Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 29: cofrestru arwystlon cyfreithiol a gweithredoedd amrywio arwystl

Diweddarwyd 6 Mai 2025

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae modd gwneud arwystl ar ffurflen CH1 yn unol 芒 rheol 103 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Nid yw鈥檙 ffurflen hon yn benodedig a gall rhoddwyr benthyg ddefnyddio arwystl wedi ei deilwrio i鈥檞 gofynion arbennig eu hunain.

2. Ffurfiau arwystl cymeradwy

Gall rhoddwyr benthyg gael eu holl ffurfiau arwystl wedi eu cymeradwyo gan yr Adran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF. Daw鈥檙 manteision canlynol o gymeradwyo arwystlon.

  • Nid oes angen ffurflen RX1 ar wah芒n i gofrestru cyfyngiad safonol y gwneir cais amdano yn yr arwystl
  • Nid oes angen ffurflen CH2 ar wah芒n i gofrestru ymrwymiad i roi benthyciadau pellach y gwneir cais amdano yn yr arwystl
  • Byddwn yn creu codau cyfrifiadurol ar gyfer rhoddwyr benthyg sydd 芒 ffurfiau arwystl cymeradwy a fydd yn sicrhau bod eu henwau a chyfeiriad(au) ar gyfer gohebu y cytunwyd arnynt a chofnodion cyfyngiadau ac ymrwymiad priodol yn cael eu cofnodi鈥檔 gywir yn y gofrestr bob amser

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais am fanylion y broses gymeradwyo.

3. Cais i gofrestru arwystl

I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad 鈥arwystl鈥 neu 鈥arwystl o ran鈥 yn eich cais ac uwchlwytho copi ardystiedig o ffurflen arwystl y rhoddwr benthyg ei hunan neu ffurflen CH1 wedi ei llenwi.

Os yw鈥檙 arwystl gan endid tramor, bydd yn rhaid iddo gydymffurfio 芒鈥檙 gofynion yn Neddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022. I gael gwybodaeth am y Ddeddf hon a thystiolaeth y mae鈥檔 rhaid ei darparu i Gofrestrfa Tir EF, gweler cyfarwyddyd ymarfer 78: endidau tramor.

Rhaid i arwystl o ran gynnwys cynllun yn nodi鈥檙 eiddo, oni bai y gellir ei adnabod yn glir ar gynllun teitl yr arwystlwr, pryd gellir ei ddisgrifio trwy gyfeirio at y cynllun teitl hwnnw. Os yw鈥檙 arwystl yn cynnwys cynllun, rhaid i鈥檙 cymerwr benthyg lofnodi鈥檙 cynllun.

Sylwer y diwygiwyd ffurflen CH1 ar 1 Awst 2022 gan Reolau Cofrestru Tir (Newidiad) 2022 i鈥檞 gwneud yn ofynnol i ddarparu rhif adnabod endid tramor wrth wneud cais i gofrestru arwystl cyfreithiol gan endid tramor. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am hyn yng nghyfarwyddyd ymarfer 78 hefyd. Pan fo arwystl ar ffurf arwystl y rhoddwr benthyg ei hunan, rhaid uwchlwytho rhif adnabod endid tramor y cymerwr benthyg gyda鈥檙 cais.

Nid oes angen uwchlwytho unrhyw ddogfennau morgais corfforedig trwy gyfeiriad yn yr arwystl ei hunan (er enghraifft, rheolau cymdeithas adeiladu, amodau morgais, neu gytundeb benthyciad).

Trefn arwystlon cofrestredig, rhyngddynt eu hunain, yw鈥檙 drefn y c芒nt eu cofnodi mewn cofrestr unigol (adran 48(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, rheol 101 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, mae hyn yn ddarostyngedig i 鈥済ofnod yn y gofrestr unigol i鈥檙 gwrthwyneb鈥. Os ydych am inni wneud cofnod wrth gofrestru arwystl i鈥檙 perwyl bod gan yr arwystl flaenoriaeth dros arwystl cofrestredig sy鈥檔 bodoli, dylech nodi鈥檔 glir yn y cais trwy ddarparu cadarnhad ysgrifenedig eich bod am wneud cofnod o鈥檙 fath fel rhan o鈥檙 cais. Mae鈥檙 canlynol yn enghraifft pryd y byddech, o bosibl, am wneud cofnod o鈥檙 fath.

  • Mae arwystl A yn cael ei greu cyn arwystl B (felly mae gan arwystl A flaenoriaeth dros arwystl B, fel y cyntaf o ran amser 鈥 adran 28(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
  • Caiff rhybudd ei gofnodi yn y gofrestr o ran arwystl A.
  • Wedi hynny, y mae arwystl B yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad 鈥 bryd hyn, effaith nodi arwystl A yw bod ei flaenoriaeth yn cael ei gwarchod fel pe bai yn erbyn arwystl B (adran 29(2)(a)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).
  • Yn hwyrach, mae arwystl A hefyd yn cael ei gwblhau trwy gofrestriad.

Gellir dadlau bod cadw鈥檙 rhybudd o ran arwystl A gyfwerth 芒 鈥渃hofnod yn y gofrestr unigol i鈥檙 gwrthwyneb鈥 ac felly鈥檔 caniat谩u i arwystl A gadw ei flaenoriaeth dros arwystl B. Ond efallai yr hoffech hefyd, wrth wneud cais i gofrestru arwystl A, wneud cais am gofnod sy鈥檔 darparu鈥檔 benodol i arwystl A gael blaenoriaeth dros arwystl B. Mae鈥檔 debygol y byddwn yn anfon rhybudd o wrthwynebiad ar berchennog arwystl B cyn gwneud cofnod o鈥檙 fath.

Ni fyddwn yn tynnu ymaith y rhybudd o ran arwystl yn awtomatig wrth gwblhau grant yr arwystl hwnnw trwy gofrestriad wedi hynny, ond byddai鈥檔 ddoeth, wrth wneud cais i gofrestru鈥檙 arwystl, i nodi鈥檔 glir bod y rhybudd i barhau yn y gofrestr, er mwyn i hyn ddigwydd; gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a chofnodi buddion trydydd parti yn y gofrestr.

Os gwneir cais unigol i gofrestru dau arwystl neu ragor ar yr un pryd, i鈥檞 cofrestru gyda threfn flaenoriaeth sy鈥檔 wahanol i鈥檞 dyddiadau creu, sicrhewch eich bod yn nodi trefn y flaenoriaeth yn glir wrth wneud y cais. Mewn achosion o鈥檙 fath, bydd ein systemau gwaith cais yn gosod arwystlon yn nhrefn dyddiad, a chaiff trefn y flaenoriaeth ei hadlewyrchu gan y nodiadau sy鈥檔 cael eu hychwanegu at gofnodion yr arwystl i gadarnhau鈥檙 drefn mae鈥檙 arwystlon yn graddio rhyngddynt eu hunain (yn unol 芒 rheol 101 Rheolau Cofrestru Tir 2003).

4. Arwystlon gan gwmn茂au a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig

I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad 鈥arwystl鈥 neu 鈥arwystl o ran鈥 yn eich cais ac uwchlwytho copi ardystiedig o ffurflen arwystl y rhoddwr benthyg ei hunan neu ffurflen CH1 wedi ei llenwi. Ni ddylid golygu鈥檙 weithred arwystl mewn unrhyw ffordd.

Ar gyfer arwystlon a gr毛wyd gan gwmn茂au a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn y Deyrnas Unedig ar neu ar 么l 6 Ebrill 2013, a lle y cyflwynir y cais gan drawsgludwr, rhaid ichi uwchlwytho鈥檙 canlynol hefyd:

  1. Copi o鈥檙 dystysgrif gofrestru a gyhoeddwyd gan D欧鈥檙 Cwmn茂au, a

  2. Cadarnhad ysgrifenedig neu dystysgrif gan y cwmni, rhoddwr benthyg neu drawsgludwr bod yr arwystl a gyflwynwyd i鈥檞 gofrestru yn:

  • gopi ardystiedig o鈥檙 arwystl gwreiddiol, o鈥檙 hwn y ffeiliwyd copi ohono (neu gopi golygedig o dan adran 859G o Ddeddf Cwmn茂au 2006) yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au
  • copi ardystiedig o鈥檙 arwystl y mae鈥檙 dystysgrif cofrestru a amgaewyd yn berthnasol iddo

Os ydych yn cyflwyno鈥檙 cais i鈥檙 Gwasanaeth Cofrestru Digidol, mae鈥檙 dystiolaeth ym mhwynt 2 uchod yn cael ei chadarnhau fel rhan o鈥檙 broses ymgeisio.

Os nad ydych yn cyflwyno鈥檙 dystysgrif cofrestru briodol yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au a鈥檙 cadarnhad ysgrifenedig neu dystysgrif ychwanegol, byddwn yn gwneud nodyn i鈥檙 cofnod yn y gofrestr yn datgan bod yr arwystl yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 859A o Ddeddf Cwmn茂au 2006 (rheol 111 o Reolau Cofrestru Tir 2003). I gael gwared ar y nodyn, bydd angen cais arnom wedi ei gefnogi gan gopi o orchymyn y llys yn estyn yr amser ar gyfer y cofrestriad lle nad oedd y cofrestriad yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au o fewn 21 diwrnod (ar gyfer arwystlon dyddiedig cyn 6 Mehefin 2020 neu ar neu ar 么l 5 Ebrill 2021) neu 31 diwrnod (ar gyfer arwystlon a gr毛wyd ar neu ar 么l 6 Mehefin 2020 a hyd at 4 Ebrill 2021) o ddyddiad yr arwystl.

Os nad yw trawsgludwr yn cyflwyno鈥檙 cais, bydd angen copi o鈥檙 arwystl a gynhyrchwyd gan D欧鈥檙 Cwmn茂au arnom hefyd, gyda鈥檙 cod adnabod unigryw ar gyfer yr arwystl arno, a ddylai gyfateb 芒鈥檙 cod ar y dystysgrif cofrestru.

4.1 Arwystlon sy鈥檔 cynnwys cynlluniau

Os yw鈥檙 arwystl yn cynnwys cynllun, dim ond cynllun o faint A4 y bydd T欧鈥檙 Cwmn茂au yn ei dderbyn i鈥檞 ffeilio鈥檔 electronig. Lle y mae鈥檙 cynllun yn fwy, bydd yn rhaid ichi leihau maint y cynllun a atodwyd at y copi o鈥檙 arwystl a ffeiliwyd yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwch newid eich datganiad ysgrifenedig neu dystysgrif i ddweud mai鈥檙 arwystl a gyflwynwyd i鈥檞 gofrestru yw鈥檙:

  • arwystl gwreiddiol o鈥檙 hwn y mae copi (neu gopi golygedig o dan adran 859G o Ddeddf Cwmn茂au 2006) wedi ei ffeilio yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au, ac eithrio bod y cynllun a ffeiliwyd wedi ei leihau mewn maint i gwrdd 芒 gofynion ffeilio T欧鈥檙 Cwmn茂au
  • arwystl i鈥檙 hwn y mae鈥檙 dystysgrif cofrestru a amgaewyd yn gysylltiedig

4.2 Arwystlon sydd wedi eu heithrio rhag cofrestriad yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au

Nid yw鈥檙 gofyniad i gofrestru yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au yn gymwys i:

  • arwystl o blaid landlord ar flaendal ariannol a roddir fel sicrwydd ar brydles tir
  • arwystl a gr毛wyd gan aelod o Lloyd鈥檚 (o fewn ystyr Deddf Lloyd鈥檚 1982) i sicrhau ei ymrwymiadau mewn perthynas 芒鈥檌 fusnes yswiriant yn Lloyd鈥檚
  • arwystl na chafodd ei gynnwys yng nghais adran 859A o Ddeddf Cwmn茂au 2006 neu o dan unrhyw Ddeddf arall

(Sylwer: Nid oes yn rhaid cofrestru arwystlon a gr毛wyd gan gwmn茂au tramor ar neu ar 么l 1 Hydref 2011 yn Nh欧鈥檙 Cwmn茂au ac ni fydd darpariaethau rheol 111A o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn gymwys chwaith.)

5. Cais i gofnodi cyfyngiad

Rhaid gwneud cais am gyfyngiad ar ffurflen RX1 oni bai fod y cais am ffurf safonol o gyfyngiad ac yn cael ei wneud ym mhanel 8 ffurflen CH1, neu ei fod am ffurf safonol o gyfyngiad ar ffurf arwystl cymeradwy (rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Nid oes ffi yn daladwy o ran y cyfyngiad os cyflwynir y cais i鈥檞 gofnodi gyda鈥檙 cais i gofrestru鈥檙 arwystl y mae鈥檔 berthnasol iddo.

Yn gyffredinol, bydd unrhyw gofnod cyfyngiad sy鈥檔 ymwneud yn benodol 芒鈥檙 arwystl sy鈥檔 cael ei ryddhau gennych yn cael ei ddileu鈥檔 awtomatig pan gaiff yr arwystl ei ryddhau. Fodd bynnag, os nad yw cyfyngiad o blaid y rhoddwr benthyg yn cyfeirio鈥檔 benodol at yr arwystl sy鈥檔 cael ei ryddhau, rhaid tynnu鈥檙 cyfyngiad hwnnw鈥檔 么l ar wah芒n ar ffurflen RX4 gyda鈥檙 cais i gofrestru鈥檙 rhyddhad. Os na chyflwynir ffurflen RX4, bydd y cyfyngiad yn aros yn y gofrestr.

Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

6. Cais i nodi yn y gofrestr ymrwymiad rhoddwr benthyg i roi benthyciadau pellach

Rhaid gwneud cais i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach mewn arwystl nad yw鈥檔 gymeradwy neu nad yw ar ffurflen CH1 ar ffurflen CH2 neu banel 8 o ffurflen (rheol 108 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Rhaid i鈥檙 rhoddwr benthyg neu ei drawsgludwr wneud y cais. Nid oes ffi yn daladwy os cyflwynir y cais i nodi ymrwymiad rhoddwr benthyg gyda chais i gofrestru鈥檙 arwystl y mae鈥檔 berthnasol iddo.

Os na chyflwynir y cais ochr yn ochr 芒鈥檙 arwystl cysylltiedig, gwnewch gais trwy gynnwys y trafodiad 鈥榬hwymedigaeth i wneud blaenswm pellach鈥 yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen CH2. Bydd ffi sefydlog yn ddyledus yn unol ag Atodlen 3, Rhan 1(1)(d) y Gorchymyn Ffi.

7. Cais i nodi鈥檙 swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl

O dan reol 109 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gallwch wneud cais i nodi cytundeb yn y gofrestr am y swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl.

Hyd yn oed os caiff swm o鈥檙 fath ei ddatgan yn yr arwystl ei hun, heb ystyried a gafodd yr arwystl ei gymeradwyo鈥檔 flaenorol gennym ni, neu mewn gweithred amrywio ddilynol, rhaid ichi wneud cais i nodi鈥檙 swm uchaf ar ffurflen CH3. I wneud cais, dylech gynnwys y trafodiad 鈥榰chafswm gwarant y cytunwyd arno鈥 yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen CH3.

Os yw cytundeb diweddarach yn cael ei wneud i newid y swm uchaf a nodwyd yn y gofrestr, gallwch gyflwyno cais pellach ar ffurflen CH3, ynghyd 芒鈥檙 ffi briodol. Byddwn yn gwneud cofnod ychwanegol yn y gofrestr o ran y swm newydd, ond bydd y cofnod gwreiddiol yn aros ar y gofrestr.

8. Cydgrynhoi arwystl

Os yw arwystl yn cynnwys hawl cydgrynhoi gydag arwystl penodol arall, ni fyddwn yn gwneud cofnod ar y gofrestr, oni bai eich bod yn gwneud cais penodol gan ddefnyddio ffurflen CC yn unol 芒 rheol 110 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

I wneud cais, dylid cynnwys y trafodiad 鈥榗yfuno arwystl鈥 yn eich cais ac uwchlwytho ffurflen CC.

9. 贵蹿茂辞别诲诲

Mae ffi yn daladwy yn 么l y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: 贵蹿茂辞别诲诲 Gwasanaethau Cofrestru).

Nid oes dim i鈥檞 dalu os caiff yr arwystl ei gyflwyno ar yr un pryd neu cyn cwblhau rhai mathau o geisiadau lle talwyd eisoes. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir.

10. Dogfennau a gyhoeddir wrth gwblhau

Yr unig ddogfennau y byddwn yn eu cyhoeddi wedi cwblhau cais i gofrestru arwystl yw:

  • copi swyddogol o鈥檙 gofrestr yn dangos y cofnodion sydd yn y gofrestr wrth gwblhau eich cais
  • 鈥渢aflen cwblhau鈥檙 gofrestr鈥 sy鈥檔 cadarnhau y cwblhawyd eich cais ac sy鈥檔 egluro pwysigrwydd cadw gwybodaeth y gofrestr yn gyfredol

11. Gohiriad arwystl

I wneud cais i gofrestru gohiriad arwystl, dylech gynnwys y trafodiad 鈥arwystl gohirio鈥 yn eich cais ac uwchlwytho copi ardystiedig o鈥檙 llythyr neu weithred ohirio.

11.1 Gohirio trwy lythyr

Rhaid i鈥檙 llythyr gohirio fod:

  • ar bapur pennawd y rhoddwr benthyg sy鈥檔 gohirio ei arwystl
  • wedi ei lofnodi gan y rhoddwr benthyg sy鈥檔 gohirio ei arwystl
  • wedi ei gyfeirio at naill ai Cofrestrfa Tir EF neu at y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth.

Nid oes yn rhaid i鈥檙 llythyr gael ei lofnodi naill ai gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth neu berchennog cofrestredig y tir.

Gweler isod am lofnodwyr derbyniol.

Rhoddwr benthyg Llofnodwyr derbyniol
Banc neu gymdeithas adeiladu Dylai鈥檙 llofnodwr roi ei statws neu safle a ddylai fod yn gyfarwyddwr, ysgrifennydd, cyfreithiwr neu reolwr. Byddwn hefyd yn derbyn y llythyr os yw鈥檙 llofnodwr yn cadarnhau ei fod yn llofnodwr awdurdodedig.
Cwmni Dylai鈥檙 llofnodwr fod yn ysgrifennydd y cwmni, cyfarwyddwr neu gyfreithiwr y cwmni.
Y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol Dylai鈥檙 llofnodwr fod yn berson sy鈥檔 dal safle, neu safle gyfwerth 芒 Gradd 7 neu uwch y Gwasanaeth Sifil.
Awdurdod lleol Y Prif Weithredwr ddylai lofnodi, neu gyfreithiwr neu rywun sy鈥檔 cadarnhau bod ganddo awdurdod wedi ei ddirprwyo i lofnodi o dan benderfyniad gan yr awdurdod lleol a dyddiad yr awdurdod a ddirprwywyd.

11.2 Gohirio trwy weithred

Rhaid i鈥檙 weithred gael ei chyflawni鈥檔 ddilys gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn cael ei ohirio. Nid oes yn rhaid iddo gael ei gyflawni gan y rhoddwr benthyg y mae ei arwystl yn ennill blaenoriaeth neu berchennog cofrestredig y tir.

11.3 Ffioedd

Mae ffi sefydlog yn daladwy o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir oni bai bod y gohiriad yn cael ei gyflwyno ar yr un pryd 芒 chais y talwyd ffi ar raddfa neu ffi sefydlog ar ei gyfer (gweler Cofrestrfa Tir EF: 贵蹿茂辞别诲诲 Gwasanaethau Cofrestru).

11.4 Cydsynio i gyfyngiad

Os oes cyfyngiad Ffurf P yn y gofrestr o blaid y rhoddwr benthyg sy鈥檔 gohirio, nid oes angen caniat芒d ar wah芒n i gofrestru:

  • y gohiriad ei hun
  • cofrestriad arwystl newydd sy鈥檔 cymryd blaenoriaeth yr arwystl sy鈥檔 cael ei ohirio.

Mae caniat芒d yn cael ei ymhlygu trwy lofnodi neu weithredu鈥檙 gohiriad. Mae鈥檙 rhan fwyaf o gyfyngiadau arwystlai ar Ffurf P.

Os oes cyfyngiad yn y gofrestr o blaid y rhoddwr benthyg sy鈥檔 gohirio ar Ffurf N neu Ffurf T:

  • lle y mae鈥檙 cyfyngiad yn gofyn am ganiat芒d ysgrifenedig unigolyn penodol (ysgrifennydd neu drawsgludwr yr arwystlai fel arfer), mae gohiriad wedi ei gyflawni neu wedi ei lofnodi gan yr unigolyn hwnnw鈥檔 dderbyniol fel tystiolaeth o ganiat芒d. Os yw鈥檙 gohiriad yn cael ei gyflawni neu ei lofnodi gan unigolyn gwahanol, mae angen caniat芒d ar wah芒n
  • lle y mae鈥檙 cyfyngiad wedi ei eirio fel ei fod yn gofyn am ganiat芒d ysgrifenedig 鈥渨edi ei lofnodi gan [enw鈥檙 cwmni] o [cyfeiriad]鈥 nid oes angen caniat芒d ar wah芒n os yw鈥檙 cwmni a enwyd yn y cyfyngiad wedi cyflawni neu lofnodi鈥檙 gohiriad.

11.5 Cofnodion y gofrestr

12.5.1 Gohirio un arwystl cofrestredig i un arall

Mae blaenoriaethau鈥檙 arwystlon dyddiedig [dyddiad] [o blaid 鈥︹ a [dyddiad] [o blaid 鈥 ..] y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12.5.2 Gohirio arwystl a gytunwyd neu arwystl unochrog sy鈥檔 gwarchod budd ariannol i arwystl cofrestredig dilynol

Mae鈥檙 blaenoriaethau rhwng yr arwystl cofrestredig dyddiedig [dyddiad] [o blaid 鈥.] y cyfeirir ato uchod a鈥檙 [math o fudd, er enghraifft 鈥arwystl ecwit茂ol鈥漖 o blaid [enw鈥檙 buddiolwr] sy鈥檔 cael eu gwarchod gan y rhybudd y cyfeirir at uchod hefyd wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12.5.3 Gohirio 鈥 Gweithred Blaenoriaeth Cymorth Prynu

Mae鈥檙 blaenoriaethau rhwng yr arwystlon dyddiedig [dyddiad] [o blaid 鈥.] a [dyddiad] [o blaid 鈥 y cyfeirir atynt uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad] a ysgogwyd gan femorandwm cais dyddiedig [dyddiad].

12.5.4 Gohirio arwystl disgownt

Mae鈥檙 blaenoriaethau rhwng yr arwystl disgownt y cyfeirir ato uchod a鈥檙 arwystl dyddiedig [dyddiad] [o blaid 鈥 y cyfeirir ato uchod wedi cael eu newid gan [llythyr/gweithred] dyddiedig [dyddiad].

12. Gweithredoedd amrywio arwystl cofrestredig

12.1 Cyffredinol

Dylech wneud cais i gofrestru gweithred amrywio gan gynnwys y trafodiad 鈥榓mrywio arwystl鈥 ac uwchlwytho copi ardystiedig o鈥檙 weithred.

Bydd ein Hadran Trefniadau Masnachol ym Mhrif Swyddfa Cofrestrfa Tir EF yn cymeradwyo gweithredoedd amrywio ar gais. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 30: cymeradwyo dogfennau morgais i gael rhagor o wybodaeth.

Ni allwch wneud cais am gyfyngiad nac am gofnod i ddangos bod ymrwymiad ar roddwr benthyg i roi benthyciadau pellach mewn gweithred amrywio. Os oes angen y cofnodion hyn arnoch, rhaid ichi wneud ceisiadau ar wah芒n ar ffurflen RX1 a ffurflen CH2 yn 么l eu trefn.

12.2 Cyflawni

Er bod yn rhaid i鈥檙 cymerwr benthyg gyflawni鈥檙 weithred amrywio, nid oes unrhyw ofyniad bod y rhoddwr benthyg yn gwneud yr un fath. Byddwn yn derbyn y bydd y rhoddwr benthyg yn rhwym o dan delerau鈥檙 amrywiad os yw naill ai鈥檙 rhoddwr benthyg neu ymarferydd yn gweithredu ar ran y rhoddwr benthyg yn cyflwyno鈥檙 weithred.

Mae鈥檔 ofynnol o dan reol 113 o Reolau Cofrestru Tir 2003 eich bod yn gwneud cais i gofrestru gweithred amrywio gyda chaniat芒d perchennog unrhyw arwystl cofrestredig (a pherchennog unrhyw is-arwystl sy鈥檔 deillio鈥檔 uniongyrchol neu鈥檔 anuniongyrchol o鈥檙 arwystl) o flaenoriaeth gyfartal neu is na鈥檙 arwystl sy鈥檔 cael ei amrywio, os yw telerau鈥檙 amrywiad yn effeithio鈥檔 niweidiol ar y rhoddwr benthyg arall, oni bai fod y perchennog hwnnw wedi cyflawni鈥檙 weithred eu hunan neu os nad oes angen y caniat芒d o dan delerau ei arwystl neu is-arwystl.

Ein barn yw nad yw newidiadau i鈥檙 mathau canlynol yn effeithio鈥檔 niweidiol ar arwystl (a鈥檙 is-arwystl ohono) sydd 芒 blaenoriaeth gyfartal neu is.

  • gostyngiad yn y gyfradd log
  • gostyngiad yn y ddyled gyfalaf

Fodd bynnag, ystyriwn fod unrhyw newidiadau sydd naill ai鈥檔:

  • cynyddu鈥檙 gyfradd log
  • cynyddu鈥檙 cyfalaf
  • ymestyn cyfnod yr arwystl ac unrhyw is-arwystl ohono cynharach
  • creu ymrwymiad i roi benthyciadau pellach, o fath all effeithio er gwaeth ar unrhyw arwystl (ac unrhyw is-arwystl ohono) gyda blaenoriaeth gyfartal neu is

O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i berchennog unrhyw arwystl (ac is-arwystl) sy鈥檔 cael ei effeithio er gwaeth gyflawni鈥檙 weithred; neu roi caniat芒d ysgrifenedig i gofrestru鈥檙 weithred amrywio. Rhaid ichi gyflwyno鈥檙 caniat芒d, neu dystysgrif trawsgludwr ei fod yn dal y caniat芒d gofynnol, gyda鈥檙 cais am weithred amrywio.

Fel arall, gall perchennog unrhyw arwystl o鈥檙 fath gadarnhau nad yw鈥檔 ystyried bod telerau鈥檙 amrywiad yn effeithio er gwaeth ar ei arwystl neu is-arwystl ac, o ganlyniad, ei fod yn teimlo nad oes angen iddo gyflawni鈥檙 weithred na chyflwyno caniat芒d.. Fodd bynnag, yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth, ni fyddwn yn gwneud ymholiad. Yn lle hynny, byddwn yn gwneud cofnod heb warant yn y gofrestr fel a ganlyn:

鈥淢ae gweithred ddyddiedig __ a wnaed rhwng __ yn mynegi newid telerau鈥檙 Arwystl dyddiedig __ y cyfeiriwyd ato uchod.

NODYN: Copi yn y ffeil鈥.

12.3 贵蹿茂辞别诲诲

Mae ffi yn daladwy yn 么l y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: 贵蹿茂辞别诲诲 Gwasanaethau Cofrestru).

13. Morgeisi digidol

Gweithred morgais sydd wedi ei chreu, ei llofnodi a鈥檌 dyddio鈥檔 electronig gan ddefnyddio gwasanaeth morgais digidol Cofrestrfa Tir EF, sy鈥檔 rhan o rwydwaith Cofrestrfa Tir EF o dan adran 92 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yw morgais digidol. Gwneir y morgais digidol o dan adran 91 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, a (chyn 6 Ebrill 2018) o dan Reolau Cofrestru Tir (Trawsgludo Electronig) 2008. Ar 6 Ebrill 2018 ac ar 么l hynny, di-rymir y Rheolau hynny, a bydd rheolau 54A i D o Reolau Cofrestru Tir 2003 (fel y鈥檜 diwygiwyd) yn berthnasol. Mae hyn yn golygu y bydd y morgeisi digidol a gr毛ir trwy鈥檙 gwasanaeth morgais digidol yn cael eu hystyried ar gyfer pob diben deddfwriaethol fel gweithredoedd.

Ni fydd angen tystio morgeisi digidol, gan fod y broses llofnod electronig, i bob pwrpas, yn gweithredu fel system notar茂ol ar-lein. Caiff hunaniaeth y cymerwr benthyg ei gwirio cyn ei llofnodi a chaiff y llofnod ei ardystio.

Er bod y weithred morgais digidol yn gwbl electronig, bydd modd cael cop茂au swyddogol o鈥檙 weithred ar ffurf PDF, unwaith y bydd wedi ei chofrestru. Mae gweithred morgais ddigidol yn wahanol i weithred morgais ar bapur mewn sawl ffordd:

  • mae ganddi鈥檙 pennawd 鈥楧igital Mortgage Deed鈥
  • mae鈥檔 cynnwys y datganiad: 鈥淭his charge takes effect when the registrar receives notification from [enw鈥檙 trawsgludwr] that the charge is to take effect鈥 a鈥檙 dyddiad y daeth y weithred i rym
  • mae鈥檔 cynnwys cynrychiolaeth deipograffyddol o lofnod digidol y cymerwr benthyg, megis: 鈥淪igned by Jane Louise Smith鈥

13.1 Y gwasanaeth morgais digidol

Mae鈥檙 gwasanaeth morgais digidol yn wasanaeth sy鈥檔 galluogi trawsgludwr i greu gweithred morgais ddigidol. Gellir ei ddefnyddio i greu ail-forgeisi ar eiddo sy鈥檔 bodoli cymerwr benthyg yn unig.

Bydd cymerwr benthyg yn gallu cael gafael ar ei weithred morgais digidol gan ddefnyddio gwefan 鈥楽ign Your Mortgage Deed鈥. Bydd angen i鈥檙 cymerwr benthyg brofi ei hunaniaeth gan ddefnyddio 天美影院 Verify. Unwaith y bydd hunaniaeth y cymerwr benthyg wedi ei chadarnhau, bydd yn gallu llofnodi ei weithred yn electronig. Mae hyn yn cynnwys cadarnhau ei fod yn llofnodi ei weithred trwy gofnodi cod sydd wedi ei anfon at ei ff么n symudol. Unwaith y bydd y cymerwr benthyg wedi llofnodi鈥檙 weithred, gall y trawsgludwr gwblhau鈥檙 trafodiad a gwneud cais i gofrestru.

Mae defnyddio 天美影院 Verify yn wiriad hunaniaeth ychwanegol ar adeg llofnodi. Nid yw defnyddio鈥檙 gwasanaeth yn newid y gofynion i drawsgludwr ymgymryd 芒鈥檜 gwiriadau hunaniaeth eu hunain yn unol 芒 chyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

13.2 Sut i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth morgais digidol

Rhaid i drawsgludwyr fod wedi cofrestru i ddefnyddio Business Gateway ac wedi llofnodi Cytundeb Mynediad i鈥檙 Rhwydwaith Cofrestrfa Tir EF er mwyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth. Bydd angen iddynt hefyd fod wedi datblygu鈥檙 gallu TG perthnasol i ddefnyddio鈥檙 gwasanaeth.

Bydd rhoddwr benthyg sy鈥檔 ymgymryd 芒鈥檌 drawsgludo鈥檔 fewnol yn gallu defnyddio鈥檙 gwasanaeth hefyd. Er mwyn defnyddio鈥檙 gwasanaeth, bydd angen cymeradwyo gweithred morgais ddigidol y rhoddwr benthyg ymlaen llaw, a chael cyfeirnod e-MD.

14. Pethau i鈥檞 cofio

Gwnewch yn siwr:

  • bod yr arwystl ar ffurf sy鈥檔 gymeradwy inni
  • os nad yw, ac os nad yw鈥檙 arwystl ar ffurflen CH1:
    • dylai eich cais gynnwys ffurflen RX1 i gofnodi cyfyngiad hefyd
    • dylai eich cais gynnwys ffurflen CH2 i nodi ymrwymiad i roi benthyciadau pellach hefyd
  • os mai endid tramor yw鈥檙 cymerwr benthyg, eich bod wedi cydymffurfio 芒鈥檙 gofynion yn Neddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodaeth) 2022
  • eich bod wedi uwchlwytho ffurflen CH3 os oes angen cofnod yn y gofrestr i nodi鈥檙 swm uchaf a gytunwyd mewn arwystl
  • os yw eich cais yn cynnwys gweithred amrywio, bod yr holl bart茂on gofynnol wedi cyflawni鈥檙 weithred a鈥檆h bod wedi cynnwys y caniat芒d angenrheidiol

Sylwer, efallai na fydd Cofrestrfa Tir EF yn gallu prosesu ceisiadau sy鈥檔 anghyflawn neu鈥檔 ddiffygiol, a bydd eich cais mewn perygl o golli ei flaenoriaeth os byddwn yn gorfod ei ddychwelyd atoch 鈥 gweler cyfarwyddyd ymarfer 49: dychwelyd a gwrthod ceisiadau i gofrestru am ragor o wybodaeth.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.