd yn gamarweiniol.
Enghreifftiau o pryd na fyddwn efallai鈥檔 gwneud cofnod yw:
- trosglwyddiadau o gyfranddaliadau (lle y rhoddir gwerth y cyfranddaliad yn unig)
- trosglwyddiadau sy鈥檔 ddarostyngedig i bridiant
- dim ond rhan o鈥檙 eiddo sy鈥檔 cael ei gaffael ar farwolaeth cydberchennog
- prynu rhydd-ddaliad gan y prydleswr presennol sy鈥檔 gwneud cais i uno ei brydles
- trosglwyddiadau sy鈥檔 cyfeirio yn y panel cydnabyddiaeth at arian prynu heb ei dalu neu rwymedigaethau i dalu symiau pellach
- trosglwyddiadau sy鈥檔 cynnwys mwy na 5 theitl ac nid yw鈥檙 gydnabyddiaeth wedi cael ei dosrannu
- trosglwyddiad mewn setliad o ddyled, trwy gyfrwng dosbarthiad in specie neu mewn cydnabyddiaeth o gyfranddaliadau
Yn yr achosion hyn, ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod o鈥檙 newydd o鈥檙 pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth a ddatganwyd ond byddwn yn cadw unrhyw gofnod pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth a ddatganwyd presennol.
11. Gwybodaeth a gyhoeddir gan Gofrestrfa Tir EF
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cyhoeddi gwybodaeth grynswth am brisiau eiddo preswyl. Rydym yn darparu gwybodaeth grynswth hefyd i lefel sector post ac er Chwefror 2012 rydym wedi cyhoeddi data misol ar y pris a dalwyd ar gyfer gwerthiannau eiddo preswyl unigol. Er Hydref 2015 rydym hefyd wedi cyhoeddi鈥檔 fisol y pris a dalwyd am drosglwyddiadau o dan b诺er gwerthu/adfeddiannau, prynu-i-werthu (lle y gellir eu hadnabod gan forgais) a throsglwyddiadau i unigolion nad ydynt yn breifat. Nid ydym yn bwriadu cyhoeddi gwybodaeth grynswth yn ymwneud ag eiddo masnachol. Gallwch gael copi o gofrestr eiddo unigol trwy wneud cais am gopi swyddogol o鈥檙 cofrestriad teitl perthnasol.
12. Gwybodaeth gefndir
Cyn 1 Ebrill 2000, roedd Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi鈥檙 pris a dalwyd yn y gofrestr ond dim ond pan gafwyd cais i wneud hyn. Yn dilyn ymgynghoriad yn 1997, penderfynodd yr Arglwydd Ganghellor fabwysiadu cynnig i ddiwygio鈥檙 Rheolau Cofrestru Tir fel y dylai pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth gael ei gofnodi bob amser yn y gofrestr pan fo鈥檔 ymarferol i wneud hynny.
Ystyriwyd y mater o breifatrwydd yn ofalus iawn. Fodd bynnag, mewn nifer o wledydd, roedd y pris a dalwyd am eiddo arbennig eisoes yn gofnod cyhoeddus, yn fwyaf nodedig yn yr Alban er 1617, ac nid oedd yn ymddangos fod hyn wedi achosi unrhyw broblemau. O dan rai amgylchiadau roedd y pris a dalwyd eisoes yn gyhoeddus trwy ffynonellau eraill, megis lle cafodd yr eiddo ei werthu mewn arwerthiant. Ystyririwyd bod manteision cael y wybodaeth hon yn drech na鈥檙 dadleuon ynghylch preifatrwydd. Mae cofnodi鈥檙 pris a dalwyd neu鈥檙 gwerth yn y gofrestr yn cydymffurfio 芒 deddfwriaeth hawliau dynol a diogelu data.
13. Cael gwybodaeth am y pris a dalwyd ar gyfer eiddo penodol
I gael gwybodaeth am y pris a dalwyd am eiddo, dylech archebu copi swyddogol o鈥檙 gofrestr.
Gweler cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a chais am gop茂au swyddogol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais.
14. Atodiad: enghreifftiau o ostyngiadau a chymhelliannau
14.1 Enghraifft 1
Mae panel 9 o ffurflen TP1 yn datgan 鈥淢ae鈥檙 trosglwyddwr wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddai am yr eiddo y swm o 拢403,000 ac mae鈥檙 trosglwyddai wedi derbyn oddi wrth y trosglwyddwr y cymhelliannau鈥.
Mae鈥檙 trosglwyddiad yn datgan bod y cymhelliannau yn 鈥溌1,500 tuag at gostau cyfreithiol a 拢20,000 tuag at y blaendal鈥.
Byddai angen ichi gadarnhau ai鈥檙 pris a dalwyd a nodir ym mhanel 9 o鈥檙 ffurflen TP1 o 拢403,000 yw鈥檙 gwerth gros neu鈥檙 gwerth net a dalwyd. Os mai鈥檙 pris a nodir yw鈥檙 pris gros, bydd yn rhaid inni ddidynnu 拢20,000, oherwydd ystyrir fod hwn yn ostyngiad. Dylai鈥檙 拢1,500 tuag at y costau cyfreithiol gael ei gynnwys yn y pris a dalwyd oherwydd ei fod yn gymhelliant.
14.2 Enghraifft 2
Y gydnabyddiaeth yn y trosglwyddiad yw 鈥溌180,000 llai鈥檙 cymhelliannau ariannol y cyfeirir atynt yng nghymal 1.2 o鈥檙 contract ar gyfer gwerthu dyddiedig [ ] ac a waned rhwng y trosglwyddwr a鈥檙 trosglwyddai鈥.
Mae鈥檙 contract ar gyfer gwerthu yn cyfeirio at 鈥済ymhelliant ariannol a roddir gan y gwerthwr i鈥檙 prynwr: blaendal a dalwyd 拢9,050鈥.
Byddwn yn didynnu鈥檙 鈥渃ymhelliant ariannol鈥 hwn o鈥檙 gydnabyddiaeth, gan gofnodi 拢170,950 fel y pris a dalwyd. Yn ein barn ni mae hwn yn ostyngiad mewn gwirionedd. Ni all gwerthwr dalu blaendal i鈥檞 hunan 鈥 i bob pwrpas mae鈥檔 lleihau neu鈥檔 diystyru鈥檙 pris gwerthu er mwyn peidio 芒 chynnwys swm a fyddai wedi cael ei dalu fel rheol fel y blaendal.
14.3 Enghraifft 3
Mae鈥檙 premiwm yng nghymal LR7 o brydles yn datgan 鈥溌807,500 sy鈥檔 cynnwys 拢792,500 ar gyfer y fflat a 拢15,000 ar gyfer y dodrefn a鈥檙 ffitiadau鈥. Nid yw鈥檙 swm ar gyfer y dodrefn a鈥檙 ffitiadau yn gymhelliant oherwydd mae鈥檙 tenant yn talu am yr eitemau hyn. Yn seiliedig ar hyn, byddwn yn cofnodi鈥檙 pris a dalwyd fel 拢792,500.
15. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.